Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

27 articles on this Page

BANGOR.

News
Cite
Share

BANGOR. GWLEDD Y MAER. Dydd Gweoer bu tua 70 o blant yn y Wicklow Houae yn cyfranogi o wledd y Maer, Bwriedid iddynt hwythau gael y wledd y Nadolig onibae i afiechyd eu lluddias, ANGEU. — Dydd Sadwrn bu farw Mr Thomas John Hughes, West End, ar ol nychu'n hir. Yr oedd yn gwasanaethu ar y rheilfFordd, ac yn ^Jod blaenllaw yn nghapel M.C. Berea (Glanadda). Gedy weddw, un mab a dwy feroh. Y CWRDD MISOL. Yn y gwasanaethau mewn cysylltiad a'r cwrdd misol yn Berea, yr wythnos ddiweddaf, pregethwyd gan y Parchn. Howell Harris Hughee, John Williams, Bryn- siencyn, a J. E. Hughes, Caernarfon. PROFI. EWYLLYS.—Mae ewyllys y diweddar Mr Rowland Williams, Whitehaven (brodor o Fon), wedi ei phrofi yn Carlisle, yn ffafr ei unig ferch, yn werth 3339p. Y egutorion ydynt y Parch Wynn Davies (mab-yn-nghyfraith), Ban- gor, a Mr Andrew Reed, Whitehaven. ADLONWEST YN Y TLOTTY.-Nos Fawrth, bu adlonwest, o drefniant Mrs Trench, Lime Grove, yr hwn fu yn dra Ilwyddianus. Cyfran- wyd tuagat y difyrwch gan y rhai a ganlyn: Mrs Trench, Miss Marton, Miss Bartholomew, a Miss Kitty Owen; Mr Trench, Mr Hugo Trench, Mr W. Jones, Mr Farrer, a Mr Walter M. Wil- liams. CAPEL BEREA.—Yn ol adroddiad blynyddol capel M.C. Berea am y flwyddyn 1908, dangosir fod 232 o aelodjiu yn perthyn i'r capel, Ilai o wyth na'r nifer y flwyddyn flaenorol. Bu naw aelcd farw. Derbyniwyd 896p 3s lOc, yn cynwys benthycion, etc., tra y talwyd 854p as 7c., yn gadaol gweddill o 43p 15s 2c yn yr ariandy. Swm y ddyled ar y capel yw 4740p. YR HEDDLYS.—Dydd Mawrth, gerbron Mri W. Pughe (cadeirydd) a J. Evan Roberts, cyhudd- id Wm. Da vies, Kyffin Square, o herwhela, a di- rwywyd ef 20s a'r costau, neu 14 niwmod-—Cy- huddid Joseph Ansonia a Herbert Ansonia (brod- yr) o-yr)iladd ar yr heol, a rhwymwyd hwy dros- odd yn y swm o 5p am chwe' mis, a gorchymyn- wyd, Mdynt dalu y ocst^iu—7s yr un. Dirwy- wyd Hugh Hughes, Carneddi, i 5s a'r costau am fod yn feddw ac afreolue ANGLADD. Dydd LIun, yn mynwent Glan- adda, bu atigla,(Id y dlwcddar Mr Aiistin Thomas Morgan, Waterloo-street, fu yn gweithio fur Reil- ffordd CWnlni y London a'r North-Western. Y prif alarwyr oeddynt: Mrs A. T. Morgan (gweddw), Mrs Jones (mam), Mri J. R. Morgan, Prifeglwys Dulyn, W. Morgan, Griffith Morgan, R. H. Morgan, a D. O. Morgan (brodyr), Mri Griffith Owen, Robert Owen, a Wm. Owen (brodyr-yn-nghyfraith). Gwasanaethid gan y Parch W. Edwards, y ficer. CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y MEROH- ED. Llywyddai y Parch. R. W. Hughes droe gyfarfod o'r gvmdeithas hon yn ysgoldy Lon- pobty, yr wvthnos ddiweddaf, pryd yr anerch- odd Miss L. K. Hughes (merch Gwyneth Vaughan) y cynulliad ar "Drygiom diod fedd- wol," ac adroddodd Miss L. Deiniol Jones. Mewn cyfarfod o'r gymdeithas dydd