Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

-------Bangor.

News
Cite
Share

Bangor. — Yn ol dymuniad Cymanfa y Wesley aid mae y .Parch Hugh Jones, D.D., Bangor, wedi cyd- synio i barotoi yr Anerchiad Fugeiliol i'r eglwysi at y flwyddyn nesaf. DOSBARTHIADAU Y ST. JOHN AM- BULANCE. — Dydd Mercher bu Dr. Roberts, yn cynhal arholiad yn nglyn a dos- barthiadau y St. John Ambulance. Addysgir yr aelodau gan Dr. E. 0. Price a Dr. Corbet Owen. COLEG Y BRIFYSGOL. — Mae dau o fyfyr- wyr y ooleg newydd eu hethol i swyddi yn nglyn a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Etholwyd Mr R. D. Abell, D.Sc., yn ddarlithydd cynorthwyol mewn "chemistry," a Miss May E. Phillip yn ddarlithydd cynorthwyol mewn llysieuaeth. Y COEDWIGWYR. — Mewn cyfarfod o gyf- rinfa "Court Loyal" o Urdd y Coedwigwyr, dydd Llun, etholwyd Mr Thomas Jones, Ty'n- 'rodyn, yn "chief ranger" am y chwe' mis dilynol, a Mr Richard Thomas yn "sub-chief ranger." YSBYTTY MON AC ARFON. — Nifer y cleifion yn yr ysbytty yr wythnos ddiweddaf ydoedd 21. Ymwelwyr yr wythnos hon ydynt Mrs E. A. Young a Mrs R. H. Pritchard. Der- byniwyd blodeu o Gastell y Penrhyn a Mrs Hunter, Plas Cloch, a newyddiaduron oddiwrth Mrs Walker, Fourcrosses. DIGWYDDIAD YN HIGH-STREET.-Pryd- nawn dydd Ian achoswyd cryn gynhwrf yn mhlith pobl oedd ar y pryd yn High-street, yn agos i ben Dean-street. Yr oedd car a cheffyl yno o dan ofal gyrwr o Borthaethwy, ac yn ddisymwth dychrynwyd y ceffyl gan rhywbeth neu gilydd. Torodd yn rhydd o'r car a chych- wynodd redeg i lawr High-street. Neidiodd yr Heddgeidwad Jones (59) i ben yr anifail ac, er iddo gael ei lusgo am amryw latheni, llwyddodd i stopio y ceffyl. Niweidiodd yr heddgeidwad ei fraich. Cynwysa rhifyn Ebrill o'r "South African Architect and Builder" ddarlun o adeilad new- ydd hardd, 130 o droedfeddi o uchder, yn Cape- town, Deheudir Affrica. Cynlluniwyd yr adeil- ad gan Meistri Collingwood Tully a Spencer Waters, a gwaith Mr John Willoughby Wil- liams ydyw'r llun. Mab ydyw Mr Williams i Mrs Henrietta Williams, gynt o'r Union Hotel, Garth, Bangor. Bu Mr Williams yn ngwasan- aeth y diweddar Mr R. Grierson, ac wedi hyny gyda Mr Frank Bellis. Ar ol bod am ysbaid yn Manceinion, hwyliodd Mr Williams am Cape- town yn Medi, 1902. MYFYRWYR LLWYDDIANUS. — Ym- ddengys enwau y myfyrwyr canlynol o Goleg y Brifysgol yn y rhestrau o'r ymgeiswyrllwydd- ianus yn arholiadau (graddau) Prifysgol Cymru :—Education (special): James Arnoiph Hughes, Jeanie Eiddon Jones, and Gwladys Williams. Certificates in education (written examination), first division Sarah Anne Parry; second division: Frances Alexandra Collie, B.A., and Winifred Stythe, B.A.; (tests in prac- tical skill); first division: Winifred Stythe, B.A.; second division: Frances Alexandra Collie, B.A., and Sarah Anne Parry. MARWOLAETHAU. — Dydd Sul bu farw Mrs Margaret Jane Parry, priod Mr E. R. Parry, The Elms, Garston, yr hyn a gymerodd le yn mhreswylfod ei chwaer, Mrs W. T. Ro- berts, 2, Green Bank, Garth. Merch ydoedd i'r diweddar Gadben Thomas Williams, Garth, ac ?rr oedd yn 57 mlwydd oed. Cymerodd yr ang- add le ddydd Iau, yn mynwent Glanadda, a gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch J. Davies, Eglwys Gymreig St. Dewi, Lerpwl, a'r Parch T. J. Wheldon, Bangor. — Dydd Iau bu hefyd angladd Mrs Pasch, priod Mr J. Brittain Pasch, o Chelmsford, Essex, yr hon a fit farw y Sul blaenorol yn Tirion, Bangor Uchaf. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch E. P. Jones, Prince's-road, Bangor, a'r Parch Mollan Williams, All Saints', Derby. Dydd •Llun bu farw Mrs Catherine Richards-Jones, Holly Mount, Mount-street, gweddw y diwedd- ar Mr Ow» n Jones teiliwr, a merch i'r diwedd- ar Mrs Mary Jones, Sun Inn. Cymerodd yr angladd Ie ddydd Iau.

Bethesda a'r Cyffiniau.

Caernarfon.

Criccieth.

Conwy.

Advertising

-----Dyffryn Nantlle a'r Cylch.

Ffestiniog.

Llanrwst.

Llanberis.

Llanengan.

Porthmadog.

Porthaethwy.

Pentrefelin (Porthmadog).

Pwllheli.

Sarn a'r Cylch.

Tregarth.

Nodion Eglwysig.

Advertising

Beddgelert.