Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
YR ETHOLIADATT.
YR ETHOLIADATT. Y mae yr Etholiad Cyffredinol bron dirwyn i'r pen, a'r canlyniad o hono yn wahanol i'r hyn y proffwydodd neb am dano. Ni ddychmygwyd y buasai gan y Toriaid gymaint o. aelodau a'r holl bleidiau eraill ynghyd-yr hyn sydd yn debygol yn awr. Felly yr ydym yn gweled y Llywodraeth oreu a gafodd y Deyrnas yn cael gwrthod yr awenau iddi, a'r blaid Ryddfrydig yn cyfarfod a thrychineb amserol pan ar haner gwblhau ei gwaith. Bu'r Lly- wodraeth ddiweddar yn but i'w hym- rwymiadau, pasiodd neu amcanodd basio yr holl fesurau yr addawodd. Ond yn awr rhoddir terfyn am dymor i heddwch ac ewyllys da tuag at yr Iwerddon, a marweiddiad i bob ymgais difrifol tuag at ddiwygiadau cymdeith- asol yn Mhryciain. Dygwyd hyn oddi amgylch drwy ddifrawder ac anniolch- garwch y dosbarthiadau y gwnaed mwyaf erddynt. Nid oes i'r Rhydd- frydwyr yn awr ond myned i'r anialwch i fyw ar fanna a dwfr ac feallai mai dyna sydd oreu iddynt er eu dysgu i feddwl drostynt eu hunain, ac i fod yn ffyddlawn i'w hargyhoeddiadau. Nid awn i mewn i achosion gorch- fygiad y Rhyddfrydwyr. Chwilir iddynt eto, ac ad-drefnir y blaid yn drwyadl, a pharheir i ddadleu dros ei mesurau yn ddibaid. Nid oes yr un ran o'r rhaglen y gollynga ei gafael o hono. Ofer awgrymu y boddlona'r Gwyddelod ar Fesur Pryniant Tir a Chynghorau Sirol, yn lie Senedd fro- dorol i drin eu hachosion cartrefol, ac y gadawa'n Cenedl i Fesur Dadgysylltiad gael ei daflu i'r dyfodol pell. Drwy amynedd a diwydrwydd, aeddfedir yr etholwyr i bleidio holl raglen New- castle, a chodir y faner Ryddfrydig yn uwch nag erioed. Daeth y don Doriaidd i fesur i Gymru, drwy yr un dylanwad ag a fu yn Lloegr. Collasom bump o eistedd- leoedd yn y Deheudir, ond daliodd y Gogledd ei thir. Dengys etholiad Mr. T. E. Ellis fod Meirion yn ddiysgog fel ei mynyddoedd. Cafwyd y mwyafrif uwchaf bron yn Nghymru. Er gwaethaf holl ddylanwad ffyrnig Arglwyddi Tirol Maldwyn a'u pleidwyr, a'r cam- ddarluniadau a arferwyd ganddynt, cadwodd Mr. Humphreys-Owen ei sedd. Mae hyn yn deyrnged i anni- byniaeth yr etholwyr, er nad yr oil o honynt. Llwyddodd Mr. Owen Philipps er mor ddiweddar y daeth i'r gynrych- iolaeth i ostwng y mwyafrif, yr hyn a argoela llwyddiant hollol y tro nesaf. Dangosodd Ceredigion fel arfer ei bod yn rhy oleuedig i gael ei hudo gan wladlywiaeth gwacyddol y Toriaid, a chredwn y rhydd Mr. Vaughan Davies bob boddlonrwydd.
---._.----SIR FEIRIONYDD.
SIR FEIRIONYDD. Mr. T. E. Ellis (R.) 5173 Mr. C. E. J. Owen (C.) 2232 Mwyafrif 2941 SIR DREFALDWYN. Mr. A. C. Humphreys-Owen (R.) 3442 Mr. Robert Wynn (C.) 3415 Mwyafrif 27 BWRDEISDREFI MALDWYN. Mr. E. Pryce-Jones (C.) 1435 Mr. Owen Philipps (R.) 1351 Mwyafrif 84 SIR ABERTEIFI. Mr. Vaughan Davies (R.) 4927 Mr. J. C. Harford (C.) 374-8 Mwyafrif 117 9 Dychwelwyd Syr William Harcourt dros Orllewin Mynwy drwy 5287 o fwyafrif. Collodd Mr. John Morley ei sedd yn Newcastle drwy wrthwynebiad plaid llafur Keir Hardie.
