Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

YR ETHOLIAD OYFFEEDlNOL.

News
Cite
Share

YR ETHOLIAD OYFFEEDlNOL. Y mae Arglwydd Rosebery wedi ymddiswyddo, a'r ffosylaidd Arglwydd Salisbury wedi cymeryd ei Ie lei Prif- weinidog. Daeth hyn oddiamgylch gyda sydynrwydd annisgwyliadwy. £.r fod mwyafrif y Idywodraeth wedi lleihau yn ddiweddar, m thybiwTd y gorchfygid y Llywodraeth ond ar un o'i phrif fesurau. Ond fel arall y bu. Taflwyd hi allan ar gynygiad cymhar- ol ddisylw, ynglyn a chyilemv ad cad- daarpariadau. Yr oedd y cynygiad yn gofyn am ostyngiad o ioop. yn n ghyilog yr Ysgrifenydd Rhyfel. Gan i'r cynygiad lwyddo drwy fwy- afrif o,saith, yr oedd o angenrheid- rwycld-yn gerydd uniongyrchol ar Mr. Campbell Bannerman, tra na bu yn yr oes hon yr un gweinidog mor boblog- aidd ag ef yn y swyddfa hon. Am ddoethineb y cwrs a gymerodd y Llywodraeth mewn canlyniad, nid yw o un diben manylu arno bellach. Nid ydym yn ameu mohono ychwaith. Mae mater pwysicach yn cael ei wthio arnom. Gan y byddwn yn nghanol yr etholiad ar fyrder, rhaid i'r Rhydd- frydwyr ddeffro yn ddiymdroi at eu dyledswyddau, neu daw y gelynion ar .ein gwarthaf, a chwalant ein rhengau. Mae gan y Rhyddfrydwyr gymaint a hyn o fantais ar eu gwrthwynebwyr fod ganddynt wladlywiaeth a mesurau wedi bod yn y Senedd a gymeradwywyd gan y wlad. Nid yw y Toriaid yn cynyg dim sydd yn werth gan y dos- barth gweithiol na'r amaethwyr eu derbyn. Dywedodd Mr. Chamberlain amser yn ol fod yn ormod peth cym- eryd Arglwydd Salisbury ar ei air, a threfniant y Toriaid yw ymgadw rhag rhoddi addewidion pendant am fesurau diwygiadol. Nis gall y Toriaid, heb wadu eu hegwyddorion, roddi add- ewidiongonestamddiwygiadauteilwng Y mae y Toriaid yn fedrus mewn gwneyd addewTidion teg a rhosynog, ond ni bydd y cyfryw yn ddim ond taflu llwch i lygaid y bobl, er mwyn i'w rhagrith hwy gael dianc heb gael ei weled. G-opeithiwn na chamarwein- iant yr etholaeth yn yr argyfwng pwysig" presenol i Gymru a'r Iwerddon. Nis gall dim petrusderfod am ddi- ogelwch Meirion, gyda'r mwyafrif o 3238 yn yr etholiad diweddaf. Nid oes wrthwynebydd all ddwyn ei choron ymaith. Ond y mae dwy gynrychiol- aeth Maldwyn yn wahanol. Bydd yma frwydrau c'aled, ac os enilla'r Rhyddfrydwyr y dydd, talant y draul yn dda, caiff effaith drydanol ar Gymru. Y mae y blaid yn ffodus yn eu hymgeiswyr, sef, y profedig Mr. Humphreys- Owen, a'r Rhyddfrydwr diamwys Mr. Owen Philipps. Go- 'beithiwn weled yr holl ryddfrydwyr yn ymuno fel un gwr i sicrhau budd- ugoliaeth fydd yn anrhydedd ar yr! hen wlad. Wrth yr etholwyr dywed- wn:-BYDD\CH vVYR, NA HUDER CHWL GAN ADDEWIDION, AC NA DDYCHRYNER CHWI GAN FYGYTHION.

Y WEINYDDXAETH NEWYDD.

TRO I'R AIPHT.

CYMANFA ANNIBYNWYR ,v r- MEIRIofc

CYMDEITHASFA DOLGELLAU

MACHYNLLETH.

NODION 0 TOWYN.|

CYNGHOB PLWYF LLANBRYNMAIR.

ABERANGELL.

ABERMAW.

CYMANFA YSGOLION METHODISTIAID…

Advertising

Palasau