Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
Coffhau Dyngarwr.
Coffhau Dyngarwr. Gosodir meini coffadwriatbol y Charles Gar- rett Memorial Hall yn Lerpwl yn Medi nesaf. Disgwylir y bydd yr Arglwydd Faer5 Archddia- con Madden, Dr." Watson (Ian MacLaren), y Parch Robert Lewis ac eraill yn bresenol.
------------Pwy Fydd Arlywydd…
Pwy Fydd Arlywydd Nesaf America ? Y Barnwr Parker ydyw y dyn y mae Demo- cratiaid America am ei gael i fod yn ymgeisydd am yr Arglwyddiaeth. Sonir hefyd gan rai am ddwyn allan Mr Cleveland. Yn ol pob tebyg, bydd yr etholad nesaf yn un fywiog.
*----_._---__------Eisteddfod…
Eisteddfod Genedlaethol 1906. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ngwree sam, nos Lun ddiweddaf, i ystyried y priodol- deb o wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1906. Ar ol tiafodaeth, penderfynwyd rhoddi gwahoddiad i'r Eisteddfod, ac hefyd fod cyfarfod arall i'w gynal ar fyrder i ystyried y mater yn mhellach.
---1.--Etholiad Chertsey.
-1. Etholiad Chertsey. Cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad yn Chert- sey ddydd Ian Arglwydd Bingham (Undebwr). 5425 Mr T. Sadler (Rhyddfrydwr). 4876 Mwyafrif 549
Gweddio yn erbyn Mesur y Trwyddedau.
Gweddio yn erbyn Mesur y Trwyddedau. Yn Nghyfarfod Misol sir Fflint, a gynhaliwyd yn Llanarmon, yr wythnos ddiweddaf, pender- fynwyd gofyn i'r eglwysi gynal cyfarfodydd gweddio arbenig i'r amcan o ddeisyf am gyn- orthwy dwyfol i wrthwynebu Mesur Trwydd- edau y Llywodraeth. Pasiwyd fod Mr Ebenezer Bithal, ysgrifenydd y Pwyllgor Dirwestol, i ddwyn allan gylch-lythyr a'i anfon at wahanol egl-vysi y sir.
Cymro Addawol a Galluog.
Cymro Addawol a Galluog. Mae Mr T. W. Phillips, o Goleg yr lesu, Rhydychain, wedi pasio yn y dosbarth -cyntaf yr arholiad yn Mhrifysgol Rhydychain a elwir y Mathematical Honour Moderations. Yn mis Ebrill diweddaf, enillodd yr un bachgen y dos- barth cyntaf yn y Classical Moderations. Mae cael "double-first" mewn anrhydedd yn beth anghyffredin hyd yn nod yn Rhydychain alluog, a dywedir wrthym mai Mr Phillips yw y Cymro cyntaf i gyflawni y gwrhydri hwn. Hen ys- golor o Ysgol Sirol Machynlleth yw Mr Phillips, lie yr oedd o dan addysgiaeth Mr H. H. Meyler. Dringed eto i fwy o anrhydedd, ac "i godi yr hen wlad yn ei hoi."
-."------------ -Tarw Cynddeiriog…
Tarw Cynddeiriog yn Llan- rwst Tua dau o'r gloch prydnawn Llun (ddoe) yr oedd tarw yn cael ei anfon i orsaf y rheil- ffordd o Gwytnerin. Perthynai i John Ro- berts, masnachwr gwartheg, Llanrwst. Pan j gyrhaeddodd y dref gwylltiodd yr anifail, ac er ei fod wedi eiraffu o'i droed i'r fodrwy oedd I yn ei ffroen, torodd y fodrwy a rhuthrodd at ei yrwr gan ei wasgu yn bur arw. Rhuthrodd drachefn at un arall oedd ar y ffordd ond diangodd hwnw yn ebrwydd, a llwyddwyd yn y í diwedd i'w rwymo a'i arwain i'r orsaf, lie y I penderfynwvd ei ladd gan ei fod wedi ei faeddu yn arw yn yr ynilaçdfa,
rAdolygiad y Wasg.
r Adolygiad y Wasg. "Ancient i! Lish Heroes, being Tales from the Mabinogiv, prepared by 1. G. Maguire." Nid oes yn llenyddiaeth Cymru ddim mwy swynhudol na'r Mabinogion-y chwedloniaeth ber a henafol sydd erbyn hyn yn cael eu hys- tyried yn mhlith y clasuron, ac yn cael eu dar- lleil a u hefrydu fwy-fwy o hyd. Ceir y chwedleuon hyn, er's blynyddau bellach, wedi eu cyhoeddi mewn Cymraeg hen a diweddar; a gwnaeth Lady Charlotte Guest gymwynas fawr a'n cenedl trwy eu cyfieithu mor ystwyth a mirain i'r Saesneg. Trwy hyn, galluogwyd cenhedloedd eraill i fwynhau y rhamantau mwy- af per ond odid a geir mewn unrhyw iaith. Trefnir hwynt hefyd i'w darllen yn yr ysgol- ion elfenol: a dyna amcan y llyfryn bychan ddaeth i'n flaw oddiwrth Mri E. G. Arnold a'i Fab., Cyf., Leeds. Hanes yr hen arwyr Pryd- einig a geir yn y llyfryn; ac nid oes dim mwy dyddorol i blant nag ystoriau am wroniaid. Chwanegir at werth y gwaith presenol gan gyfarwyddiadau a nodiadau gwerthfawr ein cydwladwr trylen, Mr L. D. Jones (Llew Tegid), yr hwn, oherwydd iddo fod yn ysgolfeistr, a wyr anghen plant ein hysgolion cystal a neb. Haedda ddiolch am y gymwynas hon. Gan nad yw y llyfryn destlus ond 4c, dylai gael cylch- rediad helaeth iawn.
Gorsafoedd y Gweinidogion…
Gorsafoedd y Gweinidogion Wesleyaidd. Yn y Gynhadledd Wesleyaidd a gynhaliwyd yn Sheffield yr wythnos ddiweddaf, neillduwyd y gorsafoedd canlynol i'r gweinidogion yn Ar- fon :— Caernarfon.—David Thomas (B), R. W. Jones (Port Dinorwig), Joseph Owen (Peny- groes), Hugh Jones Davies (Penisa'rwaen); ar- olygydd, Owen Williams. Bangor.—R. Morgan (B.), Rowland Row- lands, T. C. Roberts (Llanfairfechan); golygydd a goruchwyliwr y llyfrau, Hugh Jones (B.), D.D., Bangor. Tregarth.—W. Caenog Jones, Owen Evans (Bethesda). Pwllheli.—H. Meirion Davies, J. Ll. Hughes (Criccieth). Porthmadog.—J. R. Ellis, Hugh Curry (Tal- sarnau).
. Nodion Personol.
Nodion Personol. Mae Arglwydd ac Arglwyddes Harlech, yn nghyda'r fs-Filwriad Henry Ormsby-Gore, yn aros yn Mrogyntyn. Yn Ngwestty'r Castell, Conwy, yr erys Due a Duces Manceinion ar hyn o bryd. Ar y 14eg o Fedi, bydd Arglwydd Stanley o Alderley yn cyflwyno tystysgrifau ar ran Pwyll- gor Addysg Manceinion i enillwyr yr ysgolor- iaethau. Mae'r Anrhyd. H. R. H. Lloyd-Mostyn wedi ei ddyrchafu i'r swydd o Filwriad yn y 14th Royal Welsh Fusiliers. Y Mil. Pryce Jones, A.S., sydd wedi ei ethol i gynrychioli'r Llywodraeth ar Fwrdd Llywod- raethol voleg y Brifysgol, Aberystwyth.