[No title]
Pasiwyd yn N ghyngor Sirol Meirion fod y zn dosbarthiadau mewn gwneyd ymenyn, i gymeryd lie yn y Bala, Corwen, Ffestiniog, Towyn, Harlech, a Dinas Mawddyry. Nifer y rliai a ddyrehafwyd yn ynadon yn rliinwedd eu hetholiad, fel cadeirwyr Cyng] loraii Dosbarth, dan ddeddf Llyv/odr- aetli Leol 1894, yn Sir Feirionydd yw, naw Sir Drefaldwyn, pedwar. Yn N ghYllgor Sirol Meirion, gal v. yd sylw t yr oediad yn ymchwiliad y Ddirprwyaeth 1 gais Aberdyfi am Gyngor Dosbarth Trefol. All benodwyd y Dirprwywyr, ac y mae yr ynicliAviliad i'w gynal yn Aberdyfi. ^nMwrdd Gwarcheidwaid Dolgellau dydd dwrn, jienodwvd Mri. Gillart a'i Fab i'r gwaith o ad-brisio yr Abermaw am y telerau O 40 v gmi; a dwy gim am bob siwrnai 1 r Pwyllgor. Gorphenir y gwaith ymlien dau s.
PIGION.
PIGION. Ehoddodd y Llywodraeth ddiweddar rodd o gan' punt yr un i'r Parcli. R. Williams (llwfa Mon), a Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy, am eu gwasanaetli i lenyddiaeth Gymreigv Rhoddodd, hefvd, 20,000p. tuag at godi adeiladau xiewydd i Goleg y Brif- ysgol yn Nghaerdydd. Profwyd ewyllys y diweddar Mr. George Paddock, Ynyshir, Glandyfi. Yr oedd yr eiddo personol yn werth 25,329p. Y mae yr eiddo tirol yn Swydd Stafford yn myned i'w feibion, Albert Edward a George Frank. Rhenir gweddill yr eiddo rhwng ei wraig, ei blant, a'i wyrion. Yn llyfr cofnodion plwyf Talyllyn, gelwir ardal Corris yii y flwyddyn 1744, yn "Corys." O'r flwyddyn 1787 hyd yn bresenol, "Corris." Dywed R. Prys Morris mai "Corus" y gelwid y lie gyntaf; a thybia ei fod yn cael ei alw felly oddiwrth fynach o'r enw hwn, perthynol i Lanbadarn. Yr oedd i un o'r tywysogion Cymreig fab o'r enw "Korus." Nid oes un dref yn Nghymru ag y mae mwy o welliantau yn cael ei ddwyn ymlaen ynddi nag Aberystwyth. Ceir ynddi gyf- lawnder o'r dwfr puraf-y mae y dref yn hynod lanwaith, a goleuir hi gan drydan- iaeth. Mae yma lawer o gynygion pellach i at-dynu dyeithriaid. Gobeithio. yn nghanol yr holl ymdrech, na wneir dim i lygru awyr foesol y lie hwn, sydd mor enwog am ei sefydliadau addysgol a chrefyddol. Alawon fy Ngwlad" a fydd enw llyfr a anfonir i'r wasg yn lied fuan gan Mr. N. Bennett, Glanyrafon, Llanidloes. Bydd y gwaith yn gynwysedig mewn dwy gyfrol unplyg, y rhai a gynwysant bum' cant o hen alawon Cymreig, y rhai y bu Mr. Bennett am flynyddoedd yn eu casglu ac addurnir y cyfrolau, hefyd, gan ddarluniau heirdd o ryw haner dwsin neu ragor o hen delynwyr Cymreig. Yn sicr, hwn fydd y easgliad cyflawnaf o'i fath a ymddangosodd erioed. Nid oes angen am well cymeradwyaeth iddo na dweyd ei fod yn cael ei olygu gan Mr. D. Emlyn Evans, a'i argraffu gan Roder, Llundain. Anfonir y gwaith i'r wasg mor fuan ag y derbynir digon o enwau i sicrhau na fydd y cyhoeddwr ar ei golled. Pris y ddwy gyfrol, wedi eu rhwymo yn hardd, ac mewn papyr da, fydd gini a haner, i'w talu ar dderbyniad y llyfr. Dyma gyfleusdra rhagorol i gerddorion i ychwanegu at eu trysorfa o alawon. Nid ydym wedi gweled un sylw wedi cael ei wneyd yn y newyddiaduron ar farwolaeth y Parch. Humphrey R. Jones "y Diwygiwr," yr hyn a gymerodd le yn ddiweddar yn Chilton, Wis., Unol Daleithiau, yn 62ain mlwydd oed. Ganwyd ef yn Tre'rddol, Sir Aberteiif, yn 1838. Ei dad oedd Hugh J ones, Ynvs Capel, a'i