ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. PRIFATHRAW :— T. F. ROBERTS, M.A. CYNHWYSA y cwrs o Addysg y parotoad angenrheidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain arn Ysgoloriaeth- au yn Rhydycha-in a C'ncrgrawnt, ac am as- tudiaeth feddygol yn y Priivsgolion hyn ac yn yr Ysgotland. 11 Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrewesau Trwyddedig, ac ar un pryd barotoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm a dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaeth- yddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynhelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored, ac eraill yn gyfynedig i Gymru. Am bob manylion, ymofyneraT. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd.
ANWIREDDAU TORIAID. Ami iawn y clywid ymgeiswyr Tor- iaidd yn yr etholiad diweddaf yn cyhoeddi oddiar lwyfanau mai y Wein- yddiaeth o'r blaen oedd yn gyfrifol am iselder masnach, ac os am adfywiad masnachol y dylid pleidleisio i'r Tori- aid. Yn mysg eraill cyhoeddodd Chamberlain hyn fwy nag unwaith. 'Does neb a wyr yn well nag ef nad oedd rhith o wirionedd yn y peth. Ond a chymeryd y Toriaid ar eu tir eu hunain, dengys y daflen ganlynol am haner can' mlynedd, mai pan fyddai y Rhyddfrydwyr mewn swydd yr oedd masnach yn fwyaf blodeuog Poblogaeth Y Blaid Bl. Milliynau. A^leidyddol. 1854 27'7 9 14 ° Rhyddfrydol 5 27-8 9 7 0 R 6 28-0 11 2 7 R 7 28-2 11 17 0 R 8 28-4 10 14 5 Toriaidd 9 28-6 11 14 2 R 1860 28-8 13 o 7 R 1 29*0 13 o 5 R 2 29-2 13 8 5 R 3 29-5 15 3 5 R 4 297 16 9 10 R 5 29'9 16 9 2 R 6 30*1 17 16 10 T 7 30-4 16 12 3 T 8 30-7 17 4 4 T 9 31*0 17 4 6 R 1870 3i'3 17 10 10 R 1 31*6 19 10 i. R 2 31*9 21 o 6 R 3 32'2 21 4 9 R 4 32*5 20 11 10 T 5 32-8 20 o 4 T 6 33*2 19 1 11 T 7 33 6 19 6 9 T 8 33-9 18 3 ? 9 34'3 l7 10 8 I 1880 346 20 3 o R 1 35'0 19 l7 5 R 2 35'3 20 18 10 R 3 35'6 20 13 2 R 4 36*0 19 4 6 R 5 36-3 17 16 9 R 6 36-3 17 0 10 R & T 7 36-5 178 T 8 36-8 18 12 2 T 9 37'2 19 19 10 T 1890 37'4 19 19 7 T 1 37'7 19 14 o T 2 38-1 18 15 6 T Ond sylwi yn fanwl, a chydmaru blyn- yddau y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr, fe welir fod adeg gweinyddiad Gladstone, '69-'73, yn werth 2p. 8s. ioc. ypenyn fwy na gweinyddiaeth y Toriaid yn '67—'68. Gwelir hefyd ei fod yn fwy na'r weinyddiaeth '74—'80 o 2s. 4tc" ac yn fwy o 4s. y pen na g'weinydd- iaeth Doriaidd '87—'92. Ein dadl ni yw nas gall yr un Wein- yddiaeth reoli masnach ddim mwy na rheoli llanw y nior, er fod egwyddor- ion Rhyddfrydig yn tueddu i hyny, ac y mae yn bryd i'r wlad gael gwybod mai ar honiadau anwireddus o'r fath uchod y marchogodd y Toriaid i awdurdod. Os yw y Rhyddfrydwyr yn bwriadu enill rywbryd eto, goreu po gyntaf i osod yr uchod a'i gyffelyb gerbron yr etholwyr. Dychwelwn at hyny ryw dro eto. GWLEIDYDDWR.
