Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

"NID YW OND DWR ER HYNY."

News
Cite
Share

"NID YW OND DWR ER HYNY." Nid fy amcan wrth gynyg y llythyryn yma i'r cyhoedd ydyw gwneyd y rhwyg yn waeth rhwng y pleidiau mewn un wedd. Yn hytrach dymunwn wneyd defnydd o ysbryd gwraig yr hen lifiwr o'r Garth, Porthmadoc. Coffa da am dani, mae hi wedi marw yn llefaru eto, a dymunwn adsain ei geiriau dros Gymru benbaladr, gyda'r amcan o helpu ein brodyr- chwi oddefvvch imi ddefnyddio y gair o bosibl- ddyfod i ystyried y sefyllfa, lleddfu tipyn fel y mynai yr hen chwaer ar y don, ac ymddwyn tuag atom fel Crisdonogion. Y mae yn ,troi yn gwb ar fod" Crist ynoch fel y mynai y Parch. Griffith Ellis, ei ddangos mor fedrus ac argyhoeddiadol yn ei araeth ar Natur Eghvys" yn yr un cyfarfod. "Nid yw ond dwr er hyny a llai na dwr hefydyn y cysylltiad yma. Dangos y gwahaniaeth rhwng yr enwad- au a'r defodwyr yr oedd Mr. Gee, ar y pryd, a bod yr enwaclau yr un, ond "fod hyna o wahaniaeth yn y dull chwedl yr hen chwaer. Felly llai neu fwy o'r un dwr ydyw y gwahan- iaeth. Nid yw ond dwr er hyny." Rwyn cofio Dr. Jenkin—y Cymro gorwych, oedd hyd yr wyf yn cofio wedi ei godi o'r pwll mwn—yn dweyd fod amgylchiadau yr amser, y yn nhymor y Piwritaniaid, yneu gwasgu at eu gilydd, fel yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedydd- wyr yr unig ddau ddosbarth o Ymneillduwyr oedd ar y pryd yn cydfyw, cydweithredu, ac yn cymysgu a'u gilydd ymhob peth, a chyda phob peth, hyd nes y dcuant at y dwfr. Yr oeddynt fel y ddau bowdr sydd yn gwneyd soda water, y gellid eu cowlio a'u cymysgu a'u gilydd ymhob motld nes y rhoddid dwfr am eu pen. Y funud y rhoddid diferyn o ddwfr, dyna hi yn myn'd yn ffrwydriad. Ond nid yw ond dwr er hyny." Y mae yn hawdd cael rhyw syniad pa fodd y mae offeiriaid yr olyniaeth sydd yn credu—os gallant hwy gredu liefyd-dderbyn o honynt trwy eu hordeiniad esgobol rhyw ddoniau ac urddas goruwchnaturiol a Dwyfol, y mae rhyw syniad pa fodd y mae y rhai hyn yn methu ymostwng i ymgymysgu a'r enwadau syml eu harferion a diymhongar. Ond y mae yn syn gweled pobl fel ni ein hunain, sydd yn dysgu a chredu pobpeth arall fel ninau, ac yn meddwl yn fawr o'n pregethwyr a'n dysgawdwyr, yn gwrthod cyd- weithreciu gyda dwy sacrament arwyddol crefydd. Er na ddymunwn ddweyd y lleiaf am yr un o'r ddwy ordinhad, gadewch imi "Ile ddweyd mai sacramentau ydynt hwy ar y y goreu. Pethau i uno ac nid i wahanu ydynt. Nid yw ond dwr er hyny." Y mae meddwl am yr anghysondeb anghrist- ionogol yma yn y caeth-gymunwyr yn dwyn i'm c6f frawd oedd wedi cael eu ddwyn i fynu gyda'r Annibynwyr. Yr oedd ei dad yn bregethwr cyn- orthwyol, a'i fam wedi ei mag, u gydi'r M. C., -ic yn selog iawn trostynt, ond iddi roi fynu er rnwyn cyfleusdra ar ol priodi, fel yr oedd y mab wedi ei fagu, gyda phob teimlad da at y ddau enwad Nid oedd neb yn y wlad yn mwynhau eu cyfarfodydd pregethu yn fwy nag ef, a a cherddai lawer iddynt i bob cyfeiriad. Ym- sefydlodd. mewn amser mewn lie yr oedd y capel Methodist yn fwy cyfleus iddo, a chwym- podd atynt fel un o honynt, gan gadw ei aelod- aeth gyda'r Annibynwyr. Ymhen .rhai blyn- yddoedd, cymerodd ei argyhoeddi gan gyfaill iddo yn ifafr ail fedydd trwy drochiad, ac erbyn hyn ni wnai ef ddim ;byd, yn yr un o'r ddau gapel arall—ddim cymnno ar un cyfrif. Dyma un o brif erthyglau credo dosbarth mawr o'r blaid. Tybed nad ydyw yn ormod cymeryd y Cymun Bendigaid" i wneuthur ysgymunbeth o'r tri enwad arall ar un cynyg ? Cynwys hyn wneuthur pagan anghrediniol ac anghymwys o bob aelod o'r Annibynwyr, y Methodistiaid, a' r Wesleyaid Ac" nid yw ond dwr er hyny." Nid wyf yn meddwl fod ein brodyr bedydd- iedig yn edrych ar y peth yn yr olwg yma, ond eu bod yn hytrach yn ein cymeryd yn mhobpeth, ond hyn, fel brodyr, fel yr ydym ninau yn meiddio gwneyd a hwythau, er hyn. Ond goddefer i mi ddweyd fody safle a gymer- ant yn cael edrych arni morhonedig a beiddgar ag odid ddim mewn Pabyddiaeth Brydeinig neu Dramor, ond fod y safle hon yn cael ei chysgodi gan yr anghysondeb o gydnabod cyd- raddoldeb. Nid yw ond dwr er hyny." CLEMENT.

[No title]

GAR TIIBEIBIO.I

PMIAL.

TALYBONT A'R GYMYDOGAETH ITANEE…

CORRIS.

| SOAB ger MACHYNLLETH.

LLANEGRYN.

ABERHOSAN. '

CYNGHOE SIROL MALDWYN.

[No title]

MACHYNLLETH.

LLANWRIN.

DOLGELLAU.

ABEUMAW.

ABERGYNOLWYN