fam oedd un 0 ferclied Mr. a Mrs. Hugh Rowlands, Dolclatwr. Ym- fudasant i America yn 1848. Dechrenodd ef bregethu pan yn 16cg oed. Cafodd. ei gydnabod yn weinidog, gan y Methodistiaid Esgobol, a bu yn llafurio am beth amser gydà'r Cymry yn Oshkosh. Adwaenid ef fel "Humphrey Jones y Diwygiwr," a chafodd gryn ddylanwad mewn amryw o'r sefydliadau Cymreig yn nhaleithiau Wiscon- sin a New York. Yn 1858, dychwelodd i Gymru, a bu yn foddion, gyda'r Parch. David Morgan, Ysbytty, i gvchwyn y diwyg- iad mwyaf llerthol a chylfredinol a welodd Cymru, "eithr darostyngwyd ei nerth drwy anmhariad ar ei feddwl. Ymhen amser, aeth drachefn i'r America, ond bu raid ei gadw yn ngwallgofdy Oshkosh am flynyddau. Ar ol ei adferiad, bu yn pregethu yn Wrankesha ac Oshkosh, ac yn y lie olaf y priododd ferch y diweddar John Owen, Corris; oncl bu hi farw yn fuan. Ar ol hyny, bu yn pregethu i'r Cyinry mewn llawer o'r taleithiau hyd ddhvedd 1893, pryd yr aeth at ei deulu yn Chilton, lie y bu yn dioddef -0 effeithiau y parlys hyd ei far- wolaeth. Yr oedd yn hoif o ii-aith Dr. Cunnning, a'i waith oedd proffwydo yn ddibaid. Yr oedd yn ddyn Duw yn ddiameu
TALYBONT.
TALYBONT. YR ETIIOLIAD.:Mae yr ardal hon fel pob man arall, yn nghanol berw yr etholiad, a chyn y daw y Ncgesydd dros afon Dyfi, bydd tynged Sir Aberteifi wedi ei benderfynu v am unwaith eto. Ofnir nad ydyw y brwdfrydedd presenol yn nodweddiadol o frwdfrydedd yr etholiadau blaenorol, a thrwy hyny ofnvryd am ddwy fil mwyafrif y tro cynt. YMWELWYR.—Mae llawer o'r "adarhaf" yn aros yn y gymydogaeth, ac yn ym- ddangos yn mAYynhau eu hunain yn f awr. Mae awyr iach y bryniau a chors Fochno, yn sicr o fod yn help i adfywiad ysbryd ac iecliyd, y rhai sydd yn dilyn eu gorucliwyl- ion mewn manau afiach, megis Sir Porganwg a'r trefydd mawr. Ymysg eraill, bu y Parch. R. E. Williams, a'i briod, yn treulio y Sul diAveddaf yma, a phregeth- odd yn Bethel yn hynod 0 gymeradwy. 9. Y NEGESYDD.—Mae Mr. David C. Edwards wedi ymgymeryd a dosbartliu y Negesyd-d yn y lie" hwn, felly gwyr pawb Ile i'w gael rhagllaAV. GYIIU AEBESYMOL.—Nos Lim fel yr oedd y breaks yn dychAvelyd 0 Aberystwyth, aeth y gyrwyr i gystadlu pa un a fyddai yn gyntaf, a chafwyd golygfa nad anghofir mo v tD n honi yn fuan. Dylid rhoddi atalfa lwyr ac am hyth ar beth fel hyn, ai gwneyd yn rhy anlunrdd i gellwair pan fydd cymaint 0 fywydau mewn perygl. •_ ft
.DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. MARWOLAETH.—Cafodd yr ardal hon ei tharaw a syndod gan y newydd pruddaidd dydd Mercher, y 3ydd cyliso], fod Mrs. Elizabeth Brown, Caergof, wedi marw yn 42 mlwydd oed. Ni chafodd ond cystudd byr, yn iach gyda'i goruchwylion ddydd Mercher, a'r Mercher canlynol wedi huno. Gadawodd ar ei hoi briod a'i mham galarus, a phedwar 0 blant yn amddifaid. Ymunodd a clirefydd yn ieuanc, a gellir dwyn tystioiaeth ei bod o'r dosbarth na chafodd yr eglwys dramgwydd nag achos i ofidio o'i derbyn. Rhodiodd ei llwybr yn ddifwlch i'r pen, ag 'roedd y dyrfa fawrddaeth i-w hebrwng y dydd Sadwrn canlynol i dy ei hir gartref, yn dangos y parch oedd genym iddi fel ardal. DAM.WAIN.