ADDYSG GANOLRADDOL MALDWYN. YSGOL SIROL DREFXEWYDD,- Dydd lau, rhanwyd gwobrwyon blynyddol perthynol i'r ysgol lion. Nifer yr ysgolheigion yw 150. Llywyddwyd gan Mr. Eichard Lloyd, ac yr oeddy Priiatliraw Roberts, iAf A., a AI,,r. A. C. Humphreys-Owen yn bresenol. Rhanwyd y gwobrwyon gan y Prifathraw Roberts; ac t, gorphen y gwaith, dywododd Mr. f yn Uawenhau yn y sefyllfa oadhaol yr oedd addysg ganolraddol wedi gjraedd yn Maldwyn. Un peth y dylid Ov yn fanwl yn ei gylcli oedd, fod drws yr jsgolion Inn yn agored i bob dosbarth, a poo aosbarth, yn cynwysy dosbarth gweithiol ar y bwrdd llywodraethol. Haerai llawer nad oedd yr ysgolion hyn o fawr ddefnydd i blant y dosbarth gweithiol, ond .yr oedd y trefniadau yr ysgolion hyn yn eang iawn, a manteisir drwyddynt, ond i Lywodraethwyr yr ysgolion elfenol, ddarparu yn llawn addysg yr ysgolion elfenol ar gyfer y rhai canolraddol. Ofnai rhai personau y byddai addysg yr ysgolion canolraddol iselu safon yr addysg a roddir yn y rhai elfenol. Ond drwy drefniant priodol, nis gall hyn gymeryd lie. Barnai y dylai plant aros yn yr ysgolion elfenol hyd nes pasio'r 6ed safon. Dymunai pe yn bosibl, weled pob plentyn yn myned i'r ysgolion canolraddol, ac yn aros yno hyd nesbyddent 15 neu 16 oed; ond nid ooddynt eto wedi llwyddo i gael hyn oddiamgylch. Ar hyn o bryd, yr oedd yr ysgolion nos yn fanteisiol i'r ieuenctvd a droant allan i'r byd. Cyfeiriodd ymhellach at yr anhaws- derau yr oedd athrawon yn dioddef danynt. Ystyriai y dylai pupil teachers gael gwell addysg. Gobeithiai y trefnid i'r rhai fycldant yn myned yn pupil teachers i gael treulio dwy flynedd mewn ysgol ganolraddol cyn ym- gymeryd a'u gwaith. Mae hyn eisoes wedi cael ei wneyd gan un o'r byrddau ysgol. Drwy y trefniad hwn gellir codi llawer o athrawon o gartrefi y dosbarth gweithiol.
PROFF. RHYS AR FYFYRWYR CYMREIG. Wrth ranu'r gwobrwyon i fyfyrwyr Coleg Llanymddyfri, dywedodd Proffeswr Rhys, penaeth Coleg yr Iesu, Rhydyehain, fod Coleg fyr Iesu mewn perthynas a'r hwn yr oedd y coleg hwnw, yn dal ei dir yn dda. Tuag at iddo barhau folly, a rhagori ar y gorphenol, dylai Llanymddyfri, yn gystal a sefydliadau eraill, anfon ychwaneg o ddynion galluog iddo. Nid oedd yr un coleg yn gweithio yn galetach na Choleg yr Iesu, ond yr oedd y OYlllry dan anfantais o fod llawer o amser wedi ei golli, ac o ddiffyg iiioddion at gwrs y Brif Athrofa. Yr oedd awdur- dodau Coleg yr lesu yn benderfyndl i'w gadw at wasanaeth Cymru. Ni ofynent beth oedd credo na phlaid neb, ond dis- gwyliant ganddynt wneyd eu dyledswydd trwy waith caled. Ni byddai ewrs vn y Brif Athrofa yn gymaint o atalfa ag y tybid. Aeth ef i'r Brif Athrofa gyda 200p.—enillion pum' mlynedd. Treuliodd amser da yn Pfrainc a Germany, a phan gymerodd ei radd, yr oedd ganddo 120p. yn weddill ar 01 talu ei ddyledion.
