Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

CORRIS.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

News
Cite
Share

DOLGELLAU. BODDIAD.—Prydnhawn dydd Gwener, y 5ed cyfisol, oddeutu haner awr wedi un, tarawyd trigolion y dref a newydd fod wedi boddi wrth Bont-y-werddu, ychydig is na'r Llundir. Cyrchodd ugeiniau yno cyn pen eiliad, a chajwyd mai John Pugh ydoedd. Cigydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu hefyd yn ngwasanaeth y diweddar Mr. Humphrey Jones, Ffrwd, masnachydd mewn defaid. Yr oedd tri o honynt wedi myned i ymdrochi, aeth dau i'r dwfr, sef John Pugh a John Richards. Gwelodd John Richards fod rhywbeth ar John Pugh. a cheisiodd afael ynddo, ond yn gwbl ofer, er ceisio hyny lawer gwaith. Gwaeddodd J. Richards, a chlywyd ef gan David Roberts, painter, yr hwn oedd yn gweithio yn Dol'rhyd ar y pryd. Daeth yno yn fuan, ond yn rhy hwyr, er hyny neidiodd i'r dwfr, bron fel yr oedd, a daeth ag ef i'r lan, ond yr oedd bywyd wedi ymadael. Cynhaliwyd trengholiad nos AVener, y flaen W. R. Davies, Ysw., crwner. Dychwelwyd rheithfarn o foddiad damweiniol. Claddwyd ef ddydd Sadwrn, yn y cemetery newydd. YR ETHOLIAD CYFFREDINOL.—Dyna y benv sydd ymhob man. Nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y neuadd gyhoeddus dan lywyddiaeth R. Wynne Williams, Ysw., U.H. Amcan y cyfarfod oedd enwi rhai i fyned i ganfasio i Mr. Ellis, a chael pethau. eraill i drefn. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus eto yn fuan. Mae y ceidwadwyr wrthi a'u holl egni yn canfasio i'w hymgeisydd, Mr. C. E. J. Owen, Hengwrtucha', ond credaf mai hollol oferfyddeu gwaith. I'r frwydr etholwyr—mae y frwydr yn un bwysig.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.

Y DIWEDDAR AEDRONICUS. |

PIGION.

Y GAKDDWIl.

ENGLYNION ANERCHIADOL

ETHOLIAD ME IRION.

Advertising

y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

ETHOLIAD MEIRION

ETHOLIAD MALDWYN.

GAIR AT FY CHWIORYDD. ,

LLANBRYNMAIR.