Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
ABBRSOOH.
ABBRSOOH. Mae Mr Harry Morgan, boneddwr haelfrydig Bydd yn trigianu yn y Cottage, Abersocb, yn cynyg cwpan arian, gwerth deg punt, i bwyll- gor yr Arddangosfa Gwn. Rhaid iddi gael ei henill dair gwaith yn olynol cyn y daw yn eiddo i'r enillydd.
.BAlTaOB.
BAlTaOB. YSGOL Y FRIARS. Dydd Gwener a lydd Sadwrn cynhalisvyd arlioial am ysgoloriaethau i sicrhau mynediad i ysgo1 ganolraddol y Friars. Nifer yr yingeiswyr vdoi-dd 53. Y GWIRFODDOL\\YR. -.By Id aelodau y 1st IJarnarvonsmre \rt nery \oii:ueeis iynea i wersyllu yn New Brighton ar y _:L'd cyfisol. Byddant o dan lywyddiaeth y Milv. riad Hugh Savage, V.D. DAMWAIN. Yr wythnos ddiweddaf cyfar- fu Mr Thomas Dykes Regent-street, Bangor Uchaf, a damwain. Pan yn cerdded i lawr Castle Hill bu iddo yn anffortunus lithro a thori ei glun. Awd ag ef yn uniongyrchol i ysbytty Mon ac At fon, lie .na.} yn gwella vn foddhacl. YSBYTTY MON AC ARFON. Niter y cleifion yn yr ysbytty yr wyhno" ddiweddaf yd- oedd 20. Ymwelwyr yr wythnos hon, Mrs Wheldon a'r Anrh. Alice Douglas Pennant. Derbyniwyd anrhegion o flodeu o Gastell y Pen- rhyn a Mrs Elphnstone; cylchgronau, Mrs Walker. Fourcrosses ETHOLIAD GWARCHEIDWAfD. Can- iatawyd i Fangor dri gAvarcheidwad ychwaneg- ol ar Fv,-i-dd Gwarelieidwaid Bangor a. Beau- maris. Y mae v pumf canlynol wedi en henwi am y tair sedd :—Oatben Richard Tl. jams, Hit- ael ^Eglwyswr), Mr Robert Griffith Lonypopty (Eglwyswr), Mr W. R. Harker (Wesleyad), y Parch Mostyn Jon-s (M.C.), a Mrs Lewis,Gartri- erwan (Wesleyad). YMDDIS W V DDI AD DR. RHYS ROBERTS, BAXGOR.—Mae Dr. W. Rhys Roberts, Ban- gor, wedi derbyn y gwahoddiad a gaiodd i fyned yn Broffeswr yn y Clasmon vn y Biif- ysgol yn Leeds. Derbynicdd Dr. Roberts ei addysg yn Ysgol Dinas Llundain ac yn Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Yn 1884 penod- wyd ef yn Broffeswr yn y Clasuron yn Ngholeg newydd Bangor. Yn 1885 derbymodd y swydd o Broffeswr mewn Groeg. Mae Dr. Roberts I fel ysgolor Groegaidd wedi enill sylw rhai o'r dysgedigion penaf.
BETHEEDA A'R CYPPINIAU.
BETHEEDA A'R CYPPINIAU. CYMANFA GANU YN YR EGLWYS GAD- EIRIOL. Aeth n;fer luosog oddiyma i Fan- gor ddydd Llun diweddaf. Cafwyd canu da a phregeth alluog gan v Parch R. T. Jones, Glan ogwen. Ni chlywyd gwell canu erioed yn Man- gor. PRIODAS. Y mae priodas cydrhwng y Parch R. Ll. Headley, M.A., diweddar gurad Glanogwen, a Miss Maggie Jones, merch hynaf Mrs R. T. Jones, Sheffield House, Carneddi, i gymeryd lie yn Eglwys Glanogwen, y 6ed o'r mis nesaf (Gorphenaf). Bydd yn ddiwrnod o gryn ddyddordeb gan eu liuaws cyfeillion. ADFYWIAD. Yr oeddys yn meddwl beth amser yn ol na; buasai bywiogrwydd yr hen am- ser gynt byth i'w ganfod yn Methesda, ond er- byn hyn nid oes odid un noswaith o'r wythnos nad oes cyngherdd neu filodfa neu gwmni dra- matic yn y farchnad bron, bob nos, ac mae yr anfrawdgarweh a welwyd mor benuchel yn prysur gael ei ddodi, fel y mae goreu'r modd, yn mhlith y pethau a fu. CYNGHERDD. Cynhaliwyd cyngherdd er budd Byddin yr lachawdwriaeth yn nghapel y Tabernacl (B., nos Fercher. Yn absenoldeb yr arweinydd, Mr D. G. Davies, llywyddwyd ac ar- weiniwyd gan Mr W. J. Parry, Coetmor Hall, yr hwn a sylwodd ar y cynulliad teneu oedd wedi ymgynull er cynorthwyo yn