Marwolaeth Mr J. H. Bodvel…
Marwolaeth Mr J. H. Bodvel Roberts, Caernarfon. Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth y gwr adnabyddus uchod, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod, Cefncoed, ger Caernarfon, dydd Mawrth, ar ol cystudd poenus am fisoedd lawer. Yr oedd Mr Roberts yn 67ain mlwydd oed. Yr oedd yn frawd i Syr Owen Roberts, ysgrifenydd y Clothworkers' Company, ac yn gefnder i Mr J. Bryn Roberts, A.S. Treuliodd y boneddwr ymadawedig oes brysur iawn. Bu yn dal amryw o swyddi pwysig, megis clerc heddwch y sir, clerc y Cynghor Sir, clerc Cynghor Trefol Caernarfon, a threnghol- ydd rhan ogleddol y sir. Rhoddodd yr holl swyddi hyn i fyny y flwyddyn ddiweddaf oher- wydd afiechyd. Yr oedd hefyd yn un o'r cyfreithwyr hynaf yn Ngogledd Cymru ac ystyrid ef yn awdurdod ar bynciau yn dwyn cysylltiad a materion llywodraeth leol. Er mai Ceidwadwr ac Eglwyswr egwyddorol oedd yr ymadawedig, tystiai pawb am dano ei fod yn cyflawni pob swydd gyhoeddus o'r eiddo yn hollol anmhartiol a didderbynwyneb. Yn ddiweddar fe ddarfu i Gynghor Trefol Caernarfon gyflwyno rhyddfreiniad y dref iddo fel arwydd o'u parch tuag ato a'u gwerthfawr- ogiad o'i lafur yn nglyn a'r dref. Cafodd ei apwyntio yn glerc trefol Caernar- fon ar y 9fed o Fawrth, 1892. Mae llawer i gyfnewidiad wedi cymeryd He yn yr hen dref er hyny. Dilynwyd ef fel clerc heddwch y sir gan ei fab, Mr Arthur Bodvel Roberts. Gedy weddw a dau fab i alaru ar ei ol. Cymerodd yr angladd le yn Mynwent Llan- fagdalen boreu dydd Sadwrn.
Darfodedigaeth yn NgogleddI…
Darfodedigaeth yn Ngogledd Cymru. Yn Nghyngh' r Tref Gwrecsam, yr wythnos ddiweddaf, ) galv yd sylw at y nifer luosog sydd yvi marw o'r da ^odedigaeth yn Ngogledd Cym- ru. Mae yno 11.12 y fil ar gyfartaledd yn marw o'r afiechyd hwn, tra mai 12.17 yw'r cyfartaledd yn siroedd Lloegr. Cynygiwyd gofyn i'r Bwrdo Llywodraeth Leol eangu dar- rariaethau Dedd f Ysbyttai Arwahan, 1893, ond penderfynodd y Cynghor adael y mater ar hyn o bryd.
NodR,, i Eglwysig.
NodR,, i Eglwysig. Y Parch James Salt, ficer Llandinorwig, oedd y prif bregethwr yn Ngwyl Flynyddol Eg- lwys Dewi Sant, Manceinion. Pregethwr y. prydnawn oedd y Parch T. Dale Jones, curad St. Thomas, Pendleton. 0 Llongyfarchwn y Parch J. Llewelyn Rich- ards, B.A., Tyddyngwyn, ar ei benodiad i ficer- iaeth Dolyddelen. Caffed flynyddau o weith- garwch a llwyddiant yno. Dechreua Isfryn ar ei weinidogaeth yn ei blwyf newydd (Llanarmon) ddiwedd y mis hwn. Cawn fod yr Eglwysi Rhyddion a'u bryd ar gasglu swm o ugain mil ar gyfer yr etholiad cyffredinol, ac y gwneir ymdrech neillduol gan- ddynt i ddrygu yr Eglwys. Mae Tin Ymneilldu- wr cyfoethog wedi rhoddi pum' mil yn barod, ar yr amod y cesglir y pymtheng mil arall erbyn yr amser. Mae Eglwyswyr Manceinion wedi llwyddo i leihau y ddyled sydd yn gorphwys ar yr eglwys 0 850p i 700p. Gweithiodd y Caplan (y Parch H. R. Hughes) a'r gynulleidfa yn ddiwyd i sicr- hau hyn. Ni laesir dwylaw hyd nes y symudir ymaith yr oil o'r ddyled. Mae yn groes i syn- iadau Eglwysig iod cymaint o ddyled ar yr eg- lwys o gwbl, ga:i mai yr arferiad cyffredin yw sicrhau bron yr oil o'r arian angenrheidiol cyn dechreu adeiladu. Dywenydd gejiym allu llongyfarch Mr Ben Davies, gynt brff vsgolor yn Ngholeg Dewi Sant (Llanbedr), ar ei lwyddiant yn enill ei radd yn y dosbarth blaenaf yn Rhydychain. Efe oedd yr unig un o efrydwyr Coleg Worcester a lwydd- °dd 1 basio yn y dosbarth blaenaf gydag an- rhydedd. Dyna orpheniad anrhydeddus i vrfa neillduol o lwyddianus. « » » • Da genym glywed fod y Parch J. J. Ellis, ficer Nefyn, yn graddol wella o'i afiechyd blin. Mae wedi dioddef er's amser bellach oddiwrth y 'pneumonia." Ar eu hymadawiad i'w gwahanol fywoliaeth- au bydd i'r Parch R. Hughes, B.A., curad Llanllyfni, a'r Parch Gwilym Lewis, B.A. CVra<? ,Vaernarfon, gael eu tystebu gan eu plwytohon. < < Hysbysir am waeledd y Parch J. Harris, rheithor newydd Llanaelhaiarn. Dyn gweith- gar ac yn mlodau ei ddyddiau yw, ac hyderwn yr adferir ef yn fuan i'w gyflawn iechyd. < < <h' Ar ddiwrnod claddedigaeth Arglwydd Har- lech, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol yn Eglwys Crist, Talsarnau, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch D. T. Hughes, rheithor. Arferai y diweddar arglwydd ddarllen y llith- iau yn yr eglwys hon. < < < Mae gan y Gymdeithas Genhadol Eglwysig newydd da i'w gyhoeddi. Yn ddiweddar, fel y cofia rhai o'n darllenwyr, gwnaed apel neill- duol am danysgrifiadau a chasgliadau, onide byddai gorfodaeth yn cael ei roddi ar y pwyll- gor i gwtogi y gwaith enfawr a wneir gan y gymdeithas i efengyleiddo'r byd. Mae derbyn- iadau sydd yn dangos cynydd 0 dros 53,000p ar y Bwyddyn ddiweddaf wedi eu talu i goffrau y gymdeithas, a hon yw y flwyddyn fwyaf llwvdd- ianus yn hanes y gymdeithas. Mae gan y gym- deithas achos i ddiolch i Dduw ac i gymeryd cysur. Nid yw pethau cynddrwg ag y tybir genym yn ami. Mae yn hawdd genym gyfeirio at bron bobpeth crefyddol fel pe yn dirywio ond mae y blynyddoedd diweddaf wedi profi fod haelioni y bobl, pan yr apelir atynt yn ddifrifol, yn beth y gellir dibynu arno. Yn brawf pellach o hyny cyfeiriwn at Gronfa y Miliwn Ginis gan y Wesleyaid, a chasgliadau reu^v yir!!rK18tiaid a'r Annibynwyr ar ddech- hynod Iwyddian'S'. yF °U ° b& rai droisant < Mae rhai pobl YI1, barod bob amser i siarad mewn yspryd anmharchus am genhadon, ond yn ddiweddar mae prawf o'u gwerthfawredd yn og,ystal ag o syniad y byd am danviit,wedi dod i'r golwg. Mae'r Llywodraeth Japankidd wedi rhoddi cyfarwyddiadau fod yr oil o'r cyfieithwyr i'r Saesneg a'r gohebwyr rhyfe? estronol gyda'u byddinoedd i fod yn Gristionogion. Mae'r gorchymyn hwn wedi ei roddi am fod y Llyw- odraeth yn awyddus i sicrhau y dynion mwyaf diamheuol ac o'r cvmeriad uwchaf. Sieryd hyn yn uchel am genhadon.
----------Lloffion Dyddorol.
