Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
TOWYN.
TOWYN. ELUSENDY.-Nos Wener, cynhaliwyd cyf- arfod o ymddiriedolwyr Elusen Madam Owens, Mr. A. Hunt yn y gadair, i'r amean o ddewis un i'r lIe yn yr Elusendy, a ddaeth yn wag drwy farwolaeth Mrs. Mary Roberts. Yr oedd 4 o geisiadau. Dewiswyd Mrs Margaret Pugh. National Street. Ymddir- iedwyd cario allan y gwelliantau angen- rheidiol ar y ty i Mr. Price Hughes. C, Y JIWBILI.-Y mae y mudiad a gychwyn- wyd gan Mr. W. Rowlands, arwerthwr, i gael te i'r plant ar ddydd y Jiwbili, yn golygu bod yn llwyddiant perffaith. Mae Mr. Rowlands ac eraill wedi gweithio yn egniol er cyraedd hyn. Apwyntiad.—Y mae Bwrdd Ysgol Llan- gelynin wedi apwyntio Mr. R. Owens, A.C., Adfa, Trefahlwyn, yn brifathraw Ysgol y Bwlch, ac y mae yntau wedi dechreu ar ei ddyledswyddau. Y Cyngor DINFSIG.-Dydd Gwener, dan lywyddiaeth Mr. J. fcM. James, U.H.— Dywedodd yr arolygydd fod yr hyn oedd wallus yn Gwyddelfynydd wedi ei wolla.- I gael dwfr o'r gronfa, y mae Mr. J. M. Howell wedi rhoddi caniatad i dynu dwfr o Benror-road ar delerau esmwyth. Diolchwyd i Mr. Howell. Allan o l,000p. nid oedd ond o 16p. i 17p. heb eu cael, a bod y cwbl yn sicr.—Gwnaed tretli o 6c. yn y bunt. Sub- district Aberdovey, 4s. 6c. y bunt; eto Towyn, 3s.; treth y ffordd fawr o'r tuallan 3c. y bunt, Arwyddodd Harrison a'i Gwmni, Abertawe, yrymrwymiadi wneuthur cronfa ddwfr mewn cysylltiad a'r gwaith dwfr (Aberdyfi) am y swm o 3,676p. 16s. 2c.—Gweinyddwyd mortgage er ad-dalu i Fwrdeisdref Sirol West Ham y swm o 8,730p. a fenthyeiwyd at waith dwfr Aber- dyfi, ynghyd a ty marchnad Towyn. YR YNADLYS. Meddw ao Afkeolus.—P.O. Parry, Corris, a erlynai Humphrey Morris o'r cyhuddiad uchod. Dirwywyd i Is. a'r costau, neu yn niffyg hyny saith diwrnod o g'archar. Simdde AR DAN, Cyhuddid Edward Davies, Aberdyfi, o roddi neu adael i'w simdde fyned ar dan. Dirwywyd ef i 2s. 6c. a'r costau. EsGEULUBDRA.-Cybuddid S. Jones, Brook Street, Towyn, E. Lewis, Pentreucha, Bryncrug, a R. Williams, Isandula Terrace, Towyn, o esgeuluso anfon eu plant i'r ysgol, a dirwywyd hwy i 5s. a'r costau yr un.
BWRDD YSGOL TALYLLYN.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Nos Fawith, Mehefin 8fed. Presenol Mri. Rhys Owen, Richard Owen, John Lewis, H. Evans, a D. Ifor Jones, clere. Cafwyd fod y presenoldeb yn yr Ysgolion yn lied foddhaol. Dygwyd amryw faterion lied ddibwys gerbron, a threfnwyd ynglyn a hwy, a phasiwyd y cyfrifon arianol am y chwarter.
TALYBONT.
