Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
44 articles on this Page
Llwyddiant Myfyrwyr Cymreig.
Llwyddiant Myfyrwyr Cymreig. Y mae'r myfyrwyr canlynol wedi llwyddo yn arholiad Prifysgol Cymru am y radd o B.D.:—Mri J. Pritchard, B.A., Prestatyn; F. O. Lloyd-Jones, M.A., M. Llewellyn, B.A., Thomas Evans, B.A.. a D. J. Williams, B.A. Myfyrwyr gyda'r Methodistiaid yw y pump.
---"----------Ymladd ar y…
Ymladd ar y Sul yn Nhowyn. Dydd Gwener, cyhuddwyd satfh o ddynion ienainc o'r enwau John Pugh, David Pugh John Davies, William Davies, John Hum- phreys, Robert Humphreys, a John Davies, yr oil o Lanegryn, o ymladd ar y Sui. Mai 15fed. Honid fed cyllill wedi eu defnyddio. Taflwyd yr achos allan yn erbyn yr oil ond John Humphreys, gan yr hwn yr oedd cyllell. Rhwymwyd ef yn y swm o 5p i gadw'r heddweh am chwe' mis.
---_-._----_.------Trychineb…
Trychineb Ofnadwy ar y Werydd. COLLI DROS 700 0 FYWYDAU. Cyrhaeddodd llong i Grimsby nos Sul gan eludo 27 o bersonau, sef yr oil oedd yn weddill 0 800 o deithwyr a dwylaw yr agerlong "Norga," yr hon aeth yn ddrylliau ar Rock- hsill ddydd Mercher diweddaf. Yr oedd y "Norga" pen suddodd ar ei ffordd o Copen- hagen i New York gyda thros 700 o ymfudwyr ar ei bwrdd.
¡--._-.----------A oedd Mrs…
¡ A oedd Mrs Maybrick yn Ddieuog ? Yn mhen mis bydd y garchares hynod uchod yn mwynhau rhyddid; ac yn nglyn a hyn dywed y "New York Herald" fod tystiolaethau newyddion yn meddiant ei chyfeillion a brofant tuhwnt i amheuaeth ei bod yn ddi- euog o'r cyhuddiad difrif a ddygwyd yn ei herbyn ac ar ba un y earcharwyd hi 14 mlyn- edd yn ol. Nid yn unig, medd y papyr hwnw, profir hi yn ddiniwed ond gwneir pob ymdrech i sicrhau iddi iiawn mewn arian am y camwri o'i charcharu. Amser a ddengys a lwyddir yn hyn ai peidio.
GwaSlgofdy Gogledd Cymru.
GwaSlgofdy Gogledd Cymru. Mae adroddiad blynyddol y sefydliad hwn newydd ei gyhoeddi. Ymddengys oddiwrth ad- roddiad blynyddol Pwyllgor yr Ymwelwyr fod 741 o wallgofiaid tlodion ar y llyfrau Ebrill y cyntaf. Parth eangiad y Gwallgofdy, sydd yn cael ei gario yn mlaen er's rhai blynyddau, dy- wedid y disgwylir y bydd y gwaith wedi ei gwbl- hau cyn diwedd y flwyddyn hon. Gwariwyd 104,307p eisoes ar y gwaith o eangu'r adeilad, a 50,454p yw cyfanswm traul Pwyllgor yr Ymwel- wyr yn ystod y flwyddyn. Ar gyfartaledd, 9s lie yr un yn yr wythnos yw traul cynal y gwallgofiaid; ond amrywia traul cynal dioddef- wyr preifat o 10s 6c i dri gini yr un.
-----__------__ Cydweithrediad…
Cydweithrediad Amaethyddol- yn Nghymru. Yn adroddiad blynyddol y Gymdeithas Am- aethyddol Brydeinig, hysbysir fod cynydd mawr wedi ei wncud yn Nghymru. Yn 1902, deg o Gymdeithasau Amaethyddol cydweithredol oedd yn Nghymru, erbyn hyn mae y nifer wedi dyb- iu ond pwysicach na hyn yw y wedd lewyrchus sydd ar y cymdeithasau. Fodd bynag, nid yw y cymdeithasau hyd yn hyn wedi eu sefydlu ond yn Ngheredigion, Caerfyrddin, a Phenfro, a Cheredigion sydd fwyaf blaenllaw. Dywedir fod y ffermwyr yn gyffredinol yn ffafr y cym- deithasau cydweithredol hyn.
Marwolaeth Rheithor Trefnant.
Marwolaeth Rheithor Tref- nant. Nos Iau, yn nghartref ei fab yn Winder- mere, bu farw y Parch Thomas Williams, rheithor Trefnant, sir Ddinbych. Addysgwyd .ef i'r weinidogaeth yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1859 gan Esgob Bangor. Bu yn ,gweinyddu fel curad yn Nghaergybi a Llanrwst. 0 1868 hyd 1871 efe oedd- ficer Nantglyn; wedyn bu yn ficer Llandrillo yn Edeyrnion hyd 1899, pan y dyrchafwyd ef i fywoliaeth Trefnant ar farwolaeth y Canon Lewis. Gwr caruaidd oedd efe ac enillodd barch pob ardal lie bu yn gwasanaethu.
------._---------Llofruddiaeth…
Llofruddiaeth yn Risca. Foreu Sul, cerddodd dyn o'r enw Fred Owen i orsaf yr heddgeidwaid yn Risca, Mynwy, gan roddi ei hun i fyny am lofruddio ei wraig Ymddengys iddo dori ei gwddf ac yna dori ei wddf ei hun- Methodd ladd ei hun felly, a neidiodd i Gamlas Casne- wydd a Crumlin. Methodd yno drachefn, ac aeth wedyn i orsaf yr heddgeidwaid. Pan aeth yr heddgeidwaid i'r ty cawsant y wraig yn farw mewn llyn o waed gerllaw y gwely. Yr oedd y tri phlentyn yn y tv ar y pryd. Methir dirnad beth a barodd i'r dyn gyilawni gweithred mor ecbryslon. Gorwedda Owen mewn sefyllfa beryglus yn Yspytty Casne- ■wydd. ■ >n j
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. "Doethineb y Cymry, sef Trioedd, Diarheb- ion, a syniadau Cymry yr oesoedd a fu, wedi eu dethol o'r 'Myfyrian.' "Dyna onw llyfryn bychan destlus a hylaw a ddygwyd allan o wasg Mri R. E. Jones a'i Frodyr. Conwy. Nid yw y llyfryn ond 32 tudalen, ond ni wasgwyd erioed gymaint o synwyr a doethineb i leied o le. Ceir perlau o syniadau ar bob dalen—yn wir cynwysa hufen meddyl- garwch yr hen Gymry mewn iaith ac ardduli trwyadl Gymreig. Pe myfyrid mwy ar lyfrau o'r fath gan Gymry ieuainc ein hysgolion a In, colegau, byddent yn llawer gwell llenorion yn iaith eu gwlad. Nid yw enw'r detholydd ar y llyfr, ond cvflawnodd ei waith o grynhoi gyda medr. Dylai'r llyfryn gael cylchrediad helaeth iawn. Destlus iawn yw gwaith yr argraphwyr hefyd, a haeddant glod am hyny.
------Pysgota Annghyfreithlawn…
Pysgota Annghyfreithlawn yn Ffestinog. Ddvdd Tan gerbron ynadon Penrhyndeu- draeth, cyhuddwyd Owen Jones, chwarelwr, o bysgota yn nyfroedd preifat Mr Oakeley. Bu'f cyhuddedig droion o'r blaon o "fiaen ei well" am feddwi a herwhela. Hysbysodd Mr J. Tobias, yr hwn a erlynai, fod Owen yn un o'r pvsgotwj-r goreu yn Meirionydd. Y cyhuddedig: Mae Cvmdeithas Enwciriawl Ffestiniog yn gwrthod rhoi trwydded i mi nen ni fuaswn yn myn'd i bysgota i ddyfroedd Mr Oakeley. Hysbyswyd mai oherwydd ei gym- eriad y gwrthodid trwydded iddo. DyWedai Mr G. H. Ellis, cadeirydd y fainc, na wyddai ef ar wyneb y ddaear beth i wneud ag ef. Yr oedd yn tieulio mwy na haner ei amser yn v carchar, ac yr oedlynt am ymddwyn vn dyner tuag ato yn y gobaith gwan y byddai iddo wella ei ffyrdd. Rhoed arno ddirivy o Ss a'r costau, a chaniatawyd pythefnos o amser i dalu.
