Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
CORRIS.
CORRIS. CYFLWYNO TYSTEB.—Y mae yn hysbys erbyn hyn fod Mr. H. S. Roberts, ysgolfeistr Ty'n- yberth, Corris Uchaf, wedi ei benodi gan Fwrdd Ysgol Talyllyn i gymeryd lleydiweddar Mr. H. Ll. Jones yn Ysgol Corris. Ryw wyth mlynedd yn ol symudodd Mr. Roberts o Penal i Ty'nyberth, ac yn ystod y cyfnod yna, bu mor llwyddianus ynglyn a'r ysgol, fel y rhoddodd arholydd y Llywodraeth hi o dan y code newydd fel nad oedd raid iddi sefyll arholiad eleni. er nad yw y code yn d'od i rym hyd ddiwedd mis Hydref. Y mae Mr. Roberts wedi bod yn llawn mor llwyddianus yn ei gysylltiadau cre- fyddol. Y mae wedi llafurio yn ddiflino gyda chaniadaeth y cysegr yn Bethania a'r cylch, ac wedi arwain corau i fuddugoliaeth lawer gwaith Dewiswyd ef yn swyddog eglwysig e'rs blyn- yddoedd bellach yn Bethania, a bu yn weithgar a ffyddlon iawn yn y cylch hwn hefyd, a dat- genir gofid ar bob llaw yma oherwydd ei ym- adawiad. Nos Fercher diweddaf, cymerodd y teimlad hwn ffurf sylweddol. Yn y gymdeithas eglwysig, cyflwynodd y Misses Evans, Tan- yfaen; Jannet Roberts, Ysgol y Bwrdd; Annie Jones, Gaewern; a Kitty Jones, Corris House, dysteb i Mr. Roberts ar ran yr cglwys, yn cynwys holl weithiau Williams, Pantycelyn Geiriadur Charles, ynghyd a Beibl Teuluaidd prydferth iawn. Datganwyd teimladau gofidus yn herwydd ymadawiad Mr. Roberts. Gwerth- fawrogid ei lafur, ei ymroddiad a'i ffyddlon- londeb yn ein plith, a theimlai y frawdoliaeth golled ddirfawr ar ei ol. Diolchodd yntau mewn teimladau drylliog i'r eglwys am yr amlygiad hwn o'u parch tuag ato, a dywedodd y byddai ei hiraeth yn ddwfn ac yn hir ar ol yr eglwys hon. BWRDD YSGoi,Gorplieiiaf 2il. Presenol, Mri. M. Roberts (cadeirydd), W. R. Williams (is-gadeirydd). Rhys Owen, Richard Williams, J. P. Jones, a D. Ifor Jones (clerc). Darllen- wyd llythyr oddiwrth Miss Elizabeth Evans yn honi hawl i aros yn ngwasanaeth y Bwrdd hyd fis Medi. Penderfynwyd cadw at reoly Bwrdd sef fod ei hamscr i fyny ar y i2fed cyfisol, ar ol mis o rybudd, ac nid tri mis. Penderfynwyd hysbysebu am olynydd iddi. Dewiswyd Jane Anne Jones, Brewhouse, i gymeryd gofal y gwnio yn ysgol Aberllefenni, ac Elizabeth Davies, Ty'r Capel, i lanhau yr ysgol. YR ETI-IOLIAD.—Cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus lliosog iawn i bleidio ymgeisiaeth Mr. T. E. Ellis, nos Lun diweddaf, yn Ysgoldy y Bwrdd. Mr. Humphrey Davies, U.H., yn y gaclair. Cynygiodd Mr. D. Ifor Jones, a chefn- ogodd y Parch. H. W. Parry, bleidlais 0 ym- ddiried yn y blaid Ryddfrydig, ac yn Mr Ellis. Ategwyd hyn yn helaeth gan yr Henadur John Hughes, Ffestiniog, a'r Parch. Hugh Roberts, Rhydymain. Traethwyd ar ragoroldeb y Llywodraeth ddiweddar yn y Mesurau a ddyg'odd i sylw y Senedd, ac a basiwyd ganddi. Yr oedd ymdriniaeth Mr. Roberts, a chwestiwn Ymreolaeth, Dadgysyllt- ,y iad, Dewisiad LIeol, a Difodiad Ty'r Ar- glwyddi, ac ar ymdrechiadau ein parchus aelod, yn oleu ac yn rymus iawn, a llawer 0 ergydion gwreiddiol ganddo, a derbynid yi cyfan gyda chymeradwyacth fyddaroJ. Nidyn fynych y cyfarfyddir a phobl y mae y tan Rhyddfrydig-yn cael ei gyneu mor hwylus ag ydyw yn yr ardal hon, a gobeithiwn y bydd "■ V R hyn yn troi yn weithred sylweddol ddydd yr etholiad. Talwyd y diolchiadau gan y Parch. J. J. Evans, a Mr. Rhys Owen.