Lloffion Dyddorol. BAvriedir cyflwyno'i ddarlun i Syr William Harcourt gan v Rhyddfrydwyr. r Mae glowyr Black Park, y Waen, ger. Llan- gollen, yn sefyll allan am fwy o gyflog Dydd Sadwrn yr oend. Miss Eluned Morgan yn gadael Cymru am ei chartref yn Mhata- genia. Y mae ty y bardd Tennyson yn myned dan forthwyl yr arwerthwr yn Twickenham yr vvyth- nos hon. 4 S Cyfaa-fu Syr William Rattigan, yr A S. Toriaidd dros ranbarth Grogledd-ddwyrain sir Lanark, a damwain angeuol trwy ddymchwel- iad ei gerbyd, ddydd Llun. Y mae awen y Prif-fardd Pendant yn dal yn dirf. Pan ofynodd W. G. O. iddo os byddai ambell Gigfran yn dyfod ato i Lan Cerith, ateb- o(l.d Cigfrain Ner yn Nglan Cerith—wobrwyant Ei boreuol fendith; A phob prydnawn dan lawn wlith Y ford hiliant gyfrdelith. Gwilym Cowlyd a'i Cant. Diotwyr.—Y fan a hoffant fwyaf-y lie mwy- af dengar iddynt ydyw y dafarn. Y mae y rhai hyn yn cwyno am fod y Llywodraeth yn tolli eu bwyd a'u dillad, ond mynant drethu eu hunain i'r swm o 70 o filiwnau yn rbagor.- T. Aubrey. Terfynodd y Parch J. Pulford Williams ei wasanaeth o naw mlynedd yn eglwys Plasnew- ydd, y Sabbath o'r blaen, pryd y cyflwynwyd iddo bwrs o aur gan yr eglwys, a writing case gan y bobl ieuaihc. Bydd y Parch E. P. Jones, B.A., Bangor, yn dechreu ar ei waith yno yn Medi. Mae yr efengyles Americanaidd, adnabyddus wrth yr enw Rahel o Fon, am dalu ymweliad a Chymru. Gadawodd Wisconsin er's tro, ond yr oedd ganddi i draddodi pregethau mewn amryw leoedd ar ei ffordd. Rl>oes y gymanfa o'r hon y mae yn aelod lythyr cj fiwj-niad iddi at eglwysi Cymrn. Rhydd y "Cerddoa-"ddarlun da o Bencerdd Gwalia—cerddor ag y mae ei enw yn adnabydd- us iawn er's haner can' rulynedd. Haedda Mr John Thomas yr anrhydedd yma, po ond oher- wycJd ei fod wedi cadw ei enw yn Iau am gyiilfer o Bwydd i. Y chydig iawn o gerddorion sy'n gwneyd am haner hyny. Ac y mae Mr Thomas yn 78 mlwydd oed! Yr oedd yn adnabyddus iawn pan oedd y rhan fwyaf 0 hon011 yn blant, a heddyw y mae yn cael ei barchu gan gerddor- « ion Seismg blaenaf. y dydd. Mae yn gymrawd o'r Academy Frenhittot, yn broffeswr vn y Coleg Brenhinol, ac yn Ysgol rddQrQl y Guild HaU.
LONDON AND NORTH WESTERN RLY.…
LONDON AND NORTH WESTERN RLY. TRAFFIC RETURN. Week ending July 3rd, 1904. Passengers, parcels, etc., and mails, £141,000; goods, etc., total, £ 142,000; weeks, total, £ 283,000; corresponding week in 1903, £ 289,000; aggregat-e, £ 6,777.000. JAMES BISHOP, Secretary. Eastern Station, London, N ,'V.
NEWYDDION DIWEDDARAF.
NEWYDDION DIWEDDARAF. BANGOR. Nos Lun. BWRDE13DREFI ARFOX AKDDANGOSIADr CYNGHRAIR Y FRIALLEN I FOD YN MHÁRC Y FAENQU Brydnawu heddyw synbaliwyd cyfarfod lluosog o Bwyllgorau Gweithiol Urdd y Friallen a Chymdeithas Geidwadol y Gwith-yr yn Sir Gaernarfon yn y Sportsman Hotel, Caernarfon, Mrs Assheton Smith, "dame president" y ganghen leol, yn llywyddu. Yn, mhlith eraill yr oedd vn bresenol Mr F». A. Naylor (yr ym- geisydd Ceidwadol dros y Bwrdoisdrefi), yr hwn a deithiodd yn arbenig o Luiidaiya, i'r cyfarfod. "NTodwedoiu y gweithrediadau gan unoliaeth a brwdfrydedd. Amcan y cyfarfod oedd trefnu ar agrfer yr ar- ddangosiad agoshaol dan nawdd yr Urdd uchod ar gyfer bwrdeisdrefi Caernarfon, Sangor, a Chonwy. D Cynhelir yr arddangosiad, trwy ganaatad car- edig Mr G. W. Duff Assheton Smith, yn Mhare y Faenol, ar yr 11 eg o Awst. Darperir te yn y prydnawn, a threfnir hefyd chwareuon. Dilynir hyn gan gyfarfod cyhoeddus, yr hwn a anerchir gan Mr R. A. Naylor a boneddigion eraill. Disgwylir cynulliad mawr o aeloda.a Cynghrair y Friallu a Cheidwadwyr yn gyffredinol o'r ardaloedd cylchynol. Darperir trenau arbenig i'r gwahoddedigion o'r tair fwr- deisdref. Gobeithir hefyd y gellir cynal arddangosiad cyffelvb yn nglyn a'r tair fwrdeisdref arall yn y sir, sef Criccieth, Pwllheli, a Nefyn.
Y Rhyfel.
Y Rhyfel. Wythnos led dawel fu'r ddiweddaf, ac ni ddaeth nemawr newyddion o bwys i'r wlad hon am y byddinoedd. Foreu ddydd Llun cyhoeddid fod y Japan- iaid wedi cymeryd cam pwysig arall yn y sym- udiad tua'r gogledd. Hysbysa'r Cadfridog Oku iddo feddianu Kaipung a'r ucheldiroedd cylch- yno!. Dywed gohebydd 0 Shanghai fod y fyddin Rwsiaidd a drowyd allan o Kaipuhg yn rhifo ugain mil o wyr.
Llyfrgell ac Argraph-Wasg,…
Llyfrgell ac Argraph-Wasg, rg Gwilym Cowlyd. Ddydd Gwener. yn Nghynghor Llanrwst, hysbyswyd fod Gwilym Cowlyd wedi cynyg ei lyfrgell a'i ddefnyddiau argraphu i'r Cynghor er mwyn ffurfio llyfrgell rydd i'r dref. Credai y Prif-fardd Pendant fod cynwys ei argraphdy yn werth o 80p i lOOp. Rhaid oedd eu symud yn ddiymdroi o'r man y maent. Penderfynodd y Cynghor fyned i'r draul & symud y llyfrau a'r defnyddiau i ystafell uwch- ben y tan-orsaf; a gosodwvd ar Mr J. E. Hum- phreys, y cyfreithiwr, i dynu allan y rhodd- weithred gyfreithiol rhwng Cowlyd a'r Cyng- hor. Yr oeddynt yn derbyn y rhodd yn ddiam- odol ac heb ymrwymo i sefydlu llyfrgell rydd.
. Cynghor Trefol Caernarfon.
Cynghor Trefol Caernarfon. TYNU CYFLOGAU I LAWR. Cynhalivyd cyfarfod misol Cynghor Trefol Caernarfon ddydd Mawrth diweddaf, o dan lyw- yddiaeth y Maer (Cynghorydd W. G. Thomits). GWEITHWYR Y GORPHORAETH. Cyflwynwyd1 yr argymhelliou caulynol a bas- iwyd gan y Cynghor Trefol mewn p-A-yllgor-. (1) Fod Johil Griffith i gael ei benoai i gadw yr ystordy, i barotoi papyrau amser y dynion, ac » wneuthur unrhyw waith arall ac a orcliymynir iddo gan yr aroiygydd neu ei gynorthwywr, am gyflog o 25s yr wjrthncs. (2) I' od goruchwyliwr ar y dwfr, yr hwn raid iddo fod yn plumber, i gael ei gyflogi am y cyflog o 28s yn yr wythnos. (3) Gwnaed i ffwrdd ag argymlieliad y Pwyll- gor Arbenig fod cynorthwywr i'r aioJygjdd i gael ei benodi am y cyflog o 35s yn yr wythnos. (4) Fod safon! cyflog gweithwyr y Gorphoraeth » fod yn lp yn yr wythnos. (5) Fod cyflog Owen Parry i aros yn 26s yn yr wythnos Hugh Wil- liams eto yn 23s; Tom Hughes, 21s: fod cyflog Owen Salisbury i gael ei dynu i lawr o lp i 15s; cyflog Robert Jones (yard) i'w ostwng o 19s i 18s; Richard Morris i aros yn 20s Robert Jones (Hospital) i aros yn 21s; Thomas Hughes i aros yn 21s; John Hughes, Edward Fellowes, John Jones, Morris Edwards, John Salisbury, a Wm. Crunkhorn, i aros yn 20s; William Thomas i aros yn 30s; William Davies yn 25s; Richard Griffiths, Edward Hughes a William Hughes i aros yn 21s 6c; William Griffith, 13s a com- mission. (6) Fod y mater o gyflog yr aroiygydd i gael ei ohirio am