Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

MACHYNLLETH.

TOWYN.

News
Cite
Share

TOWYN. YR YSGOL GANOLRADDOL.—Pasiodd Miss Blanche Healey, un o'r ysgolheigion, yn llwyddianus yn y Senior Oxford Local Examination. Yr oedd y pynciau yn cynwys Saesneg (mewn amrywiol ganghenau), Rhif- yddiaeth, Gwybodaeth Grefyddol, Ffrengaigac Arluniaeth. TRENGHOLIAD,-Mewn canlyniad i farwol- aeth, sydyn Mr. M. Howell Jones, fferyllydd, Towyn, cynhaliwyd trengholiad ar y corff, dydd Mercher, Medi y 25am, gerbron Mr W. R. Davies, crwner. Blaenor y rheithwyr oedd Mr. J. Maethlon James. Tystiolaethwyd fod Mr. Jones wedi treulio y noson flaenorol yn dra anesmwylh, ac iddo tua 5 o'r gloch y boreu alw ar y forwyn i ddarparu te iddo ef ai briod. Gadawodd Mr. Jones yn fuan ei ystafell-wely, ac nid oedd i'w gael pan ddygwyd y bwyd i fynu. Caed ef wedi hyny yn un o'r ystafelloedd islaw wedi marw-fel y tybid er's tuag awr. Dr. Rowlands a dystiodd ei fod wedi bod er's amser yn galw gyda'r ymadawedig, yr hwn oedd yn dioddef oddiwrth afiechyd y galon, ac iddo farw 0 syncope. Dychwelwyd rheithfarn unol a'r tystiolaethau—ei fod wedi marw o achosion naturiol, a datganwyd cydymdeimlad a Mrs. Jones yn ei phrofedigaeth lem; yn neillduol am ei bod hithau yn wael ei hiechyd, ac wedi ei gadael yn weddw ac unig.

Family Notices

AR GRWYDR.

Advertising

CYNGHOR PLWYFOL TALYLLYN.

MR. A. C. HUMPHREYS-OWEN .A.S.

"GOLYGFA 0 BEN Y FRON."I

CORRIS.

CYMRU A CHYMRU'R PLANT.

Y MARCHNADOEDD.