Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

YR AELWYD GYMREIG.

News
Cite
Share

YR AELWYD GYMREIG. MURMUR Y DON. LGAN "MINAFON."] Garw a blin yw'r hin wedi bod y dyddiau diweddaf hyn. Teimlir unigrwydd a noethni creigiau glan y mor yn fawr. Fflangella'r don, a gwyna wrth farw ar y traeth, ond mae cyfrinachau yn fwy cysegredig ar fin y bedd. Hwyracb mai nid anerbyniol gan deulu yr HERALD ar yr Aelwyd Gymreig fyddai i mi adrodd "murmuron ydon" mewn iaith ddeall- edig yn awr ac eilwaith. Nid yw'r byd ond traetb, a meddyliau ond tonau, a gweithredoedd dynion ond y tonau yn ymddryllio ar y glenydd. Ein gwaith fydd gwrando murmur y dnn wrth gyflawnu hunan- laddiad, a'i ail-adrodd, yn ogystal a chodi y cregin i fyny a cheisio deall eu sibrydion er eu gosod mewn du a gwyn. Melus fydd adrodd ambell freuddwyd a thraethu ami i feddw], yn bytrach na'i osod mewn bedd, ac hefyd rhaid i adgofion weled goleu y presenol. Newydd farw mae y drychin, canys bu ysbrydion ystorm yn cyniwair ar y bryniau yn ddiweddar, ac yn dawnsio ar frig pob ton, yn gwylltu ar lwybrau'r dyffryn, ac yn ymrafaeli > mewn ystrydoedd cul, ond y mae berw mwy yn mynwes gwlad y dyddiau hyn; ac onid curiadau calon cymydogaetb, a chynhyrfiadau plwyf, a berw bronau sydd yu penderfynu llwybr ym- daith, cysur, a gobaith y lluaws Y berw etholiadol! Dyma fe; y whd yn grochan, a chymydogaethau yn berwi, ac er ein bod yn nghanol ystormydd, o'r braidd y sylwediolwn ei bod yn auaf mewn hin, oher- wydd mae gwen hafaidd ar wyneb llawer un na welwyd y cyfryw arnynt er's talin. Y wen etholiadol! O mor wynfaol; peidier son am wen yr haul ar fryn, na gwawr Mehefin. Wrth weled dynion sychaf pob plwyf a thref mor aerchus a siriol yr ydym yn barod i ganu 0 na b'ai yn etholiad o hyd, dim ond voto yn y byd." Rhyfedd y fath ragrithwyr yw dynion! Nid oes neb o honynt yn short-sighted. Maent oil yn weision, a'u holl rinweddau ar drostan, tra mae eu haddewidion dysglaer yn ddigon i ddallu yr haul, cyn dydd y cyfrif; ond, ie, ond betb am y tranoetb? Ymdrechir yn giled i enill ymddiriedaeth digonol nes eu galluogi i gyr- haedd cadeiriau eu aerch a'u huchelgais, ond buan y diflana'r wen pob addewid yn gwywo yn bytrach na chyrhaedd cyflawniad; y gweis- ion yn troi yn ormeswyr, ac ymddiriedaeth drylwyr y cyhoedd yn cael ei fradychu. Gymry iaith ton gwirionedd yw "Gwyliwch rhag surdoesyphariseaid." Dalia y prophwydi gau hyn y cynghorau a'r byrddau i fyny yn awr fel cylchoedd lie cyfyngir eu galluoetid er ein budd, ond buan y gwelir pob llwyfan a bwrdd yn troi yn allorau gwaedlyd i aberthu ein disgwyl- iadau. Ycbydig, mewn cydraariaeth, o ym- geiswyr am seddau geir a llesiant y lluaws yn llosgi yn eu mynwesau. Chwenychir yr enw "DyDgarwr" gan bob Judas, ond "Hunan" yw ysgogydd pob gweithred. Pe gwyntyllid cymhellion Judasiaid yr oes hon byddai yr awelon yn farwol o hunan. Gwyliadwriaeth yw diogelwch dyn, eglwys, a chenedl. Druan o Brydain dallwyd hi gan wynder y dyfodol addawedig gan y tir- feddianwyr a'r gau-gynghorwyr yn yr etholiad eyffredinol diweddaf. Swynbudwyd hi gan eiriau ei threiawyr. Wedi i'r wlad feddwi ar au haddewidion a'u gwin