Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
{geinion r Jlroen.
{geinion r Jlroen. -:0:- PALASDY LLANOFER. Ar fynedfa y Portli Mawr i'r palasdy hwn y mae y Ilinellait canlynol yn argraphedig: Pwy wyt ti, ddyfodwr ? Os cyfaill, croesaw calon i ti Os dieithr, lleteugarwch a'th erys Os gelyn, addfwynder a'th garchara.' Y mae y geiriau canlynol yn ysgrifenedig ar borth arall: — Ymadawydd liynaws, [dithau; Gad dy fendith ar dy el, a bendithier Iechyc1 a hawddfyd it' ar dy daitli, A dedwydd ddychweliad.' Er cymaint y llawnder a'r cyfoeth sydd yn y fang-re. gellid gweled mai rlieol y ty yw yr hyn a ddysg yr englyn canlynol gan Tegid, sydd wedi ei argraphu uwchben y tan yn neuadd g-iniaw y gwasanaethwyr. Gwctstraff-eisiau, drwg ystryw-gwarth a ddwg, Ac wrth ddwYll gwartli—distryw Da i bawb cynildeb yw A tliad i gyfoetli ydyw.'
HEN LYFRAU CYMRAEG.
HEN LYFRAU CYMRAEG. GAN DR. D. REES, BRONANT. Mae hanes am lyfr o'r enw I Perl Adfyd,' wedi ei argraffu yn Rhydychain yn 1595, 302 0 flynyddau yn ol. A Chymro o Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon a'i hargraffodd. Argraffvvyd preg-tthau yn Gymraeg yn 1606, trwy awdurdod y Senedd i fod ymhob Eglwys a chapel, i ddysgu'r annysgedig gan Edward Jones. Cyfieithwyd Catecism i'r Gymraeg yn 1611, 21 1 gan D. Rosei Smith, ac argraffwyd ef yn Paris, Ffrainc, a cliyhoeddodd yr un gwr lyfr arall yn 1615, ar Drueni dvn a'i odidogrwydd o ran ei enaid.' Nid oes dim w yn y llyfr Gymraeg hwn ond It it, am fod w yn ddieithr i'r Ffranc- aeg. Yr oedd hwn yn Gymro o Bettws, Aber- gele, ac yn byw yn Ffrainc. Cyfieithwyd llyfr i'r Gymraeg yn 1630, o'r enw Cyfarwyddo yr ang-hyfarwydd i'r ne foedd,' gan Robert Llwyd. Ac y mae yn dweyd wrth y darllenydd yn ei ddechreu fel hyn, Os na fedri di Gymraog, Duw a'th helpo, druan; dysg ef cynta gallo ti, a dysg y Beibl yn benaf "wed'yn ac fe ddaw lleshad 0 hyny.' Dyna lyfr arall er goleuo a llesoli yr hen Gymry, i dynu eu meddyliau i ddeall pethau ac i weled arwyddion pethau yn eu plith yn yr oes hono, 0 waith Morgan Llwyd 0 Wynedd, sef Llyfr y Tri A'deryn. Un 0 Maentwrog, Meirion, oedd ef, ac fe ddaeth yn gydnabyddus a Walter Cradoc. Bu farw yn 1659. Dyma enwau y tri aderyn: Eryr, Colomen, a Chigfran. Yr oeddynt yn llefaru llawer yn ddychmygol yr amser hyny, oblegid yr oedd yn beryglus iddynt gael eu cosbi os buasent yn rhy amlwg a pher- sonol. Mae gwahanol farnau am feddwl yr awdwr am y Tri Aderyn hyn. Dealla rhai wrth yr Eryr Cromwell, yn gryf yn myned drwy y wlad y Golomen am yr Anghydffurfwyr, a'r Gigfran am Eglwys Loegr. Eraill a'u de- onglant: y Golomen, y gwir Gristion y Gigfran, erlidwyr crefydd yr Eryr, rhyw ddyn craffus, egwyddbrol i sefyll rhwng y pleidiau i wneyd daioni cyffredinol. Nid yw y cigfrain i gyd wedi marw yn Nghymru eto, ac mae rhy fach o golomenod yma o lawer.
IJIWBILI Y FRENHINES.
