Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

"NID YW OND DWR ER HYNY."

News
Cite
Share

"NID YW OND DWR ER HYNY." Wrth ddychwelyd o Gymdeithasfa Dolgellau, cyfarfyddais a'r Golygydd o Gorris—neuGor-is- yr isa' i gyd o'r iselion cylchynol, os goddefir i mi gynyg esboniad croes i'r un sydd yn ei wneyd yn risiau ar i fynu, trwy nad ydyw hwn yn myned yn rhyw gyffredinol. Wrth gwrs aeth yn siarad am y plentyn newyddanedig—y diweddarafo'rpapurau a wnaeth ei ymddangos- iad yn ein byd bach Cymreig—'Y NEGESYDD diddygasog,' a gofynodd i mi o gyweithas am ysgrif i'r papur gan addaw fel pob Golygydd, gadw fy enw mor gyfrinachol a beirniaid eis- ,,y teddfodol. Heb fod genyf yr un testyn mewn golwg, ac heb fod yn rhyw gyfarwydd iawn a'r gwaith, ni ly addewais, er y rhaid i mi addef fod y croesaw- iad yn fy nharo. Cychwynais tua'r orsaf ac wedi cael eisteddfa gysurus a chwmni dydd- orus ac adeiladol, aethom yn mlaen yn lied ddyddan dan siarad, hyd yr ymraniad cyntaf ar ein ffordd. Wedi hyny yr oeddwn gyda dau ddieithr imi, ac heb fed fawr neu ddim siarad rhyngom. Felly i'o droais ataf fy hun i dreio hel fy meddwl at wasanaetli yr Graeinic, yn y bore, pryd y daeth y frawddeg sydd uwch ben ein hysgrif presenol i'm meddwl yn lied darawiadol- Nid yw ond clwr er hyny.' Mynai Mr. Gee, yn ei anerchiad cynhes, agos atynt, .gwir addysgiadol, ymogelgar ac anogaethol—yr oil yn gwbl wahanol i'r hyn oeddwn yn ei ddisgwyl gael gan berchenog a Golygydd y Faner, heb ei glywed erioed o'r 11 y blaen, i'r brodyr ieuainc gyda gotwg ar eu safie newydd mewn canlyniad i'\v hordeiniad. Dywedodd yn mhlith llawer o bethau eraill mai neillduad cyhoeddus ydoeddi weini yr ordinhad- au a osododd Crist yw ei eglwys Bedydd a Swoer yr Arglwydd. N ad oedd yr ordinhadau hyn ond arwyddol, ac felly nad oedd yr ordeinio yn cyfranu unrhyw allu goruchnaturiol iddynt hwy na chyfnewidiad ar yr elfenau—arwyddion ocddynt i'r llygad o'r un: pcthag a bregethir i'r glust, yn dangos cyHwr truenus dyn a threfn Duw ar ei gyfer. Y raae yna rai yn ein gwlad yn honi pethau gwahanol, ond dyma syniad y pedwar enwad Ymneillduol fel cu gilydd ond fod y Bedyddwyr, yn credu mewn mwy o ddwfr a throchi ynddo, ond 11 nid yw ond dwr er hyny." Dyma yn debyg sylwedd y sylwadau ar y pwynt yma, ond fy mod i yn methu eu rhoi mor gryno ag ef. Pwy fedr ? Ond yr oedd yn taro i'm meddwl wrth adfyfyrio arnynt y galldi y sylw awgrymiadol gaei ei gymnwyso at lawer cynyg yn ymddygiad ein biociyr y trochwyr tuagat y taenellwyr. Nid wyf yn defnyddio y 1-1 1 y cyfenwad trochwyr mwy na'r gair taenell- wyr gydag amcan i dramgwyddo, -,aalchyda', un gradd o ddiystyrwcb. Y gwir ydyw y tcimlwyf fod gan y tri enwad arall yr un hawl a phriodol- deb yn yr enw Bedyddwyr, fel nad ydyw yr enw Bedyddwyr mewn un wedd yn ddynodiadol na gwahaniaethol. Y mae y tri enwad arall yn credu mewn bedydd, ac yn credu mewn bedyddio y crediniol, Y mae rhoi fynu yr enw i un enwad am ei iod yn demyaxlio' mwy o ddwfr nag eraill, cystal a chydnabod mai ganddynt hwy yn unig y mae bedydd. Faith flynyddau yn ol yr oeddwn gyda chyfaill yn nhy par oedranus yn Mhorthmadog, oedd yn orselog' tros datisuddo. Nid oedd yr hen wr yn clywed yn dda, a thybiwn iddo ddychymygu wn i ddim lIe y cafodd le i hyny ychwaith, o ran dim siarad oedd wedi bod ar destyn yn y byd heblaw holi am berthynasau a hen gydnabod—ein bod yn siarad am fedydd neu Fedyddwyr, pryd y torcdd allan mewn iaith lied sarug ac awdur- dodol gan ddweyd mater garw fod dynion yn ngwlad yr efengyl yn gwadu y pcth penaf;" pryd yr atebodd yr hen wraig—oedd mor selog ag yntau tros fedydd tansuddol' mewn mwyneiddra doethineb, Dyden nhw ddim yn gwadu, hwn a hwn bach, tipyn o wahaniaeth am y dull sydd." Atebodd yr hen frawd gyda th6n mwy eras fyth y maent yn ei ddiystyru beth bynag, ac waetli gen' i iddynt ei gwadu na hyny, 'does ganddynt ddim byd o hono." Goddefer imi ddweyd fy mod yn edryeh ar ymddygiad ein cymydogion—■-eryn ddiarwybod iddynt eu hunain mae yn ddiamcu gCDyf, tuag at y tri' enwad arall yn debyg iawn i ysbryd a c ymddygiad yr hen ddisgybl hwn i'r Parch. John I Jones, o Ramoth. Yr oedd y gwr hynod hwriw hefyd mor selog ac unochrog, fel agyr oedd hyd yn ad y Parcbedig Richard Jones, y Wern, oedd yn byw yn yr un gymydogaeth— gwr ag yr oedd pawb yn ei barchu a'i gydnabod, -1 ,y mor ddiystyr yn ei olwg, a phe buasai grwydryn diddysg, diddeall a digrefydd. Clement. (I barhau).

I O'R FFAU

.llanfair. ; '

----------------MOHIAH, CORRIS…

TALYBONT A'R GYMYDOGAETH HANEE…

GLANAU Y DTFI, A'R D ISYNI.

ANMHOBLOGRWYDD Y GYFARFODYDD…

DOLGELLAU.

MACHYNLLETH.

[No title]