llwyddasant i gyr- haedd llyw y wlad, ond buan y teimlwyd y rhwymau. "Rhyddid" mown llythyrenau breision ganfyddwyd ar eu banerau cyn dydd y frwydr, ond gwelwyd wedi hyny y faner yn cael ei throchi yn ngwaed y gorthrymedig. Mae Iwerddon yn gruddfan dan ei beichiau, ac ocheneidiau y trueiniaid megis yn gwyntydu y Ceidwadwyr. Os rhoddwyd iddi fenditb fechan, bendith yw a gwaed oesau ar ei hapgell. A wrandawyd gweddi a dymuuiad Cymru yn ddiweddar am gydnabyddiaeth ar faner yr Ynys ? Na, Baal yw'r duw ar orsedd St Stephan, ac ofer yw pob gweddi offryma Cymru am ymwared a chydnabyddiaeth. Anhawdd credu fod teimlad mewn gweinyddiaeth o'r fath, canys parhaodd Prydain heb wrido" wrth syllu uwch for gwaed yr Armeniaid. Ie, dyma y weinyddiaeth oedd a'i geiriau fel mel, a'i haddewidion yn gyfryw i hudo gwlad oleuaf y byd. Bu y don yn sibrwd, Gwrided Debeubarth Morganwg." Bu Barri dan gwmwl gwarth oherwydd dychweliad un sydd yn gwoeyd i fyny y blaid ormesol. Erbyn hyn mae y tonau yn gwynu wrth folianu oherwydd y fuddugol- iaeth ddiweddar, pan ddymchwelwyd castell y gelyn, a dychwelyd y Rhyddfrydyr pybyr yn aelod o'r Cynghor Sirol. Er i Wyddel orchfygu Cymro, ni thaflodd hyny sarhad ar Walia, canys gwell yw buddugoliaeth cyfiawnder ac egwyddor ar anghyfiawnder a thrais, na fod Cymro yn cael eistedd yn gyfeillgar yn mhlith gelynion ei wlad i'w ysbrydoli. Nid ydyw gwladgarwch a chenedlgarwch llawer ond mympwy. Parcher pob Cymro yn ol ei deil- yngdod. Ai meibion Gwalia yw y cyfryw a orfoleddant weled ymdaith Cymru i ororau caethiwed ? Ai teilwng o ymddiriedaeth yw yr hwn gar weled egwyddorion rhyddid a chyfiawnder mewn bedd, ac a wna y twmpathau yn risiau i gyrhaedd gorsedd y gormeswr! Gymry murmur tonau gwaed ein tadau a'n dewrion yw hyn Gwyliwch rhageich clwyfo yn nby eich caredigion." Cymru'n un dyma y gan ddifera dros wefusau y genedl, ac a adseinia rhwng ei chlogwyni; ond cyn gwel yr haul o'i lwybrau aur Gwalia yn un rbaid alltudio o bob swydd a chadair y cyfryw ag a geisiant alltudio eu gwlad. Yn ngwyneb y deffroad cenedlaethol (ciliad not ei anwybodaeth), pa le mae ffrwyth meddylgarwch y dydd A sylweddolir gwerth y breintiau gan y werin ? Onid yn llaw y cyhoedd y mae y deyrnwialen ? Eithaf gwir, ond trosglwyddant hi drosodd i'r Ceidwadwyr, ac yn eu dwylaw hwy try pob teyrnwialen yn gledd. Dyma gerdd y don etc Anmhosibl dileu olion uffern oddiar fryniau a dyffrynoedd ein gwlad, a symud o diriogaeth gwaeau y caeth- iwed, heb i'r Iluaws ddefnyddio eu harfau a'r cyfleusterau i'r amcan hyny drwy ddewis cyn- rychiolwyr sydd yn fyw i'w hanghenion- egwyddorion y cyfryw yn gynrychiolaeth deg o ddyheuad calon y wlad. Unoliaeth sicrha fuddugoliaeth. Sibrwd mae'r don am ddyddiau gwell, Ymdaith wna'r byd i'r bryniau pell- Dyddiau aancteiddiach y newydd fyd, Bryniau di-groes Paradwys glyd.

BARRY DISTRICT RAINFALL.

BARRY DISTRICT COUNCIL

-----------_----_-- -_-__--------_.___-BARRY…

LABOURERS' UNIONS AT BARRY.

[No title]

BARRY JUBILEE NURSING INSTITUTE.

------------------------BARRY…

Advertising

LAND DISPUTE AT BARRY.

---_--.--__-"._->_-------_----SANITARY…

LABOURERS' UNIONS AT BARRY.