Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

DOSBARTH DOLGELLAU.

TALYEONT.

O'R F F A U,

TY'R ARGLWYDDI.

TRO I'R AIPHT.

News
Cite
Share

TRO I'R AIPHT. GAS MR. Gonoxwy JONES. Mr. Golygydd.—Feallai mai nid anner- byniol fyddai ychydig' nodiadau am "Hen Wlad y Caethiwed," yn onwedig mewn ardal boblog fel yr oicldoch chwi-ardal ag y mac yr Ysgol Sabbothol mewn cymaint bri, ac ardal yn yr hon, yn ddiau, y mae y Beibl yn IJyfr y llyfrau yn ngwir ystyr y gair. Y mae pawb sydd yn arfer darllen y Beibl yn sicr o fod wedi teimlo awydd rywbryd neu gilydd am gael gweled rhai o'r gwledydd y sonir am danynt ynddo. Dyna fy mlirofiad i beth bynag. Llawer gwaith y bu fy enaid yn dyheu am gipolwg, yn enwedig ar Hen Wlad yr Aipht. Diau mai yr Aipht ar lawor ystyr yw y wlad hynotaf yn y byd. Y mae ei hanes a'i hynafiaethau yn tafItL mwy o oleuni ar gynwys y Beibl nag eiddo unrhyw wlad arall dan haul. Pan nad oedd pobl etholedig yr Arglwydd ond teulu bychan o fugeiliaid crwyclrol an- llythyrenog, vr oedd yr Aiphtiaid yn genedl gref ddiwylliedig. Ie, cyn bod Abraham yr oedd y wlad hon wedi cyrhaedd safle mewn dysg a chelfyddvd na chyrhaeddwyd mo hono mewn rhai canghenau yn unrhyw wlad arall hyd y dydd hwn. I'r wlad ryfodd hon yr arweiniodd y Brenin Mawr Jacob a'i deulu i'w gwareiddio, i'w disgyblu, i'w parotoi yn raddol i' fod yn gymwys ddinasyddion o Wlad yr Addewid, ac yma y buont ysbaid 400 mlynedd yn gymydogion ac yn gaethion i'r Aiphtiaid. Nid rhyiedd iddynt ym- debygu iddynt, y mae y gwas am fod fel ei arglwydd, ac y mae dylanwad eu preswyliad yn yr Aipht i'w ganfod ar arferion a dull yr Israeliaid o fyw a chelfyddvd na chyrhaeddwyd mo hono mewn rhai canghenau yn unrhyw wlad arall hyd y dydd hwn. I'r wlad ryfodd hon yr arweiniodd y Brenin Mawr Jacob a'i deulu i'w gwareiddio, i'w disgyblu, i'w parotoi yn raddol i' fod yn gymwys ddinasyddion o Wlad yr Addewid, ac yma y buont ysbaid 400 mlynedd yn gymydogion ac yn gaethion i'r Aiphtiaid. Nid rhyiedd iddynt ym- debygu iddynt, y mae y gwas am fod fel ei arglwydd, ac y mae dylanwad eu preswyliad yn yr Aipht i'w ganfod ar arferion a dull yr Israeliaid o fyw 0 hyny hyd heddyw, ac y mae prcswylwyr Aipht yn ffyddlawn iawn i hen draddod- iadau ac arferion. Nid oes ond ychydig wahaniaeth yn null pobl y wlad o fyw heddyw ragor ydoedd yn nyddiau Abraham. Y maent yn gwisgo o'r bron yr un fath, nid yw y ffasiwn yn newid yno yinysg merched na meibion. Yr un yw eu dull o barotoi ym borth; yr un dull o drin tir, ac o ofaiu am anifeiliaid. Nid oes ond ychydig o wahaniaeth yn eu harferion ar enedigaeth, ar briodas, ar gladdedigaeth, ragor ydoedd u au y patriarchiaicl. -^drychwn ol a blaen, ar dde ac ar aswy, gwcUvii rywbeth bob munyd awr megis yn. ,Peiy(iryn o oleuni ar ryw gyfran neu t,1 ydd o'r Gyfrol Sanctaidd. A dyna geisial ei wneyd, a hyny mewn modd syml el y gall plant yr Ysgol Sul fy neall, sef rhoadi tipyn 0 hanes fy ymdaith yn Nhir yr Aipht yn y fath fodd as?' i wneyd anihell hen adnod yn fwy dealladwy ac yn fwy blasus nag o'r blaen. nag o'r blaen. Y cwestiwn cyntaf i'w benderfynu i un a'i xryd ar ymwelcd a'r Aipht yw pa fodd i gjraedd y peildor dros 8,000 o filldiroedd. Y mae mwy nag un Nordd. Gellir croesi o i Ffrainc, a chymeryd llong o Marseilles, a cliyraedd pen y daith mewn wyth neu naw diwrnod; neu fe ellir croesi y Cyfandir i ddeheubarth Itali, ac ymuno ag un o longau mawr Llundain sydd yn galw yn Brindisi, a chyraedd tir yr Aipht mewn o chwech i saith niwrnod. Ond y ffordd rataf a'r fwyaf llesol i rai yn ymofyn am adnewyddiad corff ae ysbryd yw "ffordd y mor;" a dyma y ffordd ddewiswyd gan fy mhriod a minau, a cliyclrwynasom. fis Rhagfyr o Lerpwl gydag un o longau y Papayanni Co. A gweddus yw i mi ddwyn