Hide Articles List

8 articles on this Page

õgofion am (fcorrio.I

News
Cite
Share

õgofion am (fcorrio. GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. J- -r YI. Gan fod mwy nag ugain mlynedd wedi myned heibio er pan ddigwyddodd y pethau yr wyf yn son am danynt, nid yw yn an- mhosibl y gallai man gamgymeriadau ddi- gwydd yn fy Adgofion. Ni fynwn er dim wneuthur cam a neb, ac oherwydd liyny, os digwydda rhyw gamgymeriad, teimlai yh hynod ddiolchgar os bydd i rywun ddanfon gair o gywiriad. Yn fy ysgrif ddiweddaf dywedwn fod Mr. Rowlands wedi cael ugain punt am yr ychydig dir sydd dan gapel bychan y Ratgoed. Ysgrifena Mr. Evan Griffith, Ty'rcapel, Aberllefenni, yn garedig iawn ataf i gywiro hyny. Yr wyf yn cofio yn dda fod arno eisiau ugain punt, ond ar gyfrif rhyw bethau yr oedd yn disgwyl eu cael ynglyn a'r capel, cytunodd i'w roddi ar brydles o 999 o flynyddoedd am heidden os gofynid hi. Dyna yr hyn sydd iawn, ac yr wyf yn ddiolchgar i Mr. Griffith am fy nghywiro. Yn nes i Gorris na hen gapel Aberllefenni y mae rhes o dai a elwir Pensarn. Yn y ty agosaf i'r chwarel o'r rhai hyn yr oedd John Stephen yn byw—brawd i'r cerddor enwog, y pregethwr hyawdl, a'r ysgrifenydd medr- us, y diweddar Barch. E. Stephen, Tan- ymarian. Yr oedd llawer o ddoniau ei frawd enwocach yn John. Yr oedd wedi cael ei analluogi er's blynyddoedd i fyned o gwmpas fel arferol, ac oherwydd hyny an- fynych iawn y deuai i'r capel. Yr oedd ei wraig, os da yr wyf yn cofio, yn chwaer i Mr. Robert Hughes, goruchwyliwr y chwarel, a chyda hwy yr arhosai Mr. John Owen. Dyn dyddorol oedd Mr. Stephen. Darllenai lawer iawn, ac yr oedd yn ddar- llenwr da. Meddai olygiadau annibynol ar bynciau y dydd, a thraethai hwy gyda dawn a gwres neillduol iddo ei hun. Mown rhyw bethau efe oedd oracl y pentref, a byddai ei farn ef yn derfynol. Yr oedd ganddo galon gynes iawn, ac yr oedd yn gydymaith rhagorol. Yn yr un rhes y preswyliai Mrs. Ellis, mam y Parch. Griffith Ellis. Yr oedd ei gwr—Mr. Griffith Ellis—am yr hwn y clywais fy mam yn son mwy na mwy, wedi marw er's blynyddoedd cyn i mi ddyfod i Gorris, fel nas gallaf ddyfalu nemawr pa mor ddyledus y gallai fy nghyfaill galluog Mr. Griffith Ellis fod i'w dad. Ond am ei fain, yr wyf yn rhwym o gredu fod llawer iawn o honi hi yn ei mhab enwog. Yr oedd yn wraig gall, grefyddol, gyrhaeddgar. Medrai dewi, a medrai hefyd ddwoycl gair fvddai yn sicr o gael ei gofio. Gresyn mawr na chawsai y ddau fyw i weled llwyddiallt teilwng eu mab: y cyntafi dra- ddodi Darlith Davies, i fod yn brif foddion i wneuthur Casgliad y Jiwbili, i draddodi yr Araeth ar Natur Eglwys yn y Gymdeithasfa, ac i eistedd yn nghadair y Gymanfa Gyff- redinol. Bydd Ctyfundeb y Methodistiaid a Chymru yn gyffredinol o dan ddyled fawr i'r wraig dda lion. Rhwng Pensarn a Chorris, ar y llaw ddeheu cyn dyfod at bentref bychan y Garneddwen, y mae y Fronwen, lie y cartrefai Mr. Robert Hughes, Goruchwyliwr chwarel Aberllefeni am tlynycldoecld lawer, a thad y meibion sydd yn ymenwogi mor fawr ymysg' eu cenedl, sef y -Parch. Llewelyn R. Hughes, M.A., ficer Porthmadog, a'r Proff. Alfred Hughes, sydd yn awr yn ymgeisydd Ceid- wadol dros ranbarth Arfon, ac Arthur Hughes, y bargyfreithiwr "y tywysogion fel yr hoffai eu tad eu galw. Tarddai Mr. Hughes o wehelyth "bochgyu Llan- n llvfni," ac yr oedd yn berthynas agos i Robert Roberts, Olynog John Roberts, Liangwm, a Richard Roberts, Pwllheli. Meddai ddoniau a cliyrhaeddiadau naturiol o radd uchel iawn. Bu unwaith yn bwriadu myned i'r weinidogaethgyda'r Methodistiaid; ond priododd wraig—un o'r rhai goreu yn ddiameu—oedd yn Saesnes. Aeth gyda hi i'r Llan; a ffrwytli y briodas hono a'r |; symudiad liwnw ydyw y meibion adnabyddus hyn. Byddwn yn hoff o gyfarfod Mr. Hughes. Yr oedd ganddo synwyr naturiol; ymhell y tuhwnt i'r eyffredin. Hoffai ym- ddiddan am yr hen bethau. Ac er iddo at ei ddiwedd ogwyddo mewn pethau gwladol a chrefyddol oddiwrth ei hen gyfeillion, byddai bob amser yn gydymaith hynod o ddiddanus.

YR ETHOLIAD.

O'R FFAU,

DOLGELLAU.

ABERDYFI.

ABEEGYNOLWYN.I

NODION 0 TOWYN.

CYNGHOR PLWYF CEMMES.