Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

COF-GOLOFN GWILYM GWENT.

News
Cite
Share

COF-GOLOFN GWILYM GWENT. Allan o'r Drych yr ydym yn cofnodi dad- orchuddiad Cof-golofn a godwyd ar feddrod y diweddar Gwilym Gwent, ger Wilkesbarre, Pennsylvania, America, gan ei edmygwyr lliosog. Ganwyd y cerddor athrylithgar William A. Williams (Gwilym Gwent), yn Tredegar, Mynwy, yn 1834. G6f oedd wrth ei gelfyddyd, ond rhoddodd gryn lawer o'i amser at gerddoriaeth tra yn Nghymru. Ymfudodd i America 24ain mlynedd yn ol, a bu farw yn Plymouth, Pa., Gorphenaf 3ydd, 1891, gan adael ar ei ol bedwar o blant—Mrs. T. W. Kistler, Mrs. Benjamin Davies a David Williams, Plymouth a Mrs. Gwilym Lewis, East Liverpool, Ohio. Dadorchuddiwyd y gof-golofn Hydref 16eg, yn ngwydd torf liosog yn mynwent Hollenback. Cyfrifir nad oedd llai na 7,000 yn bresenol, a 05 y cant o honynt yn Gymry. Dechreuwyd y gweithrediadau am haner awr wedi dau o'r gloch, trwy i G. M. Williams, mine inspector, alw ar lywydd y cyfarfod i ddyfod at ei waith, sef y boneddwr Wm. D. Thomas (llywydd y beirdd), Lansford, Sir Carbon, Pa.; yna aed drwy y rhagdrefn ganlynol:— Canu "Babell" ar y geiriau "Bydd myrdd o ryfeddodau," gan y dorf. G. M. Williams yn arwain. Anerchiad gan y llywydd yn bwr- pasol iawn i'r amgylchiad. Llongyfarchai y dorf am eu sel geriedlgarol, trwy ddyfod yn llu i fod yn llygaid dystion o ddadorchuddiad colofn o farmor mor ardderchog a chostus, oedd wedi ei hadeiladu yn goffadwriaeth am un 0 feibion athrylith gerddorol-Gwilym Gwent, yr hwn oedd yn y dystaw fedd 0 ran ei gorff, ond yn ei gerddoriaeth fydd yn ehedeg ar awelon hanes- yddiaeth ac ymarferiad yr oes, a'r oesau. Sylwodd am ei anfanteision i ragori, ac am ei athrylith gref a'i ddyfalbarhad yn gorchfygu rhwystrau, ac yn cyfansoddi y fath doraeth o gerddoriaeth nes ei hynodi fel un 0 brif ganigwyr y genedl. Yn dilyn caed anerch- iadau barddonol. Canwyd cydgan Meibion Cerddgar (Gwent), gan barti Wilkesbarre, dan arweiniad Wm. W. Davies, a gweddiodd y Parch. T. C. Edwards, D.D. yna dadorchuddiwyd y golofn yr hon sydd yn sefyll uwchlaw y ddaear wyth troedfedd, ar wely o chwe' troedfedd a dwy fodfedd o drwch, ac yn pwyso dros ddeg tunell. Yn argraffedig ar y wyneb y mae- GWILYM GWENT, The illustrious Welsh composer, Born in Wales, July 28, 1834. Died at Plymouth, Pa, July 3, 1891. A dau fesur a haner o gerddoriaeth o'r ganig I boblogaidd Yr Haf," yn bedwar llais, gyda'r geiriau "Fe gladdwyd tlysni anian, yn medd y gauaf du." Ar gefn y golofn mae y geiriau: GWILYM GWENT. Y cerddor enwog Cymreig, awdwr y Gwan- wyn," "Mai," "Yr Haf," "Y Ffrwd," "Y Clychau," a llawer eraill 'o Ganigau, Rhan- ganau, ac anthemau nodedig ac adnabyddus. Erected by his many friends, Sept. i, 1895. Ar un talcen ceir wedi ei gerfio yn dda ganghenau o helyg a'r delyn wedi ei hongian arnynt, gyda'r geiriau "Mae'r delyn yn hongian." Ar y talcen arall wyth 0 glychau y'ddau arlun yn coffau dau destyn, neu ddwy ganigboblogaidd, "YrHaf," a'r "Clychau." Yr oedd yr wyth cloch yn fy adgofio am y tlysau oedd ar ddwyfron Gwilym pan oedd yn gorwedd yn ei arch ddydd ei gladdedigaeth. r Yr