Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

GWASEIDD-DRA Y CYMRY.I

News
Cite
Share

GWASEIDD-DRA Y CYMRY. in Ni waeth pa mor frwd na chyffredin ol y dichon i'n moliant i ni ein hunain fod, cenedl wasaidd ydym wedi'r cwbl. Nid ydym yn blino ar ddatguddio cym- wysderau bechgyn Cymry i lanw swyddi o bwys ac^ymddiriedaeth yn y wlad. Mae ein hareithwyr mawr yn chwysu ar lwyfanau ein cyfarfodydd cyhoeddus wrth eu canmol; ac y mae wynebau erthyglwyr newyddiadurol yn llwydo ac yn teneuo wrth ymdrafferthu i ddangos eu myrddiwn rhinweddau. Ond i ba ddyben ? Onid i'r Sais y disgyna y rhan fwyaf o swyddi Cymru, a hyny oherwydd ein difaterwch ni i wneyd rhywbeth heblaw siarad ? Pan a rhyw swydd gyhoeddus yn wag yn ein gwlad, os daw Sais llithrig ei dafod atom i ymofyn am ein cefnogaeth, ni • raid iddo ond gwenu o glust i glust ar ambell i Gymro, na fydd i hwnw fod yn ddigon gwlanenaidd i wneyd ei oreu drosto. Gwneir hyn yn feunyddiol ar draul esgeuluso Cymry teilwng. Mae trylwyredd ein Sais-addoliaeth, a hyd- wythedd ein cynffonyddiaeth, yn rhemp. Pwy ond Cymry a ddylasent fod yn bostfeistri, yn swyddogion plwyfol, yn orsaf-feistri, &c., yn Nghymru ? Dy- weder fod y swydd bwysig o bost-feistr yn myned yn wag mewn trefboblog yn Nghymru, lie y mae cyflog da i'w gael, odid fawr nad i ran ySais uniaith y daw y brasder, a hwnw, efallai yn estron hollol i'r dref hono. Haedda y Llywodraeth, yn IDoriaidd ac yn Radi- caliaidd, y dirmyg tostaf am daflu y fath surni ar ein dyheuadau cenedl- aethol. Mae pentrefi gwledig yn Nghymru lie y mae Saeson perffaith yn bost-feistri. Mae hyn yn anfantais iddynt hwy ac i ninau. Beth a ddywed- asai un o bentrefi Lloegr, Ysgotland, neu y Werddon, pe yr anfonasid Cymro uniaith i lanw swydd o'r fath atynt hwy ? Buasid yn symud nef a daear er mwyn cael ganddo ysgwyd llwch y pentref oddiwrth ei draed. Tunellid y gwawd mwyaf annioddefol am ei ben. Gelwid ef yn ynfyttyn, yn epa, yn far- bariad. Ymddygid tuag ato fel tuag at un ar gwahanglwyf arno Ond deued y Sais yn swyddog i dref Gymraig, a chaiff ei barchu genym fel pe buasai rhywbeth amgenach na'r meidrol yn urddasoli ei berson ef. Edrycher ar y swyddi yn nghorsaf- oedd y rheilffyrdd, onid y Sais yn fynych iawn sydd yn cael y dosbarth brasaf o honynt ? Gwelsom lawer hen wreigan o Gymraes yn gofyn yn wylaidd am gyfarwyddyd i ami orsaf-feistr mawreddog o Sais,yrhwn,heb gymeryd nemawr sylw o honi, a daranai, No Welsh l" yn ei chlustiau gyda'r fath sych-awdurdod nes peri i'r hen greadur- es dduwiol dybied ei bod wedi cam- gymeryd, ac mai cyfarch prif-gwnstabl neu ddienyddiwr a wnaeth! Wrth fyned drwy rai o'n gorsafoedd bychain mewn ardaloedd gwledig, byddaf yn meddwl weithiau mai teithio drwy ysbytty eang y byddaf. Mae nifer y gorsaf-feistri anafus yn lliosog iawn yn Nghymru; ac y mae y rhan fwyaf o honynt yn Saeson. Os cyferfydd gorsaf-feistr