chwe' mis. Cynygiodd y Maer"fod yr adroddiad uchod yn cael ei dderbyn, ac eiliodd y Cynghorydd Wit- liam Hamer. Bu dadleu brwd ar yr adroddiad. Cynygiodd y Cynghorydd J. T. Roberts fod cyflog John Griffith i fod yn Ip, ac nid yn 25s, fel yr argvmhellid yn yr adroddiad. Eiliwyd v gwelliant uchod gan yr Henadur D. T. Lake. 1phleldlelsiodd ond tri dros y gwelliant, ae felly collwyd ef. Cynygiodd y Cynghorydd Richard Thomas welliant arall yn nglyn a John Griffith, sef tod ei gyflog i aros yn 25s, ac fod iddo gae! cynorth- wywr am 8s yn yr wythnos. Credai Mr Thomas nad oedd arnynt angen plumber, gan 11a thal- wyd ond 4p 4s am waith felly y llyneddj & chredai ef (Mr Thomas) y dylid rhoddi gwaitb felly i feist.radoedd y dref. Yr oedd Mr John Griffith wedi gwneuthur y gwaith am 38 mlyn- edd, ac yr oedd yn barod i'w wneuthur eto, ac nid oedd arno eisieu cael blwvdd-dal. Eiliwyd y gwelliant gan v Cynghorydd Dr. G. R. Griffith. Pleidleisiodd naw-dros y givelliant. a deg yn erbyn, felly collwyd ef. Cynygiodd y Cynghorydd J. T. Roberts well- iant ar yr adroddiad, sef fod Mr Hall (yr aroi- ygydd) i gael hawl i gymeryd prentisiaid i'w y wasanaeth ac i gymeryd gwaith o eiddo ei htm,, ac fod ei gyflog i aros fel yn bresenol. Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd. Gl iffith Owen. Ar ol dadleu brwd ar y mater ni phleidleis- iodd ond pedwar dros y gwelliant, felly collwyd ef Ar gynygiad yr Henadur Dr. Parry, a eiliad y Cynghorydd John Davies. pasiwyd i anfon y mater yn nglyn a'r arolygydd yn ol i bwyllgor. YIla cynygiodd y Cynghorydd Peter Angel (aelod llafur) fod safon cyflog labrwyr y Gor- phoraeth i fod yn lp Is yn lie yn lp, fel yr ar- gymhellid yn yr adroddiad uchod. Dywedai Mr Angel fod costau byw yn fwy o lawer yn awr. nag yn yr hen amser. ac hefyd fod safon cyflog llafurwyr y dref yn lp Is, a phafaam rhoddid 1p i weithwyr y Gorphlo I-aetb I? Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Owen Evans. Dywedai ef na ddeuai lp Is r wyth. nos yn ddim ond 3s 6c y dydd. Siaradwvd o blaid y gwelliant gan y Cynghor- wyr Richard Thomas ac R. E. Owen. Siaradwvd yn erbyn y gweliiart g&>n yr Hen- adur Dr. Parry, oherwydd, meddai, nad oedd Hafurwyr y Gorphoraeth yn grefftvrvr. a'u bod. yn cael gwaith trwy y flwyddyn. Ni phleidleisiodd and pump dros, y gwelliant, ac felly collwyd ef. Cynygiodd y Cvnghorydd Pot-cr Angel well- iant arall, sef foa cyflog Owen. Salisbury i fod yn 18s. ac nid 15s, fel ag yr apgymheilid yn yr adroddiad. Yr oedd wedi bci yr, wsel, ond yn awr wedi gwella. Sylwodd y Mner fod Owen Salisbury wedi cael gwaith ysar-fnach. Syl- wodd Mr Angel ei fod Yt1 gweithie yr oriau yn llawn er hvny. Eiliwyd y gwelliant* gan y Cynghorydd Owen Evans, ond ni phleidleisiodd ond podwar d; ostQ» ac felly collwyd ef.
3rd Vol. Battalion R.W Fusiliers.
3rd Vol. Battalion R.W Fusiliers. AGOR "RANGE" NEWYDD YN I LLANBERIS. [Oddivattili ein G«heibyd<L] I Y mae y 'range'' hon a gyfodwyd o dan arol- ygiaeth y Meddyg-Gadben R. H. Mills Roberts, I Ysbytty Chwarelau Dinorwig ac y mae efe wedi cymeryd dyddordeb mawr ynddi, ac wedi llafurio yn galed bob cyfle a gai i'w chael i ber- ff cithrwydd-yn cael ei hagor prydnawn heddyw II (Sadwrn) gan y foneddiges dirion o Bare y Faenol—Mrs Assheton Smith, yn cael eu dilyn gan urddasolion teyrnga-rol eraill. Tra yn ysgrifenu hyn 0 ohebiaeth yn gynar y ( prydnawn deallaf fod y cwmni yn ciniawa yn Refreshment Rooms, Tramffordd y Wyddfa, yn Nant Padarn, ac yn y cyfamser y mae preswyl- wyr Nant Peris yn brysur roddi llumanau trwy eu ffenestri i'w croesawu erbyn y deuant i fyny bedwar o'r gloch, a'r fattaliwn yn eu blaenori, yn nghyda'i seindorf. I Bydd i'ch gohebydd yn y cyfwng yma ddy- wedyd gair o'i brofiad. Tra y mae ei Fawrhydi, em Brenin urddasol-Duw a'i cadwo—yn ym- drechu ei oreu, gartref ac oddicartref, i sicrhau neddweh rhwng y deyrnas hon a theyrnasoedd eraill, nis gallwn edrych ar y parotoadau a'r ys- bryd rhyfelgar yn- y gwledydd ag sydd mewn ymrafael a u gilydd, ond fel cydgasgliad o ddef- nyddiau hylosg; gall gwreichionen fechan osod y cyfan yn goelcerth fawr. Hyd nes y daw adeg heddvchol y Mil Blynyddau, pan y bydd i Dywysog brenhinoedd y ddaear gadarnhau I heddweh a chyfelllgarwch rhwng llywiawdwyr, a pheri i ryfeloedd beidio, credaf y deil llanciau dewr yr Eryri i blanu baner y Ddraig, nid yn unig ar ben Bryn Castell Padarn, ond hefyd ar ben y Wyddfa fawr, ac y byddant yn ymffurfio yn gorph-luoedd o dani i amddiffyn ein hen wlad anwyl rhag pob gelyn. Yn sicr, y mae ysbryd- ion Hu Gadarn, Caradog, y ddau Llewelyn, ac Arthur Fawr, ar ben yr hen gastell llwyd hedd- JW, ac yn dyrchio eu Ilef "At eirf I at eirf! ddewr wyr! O'r wain a'r dial gledd! Ymlaen! ymlaen! pob calon am Orfodaeth llawn neu fedd!" Ond dyma y seindorf yn cyhoeddi fod yr urddasolion yn dyfod, ac yn ein blaenori i un o gaeau Glan yr Afon, lie yr oedd y saethu at y targed i fod, yn y pellder o 600 o latheni. Yn y cynulliad gwelsom y Colonel Darbishire, y Quarter-Master Armstrong, Mrs Assheton Smith, y Cad ben Mills Roberts a'i chwaer, Mrs Malek, y Cadben N. P. Stewart, a Mrs Stewart. Cymerodd y Colonel Darbishire lywyddiaeth y gweithrediadau dyddorol, ac wedi galw ar Mrs Assheton Smith i saethu yr ergyd gyntaf, rhodd- odd ganmoliaeth neillduol i'r Cadben Mills Ro- berts am ei weithgarwch gyda'r cwmpeini hwn o wirfoddolwyr, ac hefyd, fel y sylwasom eisoes. y dyddordeb mawr a gymerai gyda'r "range.' Awgrymai ei fod ef yn haeddianol 0 gael ei ddyrchafu yn uwch yn y swyddogaeth filwrol. Hefyd derbyniodd y caplan, y Parch E. B. Thomas, y ganmoliaeth ddyladwy am ei ffydd- londeb yntau. Dylaswn hysbysu fod Mr D. P. Williams yno hefyd; Mrs Aitchison, a Mrs O. D. Jones, Llwyncelyn; yn nghyda'i merched, Rowena a Blodwen. Cafwyd anerchiad gan Mrs Assheton Smith, yr hon a ddatganodd ofid Mr Smith na allasai fod yn bresenol, a rhoddodd gynghorion gwerth- fawr i'r milwyr, Wrth dalu diolch iddi dywedai Colonel Darbishire ei bod hi wedi siarad i bwrpas. Galwyd Ellis Griffith a Rebert J. Thomas yn mlaen i dderbyn diolch am y gwaith da a wnaothant ar adeilad y "Range." Wedi i'r gwirfoddolwyr roddi y "feu-de-joy" gyda'u drylliau, chwareuodd y seindorf yr Anthem I Genedlaethol, ond wedi gadael y maes clywsom dwrf saethu yno wed'yn, ac hyd yn nod yn av. r, yn amser y post, el y milwyr gyda'r seindorf yn j chwareu o'u blaen i olwg maes yr ymarfer.
Pla y Crwydriaid.