Addysg Elfenol yn Nghaernarfon.
Addysg Elfenol yn Nghaer- narfon. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Llywodr- aeth Leol Addysg yn nglyn a'r ysgolion elfenol yn Nghaernarfon, dydd Mercher, o dan lywydd- iaeth Mr W. G. Thomas (y cadeirydd). Pasiwyd i symud Miss Kate Jones 0 ysgol Waenfawr i ysgol Caernart-on (diweddar Ysgol Genedlaethol). 1 Pasiwyd i argymhell i'r Pwyllgor Addysg feirol i gyfranu 13p at y 12p gasglwyd eisoes gan blant yr ysgol, ex cael perdoneg i ysgoly gen- ethod (Ysgol y Bwrdd gynt). Pasiwyd i ychwanegn at ystafell y babanod yn ysgol Caeathraw, ger Caernarfon, ac i helaethu y chwareule. Pasiwyd fod gwyliau ysgolion y wlad yn dech- reu ar Gorphenaf 15fed, ac i barhau am bum' wythnos; ac ysgolion y dref i dori i fyny ar Gorphenaf 22ain, ac i barhau am bum' wythnos.
Ysgol Dduwinyddol Haf.
Ysgol Dduwinyddol Haf. Cynhaliwyd tymhor cyntaf Ysgol Dduwin- yddol Haf Gogledd Cymru y nghapel yr An- nibynwyr, yn Nhrefriw, ddydd Mawrth, pryd y llywyddwyd gan y Parch H. Barrow Williams, Llandudno, dros gynulliad da o fyfyrwyr, yn cynwys gweinidogion a lleygwyr y gwahanol en- wadau Ymneillduol. Agorwyd y cyfarfod gan y Parch E. K. Jones, Brymbo. Traddodwyd y gyntaf o ddarlithoedd y dydd gan y Parch Dr. D. W. Simon, Prifathraw y Coleg Unedig, Bradford, ar "Cyfansoddiad y Greadigaeth a gwaith goruwchnaturiol Duw." Yn y pryd- nawn, o dan lywyddiaeth y Parch M. Owen Evans, Gwrecsam, rhoddodd Dr. Simon ei ail ddarlith ar "Nad oedd dadblygiadyn eglurhad o ddrygioni." Yn yr hwyr rhoddodd y Parch David Davies, Brighton, ei ddarlith ddyddorol ar "John Bull."
Arddangosfa Feiblaidd yn Nghaerdydd.
Arddangosfa Feiblaidd yn Nghaerdydd. Mae yr Arddangosfa Feiblaidd a gynhelir yn Nghaerdydd wedi derbyn chwanegiad pwysig o'r Amerig. Yn ddiweddar, aeth Mr J. Ballinger ar ofyn y Gymdeithas Feiblaidd Amerieanaidd am argraphiadau arbenig o'r Ysgrythyrau, a chafwyd yr ateb a ganlyn oddiwrth Ysgrifenydd y Gymdeithas hono :— "Ar ol ymchwiliad, gwelwn nad oes genym argraphiadau Cymraeg o'r Testament Newydd a'r Beibl am 1855, 1858, ac 1859, ond y mae genym gopiau o'r Testament Newydd yn Saes- neg a Chymraeg, wedi eu hargraphu yn 1873, a Beibl Cymraeg wedi ei argraphu yn 1869, a Thestament Newydd Cymraeg, wedi ei argraphu genym ni yn 1871. A fydd yr argraphiadau hyn 0 wasanaeth i chwi? Yr ydym yn cymeryd dyddordeb yn y gwaith a gyflawnir genych; yn wir, mae pob peth a wneir gan y Cymry yn nglyn a'r Beibl yn rhagorol." Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr Bal- linger chwech argraphiad Cymraeg o'r Beibl a'r Testament Newydd, wedi eu cyhoeddi gan y Gymdeithas Amerieanaidd.
Cenedi a Chyfoeth H. M. Stanley.
Cenedi a Chyfoeth H. M. Stanley. wnaed ewyllys. y diweddar Syr H. M. Stanley yn hysbys synodd Jlawer weled fod vr anturiaethwr enwog yn meddu cymaint o dda. Yr oedd eyfanswm ei olud personol yn 132,951p 12s 4c. Diau iddo gynull swm mawr trwy ffrwyth ei ysgrifell, oherwydd yr oedd ei lyfrau yn dra phoblogaidd a'u gwerthiant yn helaeth iawn. Llawer dadl boeth a fu yn nghylch ei genedlaetholdeb. Y gred gyffredin ydoedd ei fod yn Gymro 0 ardal Llanelwy. Nid ydym yn cofio i ni ei weled ef ei hun yn gwadu nac yn cadarnhau y gred hono; ond y mae un gymunrodd yn ei ewyllys yn myned yn mhell i brofi mai Cymro ydoedd, neu o'r hyn lleiaf fod ganddo gysylltiadau teuluaidd yn ardal Llan- elwy. Yn ei ewyllys ceir ei fod wedi gadael cymunrodd o 500p i James William Jones, mab y diweddar Robert Jones, Cross Foxes, Glas- coed, Llanelwy. Yn chwanegol at hyn ceir y "Times" yn gosod ei enw fel y canlyn:—"Syr Henry Morton Stanley (gynt John Roliants neu Rowlands)." Wrth gwrs, nid yw y ddwy ffaith hyn yn brofion pendant o'i genedlaethol- deb Cymreig. ond y maent, o kia;f., yn awgrymu hyny yn gryf.
----------Cyngres Byddin Iachawdwriaeth.
Cyngres Byddin Iachawdwr- iaeth. Y dyddiau hyn y mae cyngres gydgenedl- aethol y Fyddin yn cael ei chynal yn Llundain. Y mae rhai miloedd o gynrychiolwyr ynddo o bob rhan o'r byd. Y prif arwi yn y cyfarfod- ydd, wrth gwrs, ydyw y Cadfridog Booth cych- wynydd y symudiad rhyfedd hwn, sydd wedi lledaenu erbyn hyn yn mhlith llawer o wahanol genhedloedd y byd. Pedair blynedd ar bym- theg ar hugam sydd er pan gychwynodd y cad- fridog ar y gwaith hwn, a hyny yn nghanol gwawd ac erledigaeth. Rhyfedd y cyfnewidiad erbyn hyn yn agwedd y wlad tuag ato. Deg mlynedd ar hugain yn ol yr oedd rhai o bobl Llundain yn arfer difyru eu hunain drwy luchio y gwr da hwn a'i ganlynwyr pan ar yr heolydd. Eleni y mae y Brenhin ei hun wedi galw am gael ei weld ac ymddiddan ag ef a phob dosbarth pa un bynag a ydynt yn cyd- wel'd a'i ddull o gario ei waith yn mlaen ai peidio yn cydnabod mai efe yw un o'r dynion mwyaf a rhyfeddaf sydd heddyw yn fyw. Y mae y Fyddin yn gweithio mewn 49 o wled- ydd, a chanddi agos i bymtheng mil o swyddog- ion. Ni bu'r fath Iwyddiant ar unrhyw ym- drech ag sydd wedi bod ar ymdrechion Byddin yr lachawdwriaeth.
Marwolaeth Arlunydd Enwog.
