Hide Articles List

11 articles on this Page

CYNHADLEDD CAERNARFON. ----

News
Cite
Share

CYNHADLEDD CAERNARFON. Bu clymblaid o wrthryfelwyr yn cynhadledda yn Nghaernarfon y dydd o'r blaen. Cynllwyn oedd en gwaith a chren chwyldroad oedd eu hamcan. Eu man cyfarfod ydoodo Capel y Methodistiaid. Carant roddi rhith a lliw cref- ydd ar bobpeth o'u heiddo. Er mai nycim cref- ydd fydd nn o'r effeithiau os cant en hewyllys, ni falient fotwm am hyny. Heb fod nepell oddi- wrthynt ceid y Castell hanesyddol. Taena ei gysgod dros v dref, gan adgoffa gwladgarwch a gwroniaeth dderch eu eymrodyr ganrifoedd yn ol. Ond nid oedd na gwladgarwch na gwron- iaeth yn nodweddn'r cyfarfod a gynhelid yn Moriah. Canys ni feddai y rhai a ymgynull- asant yno well amcan na gwasgu sefydliadau cenedlaethol o fodolaeth, anrheithio tegweh a chyfiawnder, cren ysgariadau a theimladan an- hynaws, a chvnull arian i gario allan en bwriad- au blwng. Ni welwyd ymddygiadau nac am- canion mwy haerllug a beiddgar odid erioed; ac onibae am y ddawn a fedd yr arweinwyr i lygad- dynu y wlad a'u medr a'n moddion vstrywgar i daenu mwgwd dros wrthuni eii gwaith, siawns wael fnasai ganddynt i lwyddo. Blaenor y glymblaid yw Mr Lloyd George. Efe yw ai-ch-gynllunydd y gwrthryfel, ac efe sy'n cynyrchu ac yn cadw v cyffro mwyaf. Ond er prysured yw parabl a lletted yw dylanwad oracl y Bwrdeisdrefi, nis dichon hyd yn nod efeo gario ei lympwyon allan heb gymhorth arian- ol. Ac yn Nghaernarfon fe'i gwelid megys a'i gap yn ei law, yn erefu cardod ac yn son am aberth ac egwvddorion, tegweh a chyfiawnder, ei cymhell haelfrydedd y sawl a'i gvrrandawai. Bu adeg pan ehvid arian yn "gregin heddweh, ond myn ete eu troi yn arfan gwrthryfel, i. ddinystrio sefydliadau a gynyrchwyd trwy ebyrth ein liynafiaid, oddiai, amcanion pnr i leshau a goleuo'r genedl. Bydd yn ddigon hnan i Mr Lloyd George a'i blaid bwysleisio egwyddorion pan ddysgant weithredu yn unol a hwy, ac y mae gwaith y glymblaid yn son cy- maint am aberth yn gwaradwyddo yr elfen fen- digaid hono yn mywyd y genedl ddvddian fu. Gair arall barablwyd yn uchel a llithrig yn y Gynhadledd ydoedd undeb. Buasai ymdeith- ydd anwybodus o hanes y wlad a'r helynt addysgol, pe yn troi i Moriah, yn tybio fod cv/hvm tangnefedd yn uno pawb yno. Ond yn mhlith y penaf wyr ceid Seneddwr Khyddfrydol Cymreig nodedig am aeddfedrwydd ei farn, ei ddoethineb, a'i bwyll, svdd wedi datgan yn glir yn erbyn y polisi gwrtliryfelgar. Mr Bryn Ro- berts, A.S., yw efe, ac v mae gair o'i enau ef yn werth mil o enau hunanolion vstrywgar fedd- ant lawer mwy o ddawn nag o ddoethineh. Hawdd y gall hyawdledd gvfTroi y sawl fo'n ei wrandaw, ond nid brwdfrydedd bvrhoedlog un- rhyw gynhadledd garia'r effaith ddyfnaf ar feddwl y wlad; a sicr ddiamheu mai barn oleu, bwyllog, gwyr fel yr aelod dros Eifion, en ill a. galon gwyr goreu'n gwlad. Cyn ei myned yn rhy ddiweddar, cryf yw'r gobaith yr atelir rhysedd y gwrthryfehvyr. 'Ofer yw rhuthro'r pen yn erbyn parwydydd y Senedd, a phar yr ymgais i "ymaflyd codwm" a'r Llywodraeth fwy o grechwen nag o gynydd, mwy o loes nag o lwyddiant, i'r ymgymerwyr. Nis gellir mewn unrhvw fodd gyfiawnhau ang- hyfraith. Nid yw canwyll pwyll wedi diffodd eto yn Nghymru y mae budd y wlad yn dibynu ar i wrthryfel ac aflonyddweh beidio; a goren po cyntaf y dysgir y wers i'r glymblaid ddreng sy'n cyffroi cymaint.

Y Cymro ar 01.

Yr Eisteddfod a'r Diwygiad.

[No title]

Advertising

ASWYBYDDU Y GOGLEDD. ----

Y Sulgwyn.

.Y Ceid wad wyr Cymreig yn…

Ordeiniad yn Mhrifeglwys Bangor.

Marwolaeth Syr John Willox.

TRETH Y TLODION.