-Cyfarfyddodd Mr. D. Davies, mab Mr. Evan Davies (diweddar o Blaentaf- olog), a damwain, a brofodd yn angeuol iddo yn un o chwareli Ffestiniog, yn 22 oed. Yr oedd yn fachgen ieuanc gobeithiol, yn aelod cyflawn a rheolaidd er's blynyddau. Digon trwm ar ei chwaer wrth ei wylied oedd ei glywed yn gofyn cawn i glywed llais mam (yr oedd ef wedi ei amddifadu o'i olwg yn y ddamwain) rwyf wedi cyfarfod a diwedd difrifol, gweddiwch droswyf." Credwn na ddywedodd erioed air chwerw wrth ei fam, a hyderwn fod marw yn elw iddo." Cafodd ei gladdu yn mynwent y Dinas, dydd Llun, yr 8fed cyfisol. Er nad oedd ond ychydig er pan aeth i Ffestiniog i weithio, yr oedd wedi enill parch fel y daeth amryw o'i gydnabod a'i gyfeillion i'w hebrwng yr holl ffordd oddiyno yma. CYNGOR DOSBARTH MALLWYD.—Cyfarfu aelodau y cyng-or uchod yn ysgoldy y bwrdd, Dinas Mawddwy, nos Wener, Gorphenaf 12. Mr. John Jones yn y gadair. Y materion i'w penderfynu oedd, pwy oedd i gael y swyddi oeddys wedi bod yn advertiso am danynt, sef surveyor a threth-gasglydd. Yr oedd pump yn ceisio am y gyntaf, sef H H. Jones, Humphrey Jones, Morris Roberts, Owen Owens, a Richard Jones; allan o'r 5, Morris Roberts gafodd ei ddewis. Am y swydd o dreth- gasglydd, yr oedd pedwar yn disgwyl, sef H. H. Jones, Owen Owens, Rowland Evans ac Humphrey Jones. Yr olaf ddewiswyd.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. MARWOLAETH SYDYN.—PrydnaAvn ddydd Llun, darfu i Mr. J. Rowlands, y Crwner, wneyd ymholiad ynglyn a marwolaeth Owen Arthur, yr hwn a gaed yn farw yn ei wely oddeutu 7 boreu Sul. Y tyst gyntaf a alwyd oedd ei ferch, yr hon a ddywedodd ei bod yn edrych ar ol ty ei thad.—Yn ol y dystiolaeth y mae yn ymddangos ei fod yn achwyn o boen yn ei ochr-ond ni fynai alw meddyg i'w iA, ei'd. Oddeutu 7 o'r gloch nos Wener, fe ddywedwyd wrth y ferch fod rhyw anghydwelediad rhwng ei thad a rhyw berson ar y Grutliyn fe aeth y ferch allan, ac fe gafodd ei thad ar yr heol. Fe aeth ag ef adref, a rhoddodd ef yn y, gwely. Fe fu mewn poenau drwy y nos, ac ni chafodd y ferch na'i brawd fyn'd i'wgwelyau hyd nes yr oedd tua 3 yn y boreu. Mae yn ymddangos iddynt gysgu hyd 7 boreu Sul, pryd y canfydd- odd y ferch ei thad yn gorwedd a'i ben dros ymyl y gwely. Fe alwodd ar ei brawd, ac fe aeth yntau at y meddyg. Yr oedd wedi bod yn .ddirwestwr er's oddeutu dwy flynedd hyd ddydd Gwener, pryd y mae yn ymddangos iddo yfed gwirodydd poethion.—Yn nesaf i roddi tystioliaeth oedd y mab, yr hwn a dystiodd iddo gysgu nos Wener yn nhy cymydog, gan ei fod wedi blino, a'i dad yn anesmwyth ac yn cwyno. Yr oedd yn cadarnhau tystiolaeth ei chwaer- ynglyn a'r hyn gymerodd le nos Wener a boreu Sul. Dr. Alfred Owen Davies a dystiodd fod y tyst diweddaf wedi dyfod ato boreu Sul, a phan aeth i'r ty, fe gafodd y trancedig yn gorwedd ar ei ochr, a'i ben yn pwyso dros ochr y gwely. Fe wiiaed ymholiad manwl, ond ni chafodd unrhyw ysigiad, na bod esgyrn wedi eu tori. Yr oedd y trancedig wedi bod yn achwyn rai misoedd yn ol, ac yr oedd effaith y saldra arno.