Marwolaeth Arlunydd Enwog. Dydd Gwener, collodd y deyrnas hon un o'i meibion enwocaf yn marwolaeth Mr G. F. Watts. Auaml, hyd yn nod mewn eanrif, y ceid gwr mor amryddawn ag ef; oherwydd safai yn y rheng flaenaf fel cerflunydd, arlunydd, addurnydd, a meddyliwr. Gadawodd argrapli mor ddwfn ar ei oes nas gall canrifoedd ei ddileu. Ar y Cyfandir yn ogystal a'r wlad hon yr oedd ei enw bron yn air teuluaidd. Ganwyd ef yn Llundain yn 1817. Amlygodd ei dalentau disglaer yn ieuanc, ond yr oedd dros haner cant oed cyn i brif goleg arluniol y wlad gydnabod ei athrylith a'i wneud yn aelod. Ond yn mhell cyn hyny yr oedd ei ddarluniau a'i gerfluniau wedi enill sylw y byd, ac wedi ei ddyrchafu i safle anrhydeddus. Gadawodd gynysgaeth ardderchog i'r genedl o ffrwyth ei athrylith. Nid oes nemawr i'w adrodd am ei fywyd annghyhoedd. Gwrthodotjd ddwy- waith ei wneud yn Farchog—gwell oedd ganddo lawryfon ei gelf na'r bri a'r gwarogaeth a fynai eraill ei osod arno. Priododd ddwy waith. Y tro cyntaf gyda'r chwareuyddes enwog, Ellen Terry ond ni throdd yr undeb yn ddedwydd, ac ysgarwyd y cwlwm. Priododd yr ail waith gyda Miss Mary Fraser Tyler, yr hon sy'n ei oroesi. _M_ 11
[No title]
U11 diwrnod, mewn ciniaw a roddid gan ddeon trwm ei glyw, yr oedd boneddwr yn galaru oher- wydd y marwolaethau oedd wedi cymeryd lie yn mhlith aelodau o'r alwedigaeth gyfreithiol y perthynai ef iddi. "Yr ydym wedi colli," meddai, "ddim llai na chwech o gyfreithwyr galluog yn ystod y nifer yna o fisoedd." Ar y funyd hon terfynwyd y ciniaw, a chododd y deon-yn anwybodus o'r anerchiad a draddodid -i fyny i roddi'r fendith, gan ddyweyd:—"Am hyn a phob trugaredd arall I"
---Mr Ffrangcon Davies a Chanu…
Mr Ffrangcon Davies a Chanu Cymru. BEIRNIADAETH FINIOG: CYNGHORION GWERTHFAWR. Yn mhlith meibion cerddgar Cymru, nid oes neb wedi dringo yn uwch yn y gelf gain o ganu na Mr Ffrangcon Davies. Mae ei lais a'i arddull odidog weithian er's blynyddoedd wedi swyno a synu cenhedloedd pell ac agos; ac am hyny y mae grym a gwerth yn ei sylwadaeth ar gerddorion a cherddoriaeth. Dro yn ol, rhoddodd Cymdeithas Gorawl Gym- reig Lerpwl, dan arweiniad Mr Barry Evans, Dowlais, ddadganiad o'r "Eijah." Cymerwyd rhan y prophwyd gan Mr Ffrangcon Davies, a chydnebydd pawb a'i clywsant nad oes ei hafal am bortreadu y cymeriad hwnw mewn agwedd a llais. Yn mhen yspaid ar ol y cyngherdd, an- fonodd Mr Davies lythyr at Mr Evans, arwein- ydd y cor, sydd o ddyddordeb arbenig i'r genedl. Yn y llythyr hwn, dyry y pencerdd ei farn a'i brofiad, gan ddatgan ei gred y gall Cymru, wedi y dealla ei neges yn iawn, chwanegu llawer at olud cerddorol y byd. "Yn bresenol," medd- ai, "y mae'r llanw yn tueddu yn gryf at ddin- ystrio yr hyn sydd brydferth a chelfydd mewn cerddoriaeth Gymreig. Mae gan y genedl du- eddiadau dramayddol, ffansi farddonol, a dych- ymyg cerddorol; ond y mae yn camgymeryd brwdfrydedd dynol am y tan dwyfol, a thwrf teimladau ;am fynegiant yn ei chan. Ond ei chymgymeriad penaf yw tybied fod tlws aur neu arian a gwobr o ddau can' gini yn gyfystyr a chynydd, llwyddiant, a buddugoliaeth. Nid dyna ystyr y gwobrwyon o gwbl. Masnachol i'r earn yw yr holl gyfunarefn gystadleuol; a gwyddom yn dda oddiar brofiad nad yw masnach a chelf yn trigianu yn yr un ty. Ceir nodwedd- ion mwyaf hunanol y natur ddynol yn cael eu hamlygu pan fydd pobl yn ymgais am wobrwyon arianol. Nodweddir cystadleuon yr Eisteddfod gan ddrwg-dybiaeth a chwerylon cyffrous; cynyrchir ntvydau mor gynhyrfus nes anfon y cyhoedd yn ben-ben; a dilynir hyn gan ddad- leuon ynfyd yn y wasg pan elo'r Eisteddfod drosodd nes peri i lawer Cymro gonest wrido oherwydd ei gydwladwyr. Bu dynion fel Mackenzie a Randegger yn ddigon gwrol o dro i dro i geryddu nwydau llidiog dosbarthiadau neillduol mewn Eisteddfodau, gan roddi i'r bobl rywbeth i'w ystyried. Ond rhaid i'r diwygion ddechreu oddimewn ac nid oddiallan i Gymru. Rhaid iddi, mewn ystyr gerddorol,1 wella neu roddi terfyn ar ei huchelgais yn myd y gan. Nid mewn eyffro, Hid, a chynen, y cynyrchir prydferthwch a chelf. Pa mor ami y bu Mr Joseph Bennett, yr adolygydd cerddorol ai- y "Daily Telegraphn -gwr mewn cydymdeimlad 11awn a'n cenedl-yn rhybuddio'r Cymry fod eu brwdfrydedd yn demtasiwn a'u gwylltineb yn fagl iddynt ? Yn yr ymgais am gwpanau a gwobrau, cynheuir y tan nes yr enyna yn fflam a llwythir ef ag ysbwrial o amcanion hunanol mewn cystadleuon, cyffroir nwydau iselaf y bobl, a rhaid, o ganlyniad, fod y cymeriad cenedlaethol yn dioddef. Gadawer i mi ail- ddweyd fod yn rhaid i Gymru ddiwygio ei hunan o'r nodwedd annymunol hon." CYMHELLIAD I GERDDORION. Diwedda Mr Davies ei lythyr drwy gyfeirio gyda chymeradwyaeth at ddadganiad y cor, ac meddai:— "Carwn sicrhau eich cor fod eu dadganiad y fath a barodd i'm calon lawenhau. Yr oedd canu yr 'Elijah' fel y gwnaethant yn well nag enill holl dlysau aur a gwobrau y byd. Boed i'ch aelodau fyned allan fel apostolion rheswm a phwyll at eu cyd-ddynion, a dangos iddynt fod gwaith cyson dan reolaeth rheswm yn well na dyrnu gydag un dernyn am ddeuddeng mis, er y dichon na cheir aur am y gwaith yn y di- wedd. Bydd cariad at waith y prif gyfansodd- wyr a chariad at y bobl fydd yn gwrandaw ac yn derbyn budd oddiv. rthynt yn ddigon o wobr am y gwaith. Os wyf yn adwaen fy nghyd- wladwyr o gwbl, y maent yn galon-agored ac uchelfrydig, yn caru rhoddi yn hytrach na der- byn. Y mae eich cor, a phob cor cyffelyb, yn gymwynaswyr i'r genedl. Y mae y cymeriad cenedlaethol yn well oherwydd eu hymdrechion. Caiff pawb sydd yn dysgu cyfanweithiau a phawb sydd yn eu gwrandaw addysg oddiwrth- ynt. Nid yw ein hunan-bleser yn ddim wrth y ddyledswydd sydd genym iw chyflawni i'n hoes a'n cenedl. Gadawer i ni gael diwygiad ar ffurf newydd fydflo'n adfywiad i'n ffydd yn Nuw a dyn yn adfywiad i reswm a dealltwriaeth, yn adfywiad i hen egwyddorion cariad a hunan- aberth, ac uwchlaw pob peth bydded i'ch cor deimlo mai yr hyn a gostia fwyaf iddynt yn feddyliol yw yr hyn sydd yn werth ei gyflawni. 'Heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.' Mae pob gwaith aruchel yn gofyn hunan-aberth." I
Tlodi yn Ngogledd Cymru.
