Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
ATHROFA PRIFYSGOL OYMRU, ABERYSTWYTH. PRIFATHRAW :— T. F. ROBERTS, M.A. CYNHWYSA y cwrs o Addysg y parotoad angenrheidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain am Ysgoloriaeth- au yn Rhydychain a Caergrawnt, ac am as- tudiaeth feddygol yn y Prifysgolion hyn ac yn yr Ysgotland. Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs g-ofynol at fod yn Athrawon ac Athrewesau Trwyddedig, ac ar un pryd barotoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Ymaeyswmadderbyniant fel Y sgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaeth- yddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynhelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored, ac eraill yn gyfynedig i Gymru. Am bob manylion, ymofyner aT. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd.
TRO I'R AIPHT.
TRO I'R AIPHT. GAN GOUONWY JONES. X. Cywilydd o'r mwyaf fyddai myned i'r Aifft heb wneyd ymdrech. deg i weled ac esgyn i gopa y Pyramid mawr. Erbyn hyn y mae ffordd lydan braf wedi ei gwneyd hyd ato o Ddinas Cairo, yn syth fel y saeth, yn wastad fel bwrdd, a clioed mawr deiliog o bob tu, wrth edrych ar hyddi oddiwrth. lan yr afon Nile. Y mae y Pyramidiau yn ymddangos fel pe yn ymyl, er eu bod o leiaf chwech neu saith milldir o bellder fel yr eheda y fran. Gorchwyl hawdd yw myned attynt o'i gydmaru ar hyn ydoedd flynyddau yn ol, pryd yr oedd yn rhaid croesi yr afon mewn cychod, a gorphen y daith ar gamelod, neu asynod, ar hyd lwybrau troellog filldiroedd lawer, er osgoi ffosydd yr anialwch. Byddai yn daith flinderus ar rai oriau, ond heddyw, ceir cerbydau cystal a dim welir yn y wlad hon, a chyraedd o'r ddinas at droed y Pyramid mawr, mewn llai nag awr o amser, heb golli anadl na chrychu blewyn; a diau mai y peth nesaf y clywch son am dano fydd Electric Railway i ben y Pyramid. Gresyn fydclai hyny hefyd, y mae ryw swyn mewn dringo, y mae swyn mewn ymdrech a llafur i gyraeddnod penodol, ac nid daioni digymysg yn sicr ydyw fod yr oes hon yn llwydd i'r fath raddau i ysgafnhau llafur, i wneyd mwy o waith mewn llai o amser drwy offerynoliaeth gallu peirianyddol ar draul, rhoi llai o waith i draed a dwylaw dynion. Prin y mae pobl yn teimlo yr un dyddordeb yn eu goruchwyl- iau ar adeg yr oeddynt yn dibynu mwy ar eu hymdrecli eu liunain, feddwl a chorff,— a llai ar beiriannau di-enaid. Mi gredaf fod crydd y dyddiau gynt yn teimlo llawer mwy o ddyddordeb yn ei orchwyl, ac fod mwy o swyn iddo yn ei waith, er y byddai yn mynych siomi ei gwsmeriaid; ac y byddai yn rhaid aros ddyddiau lawer am bwyth mewn esgid na'r "modern cobbla" a ymffrostia mewn gwadnu a sodlu, "wkile you wait." Hawdd ac esmwyth felly ydoedd y daith at droed y Pyramid, ond nid mor hawdd esgyn i'w goryn—ond yn yr ymdrech, yn yr esgyn, a'r disgyn, yn yr ymwybyddiaeth o berygl, yr oedd y gwir swyn wedi'r cwbl, a dyna'r rhan o'r daith adawodd yr argraff ddyfnaf ar y meddwl. Pentwr aruthrol o feini anferthol yw y Pyramid mawr, ar ffurf trionglog. Y mae ei waelod yn ysgwar, ac yn mesur saith gant a hanner o droedfeddi bob ffordd; ei uchder fol y mae yn aros yn awr, yn bedwar eant a thriugain o droedfeddi, ac yn ddeg troedfedd a'r hugain o droedfeddi ysgwar, ar ei gopa. Y mae ei sylfeini yn llwyr orchuddio tair acer ar ddeg a hanner o dir. Dywed hen haneswyr fod tri chan mil o