Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

29 articles on this Page

Bangor.

Bethesda.

Blaenau Ffestiniog

Bettwsycoed.

..----Caernarfon,

-----------Criccieth.

------Garn.

Dyffryn Nantlle.

—0 Dolwyddelen.

Llandtiemiolen.

Llanrwst.

Llanberis.

-.---8"--C18 Llanfairfechan.

Porthmadog.

"Pwllheli.

Pistyll, Nefyn.

Penrhyndeudraeth

-_----------------Cynghor…

News
Cite
Share

Cynghor Trefol Pwllheli. PWLLHELI YNTE PWLL HELY? [Oddiwrth ein Gohelr.dd.] Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod misol y Cynghor uchod. pryd yr oedd yn bresenol; Mri R. 1. Parry (Maer), W. Anthony, G. C. Ro- berts, 0. W. Griffith, W. S. Jones, J. E. Hughes. J. Summers, H. P. Jones, R. A. Jones, A. 1. Parry, Evan 11. Davies (clerc), C. Davies (is-glerc), T. Cunningham (peirianydd), a J. Ellis (cyfrifvdd). SEINDORF HAF. Trwy cydweithrediad y Mri S. Andrewes a'i Fab ceid seindorf ragorol i chwareu yn South Beach a'r West End am y tymhor. CWYN. Cwvnai tai-ddalwyr South Beach, trwy Mr Eifl Jones, fod drwg yu cael ei wneud iddynt hwy a'u tai trwy fed gweithwyr y porthladd yn gweithio ddydd a nos gyferbyn a'r tai. Codai drygsawr mawr o'r porthladd. Fe ddylid atal y gwaith am y tymhor. Mr Summers a Mr Albert Jones a gadarnlias- ant. Cawsai rhai o'r tai-lletya golled eisces. Ymohebid a'r cymerwr er mwyn atal y gwaith am vr haf. Y GWAITH DWFR. Amcangyfrifai Mr John Ellis y derbyniadau yn 823p a'r costau yn 903p. Y LLYTHYRDY. Y Potstfeistr a farnai y gwnai yr adeiladau, presenol y tro, ond eu hestyn. Rhy fychan cedd yr adeilad a g; -nygiai y Cvnghor. HIN-FESURYDDION. Gofynid i Brifathraw yr Ysgol Sir am gania- tad i roddi yr hin-fesuryddion i fyny yn yr ys- gol. AMRYWION. Elai y derbyniadau oddiwrth y farchnadfa yn mreh yn barhaus.—Gofynai Cymdelthas v Bywydfadau am estyniad prydles ty y bywyd- fad yn Mhwllheli, ond gohiriwyd y mater.— Derbyniwyd dros 3p oddiwrth y dramffordd eleni yn fwy nag a wnawd y llynedd.—Byddai y lladd-dy yn agored o 6 y boreu hyd 10 y nos yn yr haf, ac yn y gauaf o 7 hyd 8. MADDET ANT AM Y TRO. Lladdasai cigydd anifail yn Erw Villa, yn groes i'r gyfraith. Datganasai ei ofid am icido wneud hyny. Ar yr amod iddo roddi sicrwydd na wnai efe ddim eto, ni chosBId ef y tro hwn. FFYNON FELIX BACH. Argynihellai y pwyllgor nad oedd dim yn cael ei wneud i amddiifyn hawliau y bobl i'r ffvnon hon. Mr J. E. Hughes a synodd glywed hyniy, a chynygicdd tod i'r pwyllgor a i-ystyried y peth. Cefnogodd Mr Anthony, Mr W. S. Jones: Pe buasai y bobl yn rhai cyfoethog buasech wedi cymeryd moddion i amddiffyn eu hawliau yn y fan. Pasiwyd y gwelliant. PORTH HELI YNTE PWLLHELI? Y Maer a gynygiodd fod pwyllgor yn cael ei ffurfio i gymeryd i ystyriaeth' y priodoldeb o newid enw y dref o Pwllheli i Portli Heli. Portli Heli oedd yr enw gwreiddiol. Llysenw oedd Pwll Heli. Yn yr hen gofnodion ac ar hen sel y Gorphoraeth Porth Heli a geid. 0 amser v Tywysog Du hyd y Frenhines Eliza- beth, Porth Heli oedd yr enw. Daethai vr emv oddiwrth Heli ap Glanawd, Cymro gwlad- gar a wnaethai lawer dros y dref. Pan aeth Maer y dref i weled Maer Llundain un tro, yr cedd yr enw Pwllheli mor ddieithriol fel na wyddid gan yr awdurdodau yn mha lo yr °^d Pwllheli. Ond tybid mai enw tramorol ydnedd, a gcsodwyd y Maer yn mysg y maerod tramorol! (chwerthin). Anhawdd gan y Saeson oedd acenu Pwllheli, yr hyn oedd yn rheswm dros adferyd yr enw cyntefig. Os penderfvn- Id defnyddio yr enw Porth Hely, geilid gwneii4 hyny yn hysbys pan agorid y porthladd newydd. Mr Cornelius Roberts: Os newidir yr enw, rhaid rhoddi rhybudd prydlawn er mwyn i'r sawl ag oedd ganddo lawer o bapyr ysgrifenu ag enw "Pwllheli" arno, ei ddefnyddio a chael papyr newydd! Mewn atebiad i Mr Anthony dywedodd y Maer mai pwll ac nid porthladd oedd yn y lie i ddechreu. Mr Anthony a deimlai yn ddiolchgar i'r Maer am yr hanes dyddorol a roddodd. Cefnogai efe fod y mater i fyr.ed i bwyllgor. Mr Hughes, tra yn teimlo dyddordeb yn hanes v dref, a ddvwedodd nad oedd efe yn cymeradwvo yr awgrymiad. Rhyw enw bastardaidd oedd Porth Hely. Cymreigaidd oedd Pwllheli. Gwrthwynebai efe roddi ffordd i'r awydd am newid hen enwau Cymreig i fodd- hau v Saeson. Y Maer: Ond Porth Hely oedd yr enw ar y cyntaf. Mr Albert Jones a farnai fod enwau anhawdd eu haoenu yn myned yn erbyn lleoedd.. Mr G. C. Roberts: A ydych chwi yn meddwl y gwna pobl gadw oddiyma oherwydd fod yr enw yn Pwllheli? Mr Hughes: Os newidiwn ni yr enw byddwn fel y bobl hyny a glywir yn gwaeddi "Oes y byd i'r ip.ith Gymraeg" mewn cyfarfodydd cyhoedd- us, ac yn dysgu Saesneg i'w plant gartref! Cyflwynwyd y mater i bwyllgor, yr hwn a alwyd gan Mr Hughes yn "Bwyllgor y Bedydd."

Helynt yn Chwarelau Nantlle.…

Advertising

I Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol…

-----------------. Cynghor…

-----------Marwolaeth Syr…

Nodachfa yn Mangor.

Advertising

Gwyl y Friallen yn Nhgonwy.

Advertising

Advertising

Llandudno Junction.