Tlodi yn Ngogledd Cymru. GOFAL AM BLANT O'R TLOTTAI. Mewn cyfarfod o Fwrdd Gwarcheidwaid Con- wy, a gynhalivryd ddydd Gwener, sylwodd Mr Bircham, arolygydd Bwrdd Llywodraeth Leol, y dylid edrych yn fanylach fod cydnabyddiaeth deg yn cael ei rhoddi i'r plant o'r tlotty fyddent allan yn gweini. Mr O. W. Roberts a sylwodd iddo ddwyn y mater dan sylw ddeufis yn ol gyda'r amcan o adolygu telerau y rhai a gyflogent blant y tlotty, ond ni fabwysiadwyd ei gynygiad. Rhoddai rybudd o'i fwriad i ddwyn y mater dan sylw eto. TRAUL Y TLODION YN NGHYMRU. Mr Bircham a sylwodd fod Undeb Conwy, o'i chyferbynu a deng mlynedd yn ol, wedi cyn- yddu 38 y cant mewn poblogaeth ond tra yr oedd tlodi wedi lleihau yn ystod yr un cyfnod naw y cant yn Lloegr a Chymru, 15 y cant yn Nghymru a Sir Fynwy, » 29 y cant yn Ngog- ledd Cymru, nid oedd y lleihad ond wyth y cant yn Undeb Conwy. Yr oedd y treuliau am gynal y tlotai yn Lloegr a Chymru am y deng mlyn- edd diweddaf wedi cynyddu 36 y cant; yn Nghymru a Sir Fynwy, 21 y cant ac wedi llei- hau yn Ngogledd Cymru dri y cant. Diamheu mai'r esboniad am hyn yw fod y gost am gadw'r tlodion yn Ilawer uwch yn awr nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol. Nid oedd neb fuasai yn gwarafun dimai o'r arian at gynal tlodion teilwng o gynorthwy, ond dylai'r Gwarcheid- waid fod yn sicr fod yr arian yn myned i'r rhai haeddol o honynt. Er iddo gael y tlotty yn lan a'r plant dan ofalaeth dda, awgrymai y gallai'r Bwrdd ystyried y priodoldeb o symud y plant i gartrefi neu sefydliadau eraill yn y rhai y caent eu dwyn i fyny oddiallan i ddylanwadau y tlotty. Etholwyd Mr William Jones, Llanbedr, yn dreth gasglydd i blwyfi Gyffin, Llangelynin, a'r Llechwedd. »
--_._------Er Cof am Dr. Joseph…
Er Cof am Dr. Joseph Parry. Beth amser yn ol codwyd cronfa i goffkati y cerddor gwych uchod, a chasglwyd llOOp tuag- at hyny. Bwriedir i'r llog ar y swm hwn fyned i Mrs Parry, y weddw. Heblaw hyn, gwnaeth y pwyllgor ofalai am y gronfa gais at y Llywodr- aeth am rodd i'r un amcan, a hyfryd yw bysby.su fod y Prif Weinidog wedi caniatau cvfraniad o 300p o'r Gronfa Frenhinol er prynu bhvydd-da! i'r weddw, ac fel cydnabyddiaeth o wasanaeth ei phriod athrylithgar i gerddoriaeth. Trwy y rhodd hon sicrheir blwydd-dal o tua 20p iddi.
Y CROESHOELIAD. *
Y CROESHOELIAD. Trwy'r Groes ei fywyd Iesu Grist a roes Er arbed: dyn rhag marwol oes: Ai. gynyg nid oes ar y drefn I'w gael drachefn byth mwy gan Dduw I achub dyiaol ryw rhag loes. MEIRIADOG. I
Angladd Arglwydd Harlech.
Angladd Arglwydd Harlech. Cymerodd angladd Arglwydd Harlech le dydd Iau yn mynwent Selattyn, ger Croesoswallt. Y noson gynt dygasid y corph o Lundain i Gob- owen, lie y rhoed yr arch yn yr eglwys. Yn ol dymuniad ei arglwyddiaeth, distaw oedd ei angladd. Gweinyddwyd yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y Rheithor (y Parch R. Rossendalo Lloyd). Y prif alarwyr oeddynt y Milwriad G. R. Ormsby Gore (yr arglwydd presenol), Major Henry Gore, a Mr Seymore Gore, A.E. (meib- ion); yr Is-larll Ebrington a'r Milwriad A. M. I' Egerton (meibioa-yn-nghyfraith), yr Anrhyd- eddus G. Ormsby Gore a'r Lieutenant Egerton (wyrion), a'r Anrhydeddus Mrs Bulkeley Owen (nith) Ymgyniiltfdd tyrfa fawr i'r angladd, ac yn eu plith ceid ;«glwydd Ken yon, yr Anrhydeddus G. T. Keny; a, A.S., Mr ,R. LL Kenyon (Cofiad- ydd Croesosvpallt), y Parch T. M. Bulkeley Owen, Brigadier-General F. Lloyd, y Cadfridog Schrieber, y'Milwriad Fisher, Mr W. R. M. I Wynne (Arglwydd-Raglaw Meirionydd), Syr W. Corbet, yr Archddiaconiaid Thomas a Wynne Jones, Canon Fletcher, y Parchn. T. Redfern, R. Jones, G. O. Brown, a T. E. Jones, Mr R. M. Greaves (Wern), Mr W. C. Bridgeman, Syr W. Grenville Williams, etc. Ar yr arck ceid yr argraph syml a ganlyn "William Richard Ormsby Gore, ail Farwn Har- lech, 85 oed." Canwyd dau emyn yn yr eglwys. Yr oedd nifer luosog o flodeu-glym wedi eu der- byn. GWASANAETH COFFA YN LLUNDAIN. Prydnawn dydd Mercher cynhaliwyd gwasan- aeth coffa am y pendefig ymadawedig yn Eglwys St. Michael, Chester-square, Llundain. Gwein- yddwyd ar yr achlysur gan Canon Fleming a'r Parch Edgar Sheppard, is-ddeon y Capel Bren- hinol. Canwyd Salm xxxix. gan y cor, a dar- llenwyd y llith (1 Cor. xv. 20-.58) gan Dr. Shep- pard. Ar derfyn y gwasanaeth chwareuwyd y "Dead Ma,rch" (in "Saul"). Yn mhlith y pendefigion oedd yn bresenol ceid Iarll Pnxvys, Arglwyddes Penrhyn, yr An- rhydeddus Elin Douglas Pennant, yr Anrhyd- eddus L. Douglas Pennant, y Canon Kenyon- Slaney, etc.
Dewis Ymgeisydd Toriaidd.
Dewis Ymgeisydd Toriaidd. Ceir oddeutu 10,000 o etholwyr yn rhanbarth Croesoswallt. Amaethyddol, gan mwyaf, yw yr etholaeth, ond ceir Yllddi hefyd rai glofeydd a mwngloddiau a lluaws o Gymry ar y gororau. Mewn cyfarfod o Geidwadwyr a gynhaliwyd ddydd Gwener, Mr A. Wynne Corrie yn y gadair, darllenwyd llythyr oddiwrth Arglwydd Harlech yn diolch am v gefnogaeth a roed iddo yn y gorphenol ac vn gofidio fod ei gysylltiad a'r etholaeth fel ef chynrychiolydd yn cael ei ysgar. Amlygodd v cyfarfod gydymdeimlad dwys a theulu y diweddar Farwnig. Y Cadeirydd a gynygiodd benderfyniad yn cadarnhau detholiad Mr Clive Bridgeman fel vr ymgeisydd Ceidwadol. Eiliwyd gan Mr J. Caron, Eaton Mascott Hail, a chariwyd hyn yn unfrydol. Diolchodd Mr Bridgeman am yr anrhydedd a roed arno. Darllenwyd llythyr oddiwrth Iarll Powys yn gofidio ei anallu i fod yn bresenol ac yn dymuno llwydd Mr Bridgeman am ei fod, nid yn unig yn ddyn o'r sir, ond am y gwnaiff hefyd aelod gwerthfawr o Dy'r Cyffredin. MR BP^ST TN YMFYDDINO. Mewn cyfarfod Rhyddfrydol yn Nghroes- oswallt, nos Wener, caed anerchiad gan Mr A. Bright, yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Sylwodd ar y rhyfel yn Ne Affrica, gan ei galw yn "rhyfel perchenogion y mwngloddiau." Am y Ddeddf Addysg, dywedai fod yn rhaid ei gwella a diwygio Swyddfa Rhyfel. Condemniai waith Mr Balfour yn gwthio y Mesur Trwyddedol i lawr gyddfau y bobl. Mr Alfred Billson a ddywedai eu bod fel Rhyddfrydwyr yn myned i enill yr etholiad gan fod Mr Bright wedi myned yn gyson drwy'r etholaeth i ddysgu'r bobl, a chan fod y Llywodr- aeth wedi digio pob dosbarth yn y wlad.