DINAS MAWDDWY. TRIP I ABERYSTWYTH,-Dydd Llun, y 29ain eynfisol, aeth Ysgolion Sul yr Annibynwyr y Dinas. ^Llanymawddwy, Cov/arch, a llawer eraill i'r lie uchod am drift. Yr oeddy tywydd yn ffafriol a dymunol. Mawr oedd y siarad a'r canmol ar ol dyfod adrcf. BWRDD YSGOL.—Gorphenaf 3oain. Pres- enol, Syr E. Buckley, Plas,; Parch. Thomas Thomas, Mallwyd; Mri. M. Evans, Llythyr- dy; E. H. Davies, Brynmynach Thomas Davies (Tegwyn), a'r Parch. William Wil- liams, clerc. Darllenwyd reports yr ysgolion a chafwyd fod ysgol Aberangell, fel un Min- llyn wedi pasio eleni yn y radd flaenaf ac ysgol y Dinas wedi cael y swm uwchaf oil o grant. Gosodir y ddwy ysgol yn awr ar dir na bydd eisiau cynal arholiad arnynt y flwyddyn nesaf. Ac yr ydym yn llongyfarch staff y ddwy ysgol ar eu llwyddiant. Ocdwyd codi yn nghyfiog yr ysgolfeistri hyd y cyfarfod nesaf. Oedwyd myned ymlaen gyda'r adeilad newydd hefyd hyd y cyfarfod nesaf. Da genym hysbysu fod dau o ysgol Aberangell wedi pasio yn llwydd- ianus i Y sgol Ganolraddol Towyn. Mr. D. Jones, Maesygamdda, a Miss M. A. Davies, Brynmynach. CVMANFA YSGOLION YR ANNIBYNWYR.— Gorphenaf 7fed, cynhaliodd Annibynwyr y Dinas a'r cylch eu cymanfa flynyddol. Daeth cynulliad da i'r wyl, ac yr oedd yn amIwg- fod caredigion yr Y sgol Sul yn y cylch wedi bod yn ymdrechgar a nodedig o weithgar dros ei haddysg a'i hegwyddorion, Cynhaliwyd cyn- hadledd am haner awr wedi deg 0 dan lyw- yddiaeth Mr. J. Jones, Meirionfa, er ymdrin a gwaith yr ysgolion; ac am ddau holwyd y plant yn hanes lesu Grist gan y Mri. E. Evan*, Post Office, a H. H. Jones, Ivy Cottage. Am chwech, holwyd yr holl ysgolion oddiar yr ail benod o'r Actau gan y Mri. L. Jones, Bwlch, a M. Evans, Post Office. Da genym weled golwg mor lewyrchus ar undeb yr ysgolion. Eled rhagddo.
MACHYNLLETH. CYMANFA DDIRWESTOL MALDWYN.—Bwr- iedir cynal y Gymanfa eleni yn y dref hon, Mercher a lau olaf yn Medi. Er's mis bellach, cynhelir cyfarfod dirwestol bob nos Sabbath yn un o'r capelau, ar ol yr odfaon fel rhagbarotoad iddi. Ceir cynulliadau da, a chyfarfodydd llewyrchus. Nos Sabbath, Gorphenaf 28, cafwyd anerchiadau gan Mr. Owen, Bethel, Mon, Mr. W. Davies, Maglona Terrace, a'r Parch. Josiah Jones. Nos Sabbath, Awst 4, bu cyfarfod yn yr awyr agored 0 flaen y Twr, y siaradwyr oeddynt, y Parch. Hugh Roberts, Rhydymain, a Mr. George, Criccieth, brawd Mr. Lloyd George, A.S. Arweinydd y gwahanol gyfarfodydd ydyw, Mr. D. Edward Davies, Albert House. Yn anerchiad amserol Mr. George, rhoddid pwys neillduol ar fod mwy o waith dirwestol yn cael ei gyflawni drwy ein gwlad. Yr oedd cyfeillion yr achos wedi eu troi o'r senedd dy i wneyd lie i blaid y cwrw, dylasai hyny beri ychwaneg o ddiwydrwydd gan gyfeillion sobrwydd a rhinwedd ymhob man. YR YSGOL GANOLRADDOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r llywodraethwyr Ileol dydd Mercher. Y Parch Josiah Jones yn y