gaethweision wedi bod wrthi yn ddibaid am ugain mlynedd yn ei adeiiadu, a hawdd iawn yw credu hyny pan yn syllu arno. Tybir ei fod wedi ei adeiladu er's yn agos i bum mil o flynyddau yn ol, os felly, yr oedd yn hen iawn yn amser Moses, ie, yn amser Joseph, ac Abraham cyn hyny. Onid yw yn syn na buasai ryw son am yr adeilad rhyfedd hwn yn y Beibl ? Tybed fod rhyw belydryn mewn geiriau felly-" Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hyny," rhaid fod cewri o feddwl i roddi bod i'r syniad o hono a chewri o gyrph a nerth corphorol i'w gario allan. Yn gyfagos i'r Pyramid mawr, y mae amryw o rai llai. Y mae llawer o honynt yma a thraw yn y wlad, yr oil o'r bron yr un o ran ffurf a chynllun, ond yn amrywio o ran maint, yn ol safle a phwysigrwydd eu sylfaenwyr. Fe dybir mai eu hunig amcan ydoedd bod yn feddau diogel, ac yn gôf- golofnau bythol i'r sawl a'u hadeiladasant. Yr hen ddyheuad onide, yn y fynwes ddynol am yr anfarwol? Rhaid i bob un a fyno esgyn i ben y Pyramid mawr, dalu swm o arian i'r Sheikle, sef, pennaeth y gymydog- aeth, ac y mae ef i bennodi dau neu dri o ddynion i arwain a chynnorthwyo pob teithiwr, un yn gafael ymhob llaw, a'r llall o'r tu ol, ac nid diogel yw myn'd hebddynt, yn enwedig i'r gwan ei ben, ac eiddil ei draed, ac y mae yn llawn mor angenrheidiol cael eu cynnorthwy i ddyfod i lawr, ag ydyw i fyned i fyny. Cael ein hunain yr oeddym yn erfyn pan yn esgyn. 'Chwanega eto'm nerth I ddringo'r creigiau serth Heb flino mwy. Ac wrth ddisgyn cawsom olwg newydd ar yr hen bennill:— Cul yw'r llwybr i mi gerdded, Is fy llaw mae dyfnder mawr. Nid wyf yn cofio i mi erioed deimlo mor wirioneddol helple88," nid oedd dim i'w wneyd ond gweithredu ffydd, pwyso ar ac ymddiried yn gyfangwbl i'r sawl oedd yn ein harwain.
NODION GWEITHFAOL.
NODION GWEITHFAOL. Sibrydir fod cwmni yn cael ei ffurfio a'r chwarel yr Alltgoed. I Gresyn fod chwarel mor oludog mewn ad- noddau a hon yn rhyw hongian myn'd, a bellachrhaid iddi aros o gwbl, oni ddaw rhywun neu rywrai yn mlaen i'w hailagor. Pe bai hyn yn digwydd byddai gobaith i Gwm yr Alltgoed ddyfod unwaith eto yn gyrchfan pobl, ac yn fangre cyflogiad lluaws. Cafodd rhai personau 'arian mawr' yn y chwarel hon amser maith yn ol, gobeithio nad oedd y gwasgfeuon a'r caledi a ddyoddefodd y gweithwyr y blynyddoedd diweddaf yn effeithiau camgymeriadau o'r anhegwch hwnw. Y mae chwarelwyr bob amser yn hoff o ymffrostio eu bod hwy y dosbarth mwyaf goleuedig. Anghyson iawn a hyn ydoedd eu gwaith yn credu yr oruchwyliaeth fod dangos, dosparthu, neu wasgaru ftrice list chwarel neillduol yn y dosbarth hwn yn drosedd cospadwy. Rhyfedd, rhyfedd faint o fantais gymerir ar anwybodaeth hyd yn nod chwarelwyr Y mae anwybodaeth y bobl yn wythien dda sydd yn ildio llawer i fargen gampus goruchwylwyr a meistri. Pan yn ysgrifenu y tro o'r blaen, cymerwn z, yn ganiataol fod y codiad yn chwarel Aber- llefenni yn un eyffredinol i jef inun, ac felly, meddir, y deallodd y gweithwyr ef, ond clywsom ar awdurdod dda na chodwyd dim i rai jermitti. Paham ? Ai nid pilsen chwerw wedi ei gwisgo a siwgr oedd y codiad hwn ? Y mae chwarel Ty'nyberth, yn cael ei hadgyweirio gyda y rhagolwg am ei gyru cyn bo hir. Amheuwn ddoethineb a thegwch y dynion .hyny sydd yn cydio maes at faes mewn ystyr chwarelyddol, eto, croesawn bob ymgais deg i yru unrhyw chwarel ymlaen. AUDAX.