a damwain yn ngwlad y Saeson, nes ei anghymwyso i gyflawni ei ddyledswyddau yn briodol, anfonir ef gyda phob prysurdeb i Gymru. Syniad awdurdodau Seisnig y rheil- ffyrdd ydyw, fod digon o hoenusrwydd mewn gorsaf-feistr ungoes i weinyddu ar angenrheidiau y Cymry anwybodus a di-nod. Beth am y clercyn o Sais main, di-wrid, balch, y cyfarfyddir ag ef mor fynych yn swyddfeydd ein rheilffyrdd? Edrycha efe mor fawr- eddog a phe buasai wedi ei warantu i gludo holl bwysigrwydd y cread gydag ef i'r man y myno. Er's ychydig ilynyddoedd yn ol, aeth prif-fardd Cymreig i swyddfa y rheilffordd, a gofynodd i'r clerc mewn Cymraeg glan: Tocyn, trydydd dosbarth, i'r Abermaw." Edrychodd yr hogyn arno cyn syched a mynach, a gofynodd iddo ynnawdurdodol beth oedd arno ei eisiau. Ail adroddodd y bardd ei ofyniad. Wedi ail drefnu ei wydrau grot ar ei lygaid, ac edrych drostynt yn lie trwyddynt, dywedodd y llanc gydag acen ddirmygus, nad oedd ef yn deall Cymraeg, am i'r dyn brysuro o'r ffordd gan fod eraill eisieu tocynau heblaw efe. Ond nid oedd y Gymro hwn mor hawdd ei darfu a'r rhan fwyaf o honom Safodd yn ei le yn ddigryn a chydag edrychiad penderfynol, argyhoeddodd y llefnyn sarhaus nad oedd am syflyd heb ei neges. Galwodd y clerc ar batriarch o glud-was oedd gerllaw i gyfieithu geiriau y 11 ffwl," fel y galwai ei well. Wedi cryn drafferth, llwyddodd hwnw i forthwylio dymuniad y bardd i ymenydd caled y daiarolyn gwawdlyd o glerc. Wedi derbyn ei docyn, cyf- archwyd y clerc gan y prif-fardd mewn Saesneg persain fel y canlyn: When I am in England, I ask for my ticket in English when in France, I ask for it in French; but when in Wales, I ask for it in Welsh." Disgynodd gwep druanaidd y Sais-glercyn, ac edrychodd yn ynfytach na seithwyr yn adrodd ffolineb. Y lledfegyn di-doriad! yn meiddia galw dyn yn "ffwl" am iddo siarad Cymraeg f Mae llawer o'r un dosbarth a'r bod hwn i'w cael yn Nghymru eto. Yr ydym ninau fel cenedl yn ddigon gwasaidd i ddangos gwyneb teg a phlygu glin iddynt. Pe y dangosasai pob Oymro gyffelyb wladgarwch i'r bardd a ofynodd am ei docyn yn Nghymraeg, buasai llai o feci) gyn ymhongar fel yr ysgogyn uchod i'w canfod yn ein gwlad heddyw. Mae y ffaith fod ein gwlad yn cael ei gorlifo gan swyddogion Seisnig i'w phriodoli i farweidd-dra ein tan gwladgarol. Yn ein geneuau ac nid yn ein calonau y mae ein gwladgarwch. Saeson surion a beilch yw y rhan fwyaf o oruchwylwyr ein prif dir- feddianwyr. Wrth gwrs, cydnabyddaf yn rhwydd fod gan unrhyw dir-arglwydd hawl i benodi y neb a fyno yn swyddog iddo. Cyn belled ag y mae hawl yn myned, gallasai ddewis y carcharor duaf sydd yn Siberia i drafod ei fasnach. Ond mae yn ofynol ystyried y cwestiwn o briodoldeb yn ogystal a'r un o hawl. Pe buasem ni, y Cymry, wedi gweled gwrthuni ein gwaseidd-dra, buasai y cystwywr o Sais, a'r cribddeiliwr o Ysgotyn, yn y cymeriad o