gadair. Yr oedd yn bresenol Dr. A. 0. Davies, Mri. Richard Rees, C.C., H. L. Smith, C.C., Edw. Rees, U.H., John Thomas, Edward Hughes, a W. M. Jones, gyda Mr. John Rowlands, clerc. Hysbyswyd fod y swm 0 75p. 13s. yn ddyledus i'r trysorydd am y flwyddyn 1893-4 0'1 ochr arall, yr oedd Hog yr ariandy ar 76op. (Cronfa Adeiladu) i'w defnyddio at gostau yr adeilad presenol. Dywedodd Mr. Edward Rees fod un o'r Dirprwywyr wedi ym- weled a'r dref, a chanmolai safle yr ysgol newydd yn fawr, a bod y llanerch chwareu yn bur fanteisiol. Yr unig ddiffyg yn ei farn ef oedd prinder dwfr. Darllenodd Mr. Meyler yr ysgolfeistr, ei adroddiad am y tymor yn diweddu Awst 1 leg. Nifer yr ysgolheigion yn Mai oedd 20, y maent yn awr yn 43. Gorphenaf iofed, archwiliwyd yr ysgol gan Mr. Lefroy, un o'r Dirprwywyr Elusenol, a chredent ei fod wedl ei foddloni yn ansawdd a threfniadau yr ysgol. Arholwyd yr ysgol gan y Prifathraw Roberts, U.C.W., Aberystwyth, o'r 21ain i'r 24aino Orphenaf, ac yn ddilynol gan Proff. Anwyl. Ymddengys yr adroddiad eto. Dy- z:,Y wedodd Mr. Meyler fod angen mawr am ddarn o dir i'r plant chwareu ynddo, ac hefyd, anogai ar i'r Llywodraethwyr wneyd rhyw ddar- pariaeth at hyn erbyn y tymor nesaf, yr hwn agorir Medi 22ain. Penderfynwyd cynyg naw ysgoloriaeth o 5p. yr un, a bod burseries i'w rhoddi i ysgolheigion i dalu costau trafaelio a lletya. BWRDD GWARCHEIDWAID.— Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd dydd Mercher, Mr. John Rees yn y gadair. Adroddiad Meistr y Tlotty a ddywedai fod Mr. Bircham, yr arolygydd, wedi ymweled ar ty, Gorphenaf 24ain, a dy- munai ar i'r plant gael jam yn lie ymenyn. Hy sbysodd y Meistr fod cryn gynydd yn nifer tramps yn ystod y pythefnos diweddaf. Go- hiriwyd ystyriaeth o'r mater hyd y cyfarfod nesaf. Mr. Bircham yn ei adroddiad a awgrym- ai fod rhestr o fwydydd y Ty i gael eu hargraffu a'u gosod i fyny ar y mur. Yr oedd yr ad- gyweiriadau yn ystafelloedd y cleifion yn welliant mawr, a dymunol oedd gwneyd ychwaneg o'r fath. Archwiliwyd biliau am 42op. 9s. 6c. gan y Pwyllgor Arianol, a chy- meradwywyd eu talu. Cyflvvynwyd i sylw benderfyniad a basiwyd gan FwrddGwarcheid- waid Caersws, yr hwn a gynwysai ddatganiad fod pedwar tlotty yn y sir yn afrad ac afraid, ac yn anog y Byrddau i ddeisebu Bwrdd Llywodr- aethiad Lleol am iddynt wneyd ymchwiliad i'r mater Gohirwyd ystyriaeth o'r cais hyd gyfarfod dilynol. CYNGOR DOSRARTH GWLEDIG.—Cadeirydd, Mr. Edward Hughes, U.H. Daeth cwestiwn y Bont dros y Ddyfi ger Llanwrin, i sylw, a phenderfynwyd anfon at y Cyngor Sirol i ymofyn am led y ifordd, &c. Darllenwyd a chymeradwywyd adroddiad yr arolygwr. Am- cangyfrif costau y ffyrdd plwyfol am y mis yn diweddu Awst 24am, oedd 46p. 2s. 6c.,—i'w rhanu fel y canlyn, Penegoes, 5p. 5s.; Llan- wrin, 4p. 14s Cemmes, 6p. 10s. 6c; Llan- brynmair, il;p. gs.; Darowen, 6p. 12s; Pennal, 2p. 5s.; a Sgubor-y-coed, 2p. 2s.