JIWBILI Y FRENHINES. Mae ei Mawrhydi, y Frenhiiies Victoria, wedi boddloni ar y cynygiad i anfon gair i bob rhan o'i hymerodraeth eang ar unwaith yn ystod gwasanaeth y Jiwbili yn Eglwys St. Paul. Pr diben liwn bydd i'r gwifrau pellebrol gael eu cydgysylltu a'u penu feallai yn y eysegr-peth newydd yn hanes llywodraethau y byd. Derbynia Arglwydd Faer Llundain y Frenhines wrth Temple Bar, yn yr orymdaith Mehefin 22, a ehyf- livyna iddi gleddyf y ddinas—rhodd o eiddo y Frenhines Elizabeth gynt. Hysbysir y bydd y Royal Mint yn troi allan ddau fatli o Dlysau Jiwbili—y rhai mwyaf yn inesur 2t modfedd o draws fesur, ac yn wneuthur- 4 edig o aur, arian a bronze; y rhai lleiaf yn fodfedd o draws fesur, 0 aur ac arian yn unig. ELI prisiau fydd-Afedals aur mwyaf, 13p. Medals arian. mwyaf, 10s.; y rhai bronze mwyaf, 4s.; Medals aur lleiaf, 2p. y rliai ariaii lleiaf, Is. Dydd Iau, rhoddodd Mr. E. Griffith, eadeirydd Cyngor Sirol Meirion, wahoddiad i aelodau y Cyngor, Lly wodraethwyr Sirol yr Ysgolion Canolraddol, ynadon, gweillidogion y gwahanol euwadau, aelodau y Cyugor Trefol, y Bwrdd Ysgol, ac awdurdodau. lleol eraill i fyr-bryd yn y Neuadd Gryhoeddus. Cynygiwyd penderfyniad 0 gydlawenychiad a'i Mawrhydi gan Mr. Wynne, Peniarth, yr Arglwydd Raglaw, a chefnogwyd gan Mrs. ZD rD Price, Rliiwlas, Mr. Lloyd, Ehaggat, yr U chel Sirydd, Mr. Wynne, Rhug, a Mr. T. E. Ellis, A.S. Cynygiwyd penderfyniadau ar gynydd addysg yn ystod y teyrnasiad, gan Dr. Jones. Dolgellau, ac ategwyi gan Mrs. Burton, Mr. Osmond Williams, Castell Deudraeth, Mr. H. Haydn Jones, Towyn, a Mr. E. J. Griffiths, A.S. Ar welliantau mewn sefydliadau dyngarol gan Mr. John Jones, Llanfrothen, a chefnogwyd gan Mrs Holland, Caerdeon, Mr. Meyrick Jones, Dolgellau, Mr. John Evans, Abermaw, a Dr. R. Hughos, Bala. Cynygiwyd dioleh i Mr. Griffith am ei garedigrwydd gan Mr. L. Taylor, Cliff, a eliefnogwyd gan Dr. C. Williams. Pasiwyd yr holl gynygion yn unol a brwdfrydig. Terfynwyd yda chanu y Don Genedlaethol. Dyma un o'r ar- ddangosiadau oyntaf i'r pwynt a gynhaliwyd yn y deyrnas.
UNDEB MACHYNLLETH.
UNDEB MACHYNLLETH. CYNGOR DOSBABTH GWLEDIG. r Dydd Mercher. Mr. Edward Hughes yn y gadair. Darllenwyd llythyr- o Fwrdd Llywodraeth Leol, yn gofyn am blaniau, costau, a manylion ynglyn a'r bont newydd b, y dros y Ddyfi, cyn y byddai iddynt roi caniatad i fenthyca arian at hyn. Cyfar- wyddwyd y clerc i sicrhau hyn—I ddathlu y Jiwbili, cytunwyd i roddi gwyl i'r gweithwyr, a thalu eu eyflogau am y dydd.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Dydd Mercher. Mr. Ellis Hughes yn y gadair. GwEitTiiu EIDDO.—Mr. J. Watkins a ofynai i Mr. D. Howell, a oedd wedi dwyn oddiamgyleli arwerthiant ar eiddo un a dderbynia gynorthwy plwyfol, yn Llanbryn- mair. Gwrthododd Mr. Howell ateb y g-ofyniad. Yna daeth y gofyniad iddo o'r gadair, pryd yr atebodd ei fod wedi g-werthu yr oil i berthynas bell am 4p. 10s. Mr. Watkins a ystyriai hyn yn anheg', a dylasai fod yn arwerthiant agored. Mr. Howell: Gweithredais wrth gyfarwyddyd y diweddar gadeirydd. Mr. E. Hughes a gynygiai symud at fater arall. Mr. Watkins a roddodd rybudd y bydd yn galw sylw at hyn yn y cyfarfod nesaf. GWELLIANTAU YN Y Ty.Un cynygiad oedd wedi cael ei dderbyn, sef eiddo Mr. J. 0. Williams, Machynlleth, am 325p. Pasiwyd derbyn y cynygiad, Hefyd fod cais i'w wneyd at Fwrdd Llywodraeth Leol am ganiatad i fenthyea 350p. at hyn, i'w talu ymhen 20ain mlynedd. Y JIWBILI.—Pasiwyd i roddi Meat Tea i'r tlodion yn y Tloty y diwrnod uchod, ond na bo cynorthwyon allanol chwanegol i'w rhoddi. Mrs. Lloyd a hyderai y byddai rhywun yn edrych ar ol tlodion y Ty y diwrnod hwnw, gan ei bod wedi clywed adrodd rhai o honynt yn dweyd eu bod am spri iawn y diwrnod hwnw. Pasiwyd fod y cadeirydd, yr is-gadeirydd, a'r gwarcheid- waid Ilool i ofalu ain danyiit.