TALYBONT. Gwledd, &c.—Dydd Gwener, cafodd plant ysgol y Bwrdd de a barn. brith ac hefyd eu hanrhegu bob un a Medal er cofiadwriaeth am y Jiwbili. Rhoddwyd y te, &c., gan Miss Davies, Penpompi-en, ar Medals gan y Bwrdd Ysgol. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod amrywiaethol, dan lywydd- iaeth y Parch. J. Davies. Canwyd ac adroddwyd yn swynol a niedrus gan blant yr ysgol ac oraill yn ystod y cyfarfod. Mae yr ysgol hon mewn safle ragorol, dan ofal Mr. Jones, yn enill y grant uchaf posibl. Mae yr ysgoldy yn awr wedi myned dan adgyweiriadau, a'i dodrefnu yn rhagorol. Y Ddamwain ar y Rheilitordd.—Dydd Mercher, cynhaliwyd trengholiad ar goilf R. 0. Roberts (38), yr hwu a laddwyd ar reilfiordd gul Hafan a Phlinlimon, dydd Sadwrn. Tystiwyd fod darnau o bren, &c., yn fynych yn cael eu gesod ar draws y, rheiliau gan ddrwg-weithredwyr, a bod dynion wedi eu gosod i wylio yn ystod y nos, ond na cliafwyd allan y rhai oedd yn euog. Dychwelwyd rheithfarn ofarwolaeth ddamweiniol.
, - MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Y Jiwbili.—Cynhaliwyd pwyllgor yn y Neuadd Drefol, dydd Mawrth, Canon Trevoi yn y gadair. Gwnaetli Mr. J. Rowlands adroddiad, yn cynwys fod y casglwyr eto heb orphen eu gwaith. Penderfynwyd apelio am gynygion am wneyd te i'r plant a'r rhai oedranus. Nodwyd pwyllgor y chwaveuou, &a., ac athrawon yr Ysgolion Elfenol yn bwyllgor cerddorol. Deallwn fod Syr Watkin Williams-Wyun wedi cyfrau u 2p. 2s. at gronfa y dathliad yma. Y ii Egl w y s Golreby dd a enfy n y r hyn a gan- lyn ond nid ydym yn gyfrifol am y syniadau a gynwysa :—' Nos Sui diweddaf, darllenodd Curad y dref yn yr Eglwys Blwyfol lytliyr oddiwrth Esgob Bangor, yn gwneyd yn hysbys, fod arno eisieu gwneyd casgliadau ddydd Sul, yr 20fed o Fehefin, yn Eglwysi yr Esgobaeth, ac felly yn Machynlleth, at ychwanegu cyflogau y Personiaid. Ond mewn gwirionedd, cael gormod y maent o lawer, o ran dim y maent yn ei wneyd. Myn'd trwy ddefod ydyw amcan yr Eglwys yn Machynlleth, mae enaid dyn allan o'r pwnc o gwbl; ac os bydd Esgob Bangor byw dipyn bach, fydd yma neb i roi dim yn y casgliadau oud seti gweigion. Mae'n bryd i'r Esgob agor ei lygad, onide bydd raid iddo wisgo spectol i edrych am y bobl yn bur f Litt. Un or Briwedigion.
CAERSWS.
CAERSWS. Dydd Sadwrn, llywyddwyd cyfarfod gan Mr. R. Jones, U.H., Pertheirin, yn yr ysgoldy, i drefnu ar gyfer dathliad y Jiwbili. Hysbyswyd fod Mr. a Mrs. Edward Davies, Plasdinam, yn addaw rhoddi to i bawb o blwyf Llanwnog ddydd y Jiwbili. Pasiwyd rhoddi medals i blant yr ysgo], a ffuriiwyd pwyllgor i gasglu rhoddion tuag at gostau chwareuon, &c., y Parck. 0. K. Williams, yn ysgrifenydd.