"Pan Ddelo'r Llwythau oil…
"Pan Ddelo'r Llwythau oil Ynghyd." DYFODIAD Y CELTIAID I GAERNARFON. Dydd Liun, cynhaliodd Pwyllgor Gweithiol y Gymdeithas Geltaidd gyfarfod yn Nublin i dder- byn dirprwyaeth o Gaernarfon, sef y Maer (Mr W. G. Thomas) a Mr R. Gwyneddon Davies, er trefnu ar gyfer y gymanfa a gjrnhelir yn niwedd Awst yn y dref hon. Y Proff. Murphy, o Goleg y Drindod, oedd yn y gadair. Mynegodd Maer Caernarfon y byddai iddo ar y 50aino Awst dderbyn y cynrychiolwyr yn y Guild Hall ar ol yr orymdaith ac ar ol adeiladu yr hyn a elwir yn "Lia Cineil" yn y Castell. Heblaw cyrddau cyffredin y gymanfa croesawir y llwythau yn y Castell gan y Cwnstabl (Syr John Puleston) a'r Dirprwy-Gwnstabl (Mr Chas. A. Jones). Dydd Mercher, mwynheir gardd- west a roddir gan Arglwydd-Raglaw y sir; pleserdaith ar y Fenai yn yr "Arfon," ac i ben y Wvddfa ar v rheilffordd. Ceir dau gyngherdd gvrych hefyd yn hwyr y ddau ddiwrnod, pan gymerir rhan gan gor a rifa 140 o leisiau, a'r dadgeiniaid canlynol: Miss Agnes Treacy, Mr Roderick Macleod, Miss Gwladys Roberts, Mr Emlyn Davies Mr V. Davies, a Mr Theodore Botrel. Gwelir fod v dadgeiniaid yn cynrych- ioli y gwahanollwythau Celtaidd. Llvwyddir y cyngherddau gan Arglwydd Castleton. or Iwerddon, a'r Ardalydd de L'Estrur 'Ceillon, 0 Llydaw, tra yn un o gyrddau y gymanfa cymerir y gadair gan Dr. John Rhys. DEFOD DDYDDOROL. Un o'r nodweddion mwyaf dyddorol yn yr wyl fydd y ddefod o adeiladu v "Lia Cineil"-—math o garnedd vn cynwys pump o ranau yn cynrych- ioli y pum' llwyth Celtaidd. Ar ddiwedd y gymanfa anfonir pob rhan i brif dref y pum cenedl, sef Dublin, Aberdeen, Rennes, Douglas, a gadewir y llall yn Nghaernarfon. Byde. v rhanau hyn yn ngofal yr awdurdodau Ileol liya nes eyferfydd y llwythau eto y flwyddyn nesaf.
Masnach Yd yr Wythnos.
Masnach Yd yr Wythnos. Parhau i fod ar ol yn ei dyfiant y mae y gwen- ith; ond, y mae golwg hynod o'r iach arno. Y tebygolrwydd ydyw y bydd ei ansawdd yn rhag- orol, ond nid yw o gwbl yn debygol y bydd ei swm yn fawr. Cychwyn yn ddiweddar a wnaeth yr haidd, ac anffawd fawr ydoedd hyny. hefyd. Oni bae am hyn buasai golwg dra addawol arno erbyn hyn. Ceirch ydyw yr unig rawn sydd yn addaw bod, o ran ansawdd a swm, i fyny a'r cyfartal- edd cyffredin. Pys a ffa wedi eu hau yn y gwanwvn ydynt yn fwy addawol yr olwg arnynt na'r hyn a hau- wyd yn hwyr yn yr hydref. Disgynodd cryn lawer o wlaw nos Wener yn y gogledd, a boreu Saiwrn yn y deheu ac am nad oedd gwynt yn cydfyned ag ef ni wnaed niwed o gwbl i'r cnydau. Yr adroddiadau diweddaraf o Unol Dalaethau yr America ydynt yn rhoddi gwedd fwy obeith- iol ar bethau nag a gaed er's llawer o amser. Mewn eelrch ac indrawn y mae cryn welliant wodi bod. Ni ddisgwylir i swm y gwenith gyr- haedd dros ben y 70,000,000 o chwarteri y pro- phwydid am danynt yn adroddiad swyddol y Llywo-clraeth.
-. Y Alodur yn Nghymru.
Y Alodur yn Nghymru. Ddydd Gwener, dechreuwyd ihedeg modur- wasanaeth ar linell Rheilffordd y Great J Western o Rhiwabon i Ddolgellau. Dyma J brawf pellach o boblogrwydd y dull newydd o 1 drafnidiaeth. drafllidíaetb.
I Coffhau Dewrion Sir Gaernarfon.
I Coffhau Dewrion Sir Gaer- narfon. DADORCHUDDIO COLOFN A THAELED. DEFODAU DYDDOROL YN NGHAER- NARFON. Yr oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod pwysigpi Sir Gaernarfon, trwy fod cofgolofn a godwyd ar ben y Twthill Bach a thabl coffadwriaethol a osodwyd yn y Neuadd Sirol er cof am y mil- I wyr hyny o'r sir hon a fuont feirw dros eu gwlad yn ystod y rhyfel ddiweddar yn Ne Affrica. Caed tywydd dymunol ar y cyfan, a daeth miloedd lawer o bobl i'r dref. Am bump o'r gloch aeth Maer a Chorphor- aeth Caernarfon yn orymdaith o'r Guild Hall i'r TwthiU Bach. Blaenorid hwy gan aelodau tan-ddiffoddwyr y dref. Aethai y gwahanol adranau o'r Gwirfoddol- wyr, etc., i'r llecyn penodedig iddynt yn y Twthill Bach oddeutu yr un adeg. Yr oedd canoedd lawer o bobl yn edrych ar y gweithrediadau o Ben Twthill. Ymddygodd pawb yn addas, ac ni fu yr un ffrwgwd o gwbl yn ystod yr holl amser. Y GWASANAETH YN TWTHILL BACH. Yr oedd cwmni urddasol wedi ymgynull ger- llaw y gofgolofn yn Twthill Bach. Yr oedd y gwasanaeth yn Twthill Bach yn cael ei gario yn mlaen yn Nghymraeg a Saesneg. Yn nghyntaf oil canwyd y don adnabyddus "Crugybar" ar y geiriau teimladwy, "0 fryniau Caersalem ceir gweled," etc, y seindorf yn ar- wain ac yn dilyn y canu. Yr oedd cyfieitniad Seisnig o'r emyn yn gyfochrog a geiriau gwreiddiol Cymraeg—ond canai y rhan fwyaf o lawer Gymraeg. Ficer Caernarfon (y Parch J. W. Wynne- Jones, M.A.) a offrymodd y gweddiau, ac yna darfu i rai o udganwyr (buglers) y 4th Battalion R.W.F. seinio "Udgorn Olaf yr Hwyr" (The Last Post") mewn modd hynod o darawiadol a theimladwy iawn. Deuwyd wedyn at brif waith y dydd, sef dadorchuddio y gofgolofn gan Arglwydd Raglaw y Sir (Mr J. E. Greaves) yn y geiriau canlynol: "Er Gogoniant Duw ac er cof am y rhai o'r sir yma a fuont feirw wrth wasanaethu eu gwlad yn y rhyfel yn Neheubarth Affrica 1899-1902, yr ydwyf yn dadlenu y gofadail hon." Gollyngwyd tair cyfergyd (volleys) gan rai o Wirfoddolwyr Adsan Caernarfon. Ar ol i Ficer Caernarfon adrodd rhan o'r gwasanaeth claddu, seiniwyd "Udgorn y Wawr" ("Reveille") gan yr udganwyr, v ac yna cyflwynodd y Ficer y