Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Y DIWEDDAR DR. E. HERBER EVANS.

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR DR. E. HERBER EVANS. Cyfansoddwyd y penillion tlws a ganlyn gan Dr. Herber Evans, ar farwolaeth ei gyfaill hoff, Dr John Thomas, Liverpool, pan fu farw, yn Uwch-y-Don, Colwyn, ar adeg yr etholiad cyffredinol. Mae y llinellau yn gymwysiadol bellach ato yntau, gan ei fod ar ol ei lafur, ei frwydrau, a'i gystudd, wedi dianc i'r wlad sydd UWCH Y DON. Gwelais arwr llawer brwydr, Teithiwr mawr hyd for a thir, Yn ei fyd o un ystafell Yn diweddu'i ddiwrnod hir Swn etholiad oedd yn berwi Drwy y wlad a thrwy y dref, Pan adawai'r Hybarch Ddoctor Uwch-y-Don—am entrych nef. Ar dymhestlog fordaith amser Ca'dd ei lestr lawer gwaith Brofi grym y 'stormydd geirwon- Weithiau ofnai'r dyfnder llaith Ton o siomiant ar un adeg, Ton o alar ar ol hon, Ond trwy'r tonau daeth o'r diwedd I le diogel- Uzvch y-doii. Uwch y-Don oedd hapus enw'r Breswyl dlos ar ael y bryn, Uwch-y-Don oedd profiad melus Eiti hoff gyfaill y pryd hyn Uwch-y-don cychwynodd adref, A thangnefedd lonai'i fron Enw newydd ganddo heddyw Ar y nef yw—U\VCH-Y-DON.

HANES CREFYDDOL Y CYMRY. ---

ABERDYFI.

glfatt.

GERDDI Y FRENHINES A'R PEIN…

TOWYN.

LLANGADFAN.

Y DYDD IAU GYNT.

YSGOL GANOLRADDOL MACHYNLLETH.

Y BARDD DANTE.

METHIANT FFERMWYR.

Y CLOWR YN LlAI El BARCH NA…

PRIODAS CYMRO ENWOG 0 LLANELLI-