TOWYN.
TOWYN. HELFA.—Bu bytheiaid Mr. Buckley yr wythnos ddiweddaf, mewn helfa dda ar ol dyfrgwn yn afon Dysynni, a llwyddwyd i ddal un dros ddau bwys ar hug'ain.. PYTATW CYNAR.—Eleni eto y mae y Parch. R. W. Jones, High Street, ar y blaen gyda phytatw, y rhai a godwyd er's wythnosau. Yr oeddynt mewn maint a dadblygiad rliagorol. Mae Mr. Jones yn talu sylw manwl i ansawdd ac amrywiaeth pytatw, a thrwy arddio g-ofalus ynllwyddoi godi enwd cynar a dewisol bob blwyddyn.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y Llungwyn agorwyd Reilifordd a Gerddi Constitution Hill am dymor yr haf. Gwneir coelcortli mawr ar y bryn ddydd y Jiwbili. LLWYDDIANT.—Mae Mr. T. Richards, yr hwn a apwyntiwyd yn ddiweddar i'r swydd o is-athraw yn Mwrdd Ysgol Aberystwyth, wecli ellilly marciau uchaf yn yr Ai-lioliad Ysgrythyrol a gynhaliwyd dan nawdd Undeb y Bedyddwyr Cymreig, yr hwn a wobrwyir a bathodyn aur. Yr oedd oddeutu 500 yn ymgeisio. TREKIAU DIWEDDAR.—0 lierwydd y gwyn barhaus sydd am ddiweddarwch ti-eniau y Cambrian yn cyraedd y dref, apeliodd y Cyngor Trefol at y cwmni am welliant, ac am ychydig amser wed'yn daeth y treniau i mewn yn fNV31 cyson. Penderfynodd y Cyngor i gofnodiad gael ei wneyd o'r amser gan swyddog o'r eiddynt. Cafwyd fod tren 5 cyflym dydd Gwener 15 munydyn ddiweddar yn cyraedd yr orsaf, a dydd Sadwrn 35ain munyd yn ddiweddar. Gelwir sylw eto oni fydd diwygiad.
[No title]
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw M-asnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur,
LLANBRYNMAIR.