ABERDYFI.
ABERDYFI. YR ETHOLIAD.'—Bu ymgeisydd y Toriaid yn cynal cyfarfod yn Aberdyfi, nos Sadwrn. Druain o honynt Tlodaidd i'w ryfeddu oedd y cynulliad, ac oni bai am y Rhyddfrydwyr ni fuasai y gynulleidfa yn rhifo ond rhyw haner cant! Siaradodd yr ymgeisydd yn wir dlawd, ond siaradodd Mr. Wynne yn wir dda ond rywfodd neu gilydd yr oeddwn yn teimlo wrth ei glywed fy mod wedi darllen ei sylwadau o'r blaen, un ai gan Balfour neu Chamberlain. Gwrandawai y cynffonwyr arno gyda chegau agored. Ceisiodd Mr. Wynne a'r ymgeisydd dalu diolch i'r cadeirydd yn Gymraeg, a chwysai fy nghnawd wrth glywed yr hen iaith anwyl yn cael ei handwyo mor ddychrynllyd. -Slioiz o'r Pant.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. BODDIAD.—Prydnhawn dydd Gwener, y 5ed cyfisol, oddeutu haner awr wedi un, tarawyd trigolion y dref a newydd fod wedi boddi wrth Bont-y-werddu, ychydig is na'r Llundir. Cyrchodd ugeiniau yno cyn pen eiliad, a chajwyd mai John Pugh ydoedd. Cigydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu hefyd yn ngwasanaeth y diweddar Mr. Humphrey Jones, Ffrwd, masnachydd mewn defaid. Yr oedd tri o honynt wedi myned i ymdrochi, aeth dau i'r dwfr, sef John Pugh a John Richards. Gwelodd John Richards fod rhywbeth ar John Pugh. a cheisiodd afael ynddo, ond yn gwbl ofer, er ceisio hyny lawer gwaith. Gwaeddodd J. Richards, a chlywyd ef gan David Roberts, painter, yr hwn oedd yn gweithio yn Dol'rhyd ar y pryd. Daeth yno yn fuan, ond yn rhy hwyr, er hyny neidiodd i'r dwfr, bron fel yr oedd, a daeth ag ef i'r lan, ond yr oedd bywyd wedi ymadael. Cynhaliwyd trengholiad nos AVener, y flaen W. R. Davies, Ysw., crwner. Dychwelwyd rheithfarn o foddiad damweiniol. Claddwyd ef ddydd Sadwrn, yn y cemetery newydd. YR ETHOLIAD CYFFREDINOL.—Dyna y benv sydd ymhob man. Nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y neuadd gyhoeddus dan lywyddiaeth R. Wynne Williams, Ysw., U.H. Amcan y cyfarfod oedd enwi rhai i fyned i ganfasio i Mr. Ellis, a chael pethau. eraill i drefn. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus eto yn fuan. Mae y ceidwadwyr wrthi a'u holl egni yn canfasio i'w hymgeisydd, Mr. C. E. J. Owen, Hengwrtucha', ond credaf mai hollol oferfyddeu gwaith. I'r frwydr etholwyr—mae y frwydr yn un bwysig.
EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.
EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS. GORPHENAF 4YDD, 1895. Beirniadaeth Mr. Tom Price, Merthyr, ar gystadleuaeth y Brass Bands. BAND No. i.-Agoriad rhagorol gan yr holl offerynau. Amser da, a chyd-drawiad rha- gorol. Nid cystal oedd y Dotted Notes, rhyw seibiant byr diangenrhaid ar ol y Dotted Crotchets. Andante yn dda, a'r nodau byrion gan y cornets yn glir a mirain. Ail largo eto yn dda, nid cystal oedd yr ail Andante. Cychwyniad yr Larghetto yn wir dda gan y Bass a chymerwyd yr atebiad gan y cornets yn dda, a theimlem yr attack y symudiad olaf hwn yn wir dda, ac yn hynod 0 glir. iu "Amen" gan yr Euphonium yn rhagorol,— llithreni y nodau fel vocal score a thrwy hyny yr oedd brawddegiad (phrasing) yn gymer- adwy. Solo gan y soprano cornet fE flat) yn dda. Hynodid y chwareuad yma gan d6n dda. Cyd-darawiad rhagorol. Gallai fod yn fwy disglaer ac amrywiaethol, yn arbenig yn y rhanau nerthol o'r cydgan. BAND No. 2.Nid oecld y band hwn yn cynyrchu cystal t6n a'r Band No. I. Ychydig yn fwy gam, nid mor dyner. Credwyf fodd bynag, fod hyny i'w briodoli yn rhanol i nerth y chwareuwyr a diffyg ymarferiad mawr. Eto yr oedd yr attack mor lAn a chywir. Gallem nodi yr agoriad cyntaf fel esiampl, ar symudiadau araf bron i gyd. Lai"ghetto yn rhagorol gan y band hwn. Jiuphonium a'r Trombone yn chwareu yn dda, yn arbenig y cyntaf. Cychwynwyd yr "Amen" yn rhagorol, y nodau yn fyr, a'r amser ychydig yn fwy cyrfym na'r Band No. i. Fe garem fwy o fawredd yn agoriad yr "A men, ond yr oedd y d6n a gynyrchwyd yn rhagorol. Yr oedd y band yma yn gwella i ddiwedd yr Amen nes teimlem rhywbeth tebyg i hwyl yn y part olaf. Nid cystal oedd y Solo Co? net E flat yn No. 2. Gwres oedd yma, a digon o hono. Mewn mynegiant, yr oedd y band cyfuwch a'r No. i ond am dynerwch a phurdeb t6n, a chyd-darawiad, yr oeddynt yn colli. Rhodd natur yw gwres teimlad, ond rhaid wrth wrtaith a diwylliant er cael ton ac attack dda. Dyfarnaf y wobr gyntaf i No 1 a'r ail wobr yn galonog i No. 2.
Y DIWEDDAR AEDRONICUS. |
Y DIWEDDAR AEDRONICUS. 0 ddiffyg gofod, gorfodwyd ni i adael allan yr hyn a ganlyn a dderbyniasom oddiwrth 1\1r. Goronwy Jones, brawd y diweddar Mr. J. W. Jones (Andronicus), yr hyn sydd yn cyffwrdd ag amgylchiadau ei farwolaeth Anwyl Gyfaill,—Chwi wyddoch ein trailed fel teulu y dyddiau hyn," er y credwyf ar un olwg mai dweyd a cldvlem—" Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Y mac "Andro- nicus" o'i loll rhydd. Yr oedd yn llawen yma mewn cvstudd". yr ocdd gor- foleddu mcwn gorthrymder rywfodd yn naturio! iddo, rhaid fod ei lawenydd yn fawr heddvw, ei ysbryd mawr yn hedfan uwch noh gofid a'gwae Yr oeddwn gyciag ef nos Wener," yr oedd yn siriol, ac yn brysur iawn wrthi fel. arfer yn ysgrifenu. Ysgrifenodd gryn lawer ar hyd y dydd Sadwrn. Tua deg o'r gloch nos Sadwrn, cwynai nad oedd Yltcimloyn dda iawn, dywedai wrth ei briod—" pc cawn i gysgu tipvn, byddwn yn well gafaelwch yn fy Haw." Eistcddodd hithau ar ochr y gwelv, gafaelodd yn ei law, syrthiodd i gwsg esmwyth, debygai hi; ond ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes vn dawel a digyffro. Iiunodd Andronicus fel y bu fyw 411 wenu. Y pcth claf y bu ef a V minau yn ymddiddan am dano ydoedd y Negesydd. Rhoddai ganmoliaeth i style y papyr; a dywedai "Y mae cyhoeddwyr y papyr bach yna yn teilyngu cefnogaeth; y mae genyf finau dipyn i'w ddweyd am ardal Mach- ynlleth a Corris, a pheidiwch a synu gweled pwt oddiwrthyf yn y Negesydd cyn bo hir. Brysiwch yma eto Goronwy, so loizg; dyna ei eiriau olaf wrthyf pan ar frys yn ei adael i ddal y tren.—Yr eiddoch yn hiraethlawn GORONWY JONES.
PIGION.
