Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YR IEUENCTYD.

News
Cite
Share

YR IEUENCTYD. Caniatewch i mi ran o'ch gofod i draethu ychydig ar destyn pwysig ac amserol. Clywir cwyno cyffredinol yn y gwahanol ardaloedd y dyddiau presenol, fod llawer o blant yr Ysgol Sabbothol a'r Gobeithluoedd, yn codi i fyny yn blant hyfion a digywilydd. Ni thalant y parch dyladwy i'w rhieni, chwaithach i ddiaconiaid a gweinidogion y Gair, a chyfrifant bethau sanctaidd a chysegredig ty Dduw, fel pethau cyffredin, ac oni bydd iddynt ddiwygio (a hyny yn fuan), ofnaf, mai yr un fydd eu tynged hwy a'r eiddo meibion Eli, y rhai a laddwyd gan yr Arglwydd, trwy law y Philistiaid, neu yr un ar eiddo Uzzah, yr hwn a darawyd a barn union- gyrchol gan Dduw, am gyffwrdd a'r arch pan ddygid hi yn ol i dir ei gwlad, gan Dafydd. Wei, meddai rhywun, ar bwy y mae'r bai fod cymaint o'r plant a'r dosbarth ieuainc, mor galed ac anystyriol ag ydynt heddyw ? Credaf yn ddibetrus, fod y bai yn gorphwys yn gwbl wrth ddrws y rhieni. Nid ydynt yn ceryddu eu plant pan wneir drwg ganddynt, ond yn hytrach eu cefnogi yn eu pechod, trwy basio eu hymddygiadau an- nheilwng yn ddisylw. Anaml y gwelir gwialen fedw mewn un ty, y dyddiau hyn, os na bydd yno i gadw'r gath mewn trefn, ac o ganlyniad, nid yw ond peth pur gyffredin i gyfarfod a phlant drwg ac ystyfnig. Clywais fam yn ddiweddar yn bygwth ei phlentyn yn enbyd, os na pheidiai lefain a grwgnach yn barhaus, ond gan nad oedd y bychan yn gweled ei hunan yn llwyddo i gael yr hyn a ddymunai y ffordd hon, aeth allan i'r heol a gorweddodd ar y ddaear, ac ymdreiglodd yn y baw, fel hwch yn y dom, a chiciai yr awyr fel ebol ieuanc yn enill ei bedolau, ac wrth weled ei ddagrau yn rhedeg I yn llif, a chlywed ei ysgrechan, methodd y fam ddal heb redeg ato, a'i godi yn ei breichiau, a thoi cusan cariad ar ei ystranciau lloerig. Nis gallaf lai na chredu, mai y fendith fwyaf iddo ar y pryd, fuasai cael y wialen yn drwm ar "ganolbwynt ei fodolaeth," chwedl Dyfed,! a'i anfon i'w wely. Mewn, amgylchiadau pryd y dylid cospi y plentyn, nid teimlad ddylai lywodraethu'r tad na'r fam, ond dyledswydd, lies dyfodol eu plentyn ddylai gael eu sylw blaenaf bob amser, ac nid ei lefel uchel, a'i ddagrau treigliedig. Am y flwyddyn gyntaf dylai y rhieni, a'r plant i gyd fod yn weision a morwynion i gyflawni eirchion y bychan anwyl, ond o hyny ymlaen, dylai efe fod yn was i'w dad a'i fam, a rhoi iddynt ufudd-dod parod ac ewyllysgar. Dywed Solomon, y doethaf o ddynion "Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i'th enaid ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam;" Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casau ei fab; ond yr hwn a'i car ef, a'i cerydda mewn amser." Ie, mewn amser, nid gwaith hawdd ydyw diwreiddio'r dderwen dal-gryf, ar ol iddi gael llonydd i dyfu am gan'mlynedd, ac nid gwaith ha wdd ychwaith ydyw plygu ewyllys y mab neu'r ferch ieuanc, ar ol iddynt dyfu i oedran cyfrifoldeb, yn hyfion, balch, ac ystyfnig; ond pan y maent yn blant ieuainc, gwaith rhwydd ydyw eu tro a'u cyfarwyddo i'r ffordd dda. Ofnaf y bydd dwylaw llawer tad a mam yn gochion o waed eu plant, yn y dydd mawr a ddaw, am esgeu- luso cyflawni eu dyledswyddau tuag atynt. Dylent orfodi eu plant i ufuddhau, pa mor an- hyfryd bynag y gall hyny fod iddynt hwy a'u plant ar y pryd, canys wrth fynu ufudd-dod oddiar eu llaw, fe'u