PENEGOES,
PENEGOES, Yb YSGOI, Genedlaethol.—Y mae can- lyniad yr arholiad diweddar yn yr ysgol uchod wedi ei dderbyn, cynwysiad yr hwn sydd fel y canlyn:—Adeiladau yr ysgol mewn cyflwr da, a'r plant yn cael gofalu am danynt yn y dull goreu. Cyfrifiaeth ys- grifenedig (written arithmetic) yn rhagorol, y canu wrth nodau ao wrth sain yn haeddu y ganmoliaeth ucliaf. Y mae y grant a enillwyd y tro hwn yn lp. Os. 3c. y pen. 4 Hefyd dywed yr adroddiad eu bod wedi pasio mor dda, fel y caiff yr ysgol beidio sefyll arholiad y flwyddyn nesaf. 0
- EISTEDDFOD PENEGOES.
EISTEDDFOD PENEGOES. MEHEFIN 22ain, 1897. Daeth y cyfansoddiadau yn dwyn y ffug- enwau canlynol i law y beirniad Gwilym Dyfi. Pryddest I Teyi-tiasiad Victoria,' Hywel Tudur, Un o lanau Dyfi, Dyngarwr dan y Goron, Gwerinwr Gwledig, Brython, Deiliad Englyn 'Y Ffynon,' Egryn, Bardd yr Awen, Twm o'r Nant, Awel yr Haf, Un agos i Penegoes, Sychedig, Teithiwr Sychedig, Llew o'r Ffau, Tegid, Llywarch Dyfi, Min y don, Plentyn, Maelgwyn Gwynedd, Bardd o'r Glyn, Un hotf o ddwfr, Profiadol, Naturiol, Die, Dirwestwr, Hogyn, Glan Rheidiol, Einion, Teetotal.
AMRYW ION.
AMRYW ION. Dyn ddaeth i'r byd gyntaf, a dynes ar ei ol, a byth er hyny y mae hi ar ei ol ef. Dywed Shakespeare fod rhai dynion wedi eu geni yn fawr, eraill yn enill mawredd, a'i trydydd dosbarth yn cael mawredd wedi ei bentyru arnynt. Nifer yr ymgeiswyr am arholiad cyntaf y Matriculation yn Mhritysgol Cymru am y flwyddyn 1895 oedd 89; yn 1896, 216, a'r | flwyddyn ho 11 425. Mae y Gwyddelod fel cenedl, drwy eu cyn- rychiolwyr, wedi penderfynu peidio dathlu Jiwbili y Frenhines oherwydd bod yr Iwerddon yr unig wlad ymhlith holl diriogaethau llwydd- ianus yr ymerodraeth Brydeinig sydd yn cael ei darostwng dan ddeddf orfodol, ac yn cael gwadu iddi lywodraeth gyfansoddiadol a chyfiawn. Pan ddaeth y Frenhines i'r orsedd, nid oedd rhoddion blynyddol y Llywodraeth at Addysg Elfenol yn ddim ond 20,000p.; yn awr y mae y rhoddion blynyddol yn 8,5oo,ooop., a chyda threthi a chyfraniadau gwirfoddol, yn cyraedd i'r swm o i2,ooo,ooop. Nifer yr ysgolion y pryd hyny oedd prin 3,000 y maent yn awr yn 22,600. Cyrhaeddodd y Frenhines Victoria ei saith deg wythfed mlwydd oed, dydd Llun, Mai 24. 1 Esgynodd i'r orsedd pan yn ddeunaw oed, a bydd y Jiwbili a gynhelir Mehefin 22ain, yn z,Y dathlu pen triugeinfed flwyddyn ei theyrnasiad. Ni eisteddoJd teyrn erioed ar orsedd Prydain gyhyd o amser a George III. yn unig a fu fyw mor hen. Nid yn unig teyrnasiad Victoria yw yr hwyaf yn hanes Prydain, ei heiddo hi hefyd yw y goreu a'r gogoneddusaf. Cyf- lawnodd Prydain rai camweddau yn ystod ei theyrnasiad, ond ni phriodolir y cyfryw iddi hi, oblegid y dystiolaeth yw ei bod ar hyd ei hoes, hyd y gallai, wedi teyrnasu mewn cyfiawnder. Nis gellir yngan gair yn erbyn ymddygiad ei Mawrhydi; a dyfarniad cyffredinol y ddaear yw ei bod yn ddynas dda.
