ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. PRIFATHRAW :—■ T. F. ROBERTS, M.A. CYNHWYSA y cwrs o Addysg y parotoad angenrlieidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain am Ysgoloriaeth- au yn Rhydychain a Caergrawnt, ac am as- tudiaeth feddygol yn y Prifysgolion hyn ac yn yr Ysgotland. Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrewesau Trwyddedig, ac ar un pryd barotoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm a dderbyniant fel Y sgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymwys i Amaethwyr, Goruchwyhvyr Tir, Athrawon mewn Amaeth- yddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynhelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored, ac eraill yn gyfynedig i Gymru. Am bob manylion, ymofyner AT. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd.
Y SENEDD NEWYDD. Trwy etholiad aelod dros Orkney a Shetland, y mae yr Etholiad Cyffre- dinol yn gyflawn. Saif y pleidiau fel hyn:- Toriaid 339) 4 j x 4 I I Undebwyr 72 ) Rhyddfrydwyr 177 Cenedlaetholwyr 70 > 259 Parnelliaid 12) Mwyafrif. 152 Cymaint ydyw yr enciliad, fel y mae gan y Toriaid wyth o fwyafrif ar bawb eraill. Nos Lun, ail-etholwyd Mr. Gully i'r swydd o Lefarydd y Ty. Dydd Iau (ddoe) darllenwyd Araeth y Frenhines. Nid yw y Llywodraeth yn addaw gwneyd nemawr fwy na phasio'r cyflenwadau arianol, a thorir y Ty i fynu ymhen tua mis. Disgwyliwyd y buasent yn dwyn i mewn Fesur Tir i'r Iwerddon, ond siomir yr Iwerddon yn yn hyn. Myn y Llywodraeth dawel- wch a hamdden i barotoi ei mesurau yn ystod y gohiriad. Er hyny, gelwir arnynt yn ddiau gan eu gwrthwyneb- wyr am ddatganiad o'u gwladlywiaeth gartrefol a thramor.
TRO I'R AIPHT. GAS Go HON AY Y JONES. IX. Merelied fol rlieol welir yn tynu dwfr at wasaiiaetli y toulu, deuant yn lluoedd o'r pentrefi gan gario piseri ar eu penau a'u hysgAvyddau, at y pydewau ac at y eamles- oedd, a hyny ar adeg benodol bob dydd fel yr awgrymir yn hanes Eleazer, gwas Abraham, pan "yn aros o'r tuallan i ddinas Mesopotamia ar brydnhawn ynghyleh. yr amser y bvddai y merched yn dyfod allan i dyim dwfr. Y mae y merched yn yr Aiff t yn hynod o union-syth, a llunaidd o gorff, eu cerddediad yn wir yn urddasol, a phriod- olir hyn i fesur mawr i'r arferiad yn eu plith o gario pwysau trymion, megis piserau llawn dwfr ar eu penau, ae nid i corsets a tight-lacing. Un o'r pethau eyntaf a Avelais yn Ninas Cairo ydoedd dyn yn sefyll ar gongl lieol, ac ar ei ysgwydd ysten fawr yn llawn dwfr, a gwaeddai a lief uehei Zabeel, zabeel, yr hyn o'i gyfieithu yw-rl-iad, rhacl: deuweli yfwch yn rliad. (lofynais am eglurhad, a ehefais fod hyn yn li-en-hei-i arferiad dwyr- einiol, a'r ystyr yw, pan y byddo un mown cvstudd neu ryw brofedigaeth, y mae yn addunedu, end iddo gael gwaredigaeth o'r cyfryw y bydd iddo roddi d wfr i'w yfed yn rhad am gynifer o ddyddiau, i'r neb y mae eyclied arno. Cvflogir dynion yn arbenig at y gorchwyl, aey mae trefniadau manwl ganddynt er sicrhau fod y dwfr gyfrenir yn rhad, yn rhinwedd yr addunedau hyn yn berffaith bur, ni raid neb ofni yfed o hono. Trefniant gwerthfawr, onide, mewnhinsawdd afiaehus boeth, ac yn onwedig yn yr amser gynt, pan