Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Hdgofiort ctm

O'R FFAU

News
Cite
Share

O'R FFAU GAN LLEW. Y mae y Times o'r farn y dylid ail ddewis MrJGully yn Lleferydd Ty y Cyffredin. Mawr ganmolir Dr. Waller, llywydd newydd CynhadIecld y Wesleyaid, fel areithiwr ardderchog mewn pulpud ac ar y llwyfan. Y mae eglwys y Methodistiaid yn Cil- yewm wedi rhoddi galwad daer a gwresog i'r Parch. D. Picton Evans, Cwmbach, i ddyfod atynt yn fugail. Y mae dyn bob amser yn falch o'i blant sydd yn fawr o'u hoedran, oddigerth pan y bj^dd yn ewyllysio iddynt deithio am haner y pris. Nid ydym heb ofni mai y gorchwyl gwaethaf a wneir gan y senedd newydd fydd gwaddoli ysgolion yr eglwys a'r Pabyddion. Gorphenaf 17eg a'r 18fed, cynhaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr. T. D. Thomas, o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog eglwysi Nebo a Llailon Ceredigion. Un o'r pethau diweddaf wnaeth Arglwydd Rosebery cyn ymddiswyddo ydoedd, danfon lOOp., yn rhodd i'r Archdderwydcl Hwfa Mon, fel cydnabyddiaeth oddiwrth y Llyw- odraeth am wasanaeth y Prif-fardd i far- ddoniaeth Gymraeg. Fel y canlyn y canodd y bardd byd enwog v Gwalchmaiy dyddo'r blaen i wraig rinweddol o Landudno, yr hon a hunodd yn yr lesu, foreu Sul, Mehefin 30tin, 1895. Chwaer anwyl i'w choroni—esgynodd I lys can goleuni; Duw unodd i'w daioni Waith y nef, a'n Sabbath ni." Beth wna y Gwyddelod? Cynghorir hwy i gadw draw yn gwbl o'r senedd newydd. Un peth sydd yn sicr—nis gall mwyafrif o 152 gladdu y cwestiwn o Ymreolaeth o'r golwg. Rhaid penderfynu y cwestiwn pwysig hwn, hwja- neu hwyrach, a hyny hefyd ar linellau y Blaid Wyddelig. Dechreuodd Pedrog Irwylio y cefnfor dydd Iau diweddaf, tuag America. Y mae Pedrog yn myned i'r Unol Dalaethau ar daith bregethwrol a darlithiol. Deallwn mai tua diwedd mis Hydref y bwriada ddychwelyd. Ehwydd hynt iddo yw dymun- iad ei holl gydnabod, oblegid ni chroesodd neb y weilgi mawr mwy siriol ac unplyg nag efe. Nid yw y blaid Eyddfrydol yn ddigalon o gwbl yn ngwyneb y sefyllfa bresenol. Yn 1880 trowyd mwyafrif Toriaid o 102 yn y senedd flaenorol yn lleiafrif o241. Dech- reuir eisoes osod y Ty mewn trefn mewn ami i fan ar gyfer yr ymgyrch nesaf. Gofalu am yr ethol-restr yw y ddyledswydd agos yn bresenol. Y mae y Toriaid wedi bod yn fyw i bwysigrwydd yr ethol-restr ar hyd y blynyddoedd diweddaf, tra yr oedd y blaid Ryddfrydol wrthi yn cysgu. Ni a hyderwn y gwna trethdalwyr Cyfoeth y Brenin a Chynull Mawr ethol dynion cymwys i eistedd ar y Bwrdd Ysgol am y tair blynedd nesaf. Y mae yn bwysig iddynt yn y cyfwng ag maent ynddo a'r hyn o bryd, ac mae eisiau i'r trethdalwyr hyn fod ar eu gocheliad rhag credu pob ysbryd, oblegid nid gwir yr oil ddywedir gan ddynion yn y dyddiau hyn. Cafwyd prawf o hyny yn yr etholiad cyffredinol diweddaf. Ni fuasem fel Ehyddfrydwyr wedi colli chwech sedd, nac yn wir un sedd, onibai am y ddiod. Hon fu ein dinystr yn yr etholiad sydd ar gael ei rhestru yn mysg pethau a f u. Dyma ddadl newydd dros ddeddfwriaeth dir- westol leol. Yr oedd yr olwg yn rhai o'n trefi dydd yr etholiad yn waradwydd i ddyn- olaeth. Llifai y ddiod yn rhad, ar llif hwnw yn ddiddadl yrodd elynion sobrwydd a rhyddid i fewn. Y mae yn bryd i ni fel enwadau crefyddol ddeffro i'n cyfrifoldeb a chodi ein lief hyd eithaf ein gallu yn erbyn y fath ymddygiad annheilwng. Y mae y Borth ac Aberystwyth yn orlawn o ymwelwyr. Yr oedd llawer nos Sadwrn diweddaf, oherwydd dylifiad pobloedd i'r lleoedd hyn yn methu cael gorweddle dros nos. Ni bu yn y Borth well class o ymwel- wyr er's amryw flynyddoedd. Y maent o saflooodd uchel, ac yn dwyn arwyddion eu bod yn troi mewn cylchoedd pwysig. Gwelsom yn eu plith amryw o weinidogion a chlerigwyr enwog a thra adnabyddus i Gymru, a difyr oedd eu gweled yn mwynhau eu hunain mor rhagorol ar y traeth digymar sydd ar dueddau Cors Fachno. Y mae y ffordd y cwynid o'i herwydd yn y NegesycU ychydig amser yn ol, yn awr wedi ei gwneyd i fyny yn dda, fol y mae yn hawdd bellach ei throedio gyda rliwyddineb. Da y gwnaeth yr awdurdodau edrych allan ar fod y peth yn cael ei wneyd ganddynt, onide buasai yn sicr o filwrio yn erbyn lies cyffredinol y preswylwyr. Un peth arall ychwanegai at anrhydedd y pentrof fuasai cadw y gwartheg fwy yn y meusydd a llai ar yr heol, fel y byddo y nWs«;w'gynyrcliir ganddynt yn llai. Cydymdeimlir yn fawr a pherthynasau y gwr ieuanc foddodd yn Llanddewi, Aberarth, ger Aberaeron, yr wythnos ddiweddaf. Curad oedd efe yn Aberaman, Aberdar, ac yn fab i Cadben David Jenlvins, "Alun," a brawd i'r Parch. T. Jenkins (M.C.), Taliesin. Yr oedd. yr ymadawedig wedi dod gartref rhyw fis yn ol er adnewyddu ychydig ar ei iechyd cyn ymgymeryd a'i ddyledswyddau fel curadSt. John's, Castellneld. Ymldengys nad oedd efe yn gryf ei iechyd er's rhai misoedd, ac ar amserau yn dioddef oddiwrth iselder ysbryd. Ond boreu dydd Sadwrn, Gorphenaf 27ain, gosododd derfyn ar ei einioes dan amgjdchiadau hynoi iawn, aeth allan o'r ty yn foreu y dydd ucliod, a thaflodd ei hun i'r mor. Ond gan fod ei dad yn canlyn o hir bell ar ei 01, llwyddodd i'w gael allan ymhen ychydig. Ond yr oedd erbyn hyn yn anymwybodol, ac yn rhy. bell i'w adferyd if yr oclir hon, folly ehedodd ei ysbryd ymaith, ac efe yn dair ar ddeg ar hugaiu oed, yn wr ieuanc addawol, ac yn un a fawr berchid gan ei holl gydnabod. Borth, 5: 8: 95.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.…