gtemion 1?t' Jlwen.
gtemion 1?t' Jlwen. EMYN Y'°JIWBILI. Gan Esgob Wakefield. Cyfieithiedig i'r Gymraeg gan Esgob Bangor. Dy deyrnas sydd, o Frenin mawr, Er dyddiau tragwyddoldeb 0 flaen Dy Fainc coronau aur A deifl Dy Saint mewn undeb Neuaddau disglaer nefoedd wen Gan gorau per ddadseiniant; 0 gad i'th blant i agosau A dwyn eu haberth moliant. Pob calon drist, a lonaist ti, A chwydd gan ddiolchgarwch Pob tafod rhydd, a gan yn lion, Gan deimlo gwir hyfrydwch Am drigain mlwydd, a gofal dwys Coronaist a Dy roddion A chynysgaeddaist ein Llyw hael A Ilu o'th rad fendithion. Freninol Fron, hiraethu mae Gofleidio'i phlant mewn cariad 0 ddedwydd Wlad, fath dyner serch A gaifif ei lawn ad-daliad Lie clnvyfia Baner Prydain Fawr Pob gormes sy'n diflanu Gwnaed Duw y byd yn well o hyd I ddyn i'w gyfaneddu. 0 tywys, Dad, Dy deulu byth A'th ras, a newydd ysbryd I gariad pur, a doniau glan At uchelderau bywyd A phan yr eilia'th blant mewn hwyl Yr anthem am dy gariad Dysg hwynt, o Dad, i nabod Crist A Hedu Ei deyrnasiad.
All YR OLWYN.
All YR OLWYN. Mae'r tywydd sycli, gwresog-ac heb fod yn ormodol felly, a ddygodd yr liaf i mewn eleni wedi bod yn fanteisiol i ni yr Olwynwyr i wibdeithio y wlad, ac y mae y pleser o hyny yn fwy pan y mae ffyrdd yn dda. Mac prif-ffyrdd Maldwyn mewn cyflwr rhagorol, ac yn esiampl i rai o'r siroedd agosaf ati. Byddafyn cyfarfod ag amrywiaeth golygfeydd a digwyddiadau wrth dramwy o gwmpas, ac un lIey disgynais arno yn ddiweddar oedd ardal daweJ, lanwedd, y Cemmes. Mae natur ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn y gymydogaeth, yn ei gwisgoedd prydferthaf, a cherdd yr adar yn creu ysbrydiaeth swynol ymhob man. Ond fel y gwyddoch, Mr. Gol., y iiiae rhyw helyntion yn hanes plant dynion ymhob lie sydd yn tori ar gysuron bywyd mewn Ilawer ffordd, ac fell), yma. Mae hyn yn bod gyda thlawd a chyf- oethog, ond credaf fod yr hyn sydd yn cyfarfod y tlawd yn fwy annioddefol o gymaint nad oes ganddynt foddion i ddiwallu eu anghenion nac i symud eu gorthrwm, fel sydd gan y cyfoethog. Clywais y dydd o'r blaen am engraifft neillduol o hyn yn y lie. Gwraig weddw oedd yma ynghyd a dau o blant ganddi, a dim at ei chadw ond ei henillion ei hunan, a dau swllt yn wythnosol o gynorthwy plwyfol, hyd yn ddiweddar, pryd y tynwyd y cynorthwy i lawr gan Warcheidwaid Undeb Machynlleth i ddeunaw ceiniog yr wythnos, tuag at gynal dau o blant, y naill yn naw a'r llall yn ddeuddeg oed tra y mae yn trigo o fewn llai na milldir i'r un ty wr sydd wedi cyfarfod a damwain rai blynyddoedd yn ol, ac wedi gallu fforddio i brynu cert a mul at gario, yr hwn sydd yn enill mor dda fel y niae wedi rhoddi heibio y mulyn, ac wedi prynu mountain pony, ac eto nid yw ei dreth ef wedi gostwng yr un