Hide Articles List

3 articles on this Page

Hdgofiort ctm

News
Cite
Share

Hdgofiort ctm GAN Y PARCH. EVAN JONES, Caernarfon. IX. A'i gymeryd gyda'i gilydd drwodd a thro, yr hynotaf, ac mewn rhyw ystyriaethau y mwyaf, o holl drigolion Corris a'r amgylch- oedd ydoedd Wmphre Dafydd. Yr oedd yn hynafgwr pan y daethum i i'w adnabod gyntaf; ae nid wyf yn hollol sicr, ar ol amryw flynyddoodd o gydnabyddiaeth agos, fy mod wedi ei adnabod yn drwyadl er hyny. Nid oedd yn ddyn mawr, prin y mae yn angenrheidiol dweyd hyny. Ond yr oedd yn frenin yr holl ardaloedd hyn, a hyny dros flynyddoedd lawer, bob unrhyw gyd- ymgeisydd. Yr oedd ynddo gyfuniad rhyfedd. Yr oedd vstwythder rhyfedd yn ei gorff. Pan ddaetbum i i'w adnabocl, yr oedd i raddau wedi gwargrymu, a'i aelodau wedi dyfod yn gymydogion agosach nag erioed i'w gilydd. Ond yr oedd myn'd ynddo er hyny. Nid oedd neb a'i curai ar gerdded. Ac os byddai eisiau rhedeg, nid oedd neb a'i curai yn hyny ychwaith. Fel ciciwr pel droed ar Fawnog Ystradgwyn,' yr oedd heb ei fath a phan ddeuai yn adeg hela llwynog, Wmphre Dafydd, o bawb, fyddai'r cyntaf gyda'r own. Efe oedd per- chenog Abercorris, a gallasai ei safle yn y byd, ynghyd a bywiogrwydd chwareus ei natur, a'i allu i ymdaflu gorff ac enaid i ba anturiaeth bynag a gymerai mewn 11aw, ei wneuthur yn tin o elfenau peryglaf ei ardal a'i oes. Ond cafodd Wmphro Dafydd grefydd. Er holl fywiogrwydd ei natur, a'i duedd at chwareuyddiaethau, dywedir ei fod dan argraffiadau crefyddol yn foreu. Ond dan bregeth i John Elias yn Machynlleth yr argyhoeddwyd ef yn llwyr. 0 hyn allan y niae yn ddyn newydd. Ni chollodd yr un iot o'i awydd am y byd. Codai gyda'r ivawr. Flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, yr oeddwn wedi clywed nad oedd fawr o obaith i bregethwr a letyai yn Abercorris— ac yno yr oedd yr holl bregethwyr yn lletya -am gysgn ar ol pump o'r gloch y boreu. Byddai Wmphre Dafydd, fel y ceiliog, ar ei draed, ac nid oedd yn anfoddlawn i bawb wybod hyny. Dilynai fasnach helaeth. Heblaw bod yn amaethwr, cadwai felin a ffactri; ac mewn rhyw ddull neu gilydd yr oedd cysylltiad rhyngddo a'r holl wlad. Llwyddodd yn fawr yn y byd. Llaw y diwyd a gyfoethoga. Ac ni chlywais erioed unrhyw achwyn arno. Yr oedd yn ddyn hollol deg, a gellid ym- ddiried yn drwyadl iddo. Mynai yr hyn oedd iawn ond yr oedd yn rhyfeddol o gymwynasgar i'w gymydogion. Meichniai drostynt a diamheu iddo dalu llawer yn yn ddistaw yn eu lie. Wedi'r cyfan yr hyn a roddai werth an- nihrisiadwy arno ydoedd ei grefydd, a'i ddylanwad digyffelyb yn mhlaid moesoldeb a rhinwedd. Yr oedd yn ddirwestwr i'r earn. Nid oedd felly ar y cyntaf, nac am amser ar ol cychwyniad dirwest. Ond ryw noswaith yn Machynlleth, darluniai yr ar- eithiwr ei hun fel pysgotwr, a'r pysgod, yn lle eael eu dal yn rhedeg o dan ryw gareg fawr, ac felly yn osgoi y rhwyd. Darluniai yr areithiwr yr yfwyr yn ymesgusodi rhag n dyfod yn ddirwestwyr oherwydd ymddygiad- au rhywrai a gyfrifid yn uchel a dylanwadol rhyw gareg fawr neu gilydd. Y nos- waith hono, a'r cyfarfod hwnw, penderfyn- t 0(id unwaith ac am bytli na byddai ef yn un gareg fawr" i neb gael llechu yn ei chysgod. Daeth yn ddirwestwr yn y fan. Ac er ei holl amrywiol gysylltiadau, parha- odd yn ddirwestwr aiddgar am ei oes, a gwnaeth Gorris yr ardal fwyaf dirwestol ar y ddaear. Yr wyf yn cofio yn dda mai mewn cyfarfod dirwestol y gwelais i of gyntaf erioed. Yr oedd y Parch. Owen ones o'r Gelli wedi ymgymeryd a chasglu i gei&b talu rhyw ddyled gyfreithiol yr aethai dirwestwyr Sir Drefaldwyn iddi wrth amddiffyn eu hunain. Eyw nos Sabbath, aet i I achynlleth. Siaradai fel angel, ac yi oedd Wmphre Dafydd gydag ef. Yr oedd clywed Owen Jones a gweled Wmffre Dafydd yn ddigon o dal i unrhyw ddyn am am fyned ymhell o ffordd i'r cyfarfod. A'r hyn ydoedd gyda'i fasnach a dirwest ydoedd gyda chrefydd-ac yn fwy felly. Y mclaflai iddi a'i holl egni. Casglai blant i'r Ysgol Sul, ac efe oedd y blaenaf yn y Cyfarfod Misol. Gosodai bawb ar waith; ac nis gallai neb ddiogi yn agos ato. Yn niwedd ei oes by(Idai yn myned gyda'r pregethwr bob amser am ddau o'r gloch i Bethania. Trwy hyn y sicrhai amryw bethau. Yn un peth, trwy fod y pregethwr yn aros yn y Tynewydd, byddai hwnw yn rhwym o fyned i'w gyhoeddiad. Peth arall, rhoddai presenoldeb Wmffre Dafydd yn y Capel Bach urddas ar y gwasanaeth. Byddai pawb mewn trefn, a phob peth yn myned rhagcldo yn hwylus. Yr oedd Wmffre Dafydd yn Rhyddfrydwr trwyadl mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn un o'r 32 a aeth i bleidleisio i Harlech pan ymgeisiai Syr Wm, Wynne o Faesyneuadd am fyned yn farchog dros y sir, ac yr oedd yn Harlech pan ddewiswyd Mr. David Wil- liams o Gastelldeudraeth fel yr aelod R-hydd- frydol cyntaf dros Sir Feirionydd. Ac yr oedd yr un mor selog dros rhyddid a chynydd yn yr un eglwys. Daeth allan dros ddirwest yn ei gychwyniad eyntaf. Yr oedd yn selog dros gael Ysgol Ddyddiol i'r ardal. Safai ysgwydd yn ysgwydd a'r diweddar Barch. Edward Morgan—ac y mae dweyd hyn yn dweyd llawer iawn. Pleidiai y fugeiliaeth; ac nid oedd yn bosibbi neb gael cefnogaeth wresocach yn ei waith nag a gai y bugail cyntaf gan Wmffre Dafydd.

O'R FFAU

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.…