PIGION. Deallwn fod cor meibion Abergynolwyn gyda y dyfalwch mwyaf, yn parotoi eu hunain, i gystadlu yn Eisteddfod Aberystwyth y mis nesaf. Mr. H. R. Humphreys, Machynlleth, ydyweu harweinydd.—Eiddunwn eu llwyddiant. Yn un 0 gynhadleddau yr Annibynwyr, dy- wedai y diweddar ffraethbert Dr. William Rees mai diwrnod "lladd mochyn" oedd cyfarfod mawr blynyddol yr enwad, a gwnaeth Y Gohebydd lawer o ddefnydd o'r geiriau. Yr oedd y ffugr cartrefol hwn yn dangos sefyllfa yr eglwys pan y mae yn cael "gwdedd" mewn cymhariaeth i'r hyn ydyw pan yn ei hystad gyffredin. Mae llawer i'w ddysgu drwy gyff- elybiaethau. Mae Mr. Alfred Aslett, rheolwr cyffredinol rheilffyrdd y Cambrian, yn ymddiswyddo, am ei fod wedi cael ei benodi i'r un swydd per- thynol i reilffordd Furness, Sir Lancaster. Fel y canlyn yr englynodd Gwylim Dyfi, yn nghyfarfod llenyddol diweddaf Penal, i Mr. H. R. Humphreys, Macltynlleth, fel datganwr:— 1" A'i lais balm, goglais y byw-wna Humphreys, Di-ymffrost wr ydyw; Gwefriol ganwr digyfryw,— A swell iawn am solo yw." i'——————————————
Y GAKDDWIl.
Y GAKDDWIl. Gwylio a thyner goledd—wna'r Garddwr, Gu ir-ddail a ffrwytliedd A thrwy weiui mcithrinedd Deil i wlad farchnadol wledd. GWILYM Dyl.,i.
ENGLYNION ANERCHIADOL
ENGLYNION ANERCHIADOL yn Eisteddfod Corris. Aixgyles hedd fyw Eisteddfod—yn tramwy Ein trumau henaf glod Ei lies a'i hanes hynod Geir i ni yn gaer o nod. Hon sydd haul araul eirian--o ael nef Yll liulio'i nwyf allan; Gan roddi yni anian, Gris o lwydd i Gprrits lan. Ffraethebion dynion doniol—gwyr seddol Cfwyr Bwyddi nwchraddol; Gydag awel mor cerddorol, Hedd i ni ddaw heddyw'n ol. Gwron tal y deym-wialen—a'i gwenau, Yw Gwynedd farchl trylen Arweinydd llywydd llawen, I ni bydd yn awr yn ben. Aberllcfeni. HExlty JONES,
ETHOLIAD ME IRION.
ETHOLIAD ME IRION. (Ymdaith Gwyr Ilttrlreh). Hen cliwarelwyr lioffus dyniad Dcwr Ffestiniog, at yr alwad, Rhoddwch llocdd nes cryno'r cread, Ellis fo am byth. Dencd Corris a'i tlmgolion, Hen arweinwyr rhyddid Meirion, I roi bloedd o eigion calon, Ellis fo am byth. Harlcch doed a'r Penrliyn Trawnfynydd a Ijlanuwclillyn, A'r liaia ddewr, Idandderfcl wyeh, Waetli pwy fydd yn eich erbyn I)oed Llanycil, Cynwyd, Corwen, Dyffryn, Dinas, a Llanfrothen, I roi bloedd nee duo'r lieulwen, Elli fo am bytli. Mae Rhyddfrydwyr Llandysilo, A gwyr Llangwm a Lhmdrillo, Heddyw'n barod i gydfloeddio, Ellis fo am bytli. Aberllefeni, wyt ti'n barod I roi'r Undebwyr dan y gawod, Ac i wieddi-Yinaitli, eorod Ellis fo am byth. 'Renno n Maeutwrog, A'r Gnnllwyd ddel ysgythtog; Dolgellau fawr, Llalielltyd gawr, 1 A'r Britlidir enfawr, Arthog Doed Llwyngwril a Llanegryn, Aberdyfi, Cwrt. a Thvwyn, > I roi bloedd nes seinio'rBerwyn, fo am byth. Corriti. MAC AKTIIUU o'u (JWM.