swllt, er nad oes ganddo ond ef ei hun a'i wraig i'w cadw. Oni ddylai ffaith fel hon gynhyrfu y plwyfolion i ofyn y rheswm am y fath anghysoiadeb ? Credaf fod mwyafrif mawr y plwyf hwn yn Rhyddfrydwyr ac Ymneillduwyr, ac y mae y weddw hon a'i phlant yn Ymneill- duwyr selog ac yn proffesu Rhyddfrydiaeth, pryd y mae perchenog y 'glust hir' wedi enwogi ei hunan er's amser maith fel Tori cyson ac yn Eglwyswr selog. A ydyw syniadau gwleidyddol a plirofifes grefyddol yn cael dylanwad ar y gwarcheid- waid yn eu cyfraniadau plwyfol ? Os ydyw, mae y cyfryw yn haeddu y condemniad llymaf. Dylai y plwyfolion fod a'u Uygaid yn agored i chwilio am ymgeiswyr, ac i ddychwelyd gwarcheidwaid a wnant gyfiawnder gan gadw y fantol yn wastad rhwng pob plaid, ac nid ffafrio neb am eu bod yn anwyl gariadus frodyr.' Os na wnant hyn, dylid clirio yr holl Undebau Gwarcheidiol o bob Tori. GWIBIWR;
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) cyfaddas fel Anrhegion a Testimonials I
ABERDYFI.
ABERDYFI. Eogiaid.—Mae rhwydo yr eogiaid wedi dechreu. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y pysgotwyr yn hynod brysur gyda hyn, ond hyd eto nid ydynt vedi bod yn llwyddianus iawn. Y Jiwbili.—Y mae y casglwyr a benod- wyd i gasglu cronfa y dathliad uchod wedi gwneyd eu gwaith yn rhagorol. Deallwn eu bod rhyngddynt wedi llwyddo i g'asglu dros 50p. Mabwolaeth SYDYN.- Yn ei gartref yn Panteidol Hall, ger Aberdyfi, bu ftvrw Mr. S. Barlow Wright, yn sydyn boreu Mercher, Mehefin 9. Ymddengys nad oedd yn teimlo yn dda ddydd Mawrth, ac nid osdd ddim gwell boreti Mercher, am hyny danfonodd aiii y iiieddyg. Yna cyfododd a. bwytaodd ei foreu bryd, a chadwodd vvasanaeth cre- fyddol. Bron gydag iddo gyflawni hyny cafodd lewygfa yn yr hon y bu farw mewn ychydig funydau, cyn i'r meddyg gyraedd yno. Yr oedd yn ddyn distaw, tawel, lieddychol, gwastad aboueddigaidd ei rodiad, yn cael ei garu yn fawr gan bawb, a diau fod marw yn elvv iddo. CvMANi'A. Cynhaliodd Wesleyaid dos- barth Towyn eu Cymanfa Ganu, &o., yn y lie uchod, y Llungwyn. Yr oeddynt wedi sicrhau gwasanaeth Mr. Maengwyn Davies, R.A.M., fol arweinydd am y dydd, gan yr hwn y cafwyd amryw o gyng'horion ac awgrymiadau gwerthfawr i'r corau. Cyfeil- i wyd gan Miss James, Llanegryn. Y llywydd oedd Mr. H. Davies, Aberdyfi; trvsorydd, Mr. G. Davies, Aberdyfi; ysg- rifenydd, Mr. G. H. Edwards, Abeigynolwyn, yr hwn wnaeth ei waith I yn Itn rhagorol. Cadeirydd cyfarfod y boreu oedd Mr. L. Edwards Towyn, y prydnawn Mr. H. Davies. Iihanwyd tystysgrifau a gwobrwyon am arholiadau, traethodau, barddoniaeth, &c. Canwyd amryw donau, a'r anthem Gwyn ei fyd y gwr,' yn hynod swynol. Cafwyd cymanfa wir deilwng, yn arddangos ol Ilaf ui- ac ymroad yn y gwahanol adranau.