gofadail yn y geir- iau canlynol :-Hollalluog Dduw, nyni a atolyg- wn i Ti dderbyn y gofadail a gyflwynir yn awr i Ti er Dy ogoniant ac er cof am y rhai o'r sir yma a aberthasant eu bywydau dros eu gwlad-yn Neheudir Affrica. Yn enw y Tad, a'r Mab. a'r Yspryd Glan. Amen." Wedi hyny cydganwyd yr emyn "0 Dduw, ein cymhorth oesau gynt" ("0 God, our help in ages past"), cyfieithiedig i'r Gymraeg gan Elfed. a thraddodwyd y Fendith ga,n y Ficer. Yn ddilynol trosglwyddwyd y gofadail i Faer Caernarfon (fel cynrychiolydd y Cynghor Tref- ol), i'w chadw a gofalu am dani gan Arglwydd Raglaw y Sir (Mr J. E. Greaves). Derbyniodd Maer Caernarfon (Cynghorvdd W. G. Thomas) ofal a chadwraeth y gofadail ar ran v dref. Y GOFGOLOFN. Saif y gofgolofn ar ben y bryn. Y mae ar ffurf croes Geltaidd wedi ei naddu o farmor Mon. Ceir yr argraph canlynol arni :Cod- wyd y gofgolofn hon drwy aanysgrifiadau cyhoeddus er cof am y rhai hyny o'r sir hon a fuont feirw wrth wasanaethu eu gwlad yn rhyfel Deheudir Affrig, 1899-1902." Ceir ar y gofgolofn hefyd enwau y dewrion canlynol:— Corporal Owen Roberts, Denbighshire Hus- sars, Imperial Yeomanry Shoeing Smith J. V. Griffith, Denbighshire Hussars, Imperial Yeo- manry I Trooper G. C. Goodwin, Denbighshire Hussars, Imperial Yeomanry; Trooper J. B. K. Long, Norfolk Yeomanry; Corporal J. Metcalfe. 2nd Batt. Grenadier Guards; Pri- vate E. Davies, 2nd Batt. Scots Guards; Pri- vate W. Joyce, 1st Batt. The King's (Liver- pool Regiment); 2nd Lieutenant Roger Wil- liams-Ellis, 1st Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private J. Roberts, 2nd Batt. South Wales Bordferers; Lance-Corporal G. Soper, 2nd Batt. Royal Highlanders; Private A. Soper, 2nd Batt. Roval West Kent Regiment; Sergeant J. Graham, 2nd Batt. Royal Munster Fusiliers: Trooper J. Rowlands, Brabant's Horse; Trooper D. E. Roberts, Kimberley "Light Horse; Trooper G. D. Cameron, Natal Mounted Police; Dresser T. R. Eames, Welsh Hospital: Private E. Roberts, 1st Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private W. Evans, 4th Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private J. T. Jones, 4th Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private W. Kelly, 4th Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private Mailen, 4th Batt. Royal Welsh Fusiliers: Pri vate W. H. Williams, 4th Batt. Royal Welsh Fusiliers; Sergeant C. Jones, 3rd Volunteer Batt. Royal Welsh Fusiliers; Private H. Deverell, 3rd Volunteer Batt. Royal Welsh Fusiliers. DADORCHUDDIO'R DABLED. Yr oedd trefn yr orymdaith o Twthill Bach i'r Neuadd Sirol fel y canlyn :—Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon (Milwriad Ruck), Seindorf 3rd Volunteer Battalion R.W.F., Arglwydd Rag- law y Sir (Mr J. E. Greaves), y Caplan (Parch J. W. Wynne-Jones, M.A.), Maer Caernarfon (Mr W. G. Thomas), Maer Bangor (Mr W. P. Matthews), Maer Conwy (Mr Oldman), Corpbor- aeth Trefol Caernarfon a'i swyddogion, cadeir- ydd y Cynghor Sirol (Mr J. E. Roberts, Ban- gOl"). aelodau y Pwyllgor Coffadwriaethol, swyddogion llywodraethol y 23rd Regimental District, aelodau y Rcyal Naval Reserve, Naval Volunteer Reserve, 4th Battalion Royal Welsh Fusiliers, Denbighshire Hussars (Imperial Yeomanry), Royal Garrison Artillery Volun- teers. 3rd Volunteer Battalion Royal Welsh Fusiliers, Church Lads' Brigade, Tan-ddiffodd- wyr Caernarfon. Ar ol cyrhaedd v Neuadd Sircl darfu i Mrs Assheton-Smith ddadorthuddio a chvflwyno drosodd i'r sir (ar ran y cyfranwyr) y dabled goffadwriaethol a gyfodwyd i fyny yn y neuadd er cof am y milwyr. Mr J. E. Roberts, fel cadeirydd y Cynghor Sir, a dderbyniodd y rhodd, gan sylwi fod yr aberth a wnaeth y dynion wrth adael eu cartrefi a'h teuluoedd a rhoddi eu bywyd dros eu gwiad yn sicrwydd yr anrhydeddid eu henwau yn hir yn y sir. Siaradwyd yn mhellach gan y Milwriad Main- waring ar ran y gwahanol gatrcdau. Lion- gyfarchai yr Arglwydd Raglaw am deyrngarweh a gwladgarwch y sir. Meddvliodd v buasai p01 sir yn codi cofgolofn gyffelyb i'w dewrion, ontl hyd yma Caernarfon oedd yr unig sir a wnaeth hyny. Heblaw y rhai a nodwyd uchod yr oedd yn bresenol hefyd y Milwriad a'r Anrh. Lloyd- Mostyn. y Milwriad Platt, C.B., y Milwriad C. H. Darbishire. Mri Thomas Lewis. Charles A. Jones, J. R. Pritchard, ac eraili. Ysgrifenydd Pwyllgor y Gofgolofn ydoedd Mr David Breese.
[No title]
Nid oes dim yn colli ag sydd yn syrthio i'r galon.
Mesur Addysg Esgob Llanelwy.
Mesur Addysg Esgob Llanelwy. [Gy,da'r Pellebyr.] TY'R ARGLWYDDI, dydd Llun. Yn Nhy'r Arglwyddi heno, eglurodd Esgob Llanelwy, wrth gynyg ail ddarlleniad Meeur Addysg (Ysgolion Trosglwyddedig), y rhoddai y Mesur fwy o alluoedd i awdurdodau addysg lleol a etholwyd trwy ddeddf 1902. Yr oedd profiad y gorphenol yn dangos fod angen am hyn, a gadewid i rieni y plant benderfynu cy- meriad yr addysg grefyddol a fwriedid gyfranu. Ai tybed na ellid cael gwared o'r geiriau an- nymunol "enwadol" ac "anenwadol" a rhoddi yn eu lie ddymuniad y rhieni yn y materion byn. Rhaid oedd iddynt gydnabod hawl y rhieni ar y cwestiwn hwn. Gobeithiai yn ddifrifol na wneid mater addysg elfenol mwyach yn fater o gyffro a chynen wleidyddol, a byddai i'w gynygiad ef wneud rhywbeth i osgoi hyny. Pasiwyd, heb ymraniad, ail ddarlleniad y Mesur.
Lloffion Dyddorol.