Advertising
ATHROFA PRiFYSCGL ~CYW^ABERYSTWYTH" PRIFATHRAW :— I T. F. ROBERTS, M.A. ( lYXIlYv YS.\ y cwrs o Add}rsg y parottv j angenrheidiol am Raddau yn Mhrifvs< Cymru a Phrifvsgol Llundain am Ysgoloriar au yn Rhydychain a Caergrawnt, ac atras" tudiaeth feddygol yn }r Prifysgoiion hyn J ) n yr Ysgotland. Gall meibion a merched a dder,mr i'r A i/RAN NORMALADJD fyned trwy y cwrs goiynol at fod yn Athrawon ac /-hrewesau Trwvddedig, ac ar un pryd barotoym Y grcld o B.A. neu B.Sc. Y mae y s\vm -dderbyniant fel Ysgolorion y hvcnliines yn 1 w cynal yn Aberystwyth am dymor eu h.rychaeth. Yn yr ADRAN AMAKTHYD P1- cyfrenir yr adcIvs,ž mewn Amaethyddir-'th a phynct^u perthvnasol sydd yn (I""I1\(S 1 Amaethwvr, Goruchwvlwyr Tir, Athravm mewn Amattn. yddiaeth, &c., a rhoddi- parotoad ar g-,rt,:r Arholiad Cymdeitha' Amaethyddia: fa Frenhinol UoegT. Detvay mvfyrwvr r1::wn. tai vn y dref, .t'r mcrched dan arolffiacth Miss K. A. CARPENTKR, mewr ncuadd eang wedi ei darparu ar cu cvfer Cynhelir Arhoi^d yn mis MF.DI, pryd J cvnygiv niter hel-eth o Ysgoloriaethau, rhai ii agored, ac erai-l vn gyfynedig i Gymru. Am bob ma-viion, ymofyr.erit V. G'-vjii; CQfeyirydd.
y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL.
y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL. Y mae canlyniad yr etholiadau i fyny i nos Lun yn rhoddi y fantol i'r Toriaid o 19 o seddau. Collodd Syr William Harcourt, arweinydd hyglod y blaid Ryddfrydig yn y Ty, ei sedd dros Derby. Aeth yn aberth i'r fasnach feddwol y ceisiodd ei rheoli. Ymhlith Rhyddfrydwyr eraill a gollasant eu seddau, y mae Mr. Shaw-Lefevre, Mr. W. S. Caine, Syr J. T. Hibbert, a Mr. Keir Hardie. Llwyddodd yr Undebwr Mr. H. M. Stanley y tro hwn. Mae'r Proffeswr Bryce a Mr. John Burns wedi cadw eu seddau. Pa un a ydyw yr enillion Toriaidd hyn yn rhag- arwyddo cadarnhau y Llywodraeth bresenol mewn awdurdod mae yn an- mhosibl i neb ddweyd, mwy nag y gellir dweyd pa dywydd fydd y dydd nesaf. Ni raid i'r Rhyddfrydwyr ddigaloni mewn un modd. Y mae'r gwirionedd ganddynt, yr hwn sydd yn anorch- fygol. Y deddfau yr ydym yn awr yn eu mwynhau yw y rhai y dadleuai y Rhyddfrydwyr drostynt pan mewn lleiafrif, 30 mlynedd ol, a bydd Ym- reolaeth, Dadgysylltiad, diwygio Deddfau'r Tir, a difodi gallu Ty'r Ar- glwyddi mor wired o gymeryd lie, a bod Senedd yn Mhrydain. Y mae Cymru yn cymeryd dyddor- deb mawr yn yr holl fesurau diwyg- iadol, ond y mae un mater yn cael y flaenoriaeth ar bob un arall, sef Dad- gysylltiad, ac nid gwiw i Gymru fyned gam yn ol ar y cwestiwn hwn. Hefyd y mae yr amaethwyr yn cymeryd dyddordeb yn nghanlyniadau y Ddir- prwyaeth Dirol Gymreig. Os y Tori- aid fydd mewn swydd, ffarwel i gyd- raddoldeb a rhyddid cydwybod i Gymru. Ni cheir dim ond traha oddiwrth yr Arglwydd ffroenuchel o Hatfield, a dim ond dagrau hudolus oddiwrth y crocodyl Chamberlain. Os na phleidia y gweithwyr a'r amaeth- wyr yr ymgeiswyr Rhyddfrydig sydd yn barod i estyn y breintiau hyn, ofer iddynt byth mwy wag siarad am gyd- raddoldeb crefyddol, a gofyn am os- tyngiad yn eu rhenti, a sicrwydd tenantiaeth. Hyderwn na bydd i neb o'r etholwyr gusanu traed eu gorthrymwyr yn hwy. Bydded i Faldwyn yn Sirol a Bwrdeis- drefol ymuno a'r gweddill o Gymru mewn sicrhau ei hiawnderau gwladol a chrefyddol. Ni bydd Maldwyn yn baradwys Cymru hyd nes y bydd y ddwy gynrychiolaeth yn eiddo plaid cynydd a rhyddid. Pleidleisier i Mr. Ellis fel y byddo ei fwyafrif yn uwch nag erioed tuag at grythau ei ddylan- wad yn y Senedd. Bydded i bob gwahaniaethau yn Ceredigion gael eu toddi yn nhan yr etholiad fel y dychweler Mr. Vaughan Davies gyda mwyafrif mawr. Pleidleisied pob etholwr fel pe byddai tynged yr ethol- iad yn gorphwys arno ef.
GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.
GWAITH Y RHYDDFRYDWYR. UGAIN PETH SYDD I'W GWNEYD GAN Y RHYDDFBYDWYK. 1. Sierhau pasio Mesur Ymreolaeth yn gyfraith. 2. Sicrhau pasio Mesnr Cyfrifoldeb Meis- triaid yn gyfraith. Collwyd y ddau fesur hyn drwy weithred- iad yr Argiwvddi. 3. Dadsefydlu a Dadwaddoli Eglwys Loegr yn Nghymrn, ac hofyd yr Eglwys Sefydledig yn Ysgotland. 4. Gwella Deddfau Tir y Werddon, fel ag i roddi sicrwydd yehwanegol i'r tenant ar ei welliantau ei hun, ac i wneyd darpariaeth ar gyfer adfer y tenantiaid a (lorwyd ymaitli. 5. Gwella Deddf Cofrestriad fel ag y caffo pob dyn a chanddo hawl iddi bleidlais, i sicrhau "Un dyn, Un bleidlais," ac i gynal pob etholiad vr un diwrnod. 6. Dodi y fasnach feddwol dan realaeth gyhoeddus. 7. Estyn bendithion Deddfau y Llaw- weithfeydd, fel ag i roddi terfyn yn y diwedd ar or-weithio, a rhoddi diogelwch ychwaneg- 01 i fywydau ac aelodau gweithwyr mewn llaw-weithfeydd a gweithdai. 8. Gosod yr lioll ysgolion elfenol cyhoedd- us dan reolaeth gyhoeddus. 9. Trethu seilrenti, gwerth tiroedd, teyrn- dollau mwnol, &c. 10* Gwneyd treuliau swyddogion dych- Wehadol mewn etholiadau Seneddol yn ddy- 01 °iU cy^°eddus, cydnabod egwyddor talu i aelodau fel jV unig foddion i sicrhau cyn- nX™la^e^h- ddigoncl i lafur yn Nhy'r y"redin, a byrhau parhad Seneddau. 11. Cymeryd moddion i gydraddoli trethi rirwng perchen a deiliad. 12. Sicrhau ad-daliad i denantiaid tref a gwlad am ymyrvd a'u buddianau, ac am eu gwelliantau, gyda moddion symlach i'w gael no JJiw.Ygio Deddfau y Tir, megis ag yr ardrof a gwlad. Ti ,nvygio Llywodraeth Fwrdeisiol j1!?1' dwyn y ddinas dan y Oyngor Sir, 1" TV fa ^awer helaethach i'r Oyngor y cymhwvsderaii gofynol ar gyfer bod yn ynad heddwch yn Lloogr a Chymru. 16. Gwella Deddf Cydfradwriacth. 17. Darpar llysoedd cymod a chyflafar- eddiad i setlo dadleuon Haiar. 18. Darpar ffyrdd liaiara ysgaifn i ardal- oedd gweledig, leI YFilJlrr cludo cynyrch amaethyddol i'r trefydd yn rhatach. 19. Sicrhau y bwrdd brecwest rhad a— 20. Cymeryd i atal Ty'r Ar- glwyddi rhag defnyddio awdurdod dros ewyllys Ty'r Gyffredin.