LLANBRYNMAIR. YSGOL Y PENNANT.—Mae arholiad Ysgoi y Pennant yn galoaogol iawn. Pasiodd yn excellent, a derbynia y rhoddion uchaf am yr holl destynau a gymerwyd. Dywed yr Arliolydd Mac y plant yn y drefn orou, ac y mae yr addysg yn citel ei rhoddi mewn modd deallus a chyda llwyddiant.' Ddwy flynedd yn ol yr oedd y rhodd yn 30p. 5s. 6c., tra y flwyddyn lion y mae yn 53p. 13s. 6c. CYNGOR PLWYE. Mehefin 3ydd, Mr. D. Howell yn y gadair. Hysbyswyd costau yr etholiad. Yn y Ward Isaf lie na chymerwyd pot 12s.; y Ward U ehd, lie y bu polio 7p. 15s. Pasiwyd i'w talu. CYELENWAD DWER.—Galwodd Mr. J. Davies sylw am yr angen am ddwfr yn Penddol a'r Winllan. Pasiwyd i'r mater gael ei drosglwyddo i ystyriaeth pwyllgor i dd wyn ad roddi ad arno. Ar gynygiad y Parch. D. A. Jones, yehwanegwyd hefyd dd wfr i'r Llan. RIIEOLAU SEEYDLOG.—Cynygiodd Mr. G. H. Peate fod caniatad yn cael ei roddi i'r Cvng-horwyr sydd heb fod yn etholwyr i siarad yn inliol) Cyfarfod Plwyfol fel yn y Cyfarfod Blynyddol pan yn ymgeiswyr. Ar ol peth siarad arno, dywedodd y cadeir- ydd fod y cynygiad yn groes i'r Ddeddf, ac folly gwrthododd ei roddi i fyny. Oyuyg- iodd Air. Peate yn mhellach fod y cofnodion yn cael eu rhoddi yn y llyfr yn Gymraeg. Uysbyswyd fod hyny wedi ei basio dair blynedd yn ol. Dywedodd yntau mewn atebiad nad oedd hyn yn cael ei gario allan. DOSBARTH COGINIO.—Yr adroddiad a ddangosai fod y derbyniadau yn 6p. 10s. 2c., a'r costau yn 5p. 10s. 2e. Pasiwyd i anion y lp. gweddi11 i Goleg Aberystw} th. Y PRIE-EEYRDD.—Ai gynygiad Mr. R. Morris, pasiwyd i alw sylw y Cyngor Sirol at y diffyg- sydd yn adgyweiriad y ffyrdd hyn mewn manau, a'r costau afreilliollllewn lleoedd eraill.
LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. Cynhaliwyd ffair dydd Iau, a dydd Gwener. Yr oedd gwartheg a mocli yn g-werthu am brisiau uwch. Ychydig o ferlynod a ddangoswyd, y rhai a wort-hid am brisiau da. Ychydig o ddefaid a werthwyd.
[No title]
Mae gan W. W., Dolgellau, Stoc Enfawr 8 Watclms, Jewellery, &c., *'r matliau f»reu am y prisiau mwyaf rhesymel. Fe dalai ya dda i lawer un ddod i dref Dolgellau c Gorris, Aberllefenni, ac Abergynolwyn, &c., er baru4 drostynt eu hunain.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. Cofnoda y Drych- am briodas euraidd yn Delta, N.Y. Yno trigiana William Vincent Evans, 84 mlwydd oed, a'i briod, y rhai a ymfudasant i America o ger Abergynolwyn, Meirion. yn fuan ar ol eu priodas haner can' mlynedd yn ol. Mae yn byw mewn ffermdy hardd. Prynodd y fferm-dyna sylfaen ei lwyddiant. Erbyn hyn mae wedi rhoddi ffermydd i chwech o'r bechgyn, heb fod yn mhell oddiwrth eu rhieni, a'r seithfed mab, W. V. Evans, ieu.. sydd fasnachwr yn Remsen. Mae yr unig ferch, Mrs Pitcher, yn byw yn Rome. Eu mab Lewis, yr hwn sydd yn byw yn ymyl y par oedranus, sydd yn ffermio eu tir. Dydd Gwener, yr 2iain, daeth y plant a'r wyrion i'r hen gartref i ddathlu eu priodas euraidd gyda nifer 0 wahoddedigion. Wedi cyfranogi o'r wledd fras a barotowyd gan Mrs. Prichard a'i chwiorydd-yn-nghyfraith galwodd y mab hynaf, y Parch. Hugh V. Evans 0 Lee (M.E.), y gwyddfodolion ynghyd i gynal gwledd feddyliol. Canwyd amryw donau yna cafwyd anerchiad a gweddi gan y Parch. D. E. Prichard canu Cymraeg an- erchiad Cymreig a Seisnig gan y Parch. J. H. Jones anerchiad Seisnig gan y Parch H. Mon Hughes. Yr oedd chwech o'r merched- yn-nghyfraith yn Saeson, felly yr oedd yn rhaid cael gwasanaeth cymysg. |
ABERDYFI.
