Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TRO I'R AIPHT.

TOWYN.

CEMMES.

1DR. TALMAGE.

News
Cite
Share

DR. TALMAGE. Gan ein bod yn bwriadu cyhoeddi cyfran 0 o bregethau cyfieithedig y pregethwr dawnus ac athrylithgar uchod yn cin rhifynau dyfodol, mae'n ddiau y bydd byr hanes o'i fywyd a'i waith yn dderbyniol. Ganwyd T. de Witt Talmage yn Bound Brook, New Jersey, Unol Doleithau, yn y flwydclyn 1832, ac efe oedd yr ieuangaf 0 ddeuddeg o blant. I'w dad, dylanwad yr hwn drosto oedd o'r ansawdd oreu, y mae yn talu gwarogaeth arbenig mewn mwy nag un o'i I Z-1 bregethau. Sieryd am ei fam gyda thynerwch dwys, Wrth ddesgrifio y nefoedd fel palas, dywed, Mae genyf fam yn ffenestr y palas yn disgwyl am danaf. Plentyn ei hen ddyddiau oeddwn, a chofiaf fel y crynai ei llais yn y weddi hwyrol, gyda'r fath garedigrwydd y cychwynodd fy ngyrfa mewn bywyd, ac 'fel y gwyliodd ac y gofalodd' am danaf yr holl ffordd, ac yna, wedi iddi ein bendithio, ymadawodd i ffenestr y palas, lie y mae hi yn disgwyl newyddion da am danom. Mae'n debyg na byddai ddim niwed i mi ddweyd yn gyhoeddus pa beth yw fy uchelgais ddirgel, yr hyn yw, pan orphenir fy ngwaith ar y ddaear, myn'd i fyny a'i chyfarfod, a dweyd, Dyma fi fy mam, a holl ysbail fy ngweinidogaeth ddaearol. Daethum i dreulio tragwyddoldeb gyda chwi. Dyma ysbail buddugoliaeth y Gwaredwr.' Ah! talai hyny iddi am ei phryder ynghylch fy achos tragwyddol." Aeth tri o frodyr Dr. Talmage i'r weinidog- aeth o'i flaen ef. Ar ol gadael yr ysgol bwriadodd fyned yn gyfreithiwr, a threuliodd fbvyddyn yn Mhrifysgol New York, He y graddiodd gydag anrhydedd. Bu wed'yn yn ysgrifenydd mewn swyddfa gyfreithiol; ond pan yn bedair ar bymtheg oed daeth dan argyhoeddiadau crefyddol, a throdd ei feddwl ,,y at y weinidogaeth. Wedi llawer 0 ystyriaeth a gweddi, gadawodd ei le, ac yn 1853 aeth i Goleg Duwinyddol New Brunswick. E1 eglwys gyntaf oedd yn, Belleville, New Jersey, lie y gwasanaethodd am dair blynedd ac yna sym- udodd i Syracuse. Yr oedd arwyddion ainlwg y pryd hyny o dclyfodol disglaer iddo fel pregethwr. Daeth ei boblogrwydd yn fwy i'r amlwg pan dderbyniodd alwad eglwys yn Philadelphia yn 1862, lie yr oedd maes eangach o ddefnyddiol- deb iddo. Byddai yr addoldy bob amser yn llawn hyd y drysau. Treuliodd saith mlynedd yn Philadelphia. Yma cafodd alwad o Chicago San Francisco, a Brooklyn, New York. Pen- derfynodd ddewis yr olaf, er fod nifer yr eglwys wedi lleihau i ddau ar bymtheg, ac nid oedd ganddo yn benaf ond seti gweigion i bregethu iddynt. Ond yr oedd ganddo ddigon o faes i'w alluoedcl a'i ymroddiad. Llanwyd y seti ymhen ychydig wythnosau, a gwelwyd yn angenrheidiol codi adeilad newydd. Y pryd hwn y dechreuodd Dr. Talmage gyhoeddi ei bregethau yn y wasg newyddiadurol, ac o'r pryd hwnw hyd yn awr, cyfrifir ei ddarllenwyr wythnosol yn amryw filiynau drwy y byd. Agorwyd y Tabernacl cyntaf yn 1870, yr hwn ymhen dwy ilynedd a ddinystriwyd gan dan. Cynhaliwyd y gwasanaeth y boreu Sabbath canlynol yn yr Academy of Music, a phregeth- odd ar y geiriau Cysurwch, cysurwch, fy mhobl." Yn 1874, agonvyd yr ail Dabernacl, wedi ei wneyd ar ffurf haner lleuad. Wedi pymtheg mlynedd 0 waith llvvyddianus ynddo, syrthiodd yr adeilad hwn eto yn aberth i'r elfen ddinystriol. Trwy dal yswiriad ac addewidion