nad oedd eyfleusderau i'r sychedig gael dwfr da a phur, mor liosog ag ydynt yn awr, ond o ran hyny, y mae oto ar lawer aehlysur yn anmhrisiadwy. Gwelais wr un diwrnod, a golwg, resynus iawn arno yn rhuthro ar hyd yv lieol. Cefais mai un ydoedd, wedi bod druan, yn C ceisio tawelu ei gydwybod, drwy ympryd, ac wedi bod ysbaid bedair awr ar hug'ain, heb damaid na llymaid, ie, wedi cadw mor fanwl ar dra- ddodiad y tadau, fel na bu iddo yn ystod yr holl oriau gyinaint a llyncu ei bocryn ei hun ac fel y gellid meddw], yr oedd ar derfyn yr amser bron gwallgofi, ie, am ddy- feryn o ddwfr oer, ac ymaith ag ef ar el union at y gwr, ag yr oedd ganddo ddyvfr i'w roddi yn rhad. Y fath drugaredd i'r truan yna, onide, ydoedd fod dyfroedd fel y grisial wrth law a gwahoddiad tyner, soniarus iddo i'w dderbyn. Y mae yn eitliaf posibl itiai oddiwrth yr hen arieriad hwn y ben- thyciodd y proffwyd y gymhariaeth bryd- ferth: "0 deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno.heb arian ac lieb werth." Gorchwyl blin a phwysig iawn yw mater yr yd at wasanaetli y toulu, a merched sydd bron bob amser yn ei gyiia,vni Mynych y gwelir dwy yn malu yn yr un lie, ar ddarn o lian wedi ei ledu ar y llawr wrth ddrws y ty neu y babell y niaent yn oistedd arno, a chydrhyngddynt y mae dau faen, y naill a'r wyneb y Hall. Tywelltir y grawn yn raddol rhyngddynt, a symudir yr ucliaf o'r meini ol a blaen. Gwaith trwm, caled, ydyw, yn cael ei wneyd gan y merched distacllaf ynglyu a'r teulu, ac fe welir ystyr y geiriau-" A phob cyntaf- anedig yn ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh ar ei deyrngadair, hyd gyntaf- anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin," hyny yw, pob dosbartli o'r u wehaf hyd yr isaf. Y mae yn arferiad er's oesoedd ymysg yr Aifftiaid i ddeor drwy gadw wyau mewn gwres penodol. Y mae adeilad bron ymhob ardal yn cynwys ffwrneisiau at y pwrpas; ac os nad yw trigolion cymydogaeth yn dwyn yr yd i'w falu i'r un felin, y maent yn dwyn yr wyau i'r un man er deor cywion. Er yn yinddangos yn bur svml, y mae yn orchwyl sydd yn gofyn llawer o ofal a phrofiad er ei gario ymlaen yn llwyddianus. Fe ddeorir yn y dull hwn fdynau lawer o ddofednod bob bl^yddyn yn yr Aifft, ac y mae y deorwyr yn hawlio toll o un cyw allan o bob deg ddeorir. Gwelsom drefniadau i gario y gwaith hwn ymlaen ar raddfa eang iawn. Mewn sefydliad o bwrpas i fagu estrys, y mae y lie yn nghwr yr anialwch wedi ei amgylchu a mur ucliel, ac wedi ei ranu oddi mewn yn fath 0 paddoch bob un oddeutu haner can' llath ysgwar. Y mae yno yn agos i ddwy fil o'r adar rhyfedd hyn o ddau ddiwrnod oed i fynu i bedair mlwydd ar hugain. Cedwir pob oedran a phob rhyw- ogaeth ar wahan, a gwneid elw mawr oddi- wrth y plu. Y mae rliai o'r gwrywiaid yn bur beryglus. Dangoswyd un i ni, ydoedd yclxydig ddyddiau cyn liyny, wedi lladd dyn ag un ergyd a'i droed. Ie, creadur creulon yw yr estrys—hyd yn nod wrth ei rai bach, fol y dywed yr Hen Lyfr-" Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddo hi." A diau mai methiant fyddai anturiaoth perchenogion y fferm estrys hon pe y dibyn- ent yn hollol ar ofal yr estrys i ddeor a magu eu rhai bach.