ETHOLIAD MEIRION
ETHOLIAD MEIRION Ymgeisiaeth lIIr. Ellis. Traddodir anerchiadau gan Mr Ellis, dydd Iau, y 18fed eyfisol, fel y canlyn :— Aberdyfi am haner awr wedi un-ar-ddeg y boreu. Towyn am un o'r gloch. Bryncrug am ddau Llanegryn am dri Llwyngwril am haner awr wedi pedwar. Friog am chwarter wedi pump. Arthog am chwarter cyn chwech. Bontddu am saith. Dolgellau am haner awr wedi wyth..
ETHOLIAD MALDWYN.
ETHOLIAD MALDWYN. Mr. Golygydd,-Etholiad Maldwyn sydd yn pwyso ar fy meddwl, a dymunwn i chwi,^ Negesydd, gario y nodyn hwn at yr amaethwyr a'r llafurwyr amaethyddol er ei rhoddi ar eu gwyliadwraeth rhag y chwedleuon dengar sydd yn cael eu taenu gan y blaid Doriaidd er ei denu i bleidleisio dros Mr. Wynn a'r Major Jones. Mae un o honynt yn cynrychioli y tirfeistri a'r Hall y fyddin, ac yn rhesymol gellir disgwyl iddynt, er eu holl eiriau teg i'r gwrthwyneb gadw i fynu y ddau allu mawr a distrywgar yna yn ein gwlad. Wel i ba beth, atolwg ? I'ch cadw chwi amaethwyr yn gaethion i borthi blys y ddau ddosbarth hwn, trwy weithio hwyr a boreu i wneyd rhent a threth iddynt. Yn wir, edrychant arnoch fel rhyw beiriant i fwyta glo ag yfel dwfr, a'ch unig neges yn y byd yw hel cyfoeth iddynt hwy i ymbesgi arno. Tybed, gyfeillion, y gwerthwch eich rhyddid trwy ,,y bleidleisio dros y ddau ymgeisydd yna sydd yn cynrychioli y ddwy elfen sydd yn benaf yn difetha ein gwlad. Hyderaf na wnewch, ond y dangoswch eich bod yn parchu eich hunain trwy bleidleisio i Mr. Humphreys- Owen, a'r blaid Ryddfrydig, y rhai sydd wedi dangos yn y Senedd-dymor diweddaf fod ganddynt gydymdeimlad byw a'ch cyflwr truenus, ac wedi gwneyd cymaiht a allent i wneyd llwybr agored i chwi fwynhau rhyddid a chysuron bywyd, trwy ddwyn i chwi yr hyn y mae gwir angen am dano, sef, sicrwydd tir- ddaliadaeth, yn lie bod fel yr ydych yn awr yn agored i gaelllotice to quit ar unrhyw adeg, ac heb achos rhesymol. Feallai nad ydych yn seboni digon ar ryw gorgi gwynebgoch 0 stezvart, na dal eich het yn ddigon hir yn eich llaw wrth siarad ag ef, yr hwn sydd yn barod am saig o fwycl i werthu eich genedigaeth-fraint o dir eich tadau, a'i osod i ryw gynffonwr sydd yn talu mwy 0 warogaeth iddo. I brofi i chwi nad yw ond ofer i ddisgwyl iachawdwriaeth oddiwrth y blaid Doriaidd, edrychwch ar y driniaeth a gafodd Mesur Mr. Lambert ganddynt o fewn y mis diweddaf. Ceisiai hwn, ymysg pethau eraill, i sicrhau tir-ddaliaeth i chwi, a rhyddid i werthu eich cropiau fel y gwelwch yn oreu, yr hyn nid oes genych yn awr, ac hefyd i gael tal am bob gwelliant a wnewch i'r tir, ond gomeddodd y Toriaid eu cynorthwyo i'w basio. Felly beth ellwch ddisgwyl ganddynt yn y dyfodol, ond ail- argraffiad o'u creulondeb tuag atoch yn y gorphenol; ynghydag ychwanegiadau obwysau ar eich gwarau, y rhai sydd wedi crymu yn barod gan bwysau y gorthrymderau yr ydych yn eu tawel oddef bob dydd. Wel, yn yr etholiad sydd gerllaw, mae genych fantais trwy ddiogelwch y ballot i roddi terfyn ar y trais a'r gorthrymder yr ydych o dano trwy bleidleisio dros Mr. Humphreys- Owen ac Owen Glyndwr Phillips. Mae y blaenaf wedi dangos ei gydymdeiml?d byw a'i denantiaid er's blynyddau trwy roddi tri swllt y bunt yn ol; ac felly eleni, ac yn barod i roddi mwy o ddiogelwch i chwi yn eich hen gartrefi sydd mor anwyl genych. Felly, pleid- leisiwch drostynt, ac felly rhoddi hoel ychwan- egol yn arch y Meistri Tir hyny sydd yn gorthrymu cymaint arnoch. Ystyriwch yn ddi- frifol, gyfeillion, a pheidiwch cymeryd eich hudo gan addewidion teg, na bygythion gwag. Ystyriaf bob amaethwr a llafurwryn Judas i'w frodyr os rhoddant eu pleidlais i Wynn neu Jones. Ewch yn ddistaw i'r poll, rhoddwch X ar X" ar gyfer enw y Rhyddfrydwyr ymhob ardal y cewch gyfle. Dyna ydyw dymuniad eich cyfaill— AMAETHWR.