ABERDYFI. Y LLYFRGELL—Chwanegir gwerth llyfrgell y dref drwy amryw roddion a wnaed gan Miss Jones, Brynhyfryd, Mr Ffestin Williams, Ysgol y Bwrdd, Mr. R. Williams, Grove Place, y llyfi-gellydd, Mr. W. J. Eves, Z3 ac eraill. Y JIWBILI.—Mae cyfraniadau wedi eu derbyn tuag at redegfa cychod, cliwareuon ar y Common, a gwledd i blant a'r hen bobl, a thuag at gael cert ddwfr Jiwbili i'r dref. Yn yr hwyr dydd y Jiwbili, cynhelir cyngerdd ar yr afon. Y BWIWD CLADDU.—Cynhaliwyd dydd Ma wrth. Dewiswyd Mr. E. L. Rowlands yn gadeirydd am y ilwvddyn, Mr. H. Rees yn is-gadeirydd, Mr. J. Evans yn drysorydd, a Mr. John Owen yn glerc.—Cyfarvvyddwyd y clerc i brynu byrddau at waith y gladdfa, a llyfr cufnoclion i'r festri. Penderfynwyd i adgyweirio mur yr adeilad yn y gladdfa. —Datganodd y Bwrdd eu siomedigaeth, oherwydd gwrthodiad yr Overseers i gasglu treth y gladdfa gyda threth y tlodion. Costiai codi'r dreth 0 50p. ar wahan y swm o 9p.—Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. J. Rowlands, ficer, yn cynyg cyfianu tuag at osod i fyny lyelaws y Bwrdd mewn tvefn weddaidd. Diolchwyd yn gynes am yr addewid, ac apwyntiwyd pwyllgor i gario allan yr awgrymiad.
In MACHYNLLETH.
In MACHYNLLETH. 11111 WASANAETH.—0 dro i dro, rliydd y Tit Bits fathodyn arian a 5p. i'r un fyddo wedi gwasanaethu yn yr un lie am y cyfnod meithaf. Yr wythnos ddiweddaf, cynygid y wobr uehod i Sir Drefaldwvn, ac enillodd Mr. W. Evans, gwas fferm Oefnwyddgrug, ger Machynlleth. Dechreuodd weithio ar y fferm hon yn 1845, ac y mae wodi parhau yma hyd heddyw. CYMAXEA.—Dydd Iau, cynhaliwyd Cy- manfa Ganu Methodistiaid Callinaidd, rhan uchaf Sir Drefaldwyn. Y cyfarfod cyntaf yn dechreuyn y prydnawn, pryd y cadeiriwyd gan y Parch. T. M. Pierce (Mordaf), Llan- idloes, ao arweinid gan Mr. J. T. Rees. Y11 yr hwyr, llywyddwyd gan Mr. R. Phillips, Drefnewydd. Cinwyd y ddwy antlioi-ii 'Ai-gtwydcl ehwiliaist,' a I Clodforaf di 0 Arglwydd.' Cafwyd Cymanfa dda dros ben ac amlygodd yr anveiuydd ei foddhad mawr yn yr oil. Yr ysgrifenydd oedd y Parch. J. D. Jones, Trefeglwys, a Mr. Harry I jewis, Machynlleth yn drysorydd. RHAGLEN Y J IWBILI.- Y n y pwyllgor apwyntiedig- ynglyn a hyn, a gynhaliwyd nos Fawrth, dan lywyddiaeth Canon Trevor, hysbyswyd fod tanysgrifiadau i'r swm o 18p. wedi eu derbyn. Yr oeddynt wedi pender- fyny rlioddi te i holl blant yr ysgolion, a bod athletic sports i' w cjmil os byddai y g-ronfa yn caniatau. Derbyniodd yr is- gadeirydd frysneges oddiwrth Marchioness (D), Londondorry, ynhysbysuy byddai yu bleser ganddi hi roddi Medals i holl blant yr ysgolion. Pasiwyd diolchgarwch i'r Arglwyddes, ar g-ynygiad Mr. E. Rees, a chefnogiad Mr. John Thomas.
MARWOLAETH MR. W. HUMPHREYS,…
MARWOLAETH MR. W. HUMPHREYS, ABERKIN. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mr. William Humphreys, Aberkin, yn 46 mlwydd oed. Yn 1892 ymgeisiodd yn afiwyddiauus dros y Ceidwadwyr am gyn- lychiolaeth deheu Sir Gaernarfon, yn erbyn Mr. Bryn Roberts. Yn ddiweddar, yn Llys Methdaliad, datguddiodd y modd y cafodd arian i ymladd yr etholiad.