y symudiad. Yr oedd ef yn disgwyl v buasai mwy o lawer yn rhoi en presenoldeb am un rheswm arbenig- ol, sef effeithiau daionus oedd y gyfundrefn hon wedi ei gael nid yn unig yn Methesda ond drwy v wlad yn gyffredinol; ac ni buasai rhoi help ilaw trwy ddyfod i'r cyngherdd ond cydnabydd- iaeth o ddyrchafiad a llesiant yn mhlith y trigol- ion. Aed trwy y rhaglen ganlynol :-Pedwar- awd, "Y Rhosvnau," Mrs Lloyd, Miss Clara, Wynne, Mri W. Roberts a Maldwyn Evans; Scena and Aria, "Praise the Lord," Miss Blod- wen Roberts; deuawd, "Children pray this love to perish," Misse.s Clarissa Davies a Clara Wynne; can, "Hoff wlad fy ngenedigaeth," Mr W. Roberts; nnawd ar y crwth, "11 Trovatore," Mr Fred Jones; can, "Revenge," Mr Maldwyn Evans; adroddiad, "Ein cyfle" (Elfed), Miss H. A. Crowther; ballad, "Where is heaven," Mrs E. D. Lloyd; denawd, "Tell me gentle stranger," Miss Blodwen Roberts a Mr Mald- wyn Evans: can, "Gwnewch i mi feadrod," Miss Clara Wynne; triawd, "The Reaper," Misses Blodwen Roberts, Clarissa Davies, a Clara Wynne. (Nid wyf yn meddwl i mi glywed gwell dadganiad o driawd erioed yn yr ardal: yr oedd yn rhagorol.) Can, "Morwynig y Ffyn- on," Mrs E. D. Lloyd (can newydd ydoedd hon o waith priod y gan to res, sef Mr E. D. Lloyd); deuawd, "The Broom Girls," Misses Clarissa Davies a Clara Wynne; can, "O! rwy'n cotio," Mr William Roberts unawd ar y crwth, Sweet Richard," alaw Gymieig, Mr Fred Jones; can, "The City of Rest," Miss Clara Wynne (y mae y gantores hon yn meddu llais rhagorol, ac nid yw yn ail i neb yn ei ddatganiadau); adroddiad. "Prayer and Potatoes," Miss H. A. Crowther; can, "Cenad y don," Miss Blodwen Roberts; deuawd, "The sailor sighs," Mrs Lloyd a Miss Clara Wynne; can, "Brenhines y don," Mr Maldwyn Evans; "Hen wlad fy nhadau." Trefnwyd y cyngherdd gan Mr E. D. Lloyd, a gallwn ei longyfarch am roi cerddoriaeth ddyrchafedig gerbron v cyhoedd. Efe hefyd oedd yn cyfeilio i'r oil o'r cantorion. GORPHWYSFA (W.). Cynhaliwyd yr wyl flynyddol eleni ddydd Sadwrn diweddaf, ac yr ydoedd hon cs rhywbeth yn fwy poblogaidd na'r un welwyd o'r blnen. Yr oedd dau agweddiad arni, sef "tea party" a chyngherdd. Yr oedd y pwyllgor wedi gweithio o ddifrif tuagat wneyd pobpeth yn addurn i'r ymwelwyr, a chyrhaedd- asant hyny yn mhob ystyr. Yr oedd yn bob- peth ellid ddymuno. Wedi y gwledda a'r mwyn- nau mewn chwareuon aethpwyd i'r addoldy am y wledd gerddorol, ac yr ydoedd y rhaglen fel a ganlyn :—Ton gynulliidfaol. Anerchiad gan y fiywy.dd, sof Mr Robert Jones. Gordon terrace. Teimlai ef yn anrhydedd i gael dvfod i blith cyfeillion Gorphwysfa, pa rai ydoedd wedi eu nodweddu am eu gweithgarwen digyffelyb, yr hyn oedd gwreiddyn llwyddiant yr achos yn y lie. Yr oedd dyfodol Cymru yn dibynu yn holl- ol ar iawn wrteithiad meddylian yr ieuenctyd, ac anogai ef i bob gwyliadwriaeth gael ei roddi parthed hyry. Yr oedd hefyd yn dymuno datgan fod caredigrwydd yn gysylltiol a hanes y cyfeillion yn y gorphenol, a hyderai ef y par- haent felly yn y. dyfodol. Cafodd ei sylwadau gymeradwvaeth wresog, ac aeth yr arweinydd (y Parch W. Caenog Jones) yn mlaen izyda'i waith. "Y delyn aur," St. Ann's Glee Party; "O! pa'm na ba'i Llewelyn," Miss Myfanwv Jones; "Y wlad a garaf fi," Mr W. John Wii- liams; "Ceisiwch yr Arglwvdd," Mrs Sophia