LLWYNGWRIL.
LLWYNGWRIL. Bwrdd Ysgol.—Cynhaliwyd cyfarfod ar- benig o Fwrdd Ysgol Llangelynin prydnawn dydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Owen Jones (cadeirydd), J. P. Richards (is-gadeirydd), J. 0. Jones, R. Owen, ynghyd a John Jones (ysgrifenydd). —Etholwyd yn unfrydol, Mr. Griffith Davies, Tonfanau, yn aelod o'r Bwrdd yn lie y Cynghoryda Evan Hughes, Towyn.—Der- bvniwyd tender Mr. Evan Jones, Porkington- terrace, Abermaw, am baentio ysgolion Llwyngwril ac Arthog.
UNDEB YSGOLION ANNIBYNWYR…
UNDEB YSGOLION ANNIBYNWYR GOGLEDD CEREDIGION. Dydd ag y teimlir cryn lawer o ddyddordeb ynddo, ac yr edrychir yn mlaen tuag ato gyda Hawer 0 hyfrydwch gan Annibynwyr y dosbarth uchod, ydyw Mawrth-gwyn, gan mai ar y dydd hwn y cynhelir ganddynt eu cylchwyl gerddorol a phynciol. Y man cyfarfod eleni oedd Talybont, ac fel arfer ymgynullwyd yno yn dyrfa luosog o wahanol eglwysi y cylch i wasanaethu yr Arglwydd drwy ganu ei fawl Ef. Hon ydoedd y seithfed gylchwyl a gyn- haliwyd er cychwyniad yr Undeb, ac yr oedd yn hyfrydwch genym weled nad oedd hon eto yn ol mewn dim i'r rhai llwyddianus blaenorol a gafwyd, ond os dim yr oedd yn fwy poblog- aidd a llwyddianus. Yr oedd y plant yn cyd-adrodd a chyd-ateb yn ddymunol ac effeithiol dros ben, a chanwyd ganddynt yr un mor swynol 0 dan arweiniad Mr. T. Glyndwr Richards, yr arweinydd am y dydd. Dechreuwyd cyfarfod y boreu gan Cadben W. Jones, Aberystwyth. Holwyd y plant gan Mr. D. Williams, Talybont, yn y Fam a'r Plenty?i -a Hanes Daniel a dadganwyd ganddynt y darnau prydferth a ganlyn Amadeus, Y Bugail Gofalus, Deuwch, canwn iddo Ef, Wele ni yn dyfod. Llywydd y cwrdd hwn ydoedd Mr Edward Lewis, Salem, gan yr hwn y cafwyd ychydig eiriau cymwys, ynglyn a'r pwysigrwydd i rieni i ddysgu ac egwyddori eu plant yn briodol mewn gwybodaeth Ysg- rythyrol. Terfynwyd drwy weddi gan Mr. J. R. Jones. Ymadawodd pawb yn foddhaus ac mewn lIawn awydd am gyfarfod yn y prydnawn. Dechreuwyd y cyfarfod dau o'r gloch gan y Parch. D. C. Davies, a chymerwyd y llywydd- iaeth gan Mr. William Jones, Penpontbren, yr hwn drwy ei sylwadau hapus ar Ddylanwad Cerddoriaeth ar y natur ddynol, a roddodd gyweirnod da i'r Gymanfa weddill y dydd, yn neillduol felly i'r cantorion. Yna aed drwy y tonau hyn allan o'r Caniedydd, Eden, Abergele, Trefhedyn, Llantrisant, Treforris, Glanteifi, Dies Irse, St. Aelred. Cyn dwyn y cyfarfod hwn i derfyniad, pasiwyd pleidlais 0 gydym- deimlad a pherthynasau y brawd ieuanc ffyddlon, a'r cerddor gwych, Richard Roberts, yr hwn a gylarfyddodd a'i ddiwedd