CYMANFA YSGOLION SABBOTHOL…
CYMANFA YSGOLION SABBOTHOL ANIBYNWYR DOS. ESTIMANER. Cynhaliwyd y Llungwyn yn Towyn. Cyfarfod 10.30 dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, Abergynolwyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. W. Owens, Aberdyfi. Ar ol cael anerchiad gan y llywydd, aed ymlaen ar y rliaglen ganlynol: Beirniadaeth Mr. Lloyd, Pant, Llanegryn, ar y traethawd Yr allor deuluaidd,' goreu W. Jones, Abergynolwyn, ail W. Davies, Llanegryn; beirniadaeth Parch. W. Davies, Abergynolwyn, ar 'Hanes y Genedl,' goreu William Edwards, ail John Morgan, Towyn; beirniadaeth Parch. W. Perkins, Pennal, ar 'Dorcaa,' goreu Mrs. C. Jones, Abergynol- wyn; cystadleuaetli areithio 'Prydlondeb,' goreu J. Owen, Brynciug. Cynhaliwyd pwyllgor gweithiol ar derfyn cyfarfod y boieu. Cyfarfod 2 o'r glocli. Llywydd Mr. R. y Morgans, Towyn. Rhan helaethaf o gyfar- fod y prydnawn oedd gwobrwyo y buddugwyr yn nghyfarfod y boreu. Canodd y plant dan arweiniad Mr. D. 0. Jones, Abergynol- wyn yn swynol iawn. Dyfarnwyd Lizzie Roberts, Bryncrug-, a Kate Jones, Pennal, yn fuddugol am adrodd emyn 918 o'r Caniedydd; holwyd y plant gan Mr. J, E. Rowland, Abergynolwyn; dyfarnwyd C. Morris, Abergynolwyn, a J. Owen, Bryncrug, yn gyfartal oi-eu am adrodd Rhyfel a haddweh'; anerchiad gwresog gan Mr. Lloyd (lago Fyclian). Yr oedd cyfarfod y prydnawn yn fy wiog drwyddo, ac ol llafur mawr møwn. rhai canghenau, ac eraill yn fwy diffygiol. Cyfarfod 5 o'r glocli, cyfarfod canu yn hollol oedd hwn, dan lywyddiaeth Mr. J. Evans, Gwastadryn, ac arweinyddiaeth, Mr. W. Jones, cofrestrydd, Aberdyfi. Teimlid eneiniad amlwg ar y canu o'r dechreu i'r diwedd. Yn ail mewn dyddordeb oedd darllen yr ystadegau, fel yr oedd pob ysgol yn sefyll, ac er syndod, yr ysgol leiaf yn yr Undeb mewn rhif, oedd yr u wchaf mewn ffig-yrau, ae iddi hi mewn canlyniad aeth y wobr Anrhydedd i ysgol Llaniihaugel, ynghyd a gwerth lp. o lyfrau a ddewisant. Yna dygwyd y Gynianfa eleni eto a'i gweithrediadau i derfyniad a phawb ynyr oil o'r ysgolion, fel wedi derbyn symbyliad o'r newydd i fod yn fwy penderfynol a gweithgar o blaid yr Ysgol Sabbothoi. ZD
[No title]
Y mae preswylfod y diweddar Barch. Edward Mathews, wedi ei werthu am 1,050P.
AMRYWION.