------------_--_._----__-------__-__-__…
ADRODDIADAU BWRDD YSGOL TALYLLYN. YSGOL DDYDDIOL ABERLLEFENNI.— Mae yr Ysgol hon mewn trefn ardderchog, ac wedi gwneyd cynydd canmoladwy yn ystod y flwyddyn, yn enwedig pan ystyrier gerwinder y gauaf, ynghyda'r staff fach yn ystod y rhan olaf o'r flwyddyn. Yr oedd y ffrwyth yn dda ar y cyfan, yn y pynciau elfenol, yn gystal ag yn y Saesneg. Nid oedd Safon 1. i fynu a'r gweddill yn y pethau hyn. Yr oedd y canu yn haeddu canmoliaeth eithriadol. Prin yr oedd y gwaith gwnio i fynu a'r safon. Gwnaeth y plant lleiaf yn lied dda yn y pynciau elfenol. Dylai y gwersi ar wrthddiychau fod yn llawnach, a dylid dysgu Kindergarten iddynt. Addysg- wyd y safonau uchaf yn y Gymraeg fel testyn arbenig yn llwyddiannus. Cydnabyddir W. T. Jones, o dan Adran 33 o'r Code." Swm y Grant ar gyfartaledd y presenoldeb, 18s. 6c. y pen. Oddiar anogaeth arbenig Arholydd ei Mawrhydi, penderfynwyd na raid i'r Ysgol hon sefyll yr Arholiad blynyddol yn Mehefin nesaf." YSGOL NOS, ABERLLEFENNI.—" Mae yr Ysgol Nos hon yn cael ei dysgu gyda llwyddiant sydd yn haeddu uchel gymeradwyaeth. Y mae yn ofidus meddwl, fodd bynag, na bu yr ysgolorion yn ddigon cyson yn yr Ysgol, fel ag i enill Grant ar bob un o'r materion." Swm y Grant, us. 6c. y pen. YSGOL DDYDDIOL TY'NYBERTH.—Gan fod yr Ysgol hon wedi ei dwyn o dan y Code newydd eleni, nid oes Adroddiad am dani, ond yn unig hyspysu y bydd ar safle gyffelyb y flwyddyn nesaf eto, yn ol anogaeth arbenig yr Arholydd. Swm y Grant i'r Safonau, ^1 os. 6c. y pen i'r Infants, 17s. y pen. YSGOL Nos TY'NYR-FRTH-"Ymddengys fod yr Ysgol hon yn cael ei llywodraethu yn dda, ac wedi cynyddu yn foddhaol iawn. Ni thelir y Grant amrywiol am Drazving (Art 3 of the Code)." Swm y Grant 18s. y pen. YSGOL DDYDDIOL CORRIS. Gwnaeth y plant a arholwyd mewn Cymraeg yn weddol, ar y cyfan. Mae eisieu ffenestr arall yn y Class room, er gwella yr awyriad." Swm y Grant i'r Safonau, 17s. 6c. y pen; i'r Infants, 15s. y pen. Ymddengys adroddiad Ysgol Nos Corris, mor fuaii ag y daw ? law. I
j ARDDANGOSFA ABERGYNOLWYN.
ARDDANGOSFA ABERGYN- OLWYN. Un o brif symudiad y dyddiau hyn yw arddangosiadau gerddi, y rhai sydd mor wasanaethgar, ac nid yw Abergynolwyn yn ol i leoedd poblog eraill mewn darparu'r cyfryw i'r gymydogaeth a'r cylch. Dydd Sadwrn diweddaf, cynlialiwyd yr ail ar- ddangosfa yn y lie. Ffafrwyd hi a thywydd braf, ac yr oedd cynulliad da ynghyd. Yr oedd yr arddangosfa mewn cynyrch gerddi yn rhagorol, ac yn cael canmoliaeth uchel gan y beirniaid. Yr oedd amrywiaeth mawr yn adran celfyddyd, mewn hollti ceryg tyllu, rhwyllo heu blethu gwiail, tori gwair, gwneyd rhaffau, cneifio, corlanu defaid &c., yr hyn a ychwanegai gryn lawer at y ddydd- ordeb. Yr oedd cystadleuaethau da, ag eithio y corlanu'r defaid. Ni lwyddodd dim ond un wneyd; nid oedd y cwn eraill yn deilwng o fod mewn cystadleuaeth. Y mae llwyddiant yr arddangosfa yn ddyledus i'r pwyllgor gweithiol diwyd sydd yn yr ardal. Y swyddogion oeddynt:—Cadeirydd Mr. Meyrick Roberts, U.H.; is-eto, Mri. Hugh Roberts, J. Evans. G. Evans, a Wm. Jones. Trysoryddion, Mri. Edward Jones ac E. M. Jones. Ysgrifenydd mygedol, Mr. J. R. Thomas a'r ysgrifenydd, Mr. Rees Watkin. DOSBRTH A.