Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

ANWIREDDAU TORIAID.

ADDYSG GANOLRADDOL . MALDWYN.

PROFF. RHYS AR FYFYRWYR CYMREIG.

DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

LLANBRYNMAIR.

GLASBWLL.

ABERYSTWYTH.

CORRIS.

News
Cite
Share

CORRIS. Y mae rhaglen Cymanfa Ysgolion a Chymanfa Ganu y Methodistiaid am y flwyddyn ncsaf wedi ei hanfon i'r wasg. Ynglyn a hyn hefyd cyhoeddir anthem ar y diweddar Mr H. Lloyd Jones, B.S., gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac. Caernarfon. Un o'r dyddiau diweddaf, daeth A I adroddiad Ysgol y Bwrdd, Corris, i law. Wedi i'r adroddiad gael sylw y Bwrdd Ysgol yr wythnos nesaf, gallwn ei gyhoeddi. Yr ydym yn deall fod Mr. J. R. Dix, Bryn- awel, yn cynyg am y swydd o Reolwr Cyffre- dinol rheilffyrdd y Cambrian Mae wedi bod yn dal yr un swydd ynglyn a reilffordo Corris er pan ddechreuwyd ei gweithio gydag agerdd, ac y mae wedi hclaethu llawer ar y drafnidiacth ol a blaen yn y dosbarth hwn, yn arbenig mewn cludo teithwyr. Mae cant am bob un yn ymweled yn awr a'r lie hwn,—Llyn Talyllyn a Chadair ldris--nag a fyddai gynt. Rhaid oedd, nid yn unig wrth reilffordc1 briodol, ond hefyd wrth lawer o fedr a dyfal- barhad yn y rheolwr i agor tir newydd mewn cyfeiriad o'r fath, a chredwn fod Mr. Dix yn hyn wedi gwneyd yn rhagorol.. Byddai yn dda genym glywed fod un' sydd bellach yn hen ardalwr, yn cael dyrchafiad, fel y mae llawer o'r ardal hon cisoes wedi eu codi i sefyllfaocdd o gryn ddylanwad mewn amrywiol gylchoedd bywyd yn ngwahanol ranau o'n gwlad. Dymunwn longyfatch Seindorf Bres Corris am eu pllfck yn myned i gystadlu i Eisteddfod Aberystwyth, a'u llwyddiant yno, dydd Mawrth diweddaf. Ewch ymlaen trwy lafur a dyfal- barhad, coronir eich ymdrechion a llwyddiant mwy. Y mae rhagolygon da am lwyddiant yr arddangosfa, a gynclir yma dydd Sadwrn nesaf, yr hon fydd y bumed a gynelir o'r declueu. Mae nifer yr entries yn bur liosog.

NODION GWEITHFAOL.

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

BERRIEW.