—Yn ol y dystiolaeth a roddodd y ferch fod ei thad heb gymeryd lluniaeth drwy ddydd Sadwrn, a'i fod wedi cymeryd gwiriodydd ac ar ol gwneyd ymchwiliad manwl ar y corff, yr oedd y meddyg o'r farn mae difiyg ar y galon oedd achos o'i farwolaeth a phe bai wedi cael ei daro neu ei gamdrin, y byddai hyny yn ddigon i'w ladd yn y man. Mri. Edw. Breeze, Jeremiah Williams, Evan Holt, a Mrs. Margaret Edwards, a roddodd dystiolaeth ynglyn ar hyn gymerodd le nos Woner, pryd yr ymddengys fod y trancedig yn eistedd wrth y Gruthyn, ac yn galw enwau ar ol rhai oedd yn digwydd myn'd heibio, a'i fod wedi taraw Rowland Edwards a'i fam a'i ffon, a'i fod yntau wrth achub ei hun a'i fam, wedi gwthio neu daraw y trancedig—ond nid yn .n"V edi clywed y tystiolaethau, fe ddarfu i'r rheithwvr ddyfod i'r farn fod y trancedig wedi marw o farwolaeth naturiol yn codi oddiwrth ddiffyg ar y galon. BODI-)IAD.-Dydd Mawrth, gwnaed ymholiad i farwolaeth geneth fechan un ar ddeg oed, merch i Griffith Griffiths, Garshiwn, corff pa un a gafwyd yn afon Dyfi. Fe ddywedodd ei mham fod yferchfachwedi myned allan oddeutu haner awr wedi un ar ddeg boreu Llun, gvda dwy o enethod eraill i hel mushroom, ac mae dyna yr amser olaf iddi ei gweled yn fyw. Rhoddodd y ddwy ferch dystiolaeth eu bod yn ymyl yr afon wrth Penddol, ochr Sir Feirionydd, a'u'bod wedi gorphen hel, pryd y dywedodd eu cydymaith ei bod am groesi yr afon i fyn'd adref. Ceisiwyd ganddi beidio myn'd, ond fe ddywedodd ei bod wedi croesi o'r blaen. Eisteddbdd y ddwy i lawr ar goeden ychydig oddiwrthi, a'u gwynebau oddiwrth yr afon, a chlywsant hi yn gwaeddi, a darfu iddynt edrych a'i gweled yn sefyll yn yr afon, ac yn cymeryd cam ymlaen. ac wed' yn yn cael ei chario i laAvr gyda'r afon. GAvnaeth Jane Jones (merch D. Jones, Poplar Rd.), ymgais i fyned ar ei hoi, ond yr oedd yr afon yn rhy gryf, ar ferch ar?ll yn galw arni dd'od yn ol. Darfu iddynt alw ar ryw foneddwr oedd yn pysgota gerllaAV, a rhedodd yntau i fyny. Fred Griffin a dystiodd ei fod allan yn pysgota gyda boneddwr, a'i fod wedi gweled y tair ar yr ochr arall i'r afon. Gofynodd Ellen Jane Mantle iddo eu cario dros yr afon, ond atebodd ei bod yn rhy ddwfn. Ymhen ychydig ar ol hyn, gwelodcl Casgie Griffiths yn sefyll yn yr afon, ac yn cael ei chario i'r llyn tro, Gwaeddodd ar y boneddwr, ac erbyn iddo gyraedd yr oedd wedi suddo. Parch. Cave Humfrey a ddywedodd ei fod yn pysgota, achadarnhaodd yr hyn ddywedodd Fred Griffin. John Pugh, Ogofawr, a dystiodd iddo gael hyd i'r corff yn agos i'r Nawlyn. Y rheithfarn ydoedd—" Marwolaeth ddamweiniol wrth geisio groesi yr afon Dyfi."
ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…
ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD 1895. -0:- ENWAU YR YMGEISWYH LLWYDDIANUS. -:0:- úrcld Bardd:- Y Parch. David Williams (Dewi Mai), Ty Ddewi. John Owen' (Ddyfnallt), Coleg Bala- Bangor, Bangor. R. Gwylfa Roberts (Gwylfa), Coleg Bala-Bangor, Bangor. John Jenkins (Gwili), Pontardulais. David Davies (Dewi Vychan), Tyfri Villas, Aberdar. Ellis W. Hughes (Llyfnwy), 3, Baptist Street, Penygroes, Caernarfon. John Hawen Rees (Isycoed), Coleg Bala- Bangor, Bangor. Y Parch. Vm. Evans-Jones (Penllyn), Colwyn. Evan Morgans (Alaw Tydfil), 10, William Street, Morgan Town, Merthyr Tydfil. William Jones, Llwyndinawed, Cilycwm, Llanymddyfri. Edward Lewis Rowlands (Dyfi), Liverpool House, Aberdyfi. 1 Urdd Ofydd:- J. J. Hughes (Peredur), yr Ysgol Fry- tanaidd, Llangennech. David Williams (Ap Elli), 16, Bute Street, Treherbert. Enoch Davies (Gwynfil), The Stores, Treherbert. Hywel Jones (Tremlydd), 3, Edwards Terrace, Bedlinog, Treharris.