trwy ddamwain dydd Sadwrn diweddaf, tra yn myned i lawr ar reilffordd yr Hafan o Talybont am Llanfiangel. Yr oedd yr ymadawedig hwn yn un o'r ffyddloniaid gyda chaniadaeth y cysegr, ac ni fuasai neb mwy amlwg nac efe yn y Gymanfa lion gyda'i offeryn, ac yn chwareu yn fedrus. Cydymdeimlir yn fawr a'r perthynasau yn eu galar dwys, a'u profedigaeth chwerw. Nodded y nef fyddo drastyut yn y dydd blin hwn sydd wedi eu goddiweddyd mor ddisymwth. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr can y Parch. G. Parry, Llanbadarn, a llywyddwyd gan y Parch. J. Davies, Bethesda. Gwnaeth yntau gyfeiriad tyner at yr ymadawedigion yn ystod y liwyddyn, sef y rhai hyny a deimlai ddy- ddordeb mawr yn yr Undeb Ysgolion. Canwyd y tonau canlynol :—York, Neapolis, Udgocn, Trewen, Narberth, Min-yr-afun, Dowlais, America, a'r Anthem 10 anfeidrol rym y cariad,' yr oil o'r Caiiiedydd. Yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd anerchiad costfawr a phrydferth, ynghyd a chedaid o aur i'r ysgrifenydd am ei ffyddlondeb a'i ymdrechion diflino gyda'r Undeb. Rhed geiriad yr anerchiad fel y canlyn :— ANERCHIAD i'r Parch. J. Llewelyn, gweinidog eglwyei'r Borth, a Clarach, oddiwrth G)'manfa Gerdd*r-ol ac Undeb Ysgolion Sabbothol Annibynwyr Gogledd Ceredigion.. Auwyl Syr,—Yr ydym yn dymuno cyflwyno i chwi yr anerchiad hwn ynghyd a swm o aur, fel dangoseg fechau o deimlad da tuag atoch, a gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth, ac edmygedd o'ch cymeriad fel brawd ffyddlawn a gweinidog da i Iesu Grist. Fel ysgrifeu)dd y Gymanfa a'r Undeb am luaws o flynyddoedd, y mae y dyddor- deb ueillduol a deinilir genych yu y mudiad hwa ynghyd a'cli ymdrechion ffyddlawn a difliuo i wasauaetliu'r eglwysi yn yr amcan o ddyrchafu caniadaetli y cysegr, a pherffeithio gwybodaeth Ysgrythyrol, yn liawlio ein eyduabyddiaeth wresog .r3 a diolchgar. Da genym eicli Ilongyfarch yn ngwyneb llwyddiant amlwg y Gymaufa, yr hon bellacli sydd wedi cyraedd aatle anrhydeddue yn mysg cymanfaoedd ein gwlad, am yr liyn yr ydym mewn rhau arbenig yu ddyledua i'ch llafur parod, gwii-foddoi ac effeithiol chwi. Gyda dyinuniaduu goreu am barliad o'ch defnyddioldeb, am tich llwyddiunt a'ch cysur yn ngwahanol gylchoedd eich bywyd, ac am fendith Duw ar eicli ymdrechiou oil.