PIGION. Y mae Arlywydd presenol Ffraine yn Brotestant. Syr P. 13. W. Bulkeley, tad y baryvnig presenol, oedd yr olaf o'r pendefigion a feddai wacd (H-mreig digymysg. Alao symudiad ar droed i gyflwyno tysteb i'r goruchwyliwr poblogaidd Mr. Meyrick Roberts, U.H., Bryneglvrys, Abergynolwyn. Yn nghyfarfod diweddaf Bwrdd Pysgota yr Hafren cwynid fod eanoedd o bysgod yn cael eu lladd drwy anmliurcdd yr afon. Y mae y Pab wedi apwyntio y Tad Francis Mw.styn, Birkenhead, yn Esgob yr oglwys Babaidd yn Nghymru. Cynlielir yr ymclnviliad i'r cais o sefydlu Cynglior Dosbarth Trefol i Aberdyfi le ddydd Iau, yr 22ain cylisol, yn neuadd y dref, Aberdyfi. Mae Mr. Yaughan Dayies, A.S., wedi ei gymeryd yn glaf yn Marienbad, Aw-stria, fel nas gallodd fod yn bresenol yn agoriad y Senedd, ond disgwylia cldychwelyd yn mhen pythefnos. Cymerodd eyflafaii ercliyll le nos Fercher, y 3 lain cyntisol ger Kucheng, China. Phoddwyd gorsaf genadol berthynol i Gym- deithas Genhadol Eglwys Loegr ar dan gan y CJhinoaid panboeth, a llofruddiwyd mewn dull barbaraidd y ceuhadwr, Mr. Stewart, wvih 0 ferched ac un plentyn. Mae Prydain wedi galni- ar Lywodraetli China i Ayneyd ymclnviliad i'r gyflafan, ac amddiffyniad i'r Prydeiniaid sydd yn y wlad hono. Gvyrtliododd Mr. Bryn Roberts gynorth- ""yo oi gydaelod Mr. Lloyd-George yn yr etholiad diweddaf dan yr esgus nad oedd iy)i d-) Mr George yn loyed i'r Llywodraeth Ryeld- frydol. Y mae un peth arall sydd eisiau bod yn loyal iddo, sef i egwyddorion Rhydd- frydiaetlv. Beth bynag ydyw daliadau Mr. Bryn Roberts, y mae un peth yn eglur, nid yw ei ei liuu yn Radical, fel y gwelir yn mhlith pethau eraill, yn ei waith yn pleid- loisio yn erbyn Ymreolaeth i bedair rhan y Deymas. Parodd yr anffawd i Mr. Frank Edwards golli ei sedd fwy 0 ddwysder nag unrhyw gollod arall yn yr etlioliadau yn Nghymru. Y mae Mr. Edwards yn esiampl dda 0 gym- wysderau aelod Cyinreig. Mae wedi bod yn ilaerdlaw ymhob symudiad o blaid rhyddid, cyson yn ei bresenyldeb yn y Ty, ac ynperthyn i'r blaid a ystyrir gan rai yn eithafol; eto y mae ei bwyll gymaint a'i wroldeb. Ni ry- feddwn nad gwell fuasai gan ei frawd, Ficer Corris, ei weled yn cadw y sedd, er fod y ddau frawd yn hollol wahanol eu barn ar bwnc Padgvsylltiad. Ond fe dry yr olwyn eto, a'r gwr i adenill y sedd i'r Rhyddfryd- wyr, yn ddiameu yw lir. Frank Edwards. Yn niwedd y mis diweddaf, fe gollwyd ebol blwydd i Syr Pryse Pryse, Barwnig, Gogerddan, ar y mynydd ac ar ol chwilio rhyw ychydig am dano, rhoddwyd y mater yn Haw yr heddgeidwaid, gan dybied ei fod wedi ei ladrata. Ond yn mhen ychydig ddyddiau cafwyd yr ebol wedi trigo ar dir teg mewn ychydig o latheni i'r llwybr. Beth pe buasai ein bugeiliaid a dynion ein gwlad mor ddrwgdybus a liyna, canys yr oeddynt mor ddrwgdybus a Saul am Dafydd. Ai tybed fod yn angenrlieidiol rhoddi peth fel yna yn llaw yr heddgeidwaid cyn chwilio yn famdaeh am dano ?
