Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

MACHYNLLETH.

News
Cite
Share

MACHYNLLETH. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Lun, cyn- haliwyd cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Gymdeithas uchod, yn Ysgoldy Maen- gwyn, pryd y rhoddodd Mr. Griffith, Bwr(ld Ysg-ol, Ddarlith rhagorol ar "Bywyd LIys- ieuol," (Botany). Mr. Harfi Lewis, ydoedd yn y gadair, ac fel arfor fei lienwodd i fodd- lonrwydd. Yr oedd aelodau y Gymdeithas wedi dyfod yn bresenol yn gryno, ond nid oedd dim ond tri o'r cyhoedd wedi rhoddi eu presenoldeb. Mae hyn yn dangos yn amlwg y gefnogaeth y mae y Gymdeithas yma yn gael oddiwth yr Eglwys y perthynai iddi. Ychydig wythnosau yn ol cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar ddechreu y tymor, pryd yr oedd pedwar tu allan i'r Gymdeithas yn bresenol. Beth am ddyledswydd yr Eglwys at y bobl ieuainc ? CYNGOR DOSBARTII TREFOL. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor dydd Mawrth diweddaf. Presenol, Mri. Eichard Gillart, cadeirydd Evan Jones, liicliard Rees, John Pugh, John Lewis, John Ed- munds, Edmund Gillart, G. W. Griffiths, John Thomas, Richard Owen, J. M. Breeze, a John Richards, gyda David Evans, clerc, D.Morgan, isglerc, a John Jones, arolygwr. Llythyrau.—Darllenwyd llythyryn hysbysu y bydd y cais o ost-yngiad yn mhris y nwy i'r trethdalwyr yn cael sylw y cwmni. Hefyd llythyr oddiwrth Mr. Ivor James, cofnodydd, Prifathrofa Cymru, yn hysbysu na phender- fynir ar leoliad y Brifysgol am flwyddyn, Iechydol.—Cymerwyd i ystyriaeth adrodd- iadau y Pwyllgor lechydol. Pasiwyd fod y cess pools o ba rai mae tua 20 yn y dref i'w glanhau fel arfer yn flynyddol. Y cynygion i'w rhoddi allan. Cymerwyd dan ystyriaeth y budreddi a ddygir i'r dref drwy gynal ffeiriau defaid yn yr heolydd. Sylwyd nad oedd dim mwy anghenrheidiol mewn bywyd trefol nag ystrydoedd glan, ond ni wnaed dim pellach ar y mater. Troseddid deddfau iechyd ynglyn a chadwraeth moch, tomenydd lludw, a rhai tai yn parhau yn afiach; a dywedai y meddyg, Dr. Davies, fod afiech- I ydon yn codi o'r cyfryw. Nid otdd y rhy- buddion a wnaed yn cael yr effaith ddyladwy, ac ymesgusodai yr arolygydd nad oedd ganddo allu. Dangoswyd mai camgymeriad oedd hyn, a galwyd arno i weithredu yn y dyfodol. Goleuo.—Ar anogaeth Pwyllgor y Goleu pasiwyd codi tair lamp, sef ymhen uwchaf Heol Maengwyn, yn y Graigfach, ac yn ffordd yr Orsaf, a derbyniwyd cynyg Mr. J. Davies, am y pyst, 30s.; a'r lamp, 12s. 9c. yr un. Pasiwyd fod 20 llwyth o geryg a graian arnynt i'w dodi ar y ffordd yn agos i'r orsaf, a chan fod y ceryg yn ofer lenwi yn y tloty, fod 50 tynell i'w gwerthu i Sir Feir- ionydd am 6s. 6c. y dynell. Sylwodd y clerc nad oedd gan y Cyngor hawl i wneyd elw na gwerthu ceryg o gwbl oddieithr mewn achosion pur neillduol. Lltcyhrau.