Pla y Crwydriaid. Mae'r pererinion uchod yn cael llawer o sylw y dyddiau hyn, a dyddorol yw'r sylwadau can- ynol a ddyfynir o gyfoesolyn:- Beth a wneir hefo'r gwilliaid sydd yn crwydro'r wlad heb fod ganddynt amcan yn y byd mewn golwg, na moddion yn y byd tuagat eu cynaliaeth ond a gardotant neu a ddygant? Y maent yn heigio'r ffyrdd, ac yn gwneud y prif-ffyrdd yn beryglus i ferched, yn enwedig, eu tramwyo. Gwehilion y ddynoliaeth o Loegr gan amlaf ydynt, wedi colli pob annibyniaeth a hunan-barch, rhy ddiog i weithio, ac nid bob amser yn gymwys i'w gollwng allan o wallgof- dy neu garchar. Y maent yn lluosogi o flwydd- yn i flwyddyn, ni fuont erioed mor gnydiog ag eleni; ac o flwyddyn i flwyddyn ant yn fwy hyf a digywilydd. Dygwyd tri-ar-ddeg o'r "boneddigion" hyn ddydd Llun, o flaen yr ynadon yn Mangor, tan amrywiol gyhuddiadau, megis meddwi, curo yr heddgeidwaid, ymddwyn yn afreolaidd; a chosp- wyd hwy a dirwyon a charchar. Am y dirwyon ni thalwyd cynifer ag un, a syrth y draul o gar- charu y llabystiaid diddaioni ar y trethdalwyr. Wel, gan fod y trethdalwyr yn ddigon o asynod i orwedd rhwng y ddau bwn o helpu teithiwr lluddedig ar ei daith, a thalu am ei gadw pan syrthio i fachau cas y gyfraith, boed rhyng- ddynt hwy a'u mater.
Cynghor Sirol Arfon.
Cynghor Sirol Arfon. GALLUOEDD Y PWYLLGORAU ADDYSG. ENWADAETH Y BYRDDAU YSGOL. Cynhaliwyd y Cynghor uchod yn Nghaerr narfon ddydd Iau, Mr J. E. Roberts yn y gadair. Ar gynygiad y Cadeirydd, yn cael ei eilio gan Mr J. E. Greaves, pasiwydSpleidlais o gydym- deimlad a theulu y diweddar Mr J. H. Bodvel Roberts, yr hwn a fu yn clerc y Cynghor am 16 mlynedd. Caniatawyd cais a wnaed gan gwmni reil- ffordd i godi pont ger Beddgelert. Penodwyd Mr J. Jones Morris a Dr. Wil- liams, Penmachno, i gynrychioli y Cynghor mewn ymchwiliad a gynhelir yn Nghorwen ar yr 28ain cyfisol yn nglyn a'r bwriad o gael rheilffordd ysgafn 0 Gorwen i Bettwsycoed. Hysbyswyd nad oedd neb o'r sir wedi cynyg am y gwaith a wneyd dillad yr heddgeidwaid. Felly rhoed y cyfryw i ffirm o Lundain. Penderfynwyd gohirio y mater o gyhoeddi hysbysiadau y Cynghor hyd nes y ceir allan gylchrediad y newyddiaduron a gyhoeddir yn Mangor a Chaernarfon. YMOSODIAD AR SECTYDDIAETH Y BYRDDAU YSGOL. Gofynodd Mr E. R. Davies i'r Cynghor roddi ei sel ar y ddeiseb i'r Senedd o berthynas i Ddeddf Addysg. Gwrthdystiodd Mr Issard Davie3 yn erbyn cais Mr E. R. Davies i farchogaeth y Cynghor. Gcfynid i'r Cynghor roddi ei sel i'r ddeiseb cyn ei hystyried, ac yr oedd ei geiriad yn wrthnaws i Eglwyswyr. Cyhuddid ysgolion yr Eglwys o sectyddiaeth ond ceid llawn cymaint o hyny yn ysgolion y Byrddau. Yn Myrddau Ysgolion Arfon a Meirion ceid 185 o brif athrawon—121 o Fethodistiaid Calfinaidd, 25 o Annibynwyr, 24 o Eglwyswyr, naw o Fedyddwyr, a naw 0 Wesley- aid. Yn ngwyneb hyn, heriai undyn i haeru nad oedd sectyddiaeth yn amlwg yn yr ysgolion hyny. Ail ol trafodaeth penderfynwyd rhoddi sel y Cynghor ar y ddeiseb. Penderfynwyd galw ar yr Undebau mewn dyled i'r Cynghor i dalu erbyn Awst laf. Rhoed adroddiad gan bwyllgor fu'n ymchwil i achos anghydfod yn nghylch llwybr cyhoeddus yn Llanfarisgaer. Yr oedd y pwyllgor, ac eithrio un aelod, yn teimlo nas gellid cyfiawn- hau ymyriad y Cynghor yn y mater; ond tybiai Mr R. Jones-Roberts y dylai y Cynghor vreith- redu. Cytunwyd a'r gwelliant. Gan fod y Barnwr Wills wedi cwyno ohenvydd ei letty yn Nghaernarfon, penodwyd pwyllgor i ystyried yr achos. Bu dadl frwd ar y cynygiad nad oedd y Cyng- I hor mwyach i ddirprwyo ei alluoedd i'r Pwyllgor Addysg, am fod hyny yn groes i'r egwyddor o reolaeth boblogaidd. Cynygiodd Mr Issard Davies welliant. fod y cyfryw bwyllgor i fod dan amodau a rheolau ag a gymeradwyid gan y Cynghor, a'r Pwyllgor Arianol i dynu allan v rheolau. Pasiwyd hyn ar ol cryn siarad trwy 21 yn erbyn 4. CoHwyd cynygiad arall a ddarparai fod yr holl Gynghor i weithredu fel Pwyllgor Addysg. TYDDYNOD I WEITHWYR. Mr Ellis Williams a gynygiodd: "Fod y Cynghor hwn o'r farn y dylid gwella Deddf jSian-ddaliadau 1892, fel ag i alluogi y Cyng- horau Sirol i bwrcasu tip trwy orfodaeth gyda'r amcan o'i ail werthu yn fan ddaliadau, fel y deffinir gan y Ddeddf; a bod y cyfryw benaer- fyniad i gael ei ddanfon i Gymdeithas y Cyng- haran Sirol, aelodau Seneddol y sir, ac ysgrif- enydd Bwrdd LIywodraeth Leol." Siaradwvd yn gryf dros hyni gan y cynygydd, Mri H. Williams a Robert Roberts, Llandud- no; ac yn erbyn gan Mri J. E. Greaves, Thos. Roberts (Aber), ac Issard Davies. Y diwedd fn mabwysiadu'r cynygiad trwy 23 pleidlais yn erbyn 8. CWN LLADD DEFAID. Galwodd Cynghor Dosbarth Bethesda sylw at golledion y fferinii-yr trwy anrhaith cwn lladd defaid. Mr J. E. Greaves a gredai mai yr unig fedd- yginiaeth oedd trethu pob ci, a chynygiodd hpllderfyniad i'r perwyl hwnw. Credai fod ffermwyr Arfon yn dyoddef colled o 2000p trwy anrhaith y cwn hyn hefo'u defaid; a byddai'r Trvsorlys 2000p ar eu henill wrth eu talu. Eiliwyd gan Mr Jones Morris,a phenderfynwyd hyn gyda davpariaeth fod y dreth am bob ci defaid nad oedd amheuaeth yn ei gylch i gael ei dvcbwelyd i'r perchenog.
Advertising
Dydd Llun, y 4ydd cyfisol, oedd Dydd' Gwyl Ari"^v>vni!intV> Ampfipa. B OR I[wl I C K'S The best «gyk jjv b n m mmk. mbb BAKING Oil Ml HH KB D powder ry if HJSuli in tha World. » m w Hakes the Sweetest Bread. Cakes & Past^.