Lloffion Dyddorol. Penderfynodd Gwrecsam wahodd Eisteddfod Genedlaethol 1906 i gael ei chynal yno. Gwerth ystad y diweddar Syr H. M. Stanley yw 145,451p. Mae y Parch T. J. Wheldon, B.A., wedi pen- derfynu ymweled a'r Wladfa Gymreig yn Can- ada tra ar ymweliad a Gwlad y Gorllewin. Addawa'r bardd mirain Syr Lewis Morris ymweled a'r Bermo i ager y llyfrgell a roed gan y ddiweddar Miss Frances Cobbe i'r dref. Toreithiog iawn yw'r cynhauaf gwair eleni. Mewn llawer lie y mae'r cnydau wedi eu cludo i ddiddosrwydd. Mao Cronfa Adeiladu Coleg y Brifysgol, Ban- gor, wedi cyrhaedd 27,121p. Addawodd yr hen fyfyrwyr 1373p, a'r athrawon 1019p. Yn Eisteddfod Gadeiriol a Choronog Traws- fynydd ni atebodd y bardd buddugol i'w enw. Diflaod gwyl o'r fath yw cadair wag. Mae Dr. Evans, Gwrecsam, swyddog meddyg- ol y fwrdeisdref er's 22 mlynedd, yn gorwedd yn beryglus glaf. Mae pysgotwyr yn cael hwyl dda ar ddal eogiaid yn yr afon Glaslyn, a rhai mawr, braf, geir yno hefyd. Bwriada Mr Clement Edwards, yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol dros Fwrdeisdrefi Dinbych, ail ddechreu ei ymgyrch etholiadol ar fyrder. Mae'r Parch Robert Jones, gweinidog eglwys M.C. Rhosllanerchrugog, wedi tynu yn ol ei ym- ddiswyddiad ar gais unol yr aelodau. Mae'r Parch Peter Price, cyn-weinidog eglwys Annibynol Great Mersey-street, Lerpwl, wedi dechreu gweithio yn ei faes newydd yn Dow- lais. Mae y Parch J. Ernest Jones, Treffynon, wedi derbyn yr alwad o Wolverhampton. Bwriada symud yno i ddechreu ar ei waith yn nechreu Medi. Cyrhaeddodd miloedd o ymwelwyr yr wyth- nos ddiweddaf i lanau y mor yn Neheubarth Sir Gaernarfon. Yn ol pob golwg, caiff Pwllheli a Chriccieth dymhor eithriadol o lwyddianus. Yn Nhrefecca, dydd Mercher, pasiodd Pwyllgor Coleg M.C. benderfyniad ffafriol o blaid uno y ddau Goleg, a derbyn cynygiad Mr Davies, Llandinam. Dydd Gwener cyflwynodd Mr Herbert Ro- berts ddeisebau i'r Senedd yn erbyn y Mesur Trwyddedol oddiwrth eglwysi Wesleyaidd Col- wyn Bay, Penmaenrhos, a Bronynant. Y mae "Owen Rhoscomyl" newydd orphen rhamant, ac y mae ynddi arogl Gymreig. Dyf- odiad Harri y Seithfed—Harri Tudur, y Cymro, —ydyw y testyn. Mae yr Archddiacon Thomas, Maldwyn, a'r Parch J. Fisher, Cefn Meiriadog, yr hynaf- iaethwyr adnabyddus. yn nghwmni y Gym- deithas Hynafiaethol Wyddelig, ar daith o am- gylch arfordir yr Iwerddon. Mae'r bwch ga-fr a roed gan y ddiweddar Frenhines i'r 3edd Gatrawd Gymreig wedi marw. Galarnadir am yr hen fwch gan y mil- wyr, a bwriedir cadw ei ben i addurno bwrdd y wledd pan fydd y swyddogion yn ciniawa. Mae Mr Arthur Hughes, mab hynaf Gwyneth Vaughan, wedi pasio ei arholiad yn y dosbarth cyntaf eleni eto, yn Ngholeg Dewi Sant, Llan- bedr. U11 arholiad eto sydd o'i fiaen yn y dos- barth hwn. Yn Trefriw. nos Fercher, traddododd Elfed. yn nglyn a'r Ysgol Haf, ddarlith ar "John Frederick Oberlin," diwygiwr y mynyddoedd, i gynulliad iliwylliedig. Ar gais y darlithydd addawodd y Parch Evan Davies ddwyn allan gyfrol o weithiau Tafolog. Mewn cystadleuaeth pedoli ceffvlau yn nglyn a'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, ych- ydig ddvddiau yn ol, pan vmgeisiai 51 o ofaint o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Mr Griffith Jenkins, gof, Bryn- road, LIanbedr-pont-Stephan. Cynhelir cyfarfod blynyddol Athrofa'r Bala yn llyfrgell Dr. Owen Thomas, boreu Iau, Gor- phenaf 7fed, am 11 a.m. Traddodir yr anerch- iad i'r myfyrwyr gan y Proffeswr A. S. Peake, M.A., Victoria University, Manchester. Yn gydnabyddiaeth am ei lafur hanesyddol a hynafiaethol gwerthfawr, y mae Mr Alfred Nes- bard Palmer, Gwrecsam, i gael 50p yn flynvddol o Restr Wladol y Trysorlys. Mr Palmer ydyw awdwr y llyfr. "The early landed system of North Wales," heblaw llyfrau eraill. Y mae lladrad o nodwedd amheus iawn wedi cymeryd lie yn ben Lythyrdy y Vron, Llan- gollen. Ar ol i'r teulu fyned i orphwys, nos Lun, lladratawyd 17p 10s o arian perthynol i gapel Methodistiaid Pontcysyllte. Yr oedd yn rhaid i'r lleidr fyned i ystafell lie yr oedd dau ddyngn cysgu. Bwriedir cynal ciniaw Cymreig cenedlaethol yn Nghaerdydd i ddathlu'r anrhydedd a roed ar y Cymro trylen T. Marchant Williams trwy ei wneud yn farchog. Ei hen gyfaill Dr. Isam- bard Owen fydd yn y gadair. Nid oes undyn haedaa hyn yn fwy na'r ynad doeth o Ferthyr. Gair llafar gwlad ar dueddau Lleyn yw "sgrech y mor." Digwyddodd i Gwilym Hiraethog glywed y gair rhyw dro, a ffromodd gymaint nes yr ymfflamychodd ei awen fel g, hyn:- "Sgrech y mor!" Oes gwrach yn Meirion— Dd'wedai beth mor wirion ? Fyn bod 'E regai pysg vr eigion Gan mor helf yw'r linell hon. Ceir llawer gwir gwerthfawr yn mhenillion hen feirdd gwledig Cymru. Dyma brawf o hyny:— Llwm yw'r llwdwn newydd gneifio Pan fo bagad o biogod yn ei bigo Llwm yw'r gwr a wisga sidan A'i logellau, hwyr a borau'n hir heb arian Dyma ddywed Mr A. S. Legard, Prif-Arholwr Ysgolion Cymru, o berthynas i ddysgu'r Gym- raeg "DyJid cadw mewn golwg mai Cymraeg sydd yn cael ei defnyddio bron yn ddieithriad mewn rhan helaeth o'r Dywysogaeth. Gan hyny, gadawer i'r iaith gael ei harfer yn llawer iawn mwy rhydd nag a wneir yn bresenol i ddysgu'r plant. Cofier fod y Saesneg mewn ardaloedd hollol Gymreig yn iaith estronol. a rhaid edrych arni a'i hymarfer fel y cyfryw."
Marwolaeth Brudd yn Lerpwl.
Marwolaeth Brudd yn Lerpwl. Fel ag yr oedd b^ned^wr yn cerdded yn Mbarc Newsham, Lerpwl, d'jydd Lixin, capfyddocld eneth yn anymwybodol. Rhoddodd hysbyn- rwydd ar nnuaith t'r heddgeidwaid ond bu yr cnnth farw cyn cyrhaedd y sefydliad hwnw. Adnabvddwyd yr eneth fel Madge Lloyd, Man- sel-street, ac yr oedd yn 26ain mlwydd oed.
[No title]
Meiddia fod yn dda, pa ddrwg bynag fo yn dy amgylchu.
Daeargryn yn Lloegr.
Daeargryn yn Lloegr. Brydnawn Sul, teinrlwyd ysgytiadau d-ear- gryn yn nghanolbarib sir Gaer ac yn sir Derby.
. Undeb yr Anirsibynwyr.
Undeb yr Anirsibynwyr. Heddyw (dydd Llun) deenreuoed yr Undeb uchod gynal ei gyfres o gyrddau blynyddol yn Mangor. Cyrhaeddodd tori fawr o wemidog- ion a lleygwyr yr enwad o bob parth o Gymru, a rhai o ddinasoedd Lloeg; i'r ddinas. Y cad- eirydd eleni yw'r Parch B Davies, D.D. Y mae trefniadau helaeth wedi eu gwneud ar gyfer yr wyl, a'r wythnos. wedi ei gcrlenwi a chyrddau. Bydd genym g yrjodeb o u hanes yn ein rhifyn nesaf.