LLANBRYNMAIR. CAPEL Y BONT.—Y mae yr adgyweiriadau, &:c., ar gapel y Methodistiaid yn y He hwn wedi ei csod i'r adeiladydd, Mr. E. H. Wil- liams, am y swm o 826p. MARWOLAETH BRODOR. Cyfarfyddodd Mrs. Hughes, priod Mr. John G. Hughes. Congress Street, Chicago, a marwolaeth ad- fydus. Trwy i fatsen syrthio i gwpan o olew gasaline, cymerodd ei dillad dan, a chafodd ei Uosgi gymaiut fel y bu farw yn fuan ar ol ei symud i'r ysbytty. Terfynwyd ei bywyd yn yr oedran cynharol 0 30 mlwydd. Yr oedd yn enedigol o Lanbrynmair, ac y mae Mr. Hughes yn enedigol o Lanfyllin.
GLASBWLL. Cynhaliwyd cyfarfodydd perthynol i Undeb Ysgolion Sabbothol Annibynwyr Machynlleth a'r cylch yn y lie uchod, am 2 a 6 o'r gloch, Sabbath, Awst 4ydd. Cafwyd cynulliadau da, cyfarfodydd bywiog ac adeiladol, ac ystyried fod amgylchiadau wedi lluddias amryw i fod yn bresenol. Cafwyd engraifft arbenig o'r hyn fedr addysg y fam ar yr aelwyd gartref wneyd er cynorthwyo yr Ysgol Sul, a chymhellion taer i ychwaneg o'r cyfryw. Hefyd cafwyd amlygiadau fod yr Undeb yn creu ym- drech a gweithgarweh yn rhai o'r ysgolion. Diameu fod angen mwy o ffyddlondeb, sel, a chydweithrediad o blaid yv Ysgol Sabbothol yn y blynyddoedd hyn. Hyderwn fod y tymor presenol yn dechreu cyfnod o weithgarweh egniol yn y cylch hwn o blaid y sefydliad sydd wedi profi yn fendith werthfawr i'n gwlad. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Soar.
ABERYSTWYTH. Y mae yr ymwelwyr a'r dref hon yn ystod y dyddiau hyn yn anarferol o luosog, y tai yn llawnion, a llawer yn troi i ffwrdd o eisiau lletty. Gan fod y Gorphoriaeth yn gwneud cymaint i hyspysu manteision y lie, fel ag i ddenu deithriaid yma, oni ddylent hefyd wneyd rhywbeth mwy n?g y maent wedi ei wneyd mewn darparu tai ar gyfer y cyfryw ? YSGOLDAI Y B"rRDD.-Dydd lau rhanwyd gwobrwyon a thystysgrifau am bresenoldeb yn ystod y flwyddyn yn ysgoldy y dref. I'r plant a fynychodd 400 o weithiau rhoddvvyd gwob- rwyon, ac i'r rhai fynychodd 350, dystysgrifau. Yr oedd aelodau y Bwrdd yn bresennol. Cymerwyd y gadair gan Henadur Peter Jones, yr hwn a ranodd y gwobrwyon a'r tystysgrifau i'r bechgyn Prebendary Williams i'r genethod, a Mrs Griffiths i'r babanod. Yr oedd cyfanrif y gwobrwyon yn 122, a'r tystysgrifau yn 161. Yna torodd yr ysgol i fynu am y gwyliau. COLEG Y BEDYDDWYR. Cynhaliwyd gyfarfodydd blynyddol y sefydliad hwn yr zil a'r 3ydd cyfisol. Traddododd y Parch T. John, Ffynonhenry, y bregeth flynyddol i gynulleidfa luosog, yn nghapel Bethel, dydd ,,y lau, a chyfarfyddodd y pwyllgor yn yr hwyr. Boreu dydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn y capel Sacsneg, pryd y traddodwyd anerchiad gan y Parch D. B. Edwards, "Aber- honddu, yr hwn a lywyddodd. Wedy'n cyn- halwyd pwyllgor yn nghapel Bethel, i drafod achos y Coleg, ac yn ddilynol gyfarfod o'r aelodau am ddau o'r gloch. Yn yr hwyr pregethodd y Parch J. M. G. Owen, Birming- ham, yn Saesneg, yn nghapel Alfred-place. Swyddogion y Coleg ydynt:—Athrawon, Parchn. J. A. Morris a T. Williams; trysoryddion, Mri James Rowlands a John Morgan ysgrifenyddion, Mri James Jenkins, Benjamin Thomas, and D. F. Ellis.