Mesur Addysg Esgob Llanelwy
Mesur Addysg Esgob Llanelwy ARAETH GAN EI ARGLWYDDIAETH. AIL-DDARLLENIAD Y MESUR. Yn Nhy yr Arglwyddi, nos Lun, cynygiodd Esgob Llanelwy ail-ddarlleniad o'r Mesur Addysg (Ysgolion Trosglwyddedig). Sylwodd ei Arglwyddiaeth:—Amcan y mesur hwn ydyw galluogi awdurdodau addysg Ileol i wneud trefniadau amgenach parth trosglwyddo ysgolion elfenol cyhoeddus, ac hefyd i ofalu fod addysg grefyddol, yr hon nad yw yn perthyn i un enwad yn arbenig, i gael ei gweinyddu yn yr ysgolion trosglwyddedig, ac yn mhellach. fod addysg enwadol i gael ei rhoddi i'r plant y bydd 311 rhieni yn dymuno hyny yn ystod oriau yr ysgol, ond nid ar draul yr awdurdodau addysg lleol. Yr oedd yn barod i bwysleisio dwy brif eg- wyddor y mesur. Mae gadael i'r rhiaint ben- derfynu nodwedd addysg eu plant yn dadrys yr holl anhawsderau yn nglyn ag addysg grefydd- ol. Hwyrach y gall peth anhawster godi pan ddygir yr egwyddorion hyn i weithrediad ym- arferol. Credai fod Deddf 1902 wedi gwan- yehu nodwedd enwadol yr ysgolion gwirfoddol. Mae y rheolwyr yn cael allan fod eu hawdurdod yn cael cyfyngu arno; ond tra y mae yr awdur- dod wedi ei leihau, mae cyfrifoldeb arianol wedi ei fwyhau yn ddirfawr. Credai nas gallai neb amheu i Eglwys Loegr wneud gwasanaeth dir- fawr i addysg boblogaidd. Yn yr helynt presenol, cynrychiolwyr yr ys- golion gwirfoddol ydynt arwyr rheolaeth bob- logaidd. Nid yw awdurdodau addysg lleol fel cyfangorph yn gwrthwynebu addysg grefyddol. Felly y peth goreu ellid wneud ydyw dyfod i ryw fath o gytundeb a'u gilydd. Yn y Ddeddf Addysg ddiweddar y mae y penderfyniad a gan- lyn :—"Mae'n orfod ar yr holl blant i fynychu yr ysgolion adeg gweinyddu addysg grefyddol. Gall pob enwad gael yr addysg grefyddol a fyno i'w blant. Caiff y gweinidogion eu hunain weinyddu'r addysg a ddymunant, neu rhyw bersonau eraill a benodir ganddynt. Ni ddis- gwylir i'r Llywodraeth dalu am yr addysg hono." Mae y darpariaethau yna wedi eu tvnu o Fesur Addysg a dynwyd allan gan y diweddar Mr Thomas Gee. Dyn o ddylanwad arbenig gyda'r Ymneillduwyr ydoedd Mr Gee, ac yn wleidyddwr blaenllaw. Ni chredai y gallai trefniant a gymeradwywyd gan Mr Gee, fod yn annerbyniol gan yr Ymneillduwyr. Parth y cwestiwn o brofion i athrawon, credai fod cyfiawnder yn erbyn gosod profion ar rai sydd yn gwasanaethu'r cyhoedd. Nid oedd yn sicr os oedd profion cvfreithiol y pethau goreu i sicrhau yr hyn oedd eisieu. Cvmeriad yr ath- raw oedd yn bwysig^ Credai fod athraw Beibl- aidd. os oedd i wneud unrhyw ddaioni, i fod yn gretiwr yn y Beibl, ac y mae gwahaniaeth rhwng profion cyfreithiol a phrofion gwirion- eddol. Gwyddai ef am ysgolion ag yr oedd mwyafrif mawr eu hawdurdodau yn Anghydffurfwyr, ac er nad oedd profion yn yr ysgolion hyny, eto gwyddai oddiar yr awdurdod uchaf na fyddai y siawns leiaf gan Eglwyswr, nac, yn sicr, Bab- ydd, i gael ei benodi yn athraw, er y gallai ei gymhwysderau fod yr uchaf. Gallai fyned yn mhellach. Lie mae'r Methodistiaid Calfinaidd gryfaf, cwynai yr Anghydffurfwyr eraill mai y cyd-ddealltwriaeth clir, ond distaw, oedd yn ffynn, ydoedd nad oedd namyn Calfiniaid i gael eu penodi i un swydd. Profa hyn y gall gwir brofion fod heb iddynt fod yn brofion cyfreith- iol. Mae profiad yn ein dysgu fod yr Anghydffurf- wyr fel cyfangorph yn bleidiol i addysg gref- yddol. Credai fod yr egwyddorion sydd o dan y mesur hwn yn rhai cadarn a disigl. 0 dano I byddai i'r awdurdodau addysc Ileol gael mwy o rvddid i gario allan en cyfrifoldeb yn nglyn ag addysg. Wedi i amryw lefaru, ac i Arglwydd London- derry ddweyd nad oedd y Llywodraeth am ym. vraeth a'u pleidwyr, ond ar yr un pryd yn nn- hymeradwyo i'r Ty ymranu ar y cynygiad, mah. wysiadwyd yr ail ddarlleniad heb yoiraaUs
Cynghrair y Friallen yn Arfon.
Cynghrair y Friallen yn Arfon. CYFARFOD PWYSIG YN LLANFAIR- FECHAN. ARAETH GAN MR R. A. NAYLOR. Dydd Gweiicr yr oedd Llanfairfechan yn ganolfan atdyniad aelodau y Cynghrair uchod yn ogystal a Cheidwadwyr yr ardal, gan fod cyfarfod pwysig yn cael ei gynal yno dan nawdd y ganghen leol. Caed hin hafnidd, yr hyn a ddenodd dorf luosog yn nghyd, ac yr oedd brwd- iiydedd yn nodwedd arbenig yn y cynulliad. Yn y prydnawn mwynhawyd te a danteithion a arlwywyd gan foneddigesau yr ardal dan lyw- yddiaeth Mrs Platt, Gol'ddinog., Dianghen- rhaid dweyd fod y rhan yma o waith y dydd yn Ilwyddianus iawn. Y CYFARFOD CYHOEDDUS. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod mawr brwd- frydig dan lywyddiaeth y Milwfiad Platt, C.B. Mewn anerchiad grymus, cymhellai y Cadeir- ydd yr holl aelodau i ymfyddino dan y faner a chefnogi'r achos Ceidwadol. Cyfeiriodd at ys- trywiau'r Wrthblaid i geisio atal deddfwriaeth, gan sylwi ar ddyledswydd y Ceidwadwyr i ddangos yn mhob modd eu hanghymeradwyaeth o'r dull a fabwysiedir gan y rhai hyny i atal cynydd a llwydd y wlad. ARAETH YR YMGEISYDD CEIDWADOL. Mr R. A. Naylor, yr hwn a dderbyniwyd yn wresog, yn nghwrs ei araeth faith a dyddorol, a sylwodd mor falch oedd o dderbyn y gwahodd- iad i Lanfairfechan unwaith eto. Cyfeiriodd at eangfrydedd y blaid Undebol, y rhai elent mor bell a chefnogi y wasg Ryddfrydol ar draul anwybyddu y papyrau hyny a gynrychiolent eu plaid hwy eu hunain. Cydnabyddai mai doeth oedd darllen yr hyn a ddywedai gwrthbleidwyr; ond ni ddylent esgeuluso y papyrau hyny a gefnogent eu haehos drwy dew a theneu. TEYRNGED I WASG BANGOR. Yn Mangor yr oedd ganddynt ddau newydd- iadur gwych i gefnogi eu hachos, sef y "North Wales Chronicle" i'r Saeson; a'r "Gwalia" i'r darllenwyr Cymreig. Yn ddiweddar, yr oedd y ddau bapyr wedi eu gweddnewid yn anghyff- redin ac er gwell; ac awgrymai i aelodau y Cynghrair yn Ngogledd Cymru y priodoldeb "o hyrwyddo y ddau bapyr a nodwvd, a thrwy hyny gynorthwyo i ledaenu yr egwyddorion a gefnogent. Y "Chronicle" a'r "Gwalia" oedd dau newyddiadur swyddogol y blaid, a haedd- ent gefnogaeth pawb o'r aelodau. PYNCIAU'R DYDD. Aeth yr ymgeisydd rhagddo i draethu ar bynciau gwleidyddol y dydd fel y canlyn:— Awgrymodd y Cadeirydd, Milwriad Piatt, C.B., yn ei araeth gryno ac effeithiol, mai dym- unol fyddai i mi sylwi ar y prif byneiau sydd yn hawlio sylw'r ddwy blaid wleidyddol ar hyn o bryd. Oherwydd byrder yr amser, nis gallaf wneud cyfiawnder a'r lluaws pynciau