penderfynwyd codi addoldy newydd drachefn. Yn y cyfwng hwn, talodd Dr. Talmage ymweliad a gwlad y Dwyrain. Daeth yn gyntaf i Loegr, yna aeth i Rufain ac Athen, lie y pregethodd i gynulTeiclfa fa wr ar Z, ly Fryn Mars. Ymwelodd a'r Aipht a Gwlad Canaan a dychwelodd i New York, Chwefror, 1890. Yna cyhoeddodd ei lyfr ar fywyd Crist, dan y teitl "O'r Preseb i'r'Orsedd." Agor- wyd y trydydd Dabernacl boreu Sabbath, Ebrill 36am, 1891, a phregethodd Dr. Hamlin; ac yn yr hwyr gan Dr. Talmage, oddiar y testyn Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwydd- ocau i chwi ?" (Joshua iv. 6). Yn ystod y bregeth eyfeiriodd at y pedair carreg 0 osodwyd yn y mur ger y pulpud, y rhai a ddygodd o Galfaria, Mynydd Sinai, ac Athen, a rhoddodd fyr hanes pa fodd y daeth i feddiant o honynt, a thraethodd arnynt fel arwyddion o'r Gyfraith a'r Efengyl. Gwnaed yr addoldy i gynwys 5000 o bersonau, a chostiodd 80,000p.; ond dinystriwyd y Tabernacl hwn eto drwy dan, Mai 13cg, 1894. Ar ol hyn, ymwelodd Dr, Talmage ag Awstralia, India, a gwledydd eraill, ac y mae yn awr yn pregothu yn yr Academy of Music, Bwriedir adeiladu y pedwerydd Dabernacl, Bn amryw weithiau ar ymweliad a'r wlad hon, a phregethodd ymhlith lleoedd eraill yn nghapel John Wesley, City Road, Llundain Hyde Park, a'r Palas Grisial. Talodd ym- weliad byr a Rwsia pan oedd y wlac] hono yn mhangleydd v newyn. Casglodd 6ooop. i brynu blawd, yr hwn a ranwyd ymhlith y di- oddefwyr yn y* wlad hono. Derbyniodd ddi- olchgarwch cynghorau St. Petersburg a Moscow am hyn, a derbyniwyd ef gan yr Ymherawdwr ei hun, yr hwn a ddiolchodd i bobl America am eu rhodd haelionus. Cafodd awr o ym- ddiddan a'r Ymherawdwr ar faterion gwleid- yddol a chrefyddol. Fel pregethwr y mae 0 ran ei arddull yn holloi ar ei ben ei hun. Tyr allan o hen l'wybrau cyffredin pre- retliu. Fel y dywed, "nid wyf yn gweled paham y dylid cadw at y tri phen ystrydebol, pan y byddai un pen neu ddeg pen yn fwy cyileus ac effeithjol j na pha!):un y rhaidjgrhag- ymadroddi am fed hwnw wedi 01 barotoi; na gadael y cynihwysiad. i'r diwedd os teimlir awydd ac y bydd yn fantais i wneyd hyny ar hyd y bregeth na phaham y glynir wrth gymhar- "Y iaethau henaidd i egluro y gwirionedd pan y gellir ysgwyd y bobl yn fwy effeithiol gyda rhywbeth arall; na phaham y rhaid cario eglwys ymlaen fel eglwysi eraill os rsqs genych gynllun gwell." A hyn a wna pf i'r llythyren. Mas yn llawn Ç1 ne^yydd-deb,. Dw-g lawer o wybod icth gyffredinoi mewn model byw a thar awiad )1 dan deyrnged i'r efengyl, ac y mao mellt yn ei draddodiad, rh\vyma,holl natur y gwrandawyr wrtho q'f deehrf.u'i'r diwedd, ac y mao yr eneiniad yn cydfyned a'i waith yn nychwehad lliaws at y Groes. Yn ol safon Dr. Parker y mae yn bregethtvr. Gall dyn fod yn ddarllenwr da pregethau penigamp; ond nid yw hwnw yn bregethwr yn marn Dr, Parker. I Dechreuodd Dr. Talmage, er hyny, gyda'^l papyr, ond trodd ef heibio yn gystal a myned allan o'r holl rigolau cyffredin cyn iddynt gael y feistrolaeth arno. 0 ran ei athrawiaetK y" mae yn gwbl efengylaidd. Caffed lawer o ,y lwyddiant eto, ac arhoed yn hir yn ffurfafen yr eglwys i lewyrchu- a llesoli'r byd.

BWRDEISDREFI MALDWYN,

MACHYNLLETH.

CORRIS.

ABERLLEFENNI.

[No title]

CYMANFA YSGOLION SABBOTHOL…

"YR YMGNAWDOLIAD."

Advertising