—Cabbage Gwynion, i, W Humphreys, Llanegryn St., Aber; 2, Rees Evans, eto. Cabbage cochion, i, E Rowlands, Hen dafarn; 2, W Humphreys. Vegetable marrow, i, R E Pugh, Egryn cottage, Aber; 2, W Humphreys. I Moron, i, John Jones, Penymeini 2, Rees Evans. Beetroot, i, Mrs Edwards, Gwernol House; 2, Hugh Roberts. Maip, i, John Owen, Llanegryn St.; 2, Richard E Pugh. Cenin, i, John Owen; 2, W Humphreys. Ffa llydain, i, R. R. Davies, Water st.; 2, Rees Evans. Ffa, I & 2, Rees Evans. Wynwyn gwanwyn, i & 2, Rees Evans. Wynwyn Hydref, i a 2, Isaac Jones. Rhiwbob, i, Thos. Evans; 2, Owen F. Williams. Pys hirion, I & 2. Rees Evans. Runners, i, Rees Evans; 2, Elizabeth Evans, Llechwedd. Shallots mawr, i, D. W. Jones 2, W. Williams. Shallots bychain, i, D. J. Williams; 2, D. W. Jones. Persli, I & 2, John Owen. Redish, 1, E. Isaac Jones; 2, R. Davies, Water street; Letys, Mrs Edwards, Gwernol house; 2, Rees Evans. Pytatw, kidney cynar, i, W. Humphreys; 2, Rees Evans. Crynion Cynar, i, Rees Evans; 2, Evan Rowlands. Kidney diweddar, i, Rees Evans, 2, Robert Davies. Crynion diweddar, i, Rees Evans; 2, Evan Rowlands. Goose- berries, I & 2, Richard Pugh. Eto, unrhyw liw, i, Rd. Pugh. Begonia mewn pot, i, M A Roberts; 2, Rees Evans. Calceolaria, i & 2, Rees Evans. Fuschia, I & 2, Rees Evans. Asters, i & 2, Rees Evans. Dahlias sengl, Mary Meredith 2, D. J. Williams Dahlias dwbl, 1 & 2, Rees Evans. Pansies, i, Mary Meredith 2. Richard Owen, Police St. Ger- anium, i, Mary Meredith 2, Richard Pugh, Egryn cottage. Casgliad planhigion ffenestr, i, W Humphreys 2, D. J. Williams. Blodau gwylltion, i, Sephorah Jones, Bwlchcyfyng 2, D. O.Jones, Cantrybedd. Llysiau Meddygin- laethol, Eliz. Evans, Llechwedd. Casgliad o lysiau (gwobr llibran), i, E Isaac Jones 2, W. Humphreys a Rees Evans. DOSBARTH B.—Am y gerddi (ffrwythau) goreu, i, Rees Evans 2, W. Humphreys 3, Hugh Roberts. Gerddi, goreu (wrth dai), i, Rees Evans; 2, W Humphreys ac Owen Owens, Llanegryn St. Dos. C.-(Agored i 10 milldir o Abergyn- olwyn) :-Cabbage gwynion, i, Evan Owen, Z-1 Gwalia road, Towyn; 2, Rees Evans, Llan- egryn st. Cabbage cochion, i, H Egryn Humphreys, Peniarth lodge; 2, John Morris, Towyn. Vegetable marrow, i, Andrew Davies, Bryncrug; 2, John Morris, Towyn. Celery, Davih Owen, Llanegryn; 2, Andrew Davies, Bryncrug Cauliflower, i, Andrew Davies; 2, David Owen. Maip, L Jones, Llanegryn; H E Humphreys, eto. Wynwyn gwanwyn, i, R W Jones, Towyn; 2, Rees Evans, Aber. Moron, i, Evan Owen, Towyn 2, David Owen, Llanegryn. Llysiau Gwyddelig, i, Lewis Jones, j Llanegryn 2, Rees Evans, Aber. Cenin, i, Lewis Jones; Pys, 1, Lewis Jones; 2, Rees Evans. Ffa llydain, i, David Owen; 2, H. Egryn Humphreys. Pytatw crynion cynar, i, John Morris, Towyn; 2, Lewis Jones, Llan- egryn. Crynion diweddar, i, R W Jones, Towyn; 2, D Owen, Llanegryn. Chwech twten o unrhyw rywogaeth, I, R W Jones, Towyn; 2, Humphrey Jones, Nantymynach. Afalau, 1, Miss Vaughan, Cae'rberllan; 2, Andrew Davies, Bryncrug. Blodau Toredig, dahlias, I & 2, Rees Evans. CWN—Ci harddaf, i, Lewis Owen, Trefaes