oedd yr amser a'r lie yr enillodd hwy arnynt y pryd hwnw ond erbyn hyn y mae yr amser a'r lie, a'r wobr faterol wedi myned o gyraedd ei gwrthrych, yr hwn, pa fodd bynag, yn ei lafur sydd yn awr gyda ni, ac a fawr fwynheir am amser hir. Yn ngwaelod y golofn mae yr enw "Gwent" mewn llythyrenau breision. Torwyd llinyn y gorchudd gan Mr. William T. Jones, yr hwn a gerfiodd ac a adeiladodd y golofn a gwnaed y rhan anrhydeddus o'r dadorchuddiad gan Madame Clara Novella Davies, arweinyddes fydenwog y Royal Welsh Ladies' Choir," o, Caerdydd. Mewn anerchiad galluog paentiodd Dr. Thomas Charles Edwards mewn modd hyawdl ac effeithiol, y fath oedd gwr y COffa "-y fath werth i'r byd ydyw cerddor; y fath ffrwd o gerddoriaeth gafwyd 0 feddwl y cerddor gwreiddiol hwn; y fath allu i weled, er mewn ty^vllwch tanddaearol, a'r fath nerth i sugno allan gerddoriaeth o holl elfenau y greadigaeth, a'i gosod a'-Ilan mewn seiniau i'r oesau a ddel. Ychydig oedd yT addysg a gafodd gan athraw- on i'w goethi mewn dysg; pe felly, gallesid ei gyfrif yn gerddor coeth. Ond yr oedd wedi cael ei fendithio a gallu naturiol tuhwnt i'r cyffredin, a gwnaeth ddefnydd mawr o hono trwy roddi i ni doraeth 0 bob math 0 gerddor- iaeth. Datganwyd "YrHaf," gan Gór Brenhinol Boneddigesau Cymru yn effeithiol. Nis gwyddom a oedd ysbryd y cerddor yn y cymylau 'uwchben yn gallu cael rhyw fwynhad o'r dat- ganiad; ond yr oedd y Haw fu yn gosod y -nodau at eu gilydd, gerllaw yn gloedig gan ,angeu, a'r tafod fu yn sisial y seiniau gyntaf, "wedi tewi, ac yn ymyl traed ei edmygwyr, y rhai wrth wrando y seiniau a'r cynghaneddau swynol a melodaidd, a gaent wledd nad anghofir yn fuan. Yna caed anerchiad hyawdl a gwresog gan y Barnydd H. M. Edwards, Scranton, yn dangos nad cerddor un oes nac un genedl oedd yr anfarwol Gwent. Teimlai boneddigesau Cymru hi yn anrhydedd i roddi eu presenoldeb ar yr achlysur, at y gynrychiol- aeth liosog o Lehigh a Wyoming, a Lacka- wanna. Teimlem fod anerchiadau y ddau Edwards yn glod i'n cenedl. Datganwyd cydganau Y Cynhauaf" (D. Jenkins), a "Martyrs of the Arena," gan y Gwents 0 Edwardsdale, dan arweiniad Oliver Rhydderch, a Cwynfan Prydain," o drefniant D. Jenkins, gan ferched Cymru, yn hynod o effeithiol, mewn tonyddiaeth, mynegiant, a synwyr cerddorol 0 radd uchel. Bellach yr oedd y miloedd am gael golwg ar y golofn, ond methodd canoedd lawer ei gweled, gan y fath orymdrech oedd gan bawb i'w gweled ar unwaith. Yr oedd y pwyllgor gweithredol, G. M. Williams, James B. Davies, a T. Cilcenin Evans, wedi bod yn hynod ddiwyd ac ymdrech- gar yn eu cynlluniau, a chariwyd hwy allan yn foddhaol i bawb. Yn ddiau y mae diolchgar- wch pob cenedlgarwr yn ddyledus iddynt. Y swm a Igasglwyd at y Gofgolofn oedd 987 o ddoleri (I 98p). Mae'r llaw fu'n gwau alawon—a'u lluniwr Yn llonydd yr awrhon Y berorol freiniol fron, Mwy erys gyda'r meirwon. Y maen a mwy yw'r inonziment-gweddus Ac haeddol fri'r fonwent- Am ei gdn ca'dd Gwilym Gwent Rodd deilwng o'i hardd dalent. -leuati Ddu.

O'R FFAU

BLAENAU FFESTINIOG.

ABERMAW.

CYFARFOD DOSBARTH Y METHODISTIAID.

NODION 0 TALYLLYN.

MELINBYRHEDYN.

LLITH 0 BEN'RALLT.

[No title]