sydd yn hawlio ein hystyriaeth ddifrif yn bresenol, ond ymdrechaf sylwi ar rai o'r pwyntiau yn nghwrs fy araeth fer. Oherwydd maint aruthrol ac effeithiau pell- gyrhaeddol y mesurau gerbron y Senedd rhaid fod gwladgarwyr o bob plaid yn gofidio yn ddwys oherwydd y dull y llesteirir deddfwriaeth yn Nhy'r Cyffredin. Rhwystr ac annhrefn sydd yn nodweddu bywiogrwydd gwleidyddol lluaws o gym-ychiolwyr y bobl; ac yn y pen draw rhaid fod gwir fuddianau y genedl a'r ymher- odraeth yn dioddef niwaid anfesurol oherwydd y dull y ceir lluaws yn cellwair gyda thynghed y wlad y dyddiau hyn (cymeradwyaeth). Pe buasai unrhyw fasnach yn cael ei chario'n mlaen yn y fath ddull ynfyd, buan y delai ei diwedd. Os yw hyn yn olygiad cywir o'r sef- ylIfa, dechreua dynion meddylgar o bob gradd wleidyddol synu am ba hyd y gall deddfwriaeth y wlad sefyll y cynllwynion a ddyfeisir gan rai aelodau Seneddol er atal mesurau buddiol a pheri fod yn anmhosibl dwyn yn mlaen am- gylchiadau y wladwriaeth yn drefnus (cymer- adwyaeth). Y mae'r diffyg cysondeb sydd yn y ceisiadau mynych hyn i wyrdroi amcan y Sen- edd mor amlwg nes yw hyd yn nod y dosbarth mwyaf eithafol o'u cefnogwyr yn teimlo'n ofnus yn nghylch y canlyniadau (cymeradwy- aeth). Un diwrnod cawn yr aelodau swnfawr hyn. er mwyn hynodrwydd Ihad, yn galw sylw yn y Senedd at yr hyn a elwir yn llafur Chineaidd gan ddatgan nad oedd amgen na ffurf o gaeth- wasiaeth. Ai caethwasiaeth yw dwyn dynion i wlad lie y derbyniant bed air nen bum' gwaith gymamt o gyflog a'r hyn a gaent gynt, a byw dan amodau o ryddid a sicrwydd. na wyddent am danynt o'r blaen? A raid i'r wlad fawr lle'r ymladdodd cynifer o'n cydwladwvr hyd at farw er mwyn rhyddid, a'r wlad a gostiodd gy- maint i ni mewn gwaed a golud, aros heb ei dadblygu ac heb gynyrchu yn unig oherwydd fod yehydig wleidyddwyr anfoddlawn, y rhai ocddynt gyfrifol am lawer o'r gwaed a'r gyflaf- an, yn barod i gario'n mlaen eu bwriadau gwen- wynig mor bell nes cefnogi y Boeriaid i barhau i ymladd ac i geisio yn awr atal llwydd y wlad, am yr hyn y dymunir gymaint gan v Prydein- iwr a'r Boeriad fel eu gilydd? (cymeradwy- aeth). Y mae dygn anghysondeb yr holl helynt mor amlwg fel y mae'n syn sut y gall unrhyw aelod Seneddol waradwyado ei etholaeth i'r fath raddau trwy awgrymu fod dealltwriaeth y bobl a gynrvchiola gymaint islaw synwyr cyffredin. Ystyriwch eto ymddygiad yr un dynion tuag at y mesur er atal estroniaid annymunol i'n gwlad Ceir hwy vn gwrthod i'r Chineaid tlawd wella eu safle trwy weithio am gyflog uwch a than amoclau gwell, ac eto yn foddlawn i'r dos- barth anfuddiol o estroniaid ymfudo i'r wlad hen. Y mae'r ymfudiaeth ddirwystr yma yn dyfod yn fater mor ddifrif i weithwyr y wlad hon fel yr hawliant ddiwygiad. Gwyr yr awdurdodau gwladol y fath berygl a fodola trwy ganiatau i esgymun cenedloedd y Cyfandir ddyhïo yma. r hyfedd yn w r yw clywed yr u n dynion ag sydd J" dweyd "Kat adawer i'r Chineaid fyned i Dde Affrig" lie ceir digonedd o waith a gweithwyr yn brin, yn d-.veyd hefyd "gadewch i bob gradd a rhifedi o unrhyw genedl ddyfod i Y Pys Pry- dain heb rwystr," ac yn y wlad hon'y mae llafur mor brin a milivnau o'n pobl ni ein huuain allan o waith. 111 wir, nid yw'r dynion a nod- wyd yn erbyn i'ii troseddviyr gwaethaf ddyfod yma. Yn liytrach, haorant mai ein dyledswydd yw cyflogi heddgeidwaid i edrych ar eu liol. Pa fai bynag sydd ar y Llywodraeth bresenol y mae'n amlwg i bawb nas gellir llenwi eu lie yn well gan yr Wrthblaid, gan y rhai nid oes polisi nac arweinydd, a'r rhai pe deuent i awdurdod a gwerylent fel cathod Kilkenny (chwerthin). Gadawer i'r wlad roddi prawf araynt, ac ar ol talu'r ddirwy buan y deuai'n edifeiriol; oher- wydd wrth ystyried Mesurau'r Chineaid a'r Es- troniaid hawdd gweled nad oes yr un egwyddor sylfaenol ar yr hon y gallent weithredu, gan fod y blaid mor gymysgedig. Felly, naturiol yw'r gred y byddai'r Fefyllfa yn llawer gwaeth nag yn bresenol gyda'r Llywodraeth gref a chyson sydd yn cadw ymddiried y wlad er idd- ynt golli ychydig seddau. 0 bosibl na wneir apel at yr etholwyr cyn bo hir; a pha bryd bynag y daw hyn hoffwn i'r bobl feddwl a gweithredu drostynt eti hunain a pheidio cymer- yd eu camarwain gan bob ffurf o wagedd ynfyd (cymeradwyaeth). { Ystyriwch eto gynifer sydd yn edifarhau yn awr am iddynt gymeryd eu camarwain ar bwnc Addysg. Mae gwell t-eitided yn bodoli heddyw a cheir rhai o wrthwynebwyr chwerwaf y mesur yn cydnabod iddynt gael eu camarwain ac na ehymerasent y cwrs anghyfreithlon a w naethant pe yn fwy cyfarwydd a'r Ddeddf ac wedi gwrthod yr esboniad ami a roes eraill. Y MESUR TRWYDDEDOL, Drachefn, cdrychwch ar gynygion y Llywodr- aeth o berthynas. i drwyddedu a'r modd yr ym- ddygir tuag at y IJywodraeth oreu i ddirwest- wvr a fu mewn awdurdod erioed. Rhoddasant i'r Blaid Ddirwestol Ddeddf y Meddwon Pa-- bliis a Deddf Atal Diodydd i Blant; ac yn awr ceisiant gwblhau eu rhaglen, o ddiwygiadau dir- westol dan yr amgylchiadau mwyaf anfiafriol- Oddiar safle dirwestwr, rhaid i mi ddweyd fod y mesur hwn yn un o'r cam ran bra. af er budd cirwest y mae'n bosibl i Wladwriac h ei roddi (cymeradwyaeth). Egyr y ffordd i leihad giadd- ol y trwyddedau, ar safle deg a ehyfiawn, gan ddarpar iawn i'r tafarnwyr pan orfodir hwy i ymneillduo. Hyn fu anhawster mawr pob mainc ynadol yn y gorphenol; a phe yn meddu y gallu i roddi iawn, buasai pob tafarn ddi- angenrhaid wedi ei chau er's llawer dydd, Gan hyny hyderaf na bydd i ddirwestwyr atal na dinystrio y mesur da hwn yn yr un modd ag y gwnaed gyda mesur da Mr Bruce 25 mlynedd yn ol. Nis gellid amcangyfrif y bendithion a ddeilliasai o'r mesur hwnw i'r wlad yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf; a hyderaf na rwystrir y mesur presenol fel y gwnaed gyda hwnw. Oherwydd fy nghysylltiad hir a symud- iadau dirwestol, gwn yn dda pa fodd y gweith- redir er mwyn amcanion gwleidyddol; a chan fod y mesur hwn nid yn unig yn lleihau tafarn- au ond yn gwneyd hyny heh ofyn i ddirwestwyr gyfranu yr un ddimai at y draul, methai weled sut y gallai neb roddi ata.Ifa ar ei ffordd i ddyfod yn ddeddf. Yn ol ystadegau, 20 y cant o'r boblaeth sydd yn llwyr-ymwrthodwyr} felly y mae 80 y cant yn yfed. Gan hyny.os yw y mwyafrif i reoli,rhaid i ddirwestwyr beidio