uchaf; 2, R Roberts, Dysefin. Ci o unrthyw rywogaeth, i, J Williams, Braichgoch terrace, Corris 2, William Vaughan, Towyn. Prawf cwn mewn corlanu defaid, i, Lewis Vaughan, Llanerchcoediog. CNEIFIO-I, John Morgan, Aberllefenni: 2, Richard Jones, Penymeini; Eto, i rai dan 20 oed, i, D Davies, Bredyn; 2, Griffith Evans, Tynybryn. DEFAII), &C-i, H P Hughes, Hendrewallog; 2, Margaret Evans, Bodilan fawr, ac H Vaughan, Cae'rberllan. Tri Oen, i, Robert Jones, Nancaw fawr; 2-, H P Hughes, Hendre- wallog. Hwrdd, i, Robert Jones, Nancaw; 2, Robert Richards, Hendre. Eto, 18 mis oed, iaf 2il, R Jones, Nancaw. Oen hwrdd, i, R Jones, Nancaw; 2, H Vaughan, Cae'rberllan. Y MOCHYN GOREU-I, Robert Pugh, Pandy; 2, Richard Owen, Tanybryn. CATHOD-I, Evan Pugh, Tanybryn; 2, Martha Evans, Beudy newydd. DOFEDNoD-Ceiliog a Iar, Brahmas, i, W Edwards, Shop uchaf, Aber 2, Hugh Griffiths, Cantrybedd. Eto, unrhyw rywogaeth, i, Lewis Owen, Trefaes uchaf; 2, William Jones, Bwlch- cyfyng. Eto Game, i, W Vaughan, Towyn; 2, R Roberts, Rhydygarnedd. Eto, Hwyaid, i, Elizabeth Evans, Nantymynach. Eto, Gwyddau, i, John Jones, Penymeini; 2, Catherine Rowlands, Bryneglwys. YMENYN-Mrs Jones, Nancaw fawr 2, Mrs Evans, Hendre. WYAU—Mrs Evans, Gesail, 2, Mrs Hughes, Ty'nllwyn hen. MEL.-Iaf ac 2il, Ann Jones, Abertrinant. ADRAN CELFYDDYD—Iressed Fowls, I, D J Williams, Shop, Aber; 2, Mrs Flughes, Ty'nllwyn hen, a Mrs Jones, Pennant. Torth wen, i, Ann Williams, Pandy square; 2, Ann Jones, Abertrinant. Torth ceirch, i, Ellen Rowlands, Gwernol house; 2, Mary Jones, Bwlchcyfyng. Hollti blocyn carreg, dosbarth hynaf, i, Edward E Pugh, 2, Griffith Griffiths. Ail ddosbarth, i, Joseph Owen, 2, Isaac Jones, ac Albert Hughes. Eto, i fechgyn, i, Thomas Thomas, 2, John H Jones. Ingsaf carreg, i, J E Rowlands, Llanegryn st. Cruet stand, I, J E Rowlands. Dwy Iwy bren, R Roberts, Rhydygarnedd. Ffon gollen, i, John Owen, Penrhos, Corris 2, D A Lloyd, Llanfihangel. Basged, Evan Evans, Llanegryn st. Brwsh grug, John Jones, Penymeini. Map o Gymru, i, Rhichard Thomas; 2, Richard Pugh. Arlun o Ferfa, Richard Thomas. I GWNIADWAITH—Cwrlid print clytiog, i, Gwen Jones, Water street; 2, Margaret Evans, Water street, Cwrlid aelwyd, i, Maggie Roberts, Shop 2, Mrs Williams, Tanybryn. Crys gwlanen, M Edwards, Cwm isaf, Llan- egryn 2, Ann Owen, Water street. Hosanau, i, Ann Roberts, Llanegryn street; 2, Ann Jones, Ty'nybryn, Llanfihangel. Brodio, E Jones, Bwlchcyfyng. Clytwaith, Mary Jones, Bwlchcyfyng; 2, Ellen Humphreys, Llanegryn street. Marcio dwy lythyren, Elizabeth Jones, Bwlchcyfyng. Gwniadwaith, safon I.—1. Maggie Pugh, Wern 2, Sarah Lewis, Llaneg- ryn street. Safon II—1, Annie Jones, Nancaw: 2, A J Thomas, Aber. Safon III—1, Deborah Edwards, Cwrt 2, Catherine Owen, Llanegryn street. Safon IV—Ellen Owen, Felin, Cae'r- berllan. TORI GWAIR-I, John Andrew, Tanycoed- isaf; 2, Hugh Parry, Aber. RHWYLLo.-i, David Jones, Llanerch- coediog; 2, Wm. Jones, Bwlch-cyfyng. TYLLU MEWN CAREG LAS-I, John Roberts, Towyn 2, John Whittingham, Aber. Yr oedd samplau da o lysiau a ffrwythau gerddi wedi eu hanfon i fwrdd yr Arddangosfa o Peniarth.
