Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

CYNGHOR PLWYF LLANBRYNMAIR.

DINAS MAWDDWY.

EGLWYS TAL-Y-LLYN.

UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMRU.

News
Cite
Share

UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMRU. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr undeb hwn Gorphenaf lOfed, lleg, a'r 12fed. Parch. J. Bowen Jones, Aberhonddu, yn y gadair. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Job Miles, Aberystwyth, ar "Yr angen- rheidrwydd am ddarpariaeth ychwanegol i eglwysi gweiniaid, ac i enill y boblogaeth Gymreig yn Nghymru a Lloegr, nad ydynt yn mynychu moddion gras." Addawyd 500p. at yr amcan hwn. Ar ran Cymdeith- asfa y Methodistiaid, rhoddodd y Parch. W. Thomas a Mr. R. Rowlands wahoddiad i'r Undeb i Pwllheli. Traethodd y cadeirydd ar y pwnc "Dadguddiad Duw," gan wneyd cyfeiriad at Uwch-feirniadaeth. Cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a'r Ysgol Sul a'r Genhad- aeth. Dygwyd i sylw y symudiad o blaid can'mlwyddiant Cymdeithas Genhadol Llundain. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Penniount, pryd y llywyddwyd gan Mr. J. Hughes Jones, U.H., Aberdyfi. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. C. T. Thomas, Groeswen, ar Fferiiiivvr a'u gweision, a'u dyledswyddau i'w gilydd." Pwysai ar yr angen am fwy o gydraddoldeb rhwng dynion a dosbarthiadau mewn cymdeithas. Traethodd y Parch. J. Machretli Rees, Llundain, ar "Ddyledswydd Cymru ynglyn a'r Dadgysylltiad." Dywedodd fod y presenol yn argyfwng pwysig ynglyn a chyd- raddoldeb crefyddol.' Nid oedd o un diben beio'r Llywodraeth ddiweddar. Os oedd bai yn rhywle, ar yr aelodau Cymreig yr oedd yn gorphwys. Ni ddylai Cymru roddi heddwch i Loegr hyd nes y symudir y gormes hwn. Ein dyledswydd oedd anfon ychwaneg o gynrychiolwyr i hawlio terfyniad buan ar y cwestiwn. Byddai colli un neu ddwy eisteddle, heb son am leihad yn y niwyafrif yn ddim llai na tlirychineb. Rhaid parhau i gynhyrfu, nes cyraedd yr amcan o dynu yr Eglwys Sefydledig i lawr. Mr. I). Lloyd-George, A.S., a gafodd dderbyniad gwresog, y gynulleidfa yn codi ar eu traed i'w groesawu, ac ategodd yntau y sylwadau blaenorol. Dywedodd nad oedd wedi hollol sylweddoli paham yr oedd Cymru yn fwy blaenllaw mewn gwleidyddiaeth nag un genedl arall hyd y noson liono. Yr oedd yniru yn dvchwelyd 31 o aelodau dros acho, r y did a cliyfiawnder. Nid oedd ganddo ddim amheuaeth nad oedd gwleid- rioiMn1 ^edi codi oddiar ei Hym- Cvmi-n a<5 i oefld crefyddYmneillduaeth fel dvnCW'y i edrych ar ddyn %aa'ruii egwvddor oedd o dan 5 nei chiadau—nad oedd y &■quire ond dyn ac eglwyswr ond dyn, a bod yr Ym- • i/T\ JU 8'y(b'add a hwynt. Dyma'r i01 j f?edc^ yn sail i'w ceisiadau am gydraddoldeb gwladol a chrefyddol.

[No title]

Jl&goftori am Morris,

YR ETHOLIAD.

[No title]

CARNO.