AMRYWION. Y mae llawer o asynod yn y byd hblaw y rhai a'r clustiau hirion. Mae Mr. D. A. Jones, Prifathraw Ys^ol Waddoledig Harlech, wedi cael ei ethel yn Gymrawd o Gymdeit:ias Linneaus, fel cydnab- yddiaeth am ei wasanaeth i eirydiaeth bywyd Ilysieuol. Ar yr 28ain o Fai, aeth parti o Dyrciaid allan o Candia ganol nos aethant i bontref Galwa, a Uofruddiasant 14 0 Gristionogion- deuddeg o ddynion a dwy ddynes. Mae hyn wedi cylhruddo y Cristionogion Cretaidd. Oes y peirianau yw yr oes hon. Y mae peiriant wedi ei ddyfeisi J yn awr at gnefio, yr hwn a wna ei waith yn gytlym iawn Yn New Zealand, mewn lie o'r enw Station Peack, darfu i 24 0 ddynion Y,efiO 3,925 o ddefaid mewn 8 awr a 40 munyd, trwy gyfrwng peirianau o'r fath. Prif gytansoddwr cerddorfao1 yr oes hon 2,y oedd Johannes Brahms, a fu farw y dydd o'r blaen yn Vienna. Pan ond 20 oed yr oedd yn feistr ei gelfyddyd. Pan yn 14 oed chwareuai yn gyhoeddus brif gyfansoddiadau Bach a Beethoven. Mae ei concerto gyntaf i'r berdon- eg (1859), yn deilwng o ardderchowgrwydd uchaf athrylith. Gweithivvr difefl, cyfansoddwr cydwybodol, a beirniad llym ydoedd. Yn mhlith casgliad 0 gywreinbethau a adawodd y Parch. R. Parry (Gwalchmai) ar ei 01, ceir Glain Neidr (Adder's Bead). Modrwy wydr ydyw, yn cynwys Iliwiau gwyn, gwyrdd, a melyn, yn toddi i'w gilydd, nce-s ei gwneyd yn hynod brydferth. Dywed y diweddar Barch. Owen Jones (Meudwy Mon), nad oes ond pedair o'r cyfryw ar gael yn bresenol. Cariai y beirdd Derwyddol hwy gynt fel rhai yn meddu swyn goruwchnaturiol, ac yn cadw y bardd rhag pob perygl a haint. Ceir yr hyn a ganlyn ar gareg fedd un Harri 41 Zacharias, clochydd, yn mynwent blwyfsl Llangathen, Sir Gaerfyrddin, yr hyn a ddywedir oedd wedi cael ei ysgrifenu gan y trancedig ei hun:— Yr wyf yma wedi 'nghladdu, Dan y gareg hon wyf heddy Tair gwaith hynod bum yn warden, Mae'n ddigon gwif, dros blwyf Llangathen. Y sawl fo'n glochydd cym'red rybudd I esgyrn Harri i gael llonydd.' Mae un cynyg arall yn myned i gael ei wneyd am i Gymru gael arwyddion ar y Faner Genedlaethol, ac ar arian bathol y Deyrnas Gyfunol. Y mae cerflun yn awr yn cael ei wneyd 0 bedwar arwyddlun cynrychiolir Scotland a'r Iwerddon a Lloegr. 'Does na meddwl nac ystyr i fod arwyddlun Lloegr yn ymddangcs ddwy waith yn yr un cerfiad, ac fe fyddai'n welliant arno i roddi arwyddlun i gynrychioli Cymru, heblaw y byddai hyny yn gydnabyddiaeth o'r genedl hynaf, a'r ddewraf, a'r ffyddlonaf i goron Prydain Fawr, o'r cenedloedd sydd yn gwneyd i fyny Ymerodraeth Prydain. Fawr. Dydd Mercher, agorwyd pont Queensferry dros ran isaf y Dyfrdwy gan Mr. Gladstone. Dywededd mai un o neillduolion amlycaf y ganrif bresenol yw y llwyddiant mawr a wnaed i hyrwyddo trafnidiaeth rhwng gwahanol wledydd a phobl a'u gilydd, yr hyn oedd wedi dwyn bendithion materol a moesol i gyraedd y lluaws. Po agosaf y dygid ni at ein gilydd y gallwn sylweddoli amcanion mawr bywyd. Gelwir y bont Victoria Jubilee Bridge. Ym- ddangosai Mr Gladstone mewn meddiant o lawer o yni ei ddyddiau goreu. Ar y pedwerydd cyfisol gollyngwyd i'r dwr yn Bremen, yr agerlong fwyaf yn y byd heddyw, yn ngwydd Ymerawdwr Germani a miloedd o urddasolion eraill. Enwyd hi yn 'Kaiser Wilhelm der Grosse,' yr hyn o'i gyfieithu yw tY yr Ymerawdwr William y Mawr. Hyd y llong yw 648 o droadfeddi, wrth 66 o droedfeddi yn ei lied mwyaf. Mae ynddi le i 350 o deithwyr yn ei chaban cyntaf, i 3ï0 yn ei hail gaban, ac i 800 yn ei steerage. Rhifa ei dwylaw angen- rheidiol 450. Rhedir hi rhwng Bremeu a New York pan fydd yn barod. Ni chymer ei mordaith gyntaf cyn mis Medi. Adeiladir cymhares i'r Hong hon o'r enw Kaiser Fredrick, i'r un cwmni, sef y North German Lloyd. Rhaid i'r Sais edrych ati, onide bydd i'r Eilmyn ei guro am agerlougau mawrion a c hyfly m.