bod yn rhy drachwantus yn eu gofynion. Awgrymai ef i ddirwestwyr ar- ddangos agwedd fwy resymol ac eangfrydig i'r rhai sydd yn ymwneyd a diodydd meddwol. Credaf fod dirwest yn dyoddef pan y mae cariad ato yn cynyrchu casineb at y tafarnwr. Mae gan y rhai sydd yn cario'n mlaen v fasnach safle anhawdd iawn ei llanw; a thra bo cynifer yn prynu diod bydd iddynt hawlio pob rhwydd- ineb i'w gael. Fy agwedd gyda hyn bob amser yw, "Wrth fyw eich hunain, gadewch i eraill fyw hefyd a chredaf fod y mwyaf rhesymol o ddirwestwyr yn dechreu gweled nad yw'r tafarnwr yn haeddu ein oondemniad, ond y dylid ymddwyn ato gyda thegweh, cyfiawnder, a gonestrwydd (uchel gy- meradwyaeth). MASNACH RYDD A DIFFYN-DOLLIAETH. Nid oes genyf ond un pwnc arall yr hoffwn sylwi arno; ac o'i gymharu a hwn y. mae pob pwnc arall yn ymddangos yn ddisylw. Carai ein gelynion ei weled yn cael ei roddi o'r neill- du, a gwnant. yr haeriad ynfyd fy mod wedi gollwng gafael ynddo. Dim o'r fath. Myneg- ant hefyd eu hargyhoeddiad fod aflwyddiant wedi peri i hyd yn nod Mr Chamberlain ddi- galcni. Dymunaf eich hysbysu, foneddigesau a boneddigion Cynghrair y Friallen, fod y myneg- iad hwn, fel llawer eraill a fwriadwyd i lygad- dynu pobl Cymru, heb sail o gwbl iddo. Gwneir y cyfryw fynegiadau er mwyn amcan- ion etholiadol, a'n dyledswydd ni fydd dysgu y bobl mor agos yw'r, cwestiwn hwn at eu buda- ianau personol. Bydd adroddiad y Diiprwywyr fu'n ymchwil i'r mater yn cael ei gyhoeddi yn fuan, efallai mewn rhanati; a phari y delo, fe wel y dosbarth gweithiol nad yw o fudd o gwbl iddynt hwy fod y Prydeiniwr yn budd-sodai ei arian mewn gwledyd tiantor. ac oherwydd arn- gjdehiadau croes yma yn gorfod cau ei felinau i fynu, cyflogi tramorwyr, a gadael i'w weith- wyr yn y wlad hon ymdaro drostynt eu hunain. Hyderaf gael llawer cyfle eto i egluro v wir sefyUfa i bobl Gogledd Cymru a chan ni phrof- wyd fod yr un gair a ddywedais vn anwir, a chan mai fy mwriad yw dweyd y gwir yn svml with y tobl, hyderaf y bvddaf yn abl i a-rgy- hoeddi lluaws mai nid yntydrwydd yw'r hyn a ddysgir genym, ond lhywbeth a duedda i roddi budd a bendith i wyr, gwragedd, a phlant y wlad hon (cymeradwyaeth). Rhoddwch i ni amser a gwironedd, ac fe lwyddwn i argyhoeddi unrhyw bobl sydd yn awyddus i wcithredu yn unol a'r hyn sydd gvfiawn. Bu'r gauaf diweddaf yn un o'r tymhorau gwaethaf mewn cof i'r masnachwr Prydeinig. 0 siroedd Lancaster a Yore vn ogystal a Chanolbarth Lloegr clywir cwynion cliwerw. Ceir crefftal1 eraill yn awr yn' myned fel eiddo Coventry. Yn y dref hono ddeugain mlynedd yn ol ceid oddeutu 30,000 yn cael gwaith yn y fasnach sidan. Ond och! diflanodd y llwydd- iant, ac aeth yr heolydd yn debycach i feusydd gwyrddlas. Wedyn dechreuodd y fasnach mewn "matches." Er.n hyn mae hono wedi myned. Yn awr, ceir yno y fasnach mewn deurodau, ond nis gwyr neb pa mor fuan yr aiff hono hefyd. A fedrwn ni barhau i chwareu fel hyn gyda'n prif ddiwydianau? Nis gallwn ddal ati i gau i tyny weithfeydd fel hyn. ac yr wyf yn gofyn i chwi ystyried y sefyllfa gyda difrifwch cyn yr elo yn rhy hwyr. Dolchaf i chwi am y sylw a roddasoch i'm hanercliiad, ac hwyrach y goddefweh i mi wrth derfynl1 adiodd hanesyn i chwi sydd yn darlunio y sefyllfa. Ymunodd dau fonecklwr mewn cer- byd yn un o orsaf oedd Llundain. Mynai un ohonynt gael y ddwy ffenestr yn agored, a I dechreuodd draethu wrth ei gydymaith am werth awyr iach. Aeth yn hyawdl wrth son am y fantais o gysgu gyda phob ffenestr yn y ty wedi ei hagor. Gadawodd argraph ddofn ar ei gydymaith, yr hwn yn y diwedd a anturiodd ofyn, "Ai meddyg neu wyddonydd ydych?" "Nage," ebe'r dyn hyawdl, "lleidr vdwvf fi." ei gydymaith, yr hwn yn y diwedd a anturiodd ofyn, "Ai meddyg neu wyddonydd ydych?" "Nage," ebe'r dyn hyawdl, "lleidr ydwyf fi." Manteisiol iawn i ladron y wlad fyddai i chwi oil gysgu gyda holl ffenestri eich tai yn agored. Dyna'r hyn yr ydvm yn wneud rvda'n masnach. Dywed yr holl genedloedd :Cedwch eich ffenestri yn agored; nid ydvm ni yn ei -wneud, ond bydd yn dda i chwi." Yr vdym wedi caniatau i'r lladron ddyfod atom yn rhy hir a bvrriadwn i'r lladron ddyfod atom yn rhy hir a bvrriadwn yn awr ofyn i'r bobl gau eu ffenestri (cymerad- wyaeth mawr). Pan ddeuais gyntaf i Gymri, tueddai'r bobi i wrthod fy mynegiadau a'm syniadau otid yn wrthod fy mynegiadau a'm syniadau otid yn awr ceir y cyfryw rai yn eu derbyli fel gwirion- tdd. G, eiant nas gallwn fyw fel evfundeb I masnachol tra y gadewir i genedloedd eraill ddyfod fel lladron i'n hysbeilio. lthaid i ni daiu trethi a thollaa trymion; rhaid i'r mas- nachwr yn y wlad hon wynebu amodau manyl- ach, a gwaeth na'r cyfan, rhaid i'w gyuyrch gyfoethogi trysorfa pob gwlad yr ant iddynt. Caiff pob cenedl ddyfod i'n gwlad ni am ddim. A yw hyn yn deg a rhesymol? ("Na, na.V Yr ydych yn dweyd Na. Digon gwir, a chredaf vn awr y bydd i'r wlad ddeffro a hawlio masnach rydd, cyfiawnder, a chydraddoideb. Y mae genych cliwi a minau ein rhan i'w wneud a'n dyledswyddau i'vr cyflawni. "Byddwn gryf a gwrol" (cymeradwyaeth mawr). CYFE1LLIOX GOREU'R GWEITHWYR. Mr R. Gordon Roberts, ysgrifenydd cyffred- inol Cymdeithas Gyfansodaiaaol Arfon, mewn araeth Gymraeg rymus, a sylwodd mai y Llywodraeth Geidwadcl oedd y goreu i'r gweithwyr, oherwydd yr oedd ei chytiawniadau yn lluosog a bendithiol. Addaw heb gyiiawni oedd nodwedd y Rhyddfrydwyr.a chyieiriodd it amryw engreiphtiau o hyny. Nododd hefyd gymaint o anhegweh a todolai oherwydd iod porthladùoedd Prydain yn agoied i bawb, ac nad oedd amddiffymad I fudaianau masnachol Prydeinig. Ofer oedd cael torth fawr a thorth rad os na ellid enill digon i'w prynu. Cymhellai bawb i dcial gafael yn y syniadau Ymherodrol fel eu cyflwynir gan Mr Chamber- lain. Hyn wnelai yr Ymherodraeth yn fawr a grymus tuhwnt i ddychymvg dyn, ac a sicrhai ei chynydd a'i Ubwyddiant. Mr J. C. Fincham wrth ddiolch i'r Milwria.d Platt, C.B., a Mn PJatt. a dalodd deyrnged uchel i'w hvmroddiad a'u dyddordeb yn y Cynghrair, gaIn roddi clod uchel i'r swyddogion eraill hefyd. Credai pe deuai y Blaid llydu- frydol i awdurdod v earient allan Bolisi 1886, ser Ymreolaeth a DadgysyUtiad yr Eglwys yn Nghymru. \r ol talti .'i- diolchiadau arferol. terfvnwyd eyfarfod rhagorol trwv ganu yr Anthem GenedlaetboT