LLANGELYNIN.
LLANGELYNIN. Mae y personau canlynol wedi cael eu hethol yn aelodau Bwrdd Ysgol Llangelynin, yn ddi- wrthwynebiad,—Mr. Evan Hughes, Llechlwyd; John Richards, Llwyngwril; Richard Owen Borthwen; J. O. Jones, Friog ac Owen Jones, Arthog Mae y ddau ddiweddaf yn aelodau newyddion.
"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."
"Y GWIR YN ERBYN Y BYD." Y Byd Pregethwrol. SYR,—Dymunwn fod yn ysgafn wrth ddweyd y gwir am y dosbarth hwn o'r ddynoliaeth-am fod y swydd yn hawlio y difrifoldeb mwyaf, a chredaf fod genym ddynion o ddifrif, yn cyf- lawni y swydd. Ond ar yr un pryd yr wyf yn cael lie i feddwl fod rhai yn cymeryd y swydd o Fugail, tra yn meddwl mwy am y cyflog nag am y praidd. Mae llawer peth yn gwneyd i mi gredu hyny. Gwn am rai bugeiliaid, gyda gwahanol enwad- au, yn derbyn cyfiogau mawr am fugeilio ac eto, nid ydynt yn adnabod ond rhan fechan o'r ddiadell; wedi bod yn yr un fan am flynyddau, ni wyddant yn mha le mae llawer o'r aelodau yn byw, na pha fodd y maent yn byw. Pe buasai bugail yn cyflogi gyda rhyw amaethwr, ac yn anwybyddu y defaid, ac yn byw mor esgeulus ac y ceir llawer gweinidog yr efengyl, cawsai ei gyfrif yn "was drwg a diog." Peth arall sydd yn gwneyd i mi feddwl yr un peth, ydyw, pan y bydd gan y bugail gyhoeddiad mewn cyfarfodydd mawr, neu Sabboth mewn eglwys fawr. Anfona rhyw bregethwr cyffredin i'w eglwys ei huu, am y Sul, a rhydd 10 swllt iddo am ei waith, pryd y bydd ef yn cael 2 bunt neu 3 am y Sul hwnw,—rhwng y Sul a'i gyflog misol. A'i tybed fod peth fel hyn yn gyfiawn- der ? Onid gwneyd marchnad o Air Duw ydyw ? Yn y dyddiau diweddaf, peth cyffrcdin fyddai gweled dau neu dri o bregethwyr, ar yr esgynlawr yn areithio, yn adeg yr etholiad, (os areithio hefyd,) ni chlywais i (ac eithrio un) ddim amgen na dyn yn danod pob gwendid a ffaeledd oedd yn ei gymydogion, a hyny mewn iaith ac engreifftiau bra-idd yn isel o chwaeth. Os nad ydyw egwyddorion Rhydfrydiaeth yn werth i'w dadleu yn degf, heb fyned yn bersonol, gwell fyddai i bob pregethwr aros i lawr, o herwydd mae yn rhwym o fod yn colli ei ddylanwad yn y pwlpud. GWAS FFARM.
Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS.
Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS. Mr. Golycr dd.-Syr,-Dyniunaf ddatgan fod fy marn a'm teimlad yn hollol o blaid y syniad buddiol a ddygwyd i'n sylw gan "Cyfaill yn I y NEGESYDD yr wythnos ddiweddaf. Bydd sefydlu Ysgoloriaeth yn un o'r Ysgolion Canolraddol yn llawer mwy rhesymol na "gwyn- galchu" bedd y prophwyd. Yr un pryd, ni ewyllysiwn adael "man fechan ei fedd" yn hollol ddinod. Gefais lawer o fanteision i gael adnabydd- iaell-i bersonol o'r diweddar H. Ll. Jones yn ystod y 33ain o flynyddoedd y bu yn "myned i mewn ac allan yn ein plith." Mewn canlyn- iad i'r cyfryw adnabyddiaeth o hono; credaf, pe cawsem ei farn ar y pwnc hwn, y buasai sefydlu Ysgoloriaeth er Coffadwriaeth am dano, yn llawer mwy dewisol ganddo, na'r G6f-golofn ardderchoccaf o'r Mynor mwyaf caboledig. Gwyddom fel ardalwyr, nad oedd dim o'r ymddangosiadol a'r difudd yn cael dim o'i sylw mewn unrhyw gylch. Ei arwyddair bob amser fyddai Gofaler am y Bltddzol." Gobeithio y bydd i'r "Cyfaill" hwn, ac amryw eraill, wneyd eu goreu i gael y syniad hwn yn ffaith. 0 hyn y daw daioni i ni fel Ardalwyr. A bydd coffadwriaeth y diweddar H. Ll. Jones, yn fendigedig gan "yroesoedd a ddeuant ar ol." Canfyddais hefyd, yn y NEGESYDD diweddaf, i'r Bwrdd Ysgol yry eu cyfarfod diweddaf, benderfynu gwahodd i'r Bwrdd nesaf, y pechaduriaid hyny sydd yn ein hardal, yn amheu doethineb rhai o weithrediadau ein Bwrdd. Yn wir, y mae y Bwrdd trwy hyn, yn amlygu llawer o raslonrwydd tuag at y cyfryw bechaduriaid. Pe buasent yn ymddwyn at y gwrthryfelwyr hyn yn ol eu haeddiant,—nid "gwahoddiad" caredig a grasol fel hyn gawsent; ond yn hytrach, "gwys" ben- arglwyddiaethol. "Oni fyddem ni yn arfer a chael llonyddwch yma oddiwrth rhyw ymyrwyr fel hyn ? Ond, gwarchod ni! y rhai sydd yn aflonyddu y byd? y rhai hyny a ddaethant yma hefyd." Paham y mae dynionach anwyboclus fel hyn, yn amheu doethineb Burdd Gmybod- aeth. R. 0
CEMMES.
CEMMES. Dydd Mawrth cafodd plant ysgolion dyddiol a Sul yr eglwys yn gystal arrhan fwyaf o blant Cwmlline a thenantiaid ystad Dolcorslwyn gyf- ranogi o de gan Milwriad a Mrs. Norton. Daeth tua 120 ynghyd, a gwasanaethwyd gan- Mrs Norton, Mrs St. George Pennant, Mrs. Richards, Miss Richards, Miss Hughes, Glanrafon Master a Miss Norton, &c. Treiliwyd y prydnawn yn ddedwydd iawn mewn gwahanol chwareuon, ac ar gynygiad y Rhei- thor, Mr. Richards, galwyd ar y plant i amlygu eu diolchgarwch i'r Milwriad a Mrs. Norton am eu caredigrwydd yr hyn a wnaed yn frwd- frydig. PRiODASi.—Am un-ar-ddeg o'r gloch boreu dydd Sadwrn, y 17eg cyfisol, ymunwyd mewn glan briodas yn eglwys y plwyf, gan y Parch. W. Richards, rheithor, Mr. Henry Hughes, Pentre, Morganwg, i Miss Lizzie Edwards, mcrch hynaf Mr. Edward Edwards, Cynghorydd Plwyf Cemmes. Yr oedd yn bresenol yn yr eglwys Mri. David Edwards, brawd y briodferch, a Hughes, brawd i'r priodfab; Miss Jane Edwards, chwaer y briodferch, a Misses Hughes ac Owen, chwiorydd y priodfab a Mr. Edward Edwards, yn rhoddi ei ferch. Dangoswyd teimladau da y pen- trefwyr trwy luchio rice a saethu; ac ar ol cinio ymadawodd Mr. a Mrs. Hughes i lan y mor am ychydig ddyddiau, cyn myned i'w cartref newydd. Yr oedd y rhoddion yn werthfawr ac yn lliosog fel y canlyn :—Mrs. Evans, Gwm- heulog, table cloth; Mr. Richards, rector, set Japanes