. Ymgyrch y Celdwadwyr yn…
Ymgyrch y Celdwadwyr yn Rhanbarth Croesoswallt. Y mae Cynghrair Diwygio'r Toilau wedi agor swyddfa yn Nghroesoswallt. Cvmejir ei gofal gan Mr W. T. Carter, cTl-aelod o Ddeddfwrfa Victoria yr hwn a fwriada anereh cyrddau awyr-agored yn y rhanbarth er eef- nogi Mr Bridgeman, yr ymgeisydd Ceidwad- ol. Dechreuodd Mr Bridgeman ei yrcgyrch ddydd Sadwrn, gan anerch cjTfarfod yn Wattlesborough, pentref bychan cyd rhwng Trallwm a'r Amwythig. Amlygodd ei gymer- adwyaeth o'r Mesur T; vyddedol. fpsnr yr Estroniaid, a'r Mesur Addysg. C!efr.c0ai hefyd gynygion y Llywodraeth o berthynas i lafur Chineaidd. Rhoddai sicrwydd, os ethol- id ef, y pleidleisiai yn erbyn gorfodaoth filv/r- ol.
. Etholiad Gwarcheidwar'd…
Etholiad Gwarcheidwar'd yn Mangor. Fel mae yn wybyddus mae Bargor yn cael ychwanegiad o dri yn ei chynrychiolaeth ar Fwrdd Gwarcheidwaid Bangor 2 Beaumaris. Cymerodd yr etholiad le dydd Sadwrn a bol'eU heddyw (dydd, Llun), g?. naed yn hyshys y ffigyrau fel y canlj^n:—Mr W. R- Hartier (Wesleyad), 451; Mr Robert Griffith (Eglwys- wr), 389 Cadben Thomas (Eglwyswr)^ 3i)f; Parch Mostvn Jones (M C.), 304; Mrs ije's is, Gartherwen" (Wesleyad), 122. Y tri cyntaf a etholwyd. Gwelir lod nifer o'r ethol->r wMi pleidleisio dros Mrs Lewi^J er idea hi nos ddiweddaf wneud yr hysbys nad oedd am sefyll etholiad.
Y Rhyfel.
Y Rhyfel. Dyma'r newyddion diweddaraf a gyrhaedd- odd y wlad hon am y rhyfel: — Ddydd Llun, llwyddodd gwib-icng < aidd i suddo rhyfel-long Rwsiaidd gerliaw y fynedfa i Borth Arthur, Nos Wener. aeth y Llynges. dan V I.lyngesydd Kamimura yn gyfagos i Wjb- longau Vladivostock, ond llwyddodd y rhai diweddaf i ddianc. Gwada'r Llyngesydd Alexeieff fod Hyngrs Porth Arthur wedi derbyn y niweidiau a bys- byswyd gan v Llyngesydd Togo, a hcr.a fod o leiaf ddwy long Japanaidd wedi en ?,vdc!o. Amlyga byddinoedd Japan adnewyddol ar rai o'r ffyrdd sy'n i j'r reilffyrdd.. Hysbysir fod adran o ddeugain rjil o wyr yn ymdaith tua Phorth Arthn" tra y cedwir 80.000 arall yn barod at r.lv.-ad. Y mae'r wlad oddiamgylch Liao-Yaag a Haicheng o dan ddwfr a'r ffyrdd yn lieidiog annghyffredin.
--------------Ffafr Frenhinol…
Ffafr Frenhinol i Gyrnrc. Rhoed y gradd o C.M.G. gan y Brenhin ar ei ben-blwydd i Mr Charles E. Spooler, rh^-el- "IJT cyffr,dinol y rheilffyrdd yn Nhnlaetl;^ i Unol y Malay Peninsula Brodov o Tiorth- madog yw Mr Soooner. a bu rai adeg yn rheolwr Rheilffordd Ffestiniog.
Deuddeng Mis am Ladrad.
Deuddeng Mis am Ladrad. Yn Mra^dlys Chwarterol Sir D linbyeb. è.1-f to Gwener. anfonwyd dyn 2Sain c.-y. o'r } enw Thomas Calsom Jennings, i garclmr ddeuddene mis am ladratta peiriar.t tcr; < wellt yn Hen Golwyn.
Ymryson Ymaflyd Cod win.
Ymryson Ymaflyd Cod win. Ddvdd Sadwrn, yn y Royal Albert TTaU. Llundain, bu ymdrechfa rhwng Tom Jerkins percampwr America, a George Hackensmidt, y "Ilew o Rwsia," fel ei p.elwir, am bwrs yn cynwys 2500p a'r anrhydvdd o reel eu galw yn bengampwyr y byd. Llwyddod 1 y Hew i gwvmpo Jenkins y tro cyntaf F'n 20 munu-1 a 37 eiliad: a'r ail dro mewn 14 munud a 27 ciliad. Felly Hackensmidt enillodd y pwrs a'r teitl.
Y Drefedigaeth Oymreig yn…
Y Drefedigaeth Oymreig yn Ml Canada. Mae'r Parch T. J. Wholdon, Banger^ wedi derbyn gwahoddiad i ymweled a'r drefedigaeth Gymreig yn Canada tra ai ei daith i bregethu a darlithio yn America.
•♦-Etholiad Sower by.
♦- Etholiad Sower by. Dydd Sadwrn eymerodd ethcliad le yn Sowerby, sir Gaerefrog, e-r llanw y sedd aeth yn wag drwy ymneillduad Mr G. W. Mellor (R.). Etholwyd Mr J. S. Higham (R.) trwy fwyafrif o 2172 ar y C^idwadwr, Mr W. Hinchcliffe.
. IYmgeisydd Undebol i OrSlewIn…
Ymgeisydd Undebol i OrSlewIn Sir Ddinbych. Hysbysir ar awdurdod dda mai gvrrth- ymgeisydd Mr J. Herbert Roberts, A.S., yn etholiad nesaf Gorllewinbarth sir Ddinbych fydd Mr Drummond Lloyd, Llundain, yr fWB yn ddiweddar fu yn anereh cyfarfod, ar ran Cynghrair Diwygiifr Tollal- yn Ninbych. Y mae Mr Lloyd yirsiaradv,r llithrig yn y Gym- raeg a'r Saesneg, ac yn gefnogyad trv,y&d! i syniadau Mr Chamberlain ar ddiffyndolliaeth.
------------__------_---___-_.…
Cynghrair y Frialien. ARDDAXGOSIAD YN i.1.ANF AIRFECHAv. Cynhaliwyd cyfarfod pob'ogaidd yn Llanfs<r- fechan ddydd Gwener div,-)ddaf dan ns^da yr uchod. Yn y prydnawn mwvnhawyd gwlefid nasus o de a roed gan aelodau lleol y cyngnrair, yn mhlith pa rai y ceid amryw o brif fenedd yr ardal. Yn yr hwyr llywyddwyd cyfarrod iluosog gan y Milwriad Platt. C.B., yr hwn a roes arac-th gref yn cymhell yr aelodau i ymgynull dar. y faner. cefnogi yr achos, a dangos eu bangLv- meradwyaeth o ystrywiau y rhai sydd beunvdd yn ceisio atal llwydd y deyrnas. Diiynwyd gan Mr Navlor, yr ymgeisydd Un- debol dros y bwrdeisdrefi, ac yr oedd ei sylwad- au yntau yn llawn o gymhellion cryfieu i fod yn bur i egwyddorion y blaid. Rhoed iddo wrf-n- dawiad astud. Mr R. Gordon Roberts, mewn arapth ryn^'s, a gondemniai vmddygiad yr Wrthblaid yn Khy'r Cyffredin tuag at y Mesur Addysg. "Ymddygiad y ci yn y preseb" ydoedd. Cyfpr- byniodd addewidion y blaid bono yn 1893 gyda'u cyfiawniadau, a dar.goscdd a wnaethant ar ol addaw cymaint. Dywedodd fod y Rhyddfrydwyr wedi gwario pedair millwn o bunau i golli y Soudan, tra yr oedd y Ce' wadwyr wedi ei henill yn ol gydag un miliwn. Cyfeiriodd hefyd at Ddiffyndoiliacth, ga.n ddweyd nad oedd o fudd yn y byd i weithiwr gael forth gymaint a baril a) 6c os nad allai enill digon trwy ei lafur i'w phrynu. Siaradwyd hefyd gan Mr Finehara ac ertill, a therfynwyd trwy dalu y diclchiad.ra avfoiol.