—Bu trafodiaeth yn y pwyllgor ar y llwybr sydd yn arwain trwy gae y Garshiwn, ac ar hyd y clawdd cyfagos, ac anogent ddwyn y mater i sylw y goruchwyl- iwr Mr. L. Smith, tuag at ei gau a'i adgy- weirio, ynghyd a symud y clawdd y eerddid arno am ci fod yn beryglus. Pasiwyd yr ar- gymhelliad. Gofynodd Mr. R. Rees, pa beth oedd y Pwyllgor wedi ei wneyd gyda llwybrau eraill tuallan i'r dref, fel y gellid eu hadgyweirio. Atebodd Mr. John Lewis y dylid parotoi map o'r holl lwybrau cyhoedd- us. Wedi cael y rhestr gellid myned yn eu cylch. CLWB PYSGGTA Y DYFI.—Yn nglyn a chais y ddirprwyaeth dros y Cyngor at y clwb hwn yn gofyn iddo adael pysgota y Dyfi yn agored i'r cyhoedd o'r 15fed i'r dydd olaf o Medi, atebodd Mr. Phelps dros aelodau y Clwb fod y fath gynydd wedi cymeryd lie yn rhif y gwiail fel pe caniateid y cais hwn y drygid yr afon gymaint na byddai yn fuan bysgod o gwbl lynddi. Yr oeddynt hwy yn gwario 150p. y flwyddyn yn nghadwraeth y pysgod, ac os agorid yr afon gan Syr Watcyn i'r cyhoedd am yr amser byr a nodwyd, byddai iddynt dynu eu cyf- raniadau yn oL Dywedai fod Bwrdd y Gwarchodwyr wedi eu hamddifadu o bysgota yn mis Tachwedd ar y tir fod y gleisiaid yn afiach, oitcl os byddai i'r Bwrdd hwnw, trwy ganiatad y Bwrdd Masnach estyn yr amser, gallent gyfarfod a chais y Cyngor, ond dim heb hyny. Dywedodd Mr. Richard Rees nad oedd yn debyg y gwnai Bwrdd y Gwar- chodwyr newid rheol a wnaed mor ddi- weddar ar ol ymchwilad mor lwyr gan ddirprwywr y Llywodraeth, pan yr oedd pob cyfleusdra wedi cael ei roddi i Glwb y Dyfi i amddiffyn eu hachos. Barnai mai y cyn- llun goreu oedd apelio at Syr Watcyn, yn gofyn iddo gyfryngu rhwng pobl y dref a'r Clwb hwn. Cefnogwyd gan Mr. Evan Jones, ac eraill; ond ar gynygiad Mr. Edmund Gillart, penderfynwyd galw sylw Bwrdd y Gwarchodwyr at yr anghen o roddi gwahanol amseriad i bysgota'r gwa- hanol afonydd gan ddisgwyl gwneyd eithriad o'r Dyfi, Amrywion.—Nid oedd yr holl dirfeddian- wyr wedi ateb y cais am eu telerau am dir i wneyd yr argau, a chario'r dwfr ar hyd-ddo. Dymunai Mr. Evan Jones, wybod pa bryd y ceir galluoedd chwanegol" i'r Cyngor. Hysbyswyd na ddaeth atebiad eto oddiwrth y Llywodraeth. Am nad oedd digon o arian yn y Bane i gyfarfod a'r biliau, pwyswyd ar y trethgasglydd i fynu yr holl ol-ddyledion i law yn uniongyrchol.—Ar gynygiad Mr. J. Lewis, a chefnogiad Mr. J. M. Breeze pasiwyd fod marchnad y Nadolig nesaf yn Machynlleth, i'w chynal ar y dydd Sadwrn cyn dydd i'r Nadolig am ei fod yn disgyn y flwyddyn hon ar ddydd Mercher. Yna ym- wahanwyd.

ABERDYFI.

Advertising

Y * NEGESYDD.

Y LLYWODRAETH.

TOWYN.

[No title]

CORRIS.

Family Notices

Y MARCHNADOEDD.

ALMANAC Y GWEITHIWR, 1896.

"Y GENINEN" AM 1896.

[No title]

Advertising