ABERYSTWYTH. TAI i'it GWEITIIWYR.—Yn y CyngorTrefol, ar y 6ed cyfisol, dygodd Mr. C. M. Wil- liams gerbron gynygiad fod darpariaeth i adeiladu tai i'r gweithwyr o dan Ddeddf Tai y Dosbarth Gweithiol i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Arianol. Dywedodd Mr. Wil- liams ei bod yn llawn bryd cael cynllun ym- arferol i godi tai i'r gweithwyr yn y dref. Gallai y pwyllgor ystyried y moddion i ddwyn hyn oddiamgylch. Os mabwysiadai y Cyngor adran 3ydd o Pdeddf 1890, gallant ofyn i'r Bwrdd Llywodraeth Leol gadarn- hau benthyciad arian i adeiladu y tai. Nid oedd dim dadl am yr angen. Yr oedd oedd dim dadl am yr angen. Yr oedd gweithwyr yn Aberystwyth yn cael eu gorfodi i fyw mewn tai anghymwys, ac eraill yn methu cael rhai o gwbl. Gobeith- iai y cymerai y Cyngor y mater hwn dan eu h ystyriaeth ddifrifol a mwyaf ebrwydd. Siaradodd y Maer ac eraill o blaid y cynyg- iad, a phasiwyd of. Y,AIDIIOcHi.-Pa-,iw d, hefyd, fod yr arol- y I ygydd i roddi rhybuddion i fynu ar draeth y castell er diogelwch i'r ymdroclrwyr yn y lie hwnw.
DINAS MAWDDWY. Fel y canlyn y mae adroddiad arolygydd yr vsgolion o Ysgol y Bwrdd, Dinas Mawddwy :—Arholwyd yr ysgolheigion mewn Pearyddiaeth, yr hwn na chymerwyd i fynu y flwyddyn ddiweddaf, ac atebodd yn dda. Yr oedd y mapiau yn rhagorol. Profwyd rhai mewn Idawfer ac Algebra, a gwnaethant yn dda. Gobeithir y bydd ystafell ddillad yn cael ei darparu yn ystod gwyliau yr liaf. Rhaid i ystafell ddillad I briodol gael ei darparu heb oedi.—Pasiodd E. I). Jones. Parha A. Edmund dan article 68 o'r codr. Swrn. y grant ydy-(v lC6p. 5s.
ABERANGELL. LLWYDDIANT. — Enillwyd y Mawddwy Scholarships yn Ysgol Ganolraddol Towyn gan David Jones, Maesygamfa, ac Annie M. Davies, Brynmynach,—y ddau yn ysgolheigion yn Y sgol y Bwrdd. ADRODDIAD ARHOLWYR EI MAAVRHYDI. —Arholwyd yr ysgol eleni gan y prif arholwr sef AV. Williams, Ysw., M.A., yn cael ei gyn- orthwyo gan Mr. D. Thomas, B.A. Yn ddi- weddar derbyniwyd yr adroddiad ffafriol can- 1ynol, yr hwn sydd yn gredit i Mr. Reese a'i gynorthwyesau:—" Y mae'r ysgol hon mewn trcfn ragorol, ac yn cael ei haddysgu gyda zel, effeithiolrwydd a llwyddiant. Y mae'r ysgrifen yn parhau i deilyngu canmoliaeth arbenig. Y mae'r rhifyddiaeth yn dda iawn yn y dosbarth- iadau uchaf. Ymae'rSaesne( wedi gwella, ac y mae yn awr yn dda iawn. Y mae'r gwniad- waith, canu a'r Gymraeg, yr hwn a gymerir fel pwnc neillduol (specific subject), oil yn glod- fawr iawn. Gwnaeth y babanod yn dda iawn. Yr oeddis wedi parotoi llawer o Kindergarten exercises hynod wych. Aeth y plant drwy eu mucical drill a'u fan drill gyda chywirdeb a phleser amlwg. Bydd yr offeryn cerddorol gwerthfawr a'r llyfrgell a anrhegwyd gan fon- eddiges a boneddwr, y rhai sydd yn cymeryd llawer o ddyddordeb yn yr ysgol, o wasanaeth dirfawr i'r ysgol." BANC CYNILO.