—Ydym, auwyl Syr ar ran y Gymanfa, T. A. PENRY, Cadeirydd. WM. JONES, Tryeorydd, Cyflwynwyd yr anerchiad gan Mr. Penry, a'r pwrs gan Cadben Jones, mewn teimladau da a geiriau caredig, a chydnabyddwyd y rhodd gan Mr. Llewelyn mewn byr eiriau, call obeithio y gallai fod o'r un gwasanaeth sto i'r Undeb yn y dyfodol Gwnaed yn hysbys yn y gwahanol gyfarfod- ydd ganlyniadau yr arholiadau ar y maea llafur, a chyflwynwyd tystysgrifau gwerthfawr i'r rhai llwyddianus canlynol: Dosbarth dan 10 oed, YFam a'r Pleittyu Baker Street— Jennie Thomas, Ethel Evans, Elsie Lloyd, M. J. Jones, L. Williams, Dilys Evans, Gwladys Williams, Annie Willams, Eban Thomas, Elgar Williams, E. M. Meredith, Lizzie J. el Jones. Petimaesglas-Thos. J. Clayton, Thos. Williams, David Jenes, Annie J. Parry, J. G. Jones, Marian J. Peters, Annie O. Davies. Bethesda—Richard L. Jones, W. J. Jones, S. T. Jones, Methusalem Morgan, Elizabeth Morgan, Catherine Morgan, M. A. Griffith. Bethania—J. R. Davies, Henry James, S. T. Lloyd, Isaac B. Lloyd, Daniel Jenkins, John Jenkins, Bridget Jenkins, T. E. Jones. Bethel, Talybont—James Griffith, Hugh J. Davies, D. R. Edwards, Evan J. Edwards, Joseph E. Williams, R. Mathew Richards, Ifor Williams, D. J Jones, D R Jones, Ernest Nelson, Goronwy Morgan, Gwilym Edwards, E. R. Morgan, John Richards, Gwilym Evans, Annie M. Roberts, Kate Jones, Annie Parry, Elizabeth A. Edwards, Elizabeth Jones, Jenkin E. Evans, David J. Davies, F. Morgan Davies, joliti D. Jones, C. Jane Morgan, W. R. Edwards, Blodwen Jones, Elizabeth A. Morgan, Jane A. Griffiths, Margaret J. Edwards, Catherine J. Jones, Gwladys Griffiths, Lizzie M. Richards, L. Felix, Margaret, A. Humphreys, Lizzie Williams, Adelaide Jones, Hannah M. Morgan, Joseph H. Edwards, E. John Williams, Kate Williams, Absolom Williams, Richard Jones. Salern.-Thomas Williams, Richard R. Williams, Isaac B. Williams, Ben. A. Morris, Mgt. E. jants, Mgt-. J. Parry, M. Rees, Annie Richards, C. Morns. Cwmerlin.—Hugh R. Davies, Gwilym Davies, William J. Roberts, Annie James, Margaret James, liarriet J. James, Catherine S Hughes. Beulah.—Idris Llayd, Abraham Richards, David Griffiths, Gwladys Lloyd, Margaret A. Evans. Cominscoch.—Benjamin Samuel, John E. Jones, William Hughes, Margaret J. Lewis, Ellen Griffiths. Llanbadarn.- Johnny Price, Isaac Jones, John J. Thomas, Idris Thomas, Richard Thomas, Evan R. Jones, David J. Roberts, William A. Evans, David J. Griffiths, Myfanwy R. Williams, Jane Hughes, Polly Lloyd, Jenny Lloyd, Polly Jones, Jenny Roberts, Margaret J. Lewis, Mary M. Jones, Hannah Jones, Annie M. Thomas, MarttHt" Lloyd, Blodwen Humphreys, William R. Howell. Borth.—William D. Jenkins, JipJa A. Llewelyn, Richard P. Llewelyn. Claracb. -Jane Davies, Catherine Davies, Thomas J. Jones, A. Richards, E. H Richards. (I'w orphen yn ein nesaf.J