tystiolaeth i ofal y Cadben a'r dwylaw am gysur a mwynhad y teithwyr ymhob modd. Yr unig anfantais i fyned y ffordd hon ydyw y cymer gryn lawer fwy o amser. sef pythefnos o Lerpwl i borthladd Alexandria. Cawsom ddiwrnod llaith, an- nifyr i gychwyn. Erbyn cyrhaedd glanau Mon, arwyddion drycliin mawr, a bu raid gochel dan gysgod Moelfra am bymtheg awr ond er mawr syndod i ni eawsom fynediad tawel, heddychlawn, drwy y Bay of Biscay. Ond wedi dyfod o honom i For y Canoldir, un diwrnod daeth cyf- newidiad disymwth. Cyfododd gwynt tymhestlog a elwir Euroclydon,"—y gwynt hwnw y sonir am dano yn Llyfr yr Actau. Ymgynhyrfodd y mor, a blin iawn fu arnom gan y dymhestl; ond diau mai da iawn oedd arnom ni o'i gymharu a chyflwr yr Apostol Paul a'i gymdeithion. Y mae gwyddor a chelf wedi gwneyd llawer er ei ddyddiau ef, i liniaru cynddaredd y storm, ac i sicrhau diogelwch bywydau. Pan o fewn ychydig filldiroedd i Ynys Melita, a'r storm yn parhau yn ei grym, gofynai y Cadben i mi, Tybiweh ein bod yn colli pob llywodraeth ar y llestr, i ba le yr ai hi ? Atobais heb betruso dim, Byddai y gwynt cryf yma yn sicr o'n chwythu acw," gan gyfeirio at gilfach oedd i'w chanfod ar lan yr ynys. "Yn hollol felly," medd yntau, "ac fe elwir y gilfach hyd heddyw yn 'St. Paul's Bay,' ac yr ydym ninau woithiau yn galw y gwynt cryf gogledd-ddwyreiniol yma yn 'St. Paul's Gale.' Fodd bynag yn nghanol y storm i gyd, yr oeddym yn ei theimlo yn fraint gael ein hebrwng i Ynys Melita gan yr un gwynt fu yn achlysur llongddrylliad i'r Apostol Paul. Gallwn ddweyd hefyd yn ei eiriau ef a'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyn- eidd-dra nid bychan," gyda hyn o wahan- iaeth, eu bod yn disgwyl tal am dano genym ni. Tyrfa fawr o bobl a phlant siriol a llawcn, pob un yn gwenu am y gorou. Fe ddywod esbonwyr wrthym mai nid am fod trigolion yr ynys hon, y pryd hyny yn anwariaid, y gelwid hwy yn far- bariaid gan awdwr Llyfr yr Actau, eitlir am nad oeddynt Eoegiaid na Phufeiniaid—am na fedrent siarad Groeg na Lladin; felly ystyrid hwy gan Eoegiaid a Pliufeinwyr yn dramorwyr fforeigners), ac mai hyn yw ystyr y guir barbariaid ond yn sicr y mae yr ohvg ar lawer o honynt yn y bedwar- edd ganrif ar bymtheg yn gyfryw ag i beri dieithr-ddyn deimlo fod cryn lawer o waith gwareiddio arnynt eto. Y rhan fwyaf o'r werin bobl yn droodnoeth a charpiog,-Ilu o gardotwyr ar bob llaw. Nid yw ond ynys fechan ryw ugain milldir o hyd wrth ddeu- ddeg o led; ond y mae ei plioblogaeth yn 160,000, yr hyn i raddau rydd gyfrif am yr arwyddion o dlodi a welir ymhob cyfeiriaid Pabyddiaeth sydd mown bri yma. Nis gellir cerdded hancr cam heb gyfarfod offeiriad Pabaidd, ac fel pob man arall, lie y ffYlla y Babaeth teyrnasa tywyllwch ac ofergoelodd, gwaseidd-dra a chulni. Credant mai Pahydd oedd Paul. Dywedai y guide wrthyf ar y ffordd i St. Paul's Bay, mai yr Apostol Paul fu yn olferyn i enill trigolion Melita i fod yn Babyddion. Rhaid fod rhyw un yn honi gwybod mwy na'r guide tlawd yn credu yr tin poth, o ran gwelais mown llyfr gyhoeddir yn yr ynys, sylw fel y caulyn The Maltese were first converted to the Roman Catholic Religion by St. Paul, who was shipwrecked on the shores of Malta in the year 58." Wedi cyrhaedd y lie y dywed traddodiad i Paul lanio ar ol y llongddrylliad, a cherdd- ed ysbaid ol a blaen ar hyd y traeth, dyma y guide yn ddisymwth yn tynu ei hot, ac yn myned ar ei liniau, ac yn dweyd yn y modd mwyaf difrifol, "10, syr, ie, syr, dyma y lie glaniodd y bendigedig apostol; ie, syr, a dacw ol ei draed, syr," gan bwyntio at ryw- beth tebyg i ol troed dyn mown darn o graig yn y tywod. Os byw ac iach, awn i Alex- andria yr wythnos nosaf.

CORRIS.

ABERYSTWYTH.

BWRDEISDREFI MALDWYN.

Y NEGESYDD.

DYFFRYN DYFI.