—Yn ystod y pedair blynedd diweddaf, y mae'r plant wedi rhoddi dros 25op. yn y bane cynilo, sydd mewn perthynas a'r ysgol. Y flwyddyn ddiweddaf rhoddwyd 4-ip. i mewn. Dyma gyfle heb ei ail i ddysgu cynil- deb i'r to sydd yn codi. Rieini gwnewch yn fawr o'r drafferth a gymerir gyda'ch plant. TE PARTI A GWOHRWYOX.—Y diwrnod cyn tori i fyny am wyliau yr haf, rhoddodd Mrs. Walton y wledd flynydclol i blant Y sgol y Bwrdd. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mrs. Davies, Brynmynach, Mrs. Jones, Post Office, Miss Price, Miss Vaughan, a Mrs. Breese. Fel arferol gwnaeth, y plant gyfiawn- ,,y der a'r wledd ragorol a barotowyd iddynt. Ar ddiwedd y dydd gwobrwywyd y goreuon. Enillwyd y prif wobrwyon gan James E. Pugh, Annie M. Davies, a Sarah Owen. Rhanwyd tua 45 o lyfrau. Canodd ac adroddodd y plant amryw ddarnau er boddhai mawr i'r gwran- dawyr. Ar ol talu diolchgarwch i Mr. a Mrs. Walton am eu haelioni a'u carcdigrwydd di- gymhar, hefyd i'r boneddigesau am wasan- aethu wrth y byrddau, ac i'r athrawon am eu gwaith rhagorol yn ystod y ihvyddyn, ym- wahanwyd ar ol treuli.o diwrnod hynod ddymunol. BWRDD YSGOL NEAVYDD.—Da genym weled fod y trethdalwyr wedi blino ar etholiadau, ac wedi bod mor ddoeth a dewis yr hen aelodau.
MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yn addoldy y Maengwyn, nos Sabbath. Cymerwyd rhan ynddo gan Mr. D. E. Davies, Albert house, Mr. John Owen (W.), Corris, a'r Parch. J. Williams (M.C.), Dolgellau. Cafwyd cynull- iad da ac anerchiadau rhagorol, ond callU sal. Ai nid yw yn bosibl deffro Cylrinfa Maglona i wisgo tipyn o'r nerth a'r rlv; uiwad a feddai gynt ? Feallai mai anacl .augylchiadau Cym- anfa Ddirwestol Maldwyn a'i cyfyd yn fyw. Pwy wyr ?
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Awst i3eg. Mr. W. R. Williams, yn y gadair. Penodwyd Miss Jannett Roberts yn athrawes gynorthwyol yn ysgol Corris dros dymor, a Mrs. Williams, YsgoJ y Bwrdd, i fod yn ei lie yn Tynyberth. Yn ol awgrym Swydd- fa Addysg, estynwyd tymor prentisiaeth Wm. Hughes hyd y Nadolig. Darllenwyd adrodd- iad ysgol ddyddiol Corris. Ymddengys fod rhyw gamgymeriad yn adroddiad yr Y sgol Nos ac y mae y Bwrdd mewn trafodaeth a'r Swyddfa Addysg yn ei gylch. Penderfynwyd gwahodd personau i'r cyfarfod nesaf sydd yn dwyn achwyniadau yn yr ardal yn erbyn y Bwrdd er mwyn rhoddi cyfie iddynt i egluro eu hachwynion, ac er rhoddi mantais i'r Bwrdd 1 amddiffyn eu hunain. Ac os ceir fod yr achwynion hyn yn cael eu gwneyd ar gam, dis- gwylir i'r cyfryw eu galw'n ol, a gwneyd ym- ddiheuriad i'r Bwrdd.
CORRIS. YR ARDDANGOSEA.—Cynhaliwyd pumed Arddangosfa Flynyddol Gerddi a Chelfyddyd dydd Sadwrn. Cafwyd hin ffafriol ac yr oedd y cynulliad yn boblogaidd. Gwnaed arddang- osiad rhagorol mewn ffrwythau—llawn gwell na'r un a gymerodd le o'r blaen, Nid cystal oedd adran celfyddyd. Am 5-30, rhanwyd y gwobrwyon gan Mrs. Frank Birley. Ym- ddengys rhestr yr ymgeiswyr buddugol yn ein ly nesaf.