GAIR AT FY CHWIORYDD. ,
GAIR AT FY CHWIORYDD. Yr wyf yn deall fod y Negesydd yn cael der- byniad lied groesawgar genych, ac hyd yn hyn nid wyf wedi canfod ynddo argoel o'r awel I afiach sydd yn chwythu dros bapyrau ein gwlad. Bendith arno os pery felly tra bydd neges gandclo. Awydd gormodol sydd ynom am rywbeth i'w ddarllen a rhyw newydd-deb ynddo, rhywbeth all adfywio tipyn, fel y dywedir. Dywedai un wrthyf y dydd o'r blaen nad oes rheswm mewn darllen llyfran dyfnion, celyd, a'u nod at ddifrifoli yn barhaus, ac yr wyf yn credu felly; ond ein perygl ni ydyw peidio dewis y rhai-k dda." Hawdd ydyw cysylltu y gair da ag unrhyw lyfr, ond a ydyw felly mewn gwirionedd ? Yr wyf yn credu ein bod yn rhy barod i wneyd camddefnydd o'r gair yn enwedig trwy 'ei gysylltu a'r novels a geir yn britho ein gwlad. Cysgodir llawer o honynt rhag derbvn y wi den a'r gair da. Carwn ofyn pa dd.doni sydd ynddynt ? Y rhai goreu o honynt, os oes goreu, yr wyf yn credu nad yw y rhai a gyfrifir felly ond tebyg i'r hyn a roddir gan y fam er denu y plentyn i roddi y cam cyntaf. Carwn i'r cwestiwn gael tipyn o le yn ein meddyliau, a rhodder lIe i'r gydwybod ddweyd ei barn, a pheidier a thaflu gorchudd dros Air Duw. Onid ydynt yn parlysu pob gallu ac yni tuag at ddaioni wrth eu darllen, ac a ydynt yn gwneyd rhywbeth gwell a'u deiliaid na chaeth- weision ? Yr wyf yn credu mai y diafol yw y cyntaf o bawb i ddweyd mai da ydynt." Am hyny, gochelwn y "llwynogod bychain sydd yn difa meusydd gwybodaeth ac adeiladaeth. CLAUDIA.
LLANBRYNMAIR.
LLANBRYNMAIR. YR ETHOLIAD.—-Cynhaliwyd cyfarfod brwd- frydig iawn yn yr Ysgoldy Brutanaidd, nos Wener, Gorphenaf i2fed, i bleidleisio ymgeis- iaeth Mr. Humphreys-Owen. Daeth cynulliad lliosog iawn ynghyd. Cadeirydd, y Parch. D. Stanley Davies. Traddodwyd areithiau rha- gorol iawn gan y Parchn. John Evans, Llan- fair; Evan Jones, Caernarfon a'r Mri. W. Theodore, Llanfair, a Mr. Davies Williams, Machynlleth. Pasiwyd yn unfrydol benderfyn- iad o ymddiriedaeth yn Mr. Humphreys-Owen ar gynygiad Mr. D. Howell (cadeirydd y Cyngor Plwyf), yn cael ei eilio gan Mr. Evan M. Jones, Cwmpenllydan. Dyma y cyfarfod politicaidd mwyaf brwd- frydig a welsom yn Llanbrynmair erioed. Yr oedd yr areithwyr mewn hwyl rhagorol, ac yn y y taflu peleni o dan i wersyll y gelyn nes oedd y dylanwad yn anorchfygol. Yr oedd yr ordd fawr o Gaernarfon yn curo yr hoelion wyth at y b6n, a'r llanw Rhyddfrydig wedi codi yn uchel iawn. "Cerdd ymlaen" eto hyd yr etholiad.