Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

CORRIS.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS. GORPHENAF 4YDD, 1895. Beirniadaeth Mr. Tom Price, Merthyr, ar gystadleuaeth y Brass Bands. BAND No. i.-Agoriad rhagorol gan yr holl offerynau. Amser da, a chyd-drawiad rha- gorol. Nid cystal oedd y Dotted Notes, rhyw seibiant byr diangenrhaid ar ol y Dotted Crotchets. Andante yn dda, a'r nodau byrion gan y cornets yn glir a mirain. Ail largo eto yn dda, nid cystal oedd yr ail Andante. Cychwyniad yr Larghetto yn wir dda gan y Bass a chymerwyd yr atebiad gan y cornets yn dda, a theimlem yr attack y symudiad olaf hwn yn wir dda, ac yn hynod 0 glir. iu "Amen" gan yr Euphonium yn rhagorol,— llithreni y nodau fel vocal score a thrwy hyny yr oedd brawddegiad (phrasing) yn gymer- adwy. Solo gan y soprano cornet fE flat) yn dda. Hynodid y chwareuad yma gan d6n dda. Cyd-darawiad rhagorol. Gallai fod yn fwy disglaer ac amrywiaethol, yn arbenig yn y rhanau nerthol o'r cydgan. BAND No. 2.Nid oecld y band hwn yn cynyrchu cystal t6n a'r Band No. I. Ychydig yn fwy gam, nid mor dyner. Credwyf fodd bynag, fod hyny i'w briodoli yn rhanol i nerth y chwareuwyr a diffyg ymarferiad mawr. Eto yr oedd yr attack mor lAn a chywir. Gallem nodi yr agoriad cyntaf fel esiampl, ar symudiadau araf bron i gyd. Lai"ghetto yn rhagorol gan y band hwn. Jiuphonium a'r Trombone yn chwareu yn dda, yn arbenig y cyntaf. Cychwynwyd yr "Amen" yn rhagorol, y nodau yn fyr, a'r amser ychydig yn fwy cyrfym na'r Band No. i. Fe garem fwy o fawredd yn agoriad yr "A men, ond yr oedd y d6n a gynyrchwyd yn rhagorol. Yr oedd y band yma yn gwella i ddiwedd yr Amen nes teimlem rhywbeth tebyg i hwyl yn y part olaf. Nid cystal oedd y Solo Co? net E flat yn No. 2. Gwres oedd yma, a digon o hono. Mewn mynegiant, yr oedd y band cyfuwch a'r No. i ond am dynerwch a phurdeb t6n, a chyd-darawiad, yr oeddynt yn colli. Rhodd natur yw gwres teimlad, ond rhaid wrth wrtaith a diwylliant er cael ton ac attack dda. Dyfarnaf y wobr gyntaf i No 1 a'r ail wobr yn galonog i No. 2.

Y DIWEDDAR AEDRONICUS. |

PIGION.

Y GAKDDWIl.

ENGLYNION ANERCHIADOL

ETHOLIAD ME IRION.

Advertising

y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

ETHOLIAD MEIRION

ETHOLIAD MALDWYN.

GAIR AT FY CHWIORYDD. ,

LLANBRYNMAIR.