ATMLNGMTI 14 Wtazg. -:0: [Y GENINEN EISTEDDFODOL am Awst, 1895]. Daeth y Geninen Eisteddfodol allan eto eleni, a'i golwg mor siriol ag erioed, yn fardd- oniaeth i gyd. Darllenasom hi o'i chwr, o'i dechx-eu i'w diwedd, heb adael heibio ddim 0 honi, ac yr ydym yn teimlo ei bod yn dda drwyddi. Dechreua gyda phiyddest wastad- dda gan John Owen ar Cyfoded Duw.' Mae yr eiddo Mafonwy ar Grist yn eistedd ar Ffynon Jacob yn rhagorol, yn ei chynllun a newydd-deb ei barddoniaeth. Nid yw cywydd L1ew Hiraethog ar 'Fywyd,' a'i gynghanedd- ion mor gryfion a swynol a'r eiddo ef yn gyff- redin, ond y mae yn llawn o feddylian tlysion. Ceir yn mhryddesr Gwili ar Farddoniaeth' ehediadau pell-gyrhaeddol; dyddorir y dos- barth diweddaraf 0 feirdd wrth edrych ar ei wenol-awen yn ei chwyldroadau wrth chwilio am ysbrydion y testyn. Cawn yma bwt o gywydd ar Yr aelwyd,' o waith Dyfed; yn wir, mae hwn yn dda, ac yn swynol fel rhos- hvyn myrddliAV o farddoniaeth beraroglus yn cael ei ddal o'n blaen yn y plethiadau mwyaf cywrain a phrydferth. Darllenasom yr awdl ar Adda,' gan y diweddar loan Arfon lawei o flynyddau yn ol, ac y mae yn dal o hyd yn ei bias. Mae Bug'eileg gan Gwylfa yn fywiog a dyddorol. Pryddest Elfyn ar Dyn a A allan i'w waith ac i'w orchwyl hyd yr hwyr' yn deilwng o'i hawdAvr a Tuchangerdd Alafon ar Hunan yn dra miniog. Cawn dameidiau blasus yn mhryddest Penllyn, Ar Hwn yr edrychaf; ac yn aAvdl Y Gadair Ddu,' gan y diweddar Tudno. Cawsom bleser neillduol wrth ddarllen cywydd 'YGoedwig' gan ein hen gyfaill loan Anwyl, mae ei gynghanedd- ion ef, fel arfer, yn naturiol, a'i syniadau yn brydferth, Mae darllen pryddestau Daeth yr awr gan Rhydfab, a 'Crist yn cario ei groes gan Ap lonawr, yn ddyddorol i'r awen, ie, ac yn fucld i'r ysbryd. Cawsom eto gryn foddhad wrth ddarllen cywydd yr hen frawd leuan lonawr ar 'Ddinystr Sodom a Gomon'ah,' buddugol yn Nolgellau dcleng mlynedd ar hugain yn ol. Cynwysa rai llinellau cyffrous mewn cynghanedd gref. Yr oedd leuan yn dipyn o gawr ar faes yr awen cyn geni y rhan fwyaf o feirdd y Geninen hon. Fel mae y byd yn myned rhagddo Ceir yn awdl y diweddar anwyl Ellis Wyn o Wyrfai ar 'Adgymodiad Beli a Bran adroddiad eglur iawn 0 hanes y cweryl rhwng y ddau frawd, wedi ei wisgo mewn cynghanedd hynod o ddiwast a naturiol. Mae araeth Convena wrth Bran ei mhab yn effeithiol iawn, a'r cymodiad a ddilynai hyny yn ddigon i dynu dagrau. Deil pryddest 1). Ifor Jones ar Hwn fydl mawr i'w darllen lawer gwaith drosodd; y mae yn gynyrch myfyr galluog, a delw awen yn amlwg yn ei chaboliad. Ceir yn y rhifyn hwn bryddestau gwerthfawr eraill, megis Dafydd a'i l-'fondafl' gan Ap lonawr, Rhwyg-iad y lien' gan E. WTnion Evans, a 'Dag-rau'r Gwtredwr gan Tudur ap Hywel. Hefyd, cywyddau ar I Ar- ucheledd' gan Bethel, a'r Berth yn llosgi gan Barlwydon; ynghyda lliaws 0 ddarnau byrion ac englynion ar wahanol destynau. Y mae y Geninen hon yn sylltwerth dda. CYFRES YSGOLION DYDDIOL HUGHES A'I FAB. Rhif 2. Gan Einion a J. O. Reese. Y mae y cen wedi syrthio oddiar lygaid y Swyddfa Adclysg gyda dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion Maent yn awr yn rhoddi pob cefn- ogaeth i hyn)', ond teimlir dilTyg am lyfrau priodol i'r amcan. Y mae yr uchod yn ateb y pwrpas i'r hya ei bwriadwyd, a da y gwnai yr ysgolion ei fabwysiadu.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Mr. Golygydd.