URDDATT CERDDOROX,:—
URDDATT CERDDOROX,:— TJrdd Fencerdd:— C. Meudwy Davies (Pencerdd Myrddin), | Llanelli. Phillip Davies, 222, Miskin Road, Tre- alaw. M. De Lloyd (Morgan Alaw), Caerfyrddin. Cercior:- Thomas Williams (PeralaAv), Pentwyn, Cross Hands, Llanelli. J. James Hughes (AfaonAlaw), Talybont, Sir Aberteifi. Jonah Morgan, Tonna Road, ger Castell- nedd. Iran y bydd yr ArhoJiad y tlwyddyn nesai beth yn gynarach ar y flwyddyn, dylai pob v un sy'n meddAvl cynyg hysbysu hyny i'r Cofiadur o hyn i ddiAvedd y flwyddyn hon. EIFIONYDD, Cofiadur yr Orgedd, Caernarfon.
■— :o:-TEULU'R FARIL YN DIAL.
■— :o:- TEULU'R FARIL YN DIAL. Y ffordd gymerodd un o'r Publicanod i ddial ar Ryddfrydiaeth, yr wythnos ddiweddaf oedd, cymeryd poster o law y swyddog, a'i osod a'i ben i lawr ar ddrws ei ystabl ei hun. Dyma Doriaeth yn ei lliw ei hunan; deng-ys y weithred hon beth a wnai y Tori hwn, fel eraill o'i frodyr, a phersonau a meddianau y RhyddfrydAvyr, pe meiddiant. Dyma y gwr, hefyd, a groch-waeddai yn wyneb tri wyr 0 Gyngor Plwyf T-- I 1 -1. know the law Ilw'i'e zl in the holtse." Pan alwyd arno i'w ddwyn allan, dygodd ymlaen yn herfeiddiol iawn-yr Half-penny Graphic, yn cynwys nodiad yn unig ar y Cyngor Dosbarth Ac ni wyddai hen swyddog y Llywodraeth, na church-warden y plwyf, \vahaniaeth hyd y munyd hwnw rhwng y Cyngor Plwyf a'r j Cyngor Dosbarth. YSBRYD YR HEN HUMPHREY..
-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."
"Y GWIR YN ERBYN Y BYD." Clywais llawer o floeddio ar y frawddeg hon, ond pa faint o'r gwir a dracthir yn erbyn y byd wedi'r cyfan ? Bwriadaf yn hyn o ysgrif ddweyd gair yn erbyn y byd amaethyddoL Credaf (ac yna llcfaraf), fod y dosbarth hwn yn ddosbarth hynod y dyddiau hyn. Gyda phriodoldeb y gellir ei alw "dosbarth y mawr gam." Mae y dosbarth hwn yn cwyno o foreu dydd Llun hyd nos Sadwrn,-—cwyno fod yr ardreth yn rhy drom, fod prisiau yr anifeiliaid yn rhy fychan. Ond gadewch i ni Aveled pa focld y saif pethau gyda golwg ar y rhent. Dyma dirfeddianwr yn gosod ei ffarm am 2op. y flwyddyn o rent, ac ymhen y flwyddyn neu ¡ ddwy, mae y tenant yn bwriadu rhoddi rhybudd J i'w feistr am ostyngiad, am ei fodyn methu cael deupen y llinyn ynghyd ac NN-rth fnned i dalu y rhent, mae yn hysbysu ei fwriad i'w gymydog- ion a'i gyd-denantiaid, ond cyn nos y dj'dd hwnw, bydd tri neu bedwar o'r cyfryw yn gofyn am y fferm, gan roddi awgrymiad eu bod hAvy yn well amaethwyr, ac yn fwy darbodus na'r hen denant, ac felly y gallent dalu am dani yn y pris y mae ac os na bydd hyny yn llwyddo, cynygir 25p. am dani onid oes genym eng-reifftiau 0 bethau fel hyn yn ein hymyl. Wel yn awr, mae y Meistr Tir yn gweled Avrth reswm fod amaethwyr profiadol fel hyn, yn gwybod faint yw gwerth y ffarm yn well nag ef, ac yna y mae y cynygydd uwchaf yn ei chael, a phwy a wel fai ar y tirfeddianydd ? Ond arhoswch eto am ychydig, a chewch glywed cwyno, fod y rhent yn uchel, y bvd vn galed, a mil o bethau. Mae yr awydcl m'or faAvr am gael ffarm, nea y gellir dweyd fod dynton wedi meddwi, a myned