dysgant i barchu eu hunain, i barchu eu rhieni, ac i barchu pawb arall. Gallant felly ddisgwyl cael eu parchu gan bawb, os byddant yn blant ufudd a da, fel y bachgen Samuel. Dylai'r rhieni roddi eu cefnogaeth Iwyraf i'r ysgolfeistr, os digwydd iddo geryddu'r plentyn am drosodd neillduol, peidio er dim ag amddiffyn y plentyn (os na byddwch yn sicr ei fod yn ddiniwed), oblegid wrth wneyd hyny fe ddileir argraff y cerydd oddiar ei feddwl, a gwna yr un weithred drosodd drachefn. Os bydd yr athraw yn yr Ysgol Sul, neu'r diacon a'r gweinidog yn cwyno fod y plant yn ddrwg ac afreolus, yn yr Ysgol Sul ac mewn Cyfarfodydd Sabbothol neu wythnosol eraill, peidier er dim a dweyd yn eu gwydd: fod rhyw wenwyn garw arnynt wrth blant yn > capel, ac, na wnewch chwi eu hanfon atynt, ond y bydd i chwi eu cadw adref," fel y dywed rhai rhieni. Os mynwch eu gweled yn byw yn eu pechodau, ac yn tyfu fyny i garu eu ffyrdd drygianus, dyma'r ffordd i chwi wneyd, ond os ftiynwch gynal breichiau y rhai a lafuriant gyda'r plant, cofiwch eu cynghori i roddi ufudd-dod rhwydd a pharod iddynt, a gwneyd pobpeth erchir ganddynt. Nid credu fod eich plant chwi yn well na phlant pawb arall yn yr ysgol ddyddiol a'r Ysgol Sabbothol, ac os na ymudirhwy o'r naill ddosbarth i'r Hall yn union fel y credwch chwi y dylent gael eu symud, fod yn rhaid fod y rhai sydd yn symud plant yn cyfeiliorni, ac mai chwi sydd yn gweled yn iawn bob amser. Nid oes dim gwell i'w wneyd gyda'r dosbarth hwn, na'u penodi hwy yn inspectors i symud eu plant eu hunain yn ol eu syniad a'u mympwy hwy eu hunain. Y 'mac-'r ddyledswydd deuluaidd yn cael ei hesgeuluso yn enbydus hefyd, ychydig o ddarilen Gair Duw, a gweddio ar yr aelwyd cyn noswylio, sydd y dyddiau presenol. Telir mwy o sylw i Iwyddiant bydol y plant na'u llwyddiant ysbrydol. Cyn y gwelir cyfnewidiad yn ymddygiadau y plant, rhaid cael yr allor deuluaidd ar ei thraed eto, a rhaid i bob tad a mam roddi mwy o arbenigrwydd, ar y pwysigrwydd o ddarllen a myfyrio Gair Duw, ei ddarllen fel rhai yn disgwyl cael bywyd tragwyddol trwyddo -ei ddarllen yn ddifrifol, gweddigar, ac ystyr- iol; myfyrio yn y gyfraith ddydd a nos, ac erfyn am oleuni Ysbryd Duw ar ei Air. Pan ddel y rhieni i deimlo cymaint dros iachawd- wriaeth eu plant, nes y byddant yn colli nos- weithiau o gwsg, mewn pryder yn eu cylch,— pan ddel iachawdwriaeth eu plant yn benaf peth yn eu golwg, buan iawn y gwelir delw eu bywyd rhinweddol yn adlewyrchu, yn muchedd ac ymddygiadau teilwng y plant. Pan glafycha Seion yr esgor a'r ei meibion a'i merched," a phan ddel y rhieni i deimlo mai gan Dduw y mae'r hawl gyntaf i'w rhai bychain, fel Hannah gynt, yr adeg hono y gallwn ni ddisgwyl gweled plant, a gwyr ieuanc ein hardaloedd yn syrthio yn ymostyngar wrth groes yr Iesu, ac yn cyflwyno eu hunain gyrff ac eneidiau ar ei allor i'w wasanaethu. Os na cheir cyfnewidiad ar yr aelwydydd i ddechreu, ofer disgwyl i'w bechgyn ieuainc gael mwy o bleser a hyfrydwch yn nghwmni baldorddwyr a gwag-segurwyr y dafarn. Gaf fi apelio at gydwybod pob tad a mam lie daw y llinellau hyn dan eu sylw: Beth yr wyt ti yn ei ddweyd am danat dy hun ? Os ydych yn euog yn eu gwyneb, diwygiwch ar frys, onide yr ydych yn sicr o edifarhau pan el yn rhy ddiweddar. Corris. SYLWEDYDD.

O'R FFAUII

ABERYSTWYTH.

CYNGOR PLWYF LLANBRYNMAIR.

[No title]

-----PENEGOES.

NODION 0 TOWYN.

-..-.----NODION CYFFREDINOL.