—Syr, — O dan y penawd uchod, ymddangosodd ysgrif fechan yn y Aregesydd am ddydd Gwencr, Awst 2il. Nid gwn pwy yw yr awdwr, gan nad oes un math o enw wrth yr ysgrif; felly riis gallaf g-yfeirio fy llythyr ato ef. b Ond gan nad pwy ydyw, mae yn amlwg ddigoa, mai bmch ei ysgrif ydyw gwneyd yn gyhoedd ansawdd tra rhagorol ysgolion dydd a nos Aberllefenni a Ty'nyberth. yn yr hyn yr ydym yn mawrlawen- hau fel trethdalwyr gan ein bod trwy hyn yn cael sicrwydd nad yw ein Bwrdd Ysgol yn I I gwaric ein harian am yr hyn nad yw fara, na'n llafur am yr hyn J1,(d yw yn digoni,mor bell ag yr ydym yn cae! ein hysbysu am y ddwy ysgol uchod. Ond atolwg, onid oes genym ysgol arall yn perthyn i'r Bwrdd ? Oni c'.y haliwyd ysgol- ion dydd a nos yn hon hefyd; paham ynte yr anwybyddir hon, a'i diweddar athraw, yr hwn sydd yn awr mewn gwlad na raid iddo wrth "long-yfarchiad" daearolion, gan nad pwy fyddont. Ond yr un pryd, gwneler yr hyn sydd deg a'i goffadwriaeth; nid ydym yn gofyn, nac yn disgwyl dim arall. 0 ie, onid oedd 8taflyn perthyn i'r ysgol hon hefyd. Ond a ydynt hwythau hefyd islaw sylw ysgrifenydd y llith crybwylledig. Byddai gair o eglurhad ar hyn yn foddhad gan amrai, fe ddichon, heblaw Corris. RD. ONEN,
Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS. Syr,—Credaf na byddai yn ormod gan y Negesydd gario cenadwri fechan o berthynas i'r cyfaill anwyl uchod at drigolion Corris a'r amgylchoedd, ac yn enwedig at y lliaws mawr a fu 0 dan ei addysg yn ystod y 33 mlynedd y bu yn gwasanaethu yr ardal fel eu hysgolfeistr. A dyna y genadwri. Y mae y parch mawr a deimlir i goffadwriaeth y brawd hwn, ynghyda'r chwithdod o'i golli mor sydyn, wedi enyn awydd, mewn lliaws o'i hen ysgolheigion, i wneuthur rhvwbeth er cadw yn fyw ei goffad- wriaeth, a hyny yn y fath fodd, ac a fyddo ar yr un pryd yn fantais i'r ardal yn gyffredinol. A dyma yn fyr yr hyn a fwriedir ymgais ato, gan y rhai sydd wrth wraidd y symudiad, sef casglu swm o arian gyda'r amcan o sefydlu ysgoloriaeth yn un o'r ysgolion canolraddol (cyfleus) ar gyfer plant perthynol i'r ardaloedd hyn, a'i galw yn ysgoloriaeth Jones. Y mae amryw o'i hen ddisgyblion wedi datgan eisoes eu bod yn barod i danysgrifio 5p. a 2p. at yr amcan hwn ac yn dymuno gwneyd apel at hen ddisgyblion a chyfeillion y diweddar Mr. Jones i gynorthwyo yn hyn o beth. Credaf nad all yr amcan mewn golwg lai na derbyn cymer- adwyaeth gyffredinol yn yr ardaloedd hyn, am y byddis wrth dalu parch i ddyn ag oedd yn anwyl iawn yn ngolwg yr ardal ar gyfrif ei gymeriad a'i wasanaeth, ar yr un pryd yn sefydlu moddion nas gall lai na bod yn galon- did ac yn symbyliad i ddadblygu talentau ieuenctyd yn yr oesoedd sydd i dd'od. Gan fod y Negesydd mor gyfleus, ac yn arfer galw yn wythnosol yn ein tai, oni fyddai yn fuddiol i liaws roddi eu syniadau ynddo yr wythnosau nesaf. Y mae yn debygol y bydd un sydd yn selog iawn o blaid yr amcan, yn yr ardal, o hyn i ben mis, ac y mae wedi amlygu dymuniad i alw cyfarfod cyhoeddus mewn trefn i ystyried pa beth a ellir ei wnèyd, ac ar gais y cyfaill hwnw yn benaf, yr wyf yn rhoddi y peth i sylw, yn y ffordd yma i gychwyn, gan gredu ar yr un pryd y bydd llawer yn gafael yn y symudiad mewn ymddiddanion personol a chymdeithasol, yn ogystal a thrwy y Negesyild fel yr awgrymwyd o'r blaen. CYFAILL.