yn ddall, a di- deimlad. Mae Ilawer un wedi cael meddiant o Dyddyn yn meddwi ei fod yn rhywun a ddylai ,gael pawb a phobpeth at ei Avasanaeth. Ni raid ond anfon y drol at siop y blawdwr, anfon yr hogyn i efail y gof, a rhoddi gorchymyn am drol, neu aradr, neu og i'r ?ae>!J, a thybia fod yn fraint i bawb gael aros wrtho ef am fiNA-yddyn, am yr arian, Ond, pan y bydd ef yn gwerthu ceffyl, neu fuwçh, yn y ffair, yn mynecl a dafad, neu 16, i'r cigydd, yn anfon basgedaid o ymenyn i'r siop—terms cash os gwelwch yn dda ac odid fawr na bydd y rhai a ymddir- iedodd eu heiddo iddo ef yn gorfod byw ar gwyno fod y byd yn galed, yn lie cael tal, gan fod y Meistr Tir yn sicr o'r rhent yn gyntaf aed y byd lle'r elo. Ac eto, dyma y dosbarth sydd yn cadw y byd" medda' nhw; ond pe dywedant mae hwy sydd yn cadw y byd yn i dlawd, buasai yn haws genyf eu credu. Clywais un yn tor-sythu mewn ffair yn ddiweddar, wedi cael gormod o drwyth haidd,—" Y ni sydd yn cadw y byd i fyn'd." Yn ei gadw i fyned i ba le tybed ? Onid i fyned ar i lawr ? Onid oes genym hanes am ddosbarth cyffelyb yn cael eu cyflogi i'r winllan ? Y dosbarth cyntaf: '• Ac wedi cytuno am geiniog y dydd," Nid oes sdn am neb ond y dosbarth cyntaf yn cytuno; ac nid oes genym hanes am neb yn grwgnach ond hwo. Ac o bob grwgBach, d'yma y mwyaf di-reswm,—grwgnach yn erbyn eu cytundeb eu hunain. Wel, dyna ddarlun da 0 amaethwyr y dyddiau hyn, yn cytun'o am rent, a grwgnach yn ei erbyn. Nid wyf yn anwybyddu amaethwyr sydd yn eithriaid i'r rheol hon O na, mae genym lawer 0 ddynion egwyddorol, ymdrechgar, ag sydd yn gwneyd eu rhan i gadw y byd." Ond nid at y rhai hyn yr wyf yn cyfeirio, ond at y dynion "bach", yma, sydd yn rhy "fawr" i weithio wrth y dydd, ac yn rhy fach i wneyd amaethwyr. Oni welsoch chwi rai o honynt yn sefyll gan sythed a'r aethnen, gan lledu eu traed mor bell oddi- wrth eu gilydd. Pe buasent yn sefyll fel gartref—ar eu ffarm-buasai eu traed wedi myned dros y cloddiau terfyn. Yr wyf yn cyd- nabod fy mod yn dweyd pethau llymion, ond ar yr un pryd, yr wyf yn dweyd y Gwir yn erbyn y byd.Yr eiddach, &c., GWAS FFARM.
: o:——■ Y GLORIAN.
o:——■ Y GLORIAN. QAVILYM DYFI.—Mae enw Gwilrm yn ddigon hyebys i bawb, a'i gyfansoddiadau bob amser yn dderbypiol. Dorbynaeom oddiwrtfio dwr o englynion buddugol ar wahanol destyuau, a chan ferch. Gailf y Kegenydd ddweyd un e'r englynion bob tro y daw heibio nes eu gorphen, a'r gan yn olaf. LEWIS JONES.—" Y Diwrnod Cneifijo." Dcegriflad- ol iawn. Mae y gan i'r gwrthgiliwr yn cynwyis apeliadau difrifol, dylent gyffroi y galon galctaf ar y tir rheibus. Nid yw cich englynioll quits gyetal, er eu bod yn lied gywir. DAVID DAVIES. -Wyddwn i ddim o'r blaen eich bod chwi yn arfer penillio. Go lew, wir. lthaid i chwi wisgo ftugemv. Caiff eich penillion tir Ddirweet ymddangos yruhlith y negesau. Y BACHGEN SAMUEL.—Mae eich tri phenill i'r Baeligen Amddifad wedi eu hysgrifenu yri ddilyn dros ben, a hylldod o wallau ynddynt o bob math. Mynweli afael ar ryw ramadeg, a dar- llenwch reolau barddoniaeth.