Trays; Miss Rowlands, white table cloth; Miss R. Hughes, towels Mrs. Owens, pillow cases a towels; Mrs. Whittington, towels; Misses Humphreys. Cwmllian, set toilers Mary Pugh, Cemmes, antimacaser; Catherine Pugh, cenery of Aberystwyth; Annie Jones, desert spoons; Mrs. Rowlands, butter dish; Miss Richards, jam dish Miss Ada Pugh, candle stick Mrs. Foulkes, tea spoons Miss Humphreys, cruet; Mrs. Humphreys, hot water jug; Mr. John Evans, sugar basin; Mrs. Jones, pair of blankets; Miss Jones, Penrhos Arms, table cloth; Miss Jones, Mallwyd, pair of sheets; Miss Morris, do.; Mrs. Thomas, rector, white table cloth; Miss Thomas, ornaments Mrs. Jones, Shoe-maker, sugar basin; Mr. Jones, do., ornaments; Mrs. Williams, towels; Mrs Morgans, cookery book; Mrs. John Hughes, teapot; Miss Davies, Gwernhefin, set of mats; Mrs. Davies, jam dishes; Misses M. J. Davies, sugar basin M. J. James, jam dish Mrs. Lloyd, dishes with bread & butter plate Mrs. Roberts, sugar basin; Miss B. Jones, ink stand & trains; Mrs. M. Jones, candle stick & egg stand Misses Mary Jones, salt sellers; A.Jones, fancy cups; Wm. Hu^h Davies, tea-pot stand; Miss R. Jones, WThite table cloth; Mr. John Lloyd, silk handkerchief; Mrs. Mary Evans, table cover; Miss Pollie Hughes, breakfast creiet; Miss Roberts, Liverpool, fancy picture Miss Evans, Mach- ynlleth, egg stand.-Cffaill.
Family Notices
MARWOLAETHAU. GRIFFITHS.—Ar yr 16eg cyfisol, Mrs. Elizabeth Griffiths, gweddw y diweddar Edward Griffiths, Hillsborough, Corris, yn 58 mlwydd oed, gan adael tri o blant yn amddifad ar ei hoi. Yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Bethania. Claddwyd hi y dydd Llun canlynol yn Mynwent Rehoboth. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parcli. R. Rowlands ac eraill. PiKiicE.—Mr. Evan Pierce, Bronygan, Corris, nr ol cystudd trwm, yn yr oedran cynar o 44 mlwydd. Yr oedd yn enedigol o'r Forge, ger Machynlleth. Yr oedd yn flaenor gyda'r Wesleyaid yn Shiloh, casglydd at y Feibl Gymdeithas, cyngliorwr plwyf ac yn llcnwi y cylchoedd hyn ac eraill mewn byd ac eglwys yn dra chymeradwy. Gadawodd weddw a saith o blant a plierthynasau i alaru at ei ol. Claddwyd ef dydd Mercher yn mynwent llcliobotli, pryd y gwasanacthwyd gan y Parchn. R. Hughes, J. Roberts, Machynlleth, ac eraill.
Advertising
SUMMER SALE! SUMMER SALE!! iBarphtimt AttgljiiffitJiitr. —DYMVXA— EVAN JONES, SHOP, CEMMES. Gydnabod ei gwsmeriad a'r cyhoedd yn gyffredinol am ei cefnogaeth a'r caredigrwydd mae wedi dderbyn oddi- ar eu llaw yn ystod yr haner blwyddyn sydd wedi pasio. Ac hefyd, eu hysbysu ei fod ef y bwriadu cynyg Bargeinion Arbenig yn yr holl STOCK DRAPERY o Dydd Sadwrn, Awst 24ain, hyd Medi 7ed, 1895. Bydd yr oil o'r STOCK haf sydd ar law yn cael ei chlirio am brisiau is nac erioed o'r blaen, er mwyn gwneud lle i'r STOCK NEWYDD at y Gauaf. Llawer iawn o frethynau Lliwiau a duon at Siwtiau i Ddynion a Phlant, a Jacket a Capes, i ferched a gwragedd. Dillad parod i Ddynion bechgyn a Plant, ynghyd a llawer o Jackets a Capes, i ferched a gwragedd. Hetiau lawer iawn i Ferched, o'r Ffasiwn mwyaf diweddar, a digonedd o bethau at ei trimio yn rhad iawn. Llawer iawn o bethau eraill nad oes modd ei henwi, ac felly rhoddi'r gwahoddiad taer i bawb ddyfod i'r gohvg i farnu drostynt ei hunain TELERAU Ull PRIS AC ARIAN PAR(M