YR AMAETHWYR A'R GWEITHWYR. Mewn atebiad i Mab Ffarm," nid yw y gwirioneddau a ddywedais i am yr amaethwyr ddim llai, am fod y gAveithAvyr yn awyddus am ffarmio. Ac yr wyfyn cyfrif pob (rwcithiwr sydd wedi cael ffarm yn ffarmwr. Ac os hoffech chwi Aveled "gweithiwr" yn ffermio, ewch am dro i Abergynolwyn, a chewch weled darn o dir, a fu unwaith yn rhan o fferm, prin y gallasai anifail roddi ei droed ynddi y pryd hyny ond heddyw, y mae yn cael ei drin a'i ymgeleddu, a gellwch weled tua dwsin o fuchod llyfndeAv yn cnoi eu cil mewn adl6dd bras. Nid am fod y gweithwyr yn well am drin tir, ond am fod y tir wedi ei ranu yn fanach. Dyma i chwi engraifft arall yn Sir Feirionydd-40 mlynedd yn ol, yr oedd pedair fferm yn terfynu ar eu gilydd, un yn cadw chwech o fuchod godra da, un arall yn cadw tair, a'r ddwy arall ddwy fuwch bob un, dyna 13 onide ? At hyny eto yr oedd yn y gyntaf ddau geffyl cryf, ac un yn yr ail. Ond heddyw, mae y pedair ffarm yma wedi myned yn un Ond pa faint yw nifer y gwartheg debygech chwi ? Wei, chwech ac un ceifyl ? Mae porfa y buchod wedi cau i fynu gan gyll a mieri. Nid oes ar y fferm un clawdd na gwyrch ddcil fuwch min 116. Onid bendith i'n cenedl fyddai cael "y ddae?r i'r bobl," fel y bu. Pe cawn ysgwyd llaAv a Mab Ffarm," byddai yn hawdd iddo gredu mai "gweithiwr" ydwyf, os ydyw yn amheus, oherwydd mae cyrn yr aradr, dyrnau y bladur, a choesau y rhaw a'r fforch, wedi gwncyd fy nwylaw mor galed a chalon llawer amaethwr y bum yn gwcini iddynt. GWAS FFARM.
PRIODAS EURAIDD NHAD A MAM. (l'ltioDWYD, AWST IGEG, 1845.) Mi ganaf gan i Nhad a Mam, z, Can cnmr It chan cariad; 0 frou ddygyfor fytli lieb drai 91 0 ddidwyll gydymdeimlad. A clnvi'n arbenig, anwyl Fam, JleAvn pciriau yn dihocnl; A beuuydd, beunoe ar ddihun Dan ddiygwyl gwawr i doli. Ar cdyn amser gyda'r gwynt Ehedodd lianer eanrif; Fel breuddwyd i'ch yw'r boreu gyut Yr ail ddechreusocli gyfrif Iilynyddau'ch OCB—eieli dau yn un I ymladd brwydr bywyd A br ivydr galcd ddaetli i'cli rhan Ddi-ildio. ddi-seguryd. Cliwi Avelsoch lawer cwmwl du 1n cuddio'r nef o'cli golwg; Olid iiiynycli heibio iddynt oil Canfyddech Dad di-gilwg. ilIac Ef yr un, er pallu o bawb, Ac fel iii,-ie'eh oes yn dirwyn, Amlycacli yw ei naAvdd a'i ras, A ncs-nes font i'r terfyn. Boed i cliwi lieulog, desog 'nawn, Eicli cefnau ar bob drychin, A'cli wynch tua gwlad lie cawn Fel teulu gwrdd—pob ewir. Bryd bynag del. boed lfarwel byd Fel hwyrddydd haf-yn clyner A thoriad gwawr di-gwmwl ddydd— Dydd medi ffrwythau amser. Conis. D. IFolt JOXES,