! Y SER.
Y SER. Llusern cuii y ddullOB-YW y eer, Syw lifrau y cyfuos Nodau engyl yn dangos AwdAvr uef yn nhrymder nos. GWILTK DTFI.
Y DIWRNOD CNEIFIO.
Y DIWRNOD CNEIFIO. | Alaw— Tyb y Tyicn/my," lieU "Pistyll y Tentrrf" Ar doriad y wawrddydd a'r hwyaf ddydd haf, Fe ahvai y meistr ar foreu teg braf,— Dowch, feeligyn, cyfodwch, i hel dowch ar frye, Hhed, William, i alw ar feeligyn Brynllys: Brechdan i bob un yn awr- Breewast gewch 'rol d'od i lawr." Galwyd Handi, Tritwe, a Smot, A ffwrdcl a hwy ar drot; a Fe ddringai y lintai I fyny y llethrau Y11 fywiog a chwiiii, A'u ealon yn ysgafn Heb ofid am ddim. 0 amgylch y mynydd yn gyflyin fe aedr A'r defaid i'r gorlau yn gyfan a g; ed Cael tegwch am lieddyAV sydd bwyag 0 beth, Mac'r gwlan yn nwydd gwertlifawr i dalu y drcth. Ar ol brecAvest, at y gwaith Daeth y eneifwyr, clnvech neu Kiith Olyweh wn gwcithio, clep, clep, elep, Gwaith lfyfudeg lieb un stop; Yu ami mac gAveiddi Am Iwdwn, a Tomi Yn rhed g i'AY m'oen, A Jolmie yw'r doctor Os torir y croen. J Daw rliyw un o'r ewmni a mater ger bron, A phawb ddaw a'i sylw, yn ddifyr a lion Ac wcithiai rhyw ddncll pur boeililyd a fydd, A betir rhyw gan' PUllt cyn tcrfyu y dycid. Gweitliia pawb cr hyn i gyd, Clep, elep, clep. a glyin-cli u hyd, Betyi'r foiwyu lapia'r gwlan, Yn gryno ac yn Ian., A'r liogen fach, hitliau | v A dendia'r llinjmau j Yn handi dros ben A mynych mae gwaeddi, Comc. earner, now I.I!JI. Trwy'r boren, ni Avelwyd y feintret< o'r ty, Yn ern.u, a rhostio, a berwi y bu: Am ddcuddog, fe ciwir ar bawb at y bwrdd, A seigiau dauteithiol sydd J'no i'w cwrdd. '1\01 eydiiabod yr Hwn y'n rhoi, At y Arledd yn ddi-ynuiroi, Million ifres, a phwdin riwy A tliarten riwbob nice :Mne'¡- wledd yn rhagorol, § A phawb yn ci chanmol: ■ A Johnnie gwas bach, Pan eir at y pwdin, Sy' a'i galon yn itich. 'Rol darfod a'r ciniaw, eir ati drachefn, Pob un at ei orchwyl, mac'r ewbl niewn trefn; Mae pawb Yll ei elfen, ar weithio mae hwyl, Mac diwr-dod y eneifio fel diwrnod o wyl, Nes daw te, y nesaf bryd, J Clep, clep, clep, a glyweh o hyd; Rhaid inyu'd wed yn at j- gwititli, A dal tan ehwech neu saith. A liyfryd, 'rol darfod A clmeilio gwaith diwrnod « A eliadw y gwlan, 'i.I Fydd eistedd i ymgomio, K eu uiio mewn can. Mae diwrnod y cllcifio'n llafurus mae'n Arir, Ond chlywir byth gAvyno, fod y diwrnod rhy lib, Er eodi yn fore, a dal yn bur faith, Ewyllys a chariad felusa y gwaith. .T 11 ByAv yn mysg y defaid man, i Dyma fan i lunio can f a Clywed swn brefiadau'r rhai'n Sydd i mi yn fiwsjg cain; Cael treulio fy nydcliau Yll niysg diadellau o ddefaid ac wYll, > Sy'n gwneuthur fy mywyd j Y n orlawn 0 swyn. B H'lc1t, LEWIS JONES,