Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

Y SENEDD NEWYDD.

.TRO I'R AIPHT.

News
Cite
Share

TRO I'R AIPHT. GAS Go HON AY Y JONES. IX. Merelied fol rlieol welir yn tynu dwfr at wasaiiaetli y toulu, deuant yn lluoedd o'r pentrefi gan gario piseri ar eu penau a'u hysgAvyddau, at y pydewau ac at y eamles- oedd, a hyny ar adeg benodol bob dydd fel yr awgrymir yn hanes Eleazer, gwas Abraham, pan "yn aros o'r tuallan i ddinas Mesopotamia ar brydnhawn ynghyleh. yr amser y bvddai y merched yn dyfod allan i dyim dwfr. Y mae y merched yn yr Aiff t yn hynod o union-syth, a llunaidd o gorff, eu cerddediad yn wir yn urddasol, a phriod- olir hyn i fesur mawr i'r arferiad yn eu plith o gario pwysau trymion, megis piserau llawn dwfr ar eu penau, ae nid i corsets a tight-lacing. Un o'r pethau eyntaf a Avelais yn Ninas Cairo ydoedd dyn yn sefyll ar gongl lieol, ac ar ei ysgwydd ysten fawr yn llawn dwfr, a gwaeddai a lief uehei Zabeel, zabeel, yr hyn o'i gyfieithu yw-rl-iad, rhacl: deuweli yfwch yn rliad. (lofynais am eglurhad, a ehefais fod hyn yn li-en-hei-i arferiad dwyr- einiol, a'r ystyr yw, pan y byddo un mown cvstudd neu ryw brofedigaeth, y mae yn addunedu, end iddo gael gwaredigaeth o'r cyfryw y bydd iddo roddi d wfr i'w yfed yn rhad am gynifer o ddyddiau, i'r neb y mae eyclied arno. Cvflogir dynion yn arbenig at y gorchwyl, aey mae trefniadau manwl ganddynt er sicrhau fod y dwfr gyfrenir yn rhad, yn rhinwedd yr addunedau hyn yn berffaith bur, ni raid neb ofni yfed o hono. Trefniant gwerthfawr, onide, mewnhinsawdd afiaehus boeth, ac yn onwedig yn yr amser gynt, pan nad oedd eyfleusderau i'r sychedig gael dwfr da a phur, mor liosog ag ydynt yn awr, ond o ran hyny, y mae oto ar lawer aehlysur yn anmhrisiadwy. Gwelais wr un diwrnod, a golwg, resynus iawn arno yn rhuthro ar hyd yv lieol. Cefais mai un ydoedd, wedi bod druan, yn C ceisio tawelu ei gydwybod, drwy ympryd, ac wedi bod ysbaid bedair awr ar hug'ain, heb damaid na llymaid, ie, wedi cadw mor fanwl ar dra- ddodiad y tadau, fel na bu iddo yn ystod yr holl oriau gyinaint a llyncu ei bocryn ei hun ac fel y gellid meddw], yr oedd ar derfyn yr amser bron gwallgofi, ie, am ddy- feryn o ddwfr oer, ac ymaith ag ef ar el union at y gwr, ag yr oedd ganddo ddyvfr i'w roddi yn rhad. Y fath drugaredd i'r truan yna, onide, ydoedd fod dyfroedd fel y grisial wrth law a gwahoddiad tyner, soniarus iddo i'w dderbyn. Y mae yn eitliaf posibl itiai oddiwrth yr hen arieriad hwn y ben- thyciodd y proffwyd y gymhariaeth bryd- ferth: "0 deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno.heb arian ac lieb werth." Gorchwyl blin a phwysig iawn yw mater yr yd at wasanaetli y toulu, a merched sydd bron bob amser yn ei gyiia,vni Mynych y gwelir dwy yn malu yn yr un lie, ar ddarn o lian wedi ei ledu ar y llawr wrth ddrws y ty neu y babell y niaent yn oistedd arno, a chydrhyngddynt y mae dau faen, y naill a'r wyneb y Hall. Tywelltir y grawn yn raddol rhyngddynt, a symudir yr ucliaf o'r meini ol a blaen. Gwaith trwm, caled, ydyw, yn cael ei wneyd gan y merched distacllaf ynglyu a'r teulu, ac fe welir ystyr y geiriau-" A phob cyntaf- anedig yn ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh ar ei deyrngadair, hyd gyntaf- anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin," hyny yw, pob dosbartli o'r u wehaf hyd yr isaf. Y mae yn arferiad er's oesoedd ymysg yr Aifftiaid i ddeor drwy gadw wyau mewn gwres penodol. Y mae adeilad bron ymhob ardal yn cynwys ffwrneisiau at y pwrpas; ac os nad yw trigolion cymydogaeth yn dwyn yr yd i'w falu i'r un felin, y maent yn dwyn yr wyau i'r un man er deor cywion. Er yn yinddangos yn bur svml, y mae yn orchwyl sydd yn gofyn llawer o ofal a phrofiad er ei gario ymlaen yn llwyddianus. Fe ddeorir yn y dull hwn fdynau lawer o ddofednod bob bl^yddyn yn yr Aifft, ac y mae y deorwyr yn hawlio toll o un cyw allan o bob deg ddeorir. Gwelsom drefniadau i gario y gwaith hwn ymlaen ar raddfa eang iawn. Mewn sefydliad o bwrpas i fagu estrys, y mae y lie yn nghwr yr anialwch wedi ei amgylchu a mur ucliel, ac wedi ei ranu oddi mewn yn fath 0 paddoch bob un oddeutu haner can' llath ysgwar. Y mae yno yn agos i ddwy fil o'r adar rhyfedd hyn o ddau ddiwrnod oed i fynu i bedair mlwydd ar hugain. Cedwir pob oedran a phob rhyw- ogaeth ar wahan, a gwneid elw mawr oddi- wrth y plu. Y mae rliai o'r gwrywiaid yn bur beryglus. Dangoswyd un i ni, ydoedd yclxydig ddyddiau cyn liyny, wedi lladd dyn ag un ergyd a'i droed. Ie, creadur creulon yw yr estrys—hyd yn nod wrth ei rai bach, fol y dywed yr Hen Lyfr-" Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddo hi." A diau mai methiant fyddai anturiaoth perchenogion y fferm estrys hon pe y dibyn- ent yn hollol ar ofal yr estrys i ddeor a magu eu rhai bach.

PIGION.

ABERYSTWYTH.

DINAS MAWDDWY.

ABERANGELL.

I MACHYNLLETH.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.

CORRIS.

ATMLNGMTI 14 Wtazg. -:0:---

BWRDD YSGOL TALYLLYN.

Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS.

YR AMAETHWYR A'R GWEITHWYR.

PRIODAS EURAIDD NHAD A MAM.