ystiward, yn nodedig o brin yn ein gwlad. Gwr mawr ymhob ardal yn Nghymru ydyw yr ystiward Saesneg. Mae llawer cymydogoeth yn ein gwlad na faidd fyned ymlaen gydag unrhyw symudiad cyhoeddus ond yn ol syniadau yr ystiward. Mae ef yn awdurdod anffaeledig ar bob peth. Ar godiad ei fys, neu amnaid ei lygaid, y daw tori 0 Gymry gwasaidd i blygu ger ei fron, ac i'w arddel fel prif gymwynaswr yr oes. Pe na fyddai yn cael ei wneyd i fynu 0 ddim ond mympwy a bloneg, ymostyngid i'w ddedfryd ar bobpeth. Pe y deuai un fel hyn i'r hen benderfyniad hwnw nad da bod dyn ei hunan," rhaid a fyddai dathlu yr amgylchiad gyda miri a helynt yn ymylu ar wallgofrwydd. Byddai banerau yn chwifio, eyflegrau yn tyrfu, seindyrf yn chwareu, tan gwyllt yn esgyn, plant yn bloeddio, dynion yn areithio, a hen wragedd yn gorfoleddu. Gwneid hyn oil am fod yr ystiward yn "wr boneddig o Sais." Wrth groniclo yr hanes, gelwid ef mewn llythyrenau breision yn y newyddiad- uron yn rhialtwch mawr." Gwell genyf fi ei alw yn Uchel-wyl Cynffonyddiaeth. Pe y buasai eisieu dathlu priodas masnachwr o Gymro a fuasai wedi arwain bywyd diar- gyhoedd, a gwneyd ei oreu ymhlaid crefydd a moesoldeb- yn yr ardal, ni cheid cynifer a haner dwsin i gymeryd rhan yn y symudiad. Ond ynglyn a'r Sais bostfawr a chrintachlyd gorchest a fyddai d'od 0 hyd i derfyn gwaseidd-dra y Cymry. Pa bryd, tybed, y ceir gweinyddu ar gladdedigaeth y syniad mai boneddwr ydyw pob Sais a ddaw i Gymru, os bydd yn llyfn ei dafod ac yn raenus ei ddillad ? Yn wir, yr ydym yn gyffredin yn ddigon ynfyd i dybied nas gall neb ond Sais dori ffigiwr drwy ymddilladu yn dda, ac ymddwyn yn foneddigaidd. Flynyddoedd yn ol, yr oedd Talhaiarn a Gwrgrant yn dringo y Wyddfa yn nghymdeithas arweinydd diniwed o Gymro. Ar y daith i fyny yr oedd y ddau lenor yn siarad Saesneg. Yr oedd yr ar- weinydd annghlasurol yn cael boddhad dirfawr wrth wrando arnynt, gan mai ar i waered yn nghyfeiriad ei logell yr oedd ei syniadau ef yn rhedeg. Pan gyrhaeddwyd copa y mynydd, daeth edmygedd Talhaiarn a Gwrgant o'r olygfa allan mewn Cymraeg hyglyw o soniarus. Pan y clywodd yr ar- weinydd ei iaith ei hunan yn cael ei siarad, llaesodd ei wefl, ac o'r braidd y gallodd atal ei ddagrau. Y foment y cafodd hamdden gan ei siomedigaeth, dywedodd: Wele hai! Cymry ydach ch'i: yr oeddwn i yn meddwl mai byddigions oeddach ehi!" Ond er mai Cymry oeddynt, ni fu llogell yr ar- weinydd yn ddim gwacach oherwydd hyny. Mae llawer un heddyw yn parhau yn ein gwlad i goleddu yr un syniad a'r hen ar- weinydd, sef mai geiriau cyfystyr ydyw boneddivr a Sais. Nid yw hyn yn ddim am- genach na ffurf arbenig ar ein gwaseidd- dra afresymol ablin.— O'r Geninen amllydref.

Y NEGERS'YDD. JL*Atx

DAFAD AR GRWYDR.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

LLWYNGWRIL.

Y DIWEDDAR DEWI GLAN DULAS.

PIGION.

Family Notices

Y MAIICHNADOEDI). --

Advertising