Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BYR HANES Y PARCH. J. DAVIES,…

News
Cite
Share

BYR HANES Y PARCH. J. DAVIES, NANT GLYN, SIR DDINBYCH. GAN DR. D. BEES, BRONANT. Ychydig o hanes y diweddar Barch. John Davies, Nantglyn, un o hen weinidogion hynaf y Methodistiaid yn Sir Ddinbych, a ysgrifenodd ef ei hun. Cafodd ei eni Hydref iaf, 1760, mewn ty o'r enw Clythau. Pan oeddwn yn wyth oed, breuddwydiais fy mod yn gweled uffern fel nant, neu badell felen, yn berwi o'r naill ben i'r llall, ac yr oedd llawer o'r rhai a adwaenwn yn y pair brwmstanaidd hwn. Effeithiodd hyn arnaf, er fy mod yn ieuanc, er dychryn arnaf. Pan oeddwn yn bymtheg oed, breuddwydiais fy mod yn gweled dydd y farn, a'r mellt, a'r taranau yn gwau. Wedi i mi gyraedd deunaw oed, daeth pregethu i'r ardal ambell waith. Yn haf 1778, daeth pregethwr, gyda'r Methodistiaid, o'r enw John Evans, Cilycwm, Sir Gaerfyrddin, ar ei daith i Nantglyn. Ei destyn oedd, Carreg wen a'r enw newydd." Effeithiodd y bregeth ar Jack o'r Clythau, nes wylo am fater fy enaid. Cefais grefydd pan yr oeddwn yn bump ar hugain oed, a daeth cymhelliad trwm arnaf i bregethu. Cyhoeddwyd oedfa i mi yn nhy un o'r enw Siencyn. A dyna oedfa ryfedd oedd hono, mi ddrysais, ac mi fethais a dweyd dim, bu raid i mi ddyfod o ben y gadair trwy gywilydd, a chywilydd oedd hi hefyd; ac mi fum dro ar ol hyn heb dreio ond mi aethum ati wed'yn, ond aeth fy nhad yn chwerw iawn yn fy erbyn. Yr oedd fy nhad yn ddyn meddw iawn, a'i weithiau i'r Llan, ac oddiyno i'r dafarn. Clodd y drws lawer gwaith i'm herbyn, a chefais lawer tres a ffonod ganddo. Cefais fy nghuro droiau am beidio myned i negeseuau ar y Sabbath. Bum yn meddwl ymadael lawer gwaith, ond yr oedd fy mam yn fy nghadw o hyd. Ond dechreuais ddarllen yn y teulu, dim cael gweddio, ond yr oedd fy mam yn fy nghymell yn barhaus. Ond ryw noswaith wedi darllen, torais allan i nadu a gwaeddi, a dywedais fod barn Duw i gael ei thywallt ar yr annuwiolion a'r teuluoedd di- weddi. Gwelwn fy nhad yn rhoi ei law o dan ei ben ar y gadair, aethum inau ar fy ngliniau i weddio, a dyma'r nefoedd fawr yn tywallt fel gwlaw taranau a phawb yn gwaeddi fel pe buasai y twca yn eu calonau, a dywedodd fy nhad: "Mae yna rywbeth irhyfedd ar y llanc yna." Gwellhaodd arnaf, yr oeddwn yn cael ceffyl i fyned i b'le y mynwn. Daeth cwmwl du arall wed'yn, yr oedd fy nhad yn denant i'r Colonel Myddleton, ac yr oedd gan y gwr boneddig hwnw, stiward cas iawn at grefydd, a darfu i fy nhad ei ddigio trwy nacau cadw ci i'r stiward, a dywedodd y stiward wrth y meistr-tir, na allai fy nhad ddim talu y rhent. Pan aeth fy nhad i dalu y rhent, gofynodd y gwr bonheddig a oedd yn wir am ei fab ei fod yn pregethu: "Ydyw," meddai fy nhad, ond mae'r llanc yn gweithio ei oreu." 11 Wel, wol," meddai yntau, "mae yn rhaid i ti ei droi ef allan, neu gymeryd ivarling am y tir." Wel, mae y tir yn rhy ddrud, a beth wna i heb Jack. Os fel yna mae hi, chwi bia'r tir, a minau biau Jack," meddwn inau. Wedi adrodd y cwbl gartref, aeth pawb yn brudd iawn. Amser y marling a ddaeth, a phawb yn brudd, rhaid myned i ffwrdd. Ond cyn yr amser i ymadael bu farw y gwr boneddig a'r stiward, a daeth gwr boneddig a stiwart newydd yn eu lie. Cafwyd y fferm heb son dim am yr hen stori. Yr oedd llaw yr Arglwydd w weled yn uchel yn y tro. Fel yna mae llaw'e'■ 0 hen bobl dduwiol wedi gweled caledi, I ond yr oe^d 7r Arfflwydd yn dyfod allan mewn pryd i'w caul.w.

A "Ft W.

Jldgoftort ant Morris,

TALYBONT.

GARTHBEIBIO A'R CYLCH-OEDD.

CORRIS.

GLANAU Y DyFI.

0 BEN Y TWR.

[No title]

MACHYNLLETH.

PENEGOES.