CORRIS. Y mae rhaglen Cymanfa Ysgolion a Chymanfa Ganu y Methodistiaid am y flwyddyn ncsaf wedi ei hanfon i'r wasg. Ynglyn a hyn hefyd cyhoeddir anthem ar y diweddar Mr H. Lloyd Jones, B.S., gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac. Caernarfon. Un o'r dyddiau diweddaf, daeth A I adroddiad Ysgol y Bwrdd, Corris, i law. Wedi i'r adroddiad gael sylw y Bwrdd Ysgol yr wythnos nesaf, gallwn ei gyhoeddi. Yr ydym yn deall fod Mr. J. R. Dix, Bryn- awel, yn cynyg am y swydd o Reolwr Cyffre- dinol rheilffyrdd y Cambrian Mae wedi bod yn dal yr un swydd ynglyn a reilffordo Corris er pan ddechreuwyd ei gweithio gydag agerdd, ac y mae wedi hclaethu llawer ar y drafnidiacth ol a blaen yn y dosbarth hwn, yn arbenig mewn cludo teithwyr. Mae cant am bob un yn ymweled yn awr a'r lie hwn,—Llyn Talyllyn a Chadair ldris--nag a fyddai gynt. Rhaid oedd, nid yn unig wrth reilffordc1 briodol, ond hefyd wrth lawer o fedr a dyfal- barhad yn y rheolwr i agor tir newydd mewn cyfeiriad o'r fath, a chredwn fod Mr. Dix yn hyn wedi gwneyd yn rhagorol.. Byddai yn dda genym glywed fod un' sydd bellach yn hen ardalwr, yn cael dyrchafiad, fel y mae llawer o'r ardal hon cisoes wedi eu codi i sefyllfaocdd o gryn ddylanwad mewn amrywiol gylchoedd bywyd yn ngwahanol ranau o'n gwlad. Dymunwn longyfatch Seindorf Bres Corris am eu pllfck yn myned i gystadlu i Eisteddfod Aberystwyth, a'u llwyddiant yno, dydd Mawrth diweddaf. Ewch ymlaen trwy lafur a dyfal- barhad, coronir eich ymdrechion a llwyddiant mwy. Y mae rhagolygon da am lwyddiant yr arddangosfa, a gynclir yma dydd Sadwrn nesaf, yr hon fydd y bumed a gynelir o'r declueu. Mae nifer yr entries yn bur liosog.
NODION GWEITHFAOL. Safon cyflog y dojbartli rchaf yn chwarel Aberllefenai yw 22s. yr wytl nos-hyny yw y chwarelwyr. Sa'oii cyllog yr un dosbarth yn chwarel I Braiclgoe11, Corris, yw 25s. yr wyttir os. Mewn atteblad i gais a wnaed ddwywa'th atynt hysbyso Id goruchwylwyr Aberllefenni, mai yr oil a alient wneyd ydoed cocii safon i jermun o 19s. i 20s., ar liifwyr yr un modd. Dymunid rhoddi ar ddeall i'r gweithwyr fod hyn yn derfynol. Safon cyflog jermun Braichgoch yw 22s., 2is., a 20s. Anghen mawr chwarelwyr Aberllefenni ydyw arweinydd doet, gwr o farn, a doethineb, hanvain. Dylai iyd fod yn ddyn gwrol, di-droi yn ol, a ga"uog i ddadlu achos y dynion a ymddiriedant eu hachosion iddynt. Y mae y meistri yn troi p b carreg er cael rhesymau yn erbyn codiad i veithwyr, ac ofnwn mai gwrandaw arnynt yn gwneyd hyn yn unig y mae pwyllgor y gweithwyr pan ymgyfarfyddant yn sancteiddiolaf y gwaith. Erioed n i chlywsom am godiad feI ydiweddaf Yn ol hwn gall hyn ddigwydd :—Cymer miner ei fargen at y pris o 19s. yr wythnos. Cyn diwedd y mis rhaid iddo wrth ddyn neu lane i'w helpu, neu yn lie hyny