Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ENGLYN CLOD.

Y DIWEDDAR ARGLWYDD SHERBROOKE.

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR ARGLWYDD SHERBROOKE. Chwarter canrif yn ol, nid oedd nemawr enw mwy hysbys na'r gwr uchod—fel ei gelwid ef y pryd hwnw, Robert Lowe. Yr oedd yn aelod seneddol dros Brifysgol Llundain, yn ysgolhaig uchel, yn areithydd coeth, ac am flynyddau yn aelod o'r Weinyddiaeth Ryddfrydig, fel gwein- idog Addysg a Changhellydd y Trysorlys. Un hynod o anhydrin ei ysbryd a phigog ei dafod ydoedd. Dyn cydwybodol a galluog yn tynu ei hun i ryw ddyryswch yn barhaus. Dywedai un y ceid prawf o hyn pan oedd ar ymweliad a'r Abermaw, sef y byddai yn gyru yr esmwyth- gerbyd, yn yr hwn y cludai ei wraig, yn erbyn pob carreg a gyfarfyddai. Efe oedd awdwr New Code yr ysgolion elfenol, yr hwn sydd bellach gan mwyaf, wedi ei ddifodi. Cododd rhan ddwyreiniol Llundain mewn gwrthryfel yn erbyn y dreth ar matches yr hon a geisiodd ei phasio, ond gorfu iddo ei thynu yn ol. Bu ami ysgarmes rhyngddo a Disraeli. Cyfeiriai Disraeli ato yn wawdus fel un o'r professors, yn y rhai nad oedd dim ym- ddiried i'w roddi. Atebai Lowe ef yn ffraeth- lym, trwy ddweyd fod ei wrthwynebydd "yn falch o fod yn amddifad ogalon." O'r diwedd, torodd i fyny a'i blaid ei hun ar fesur estyniad yr etholfraint. Gyda'r cwestiwn hwn difriai y dosbarth gweithiol yn fwy eithafol na'r Toriaid eu hunain. Yr oedd yn ymladdwr da, ac ym- daflai i'r ornest gyda grym ac afiaeth, ac ym- ddangosai fel pe byddai yn mwynhau ei hun drwyadl. Nid yw yn gomplunent i ddyn gael ei anrhegu a'i feddargrafF yn ei fywyd, yn enwedig os ydyw hono yn un angharedig; ond pan welodd Mr. Lowe y bedd-argraff canlynol, difyrodd ei hun drwy ei droi i'r Lladin. Yr oedd y gwreiddiol fel y canlyn Here lie the bones of Robert Lowe, Where he's gone to, I don't know If to the realms of peace and love, Farewell to happiness above; If haply to some lower level, We can't congratulate the Devil. Cyfieithiad Lladinaeg Mr. Lowe, yr hwn y dywedir oedd yn un byrfyfyr, sydd fel hyn Continentur hac in fossa Humilis Roberti ossa; Si ad coelum evolabit, Pax in coelo non restabit; Sin in inferis jacebit Diabolum ejus, poenitebit. Llawer chwareuwvd ar y bedclargraff hwn gan wahanol ysgolheigion, pan oedd Mr. Lowe yn Ganghellydd y Trysorlys, trwy efelychiadau i'r Lladin a'r Groeg, a darfu i Radical ei ateb gyda beddargraff ar y cyfansoddwr gwreiddiol, yn diweddu fel hyn:— His abuse in his own sour throat is sticking, But our jolly friend Lowe is alive and kicking. A oes rhywrai o'r beirdd a anfona i ni gyf- ieithiad Cymraeg o'r beddargraff ?

DERWENLAS.

Tl 61^0 ft on cun gorris,

CYNGHOR SIROL MALDWYM.

INODION 0 LANAU DYFI.

}DINAS MAWDDWY.

MANION.

!__--__------- - - -----_-…