Mercher nesaf, yr areithvdd fvdd y Parch W. Wynn Davies. PRIODAS. Yn nghapel St. Paul's (W.), ddydd Mercher, unwyd mewn plan briodas Mr W. H. Evans, 336, High-street, Bangor, a Miss Bessie A. Jones, Oxford House, Bangor. Gwas- anaethwyd gan y Parohn. T. Hughes a Morgan Daniel. Rhoed y briodfereh ymaith gan ei thad, Mr R. Jones. Gweinyddid ar y briodfereh gan Miss Mem. Jones, cyfnither y briodfereh, a gwas- anaethai Mr R. T- Evans (brawd) fel gwas priod- as. Treulir y mis me! yn Llynlleifiad. Yr oedd yr anrhegion yn dra niterus a cnosttawr. YSGOL FRIARS.-Nos Lun a nos Fawrth, llanwyd y Penrhyn Hall a chynulliadau mawr- ion, ddaethant i welc-d chwareuad o bum' rhan o "Henry V." (Shakespeare), gan ddisgyblion yr ysgol hon. Cymerwyd rhan yn gampus gan Mri E. T. H. Royds, H. M. Owen, R. J. Owen, M. Thomas, C. Vallance, L. Owen, G. Phillips, J. Prestidge, M. Owen, W. Dyson, C. Cooil, W. Price Jones, H. C. R. Edwards, L. Shankland, A. S. White, P. B. White, R. M. Owen, T. Owen, C. R. Crofton, W. Furber, H. Lewis, a G. C. Davies. Hefyd, caed digrif chwareuad o "Brown with an E." Cymerwyd rhan yn y gwahanol gymeriadau gan Dr. E. 0. Price, Mr E. T. H. Royds, Mr G. P. Allen, Misses Pinker- ton, Sedgwick, a H. Glynn Williams. Gofalwyd am drefciadau'r llwyfan gan Mri R. D. Rich- ards, Hurren Harding, H. T. D. Turner, a Bax- tier, Llanfairfechan. Cyfeil.\vyd gan Mr I. C. Jones. PRAWF-GYNGHERDD.-Yn yr Hen Daber- nacl, nos Fercher, cynhaliwyd prawf-gyngherdd. Llywydd y cyngherdd oedd yr Anrhydeddus G. N. Irby, Glan Aethwy; a llanwyd y gadair gan y Milwriad Hugh Savage, V.D. Arweiniwyd y cyfarfod yn ddeheuig gan Mr O. Caerwyn Ro- berts, a chyfeiliwyd gan Miss Eardley (Pen- ce-rddes Arfon). Caed hefyd geinciau ar y delyn gan y telynor Ap Eos y Berth. Clorianwyd y dadgeiniaid a'r adroddwyr gan Dr. J. Lloyd Williams, Deiniol Fychan, a Dewi Meirion. Agorwyd y wledd drwy "dynnu mel o'r tannau man," a dilynodd Mr Cefni Jones gydag unawd. Rhoddodd Mr Tegid Davies esiampl dda o osod ar y delyn. Yn ei anerchiad, y Milwriad Savage a gyfeiriai at yr anhawsder o feirniadu cystadleuon yn mha rai y caffai cystadleuwyr ddewis eu can- euon a'u hadroddiadau. Wele'r dyfarniadau: ■ Her-unawd, Mr Evan Lewis, Capel Curig; deu- awd, Mri Evan Lewis a J. Defferd, Bangor; ad- rodd, Mr W. J. Walford, Dean-street.; a Ghor Meibion, dan Mr Wm. Williams, Tabernade-st., fu yn llwyddianus yn nghystadleuaeth y Corau Meibion.

IBETHESDA.

BORTH-Y,.GSST.

BLAENAU FFESTINIOG

CRICCfETH

__------Peswch Gwichlyd.

DOLBENMAEN-

DYFFRYN NANTLLE A'R AMGYLCHOEDD.

GYFFIN.

LLANBERIS.

LLANDEGAI.

LLANFAIRFECHAN.

LLANGYBI A LLANARMON.

PEN MA EN MAWR.

PCNRHYNDEUDRAETH.

_---TREFRIW.

Advertising

--._--'-----.,-...,.--------PORTHMADOG.

Advertising

Advertising

CAERNARFON.

CONWV.

* GLAN CONWV

Advertising

[No title]

LLANRWST.

--------------Munud, os Gwelwch…