ei bartner. Yn ol y codiad diweddaf bydd yn rhaid iddo dalu i hwn yn ol 20s. yr wythnos, is. yn yr wythnos yn fwy nag yw safon ei gyflog ef ei hun Sibrydir fod chwarel i'w chychwyn ar fyrder yn nhir Ffynonbadarn, Cwm yr Alltgoed. Cof genym i'r diweddar Mr Henry Owen, Ceiswyn, fod yn gwneyd arbrawfion ar y graig, ac yn un o'r lleoedd hyny meddir, y bwnedir cynnyg ddifrif am chwarel. Nid oes llecyn mwy cyfoethog am lechfeini yn Nghymru na'r ardal wasgarog hon o Dowyn i Dinas Mawddwy mewn hyd, ac o Ddolgellau i Llanwrin mewn lied. Gymaint yn ychwaneg o ddynion allai yr ardaloedd hyn gynnwys pe ceid dynion ac ychydig o risk yn ei gwaed. Fel esiampl, edrycher ar Rhiwgwreiddyn. Rhydd y gloddfa hon waith i 30 o ddynion a bechgyn, mwy neu lai. Yn sicr, nid Rhiwgwreiddyn yw y chwarel oreu na'r un ag y gellir eu gyru hawsaf o'r hall chwareli segur sydd yn yr ardal, ac eto, y mae pob He i gredu fod y math hyn o chwareli yn talu yn dda. Beth pe bawn yn enwi rhai lleoedd fuasai yn debyg o dalu am ei gyru i ddynion cyffreain :— Tynyberth, Tynyceunant, hefyd y faen fawr fel ei gelwir ar dir Cwmtiliain, Corris uchaf, yn nghymydogaeth Brynhyfryd, Corris, y tebyg yw fod yna faen dda yn gorwedd o dan yr ithfaen trwehus caled. Pe bai arnom eisiau cerrig i'w enamlo yn unig pa le y ceid yn well na hen gloddfa goch "I Fronfelen. Dywedir mai yno yr oedd y graig iachaf a rhywiocaf pan ei gweithid o holl chwarelau y cwm. Y mae chwarel y f)dolgoed hefyd, yn aros dydd ei phcthau mawr a gellid ei gweithio yn rhad gan fod yno gyfleusdra dwfr. Y mae nant Cwmcelli yn arddangos Ilech- faen o'r un ansawdd ag a geir yn Llwyngwern a Rhiwgwreiddyn, Stalls rheolaidd a threfnus gyda chefnau a bonau gwastad. Ceir peth cyffelyb hefyd yn nant Esgaireira, er nad mor olygus a bras. Ni phrofwyd yn hollol mo chwarel y Waen, ond mae ei holltyn ddiarebol. Dyma ddigon o hints i ddarllenwyr y Negesydd. Yr ydym yn mawr hyderu y bydd chwarelwyr yn ddigon llygadagored i fanteisio ar y cyfleus- derau hyn, fel y diogelir yr oes a ddel mewn perthynas i chwareli rhag peth y gellir ei alw yn deyrnasiad gormes. Y mae cyflwr amaethyddiaeth yn ein tyb ni yn anfeddyginiaethol, oddieithr i ryw anadi ddyfod o gyfeiriadau gwahanol i Landlord- iaeth a thir ddeiliaid yn yr ardal hon. AUDAX.
MARWOLAETH. GRRFFLTHS—Ar y 6ed cyfisol, Mr Evan Griffiths, Blue Cottages, Aberllefenni (Cae- cenau gynt), yn 64 mlwydd oed. Cafodd nychdod am hir amser, yr hwn a ddioddefodd yn dawel. Yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid. Collodd ei briod er's llawer o llynyddau Gadawodd luaws o blant ac wyrion i alaru ar eu ol. Claddwyd ef y dvdd lau canlynol yn mynwent Rehoboth, Corris. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y gweinidog, y Parch. J. J. Evans, ac eraill.
LLYFRAU am Bris Gostyngol. -:0:- Am Bedwar Swllt a Chwe' Cheiniog. Geiriadur Saesneg a Chymraeg, R. J. Prys. 7s. Mynegair Y sgrythyrol, Parch. Peter Wi • lianis. 6s. 6c. Banau Duwinyddiaeth Hodge. 6s. Gemau Duwinyddol, Parch. R. Jones, LlaL- llvfni. 6s. Am Haner Coron. Y Weinidogaetl-i, Dr. J. Hughes. 4s. Duwinyddiaeth Naturiol, Dr. Paley. 3, 6c. Edwards ar Ryddid yr Ewyllys. 3s. 6c. Edwards ar y Pechod Gwreiddiol. 3s. 6c. Y Pregothwr a'r Gwrandawr, Parch. R. Wil- liams. 3s. 6c. Ehyfeddodau Natur a Chelfyddyd, Hughes. 3s. 6c. Cydymaith yr Ysgrythyr, Parch. J. Hughes. 3s. 6c. Yr Eglwys 0 Ddifrif, Parch. J. A. James. 3s. 6c. Gemau Duwinyddol Americanaidd, T. Gee. 3s. 6c. Cofiant a Gweithiau Ie-ti-in Gwynedd. 3s. 6c. Cyfatebiaeth Butler. 3s. 6c. Gramniadeg Cymraeg, J. Mendus Jonc a 3s. 6c. Dr. Owen ar yr Ysbryd Glan. 3s. 6e. Oriau gyda'r lesu, Parch. 0. Evans. 3s. 6e, Arweinydd y Gwr leuauc, Parch. J. A. James. 3s. 6c. Tragwyddol Orphwysfa'r Saint, Baxter. 3s. 6c Ar werth gan MORRIS THOMAS, BRIDGE STREET, COREIS
BWRDD PYSGOTA MEIRION. Cynhaliwyd cyfarfod gohiriedig o'r Bwrdd hwn Corphenaf 31. Cynygiwyd yn gadeirydd am y flwyddyn Mr. Osmond Williams, ond gwrthododd gymeryd ei ethol. Cynygiwyd a chefnogwyd Mr. W R. M. Wynne yn gadeir- ydd, a Dr. Robert Roberts yn is-gadeirydd, y rhai gawsant eu hethol.—Ystyriwyd adroddiad y prif geidwad. Gyda golwg ar wneyd lie dan bont Llanelltyd i'r pysgod esgyn, barnwyd na byddai hyny o nemawr fudd oherwydd yr ysbwriel a gludir ar hyd yr afon o'r gwaith aur. Bu gwneuthur gwelliant cyffelyb ar yr afon ger pont Abergwidol dan sylw droion o'r blaen, a chrybwyllwyd ef eto; ond yn ngwyneb sefyllfa arianol isel y Bwrdd, pasiwyd i'r mater gael ei roddi heibio. Yn ol yr amcangyfrif yr oedd y cyllid yn dangos diffyg o 34p. 7s. i ic. Am yr un rheswm pasiwyd i roddi rhybudd i derfynu gwasanaeth y ceidwad L. Thomas. Pasiwyd i'r prif geidwad fesur eilwaith y rhwydi yn y Ddyfi gafwyd yn afreolaidd. Daeth pysgota brithylliaid heb drwydded dan sylw fel parhad o'r cyfarfod diweddaf. PIeidiai Mr. Wynne, Mr. Bonsall, a'r ceidwad o blaid rhwystro pysgota brithylliaid ar ol y iaf o Mehefin heb drwydded gleisiaid. Ond o'r ochr arallgwrth- dystiai Mr. Osmond Williams yn erbyn y fath gynygiad fel un 0 nodwedd gaethiwus, ac na weithiai yn ymarferol. Gofynai pa beth a wnai y dosbarth gweithiol druain pe pasia y Bwrdd y fath gynygiad gwrthweithiol ? Ar hyn gadawyd y mater yn Honydd, ac yn fuan ter- fynwyd y cyfarfod.
BERRIEW. Tahvyd ardrethystad Mr. Humphreys-Owen, A.S., Glansevern, ar y 26ain cynfisol. Cafodd yr amaethwyr yr hyfrydwch o dderbyn 15 y cant yn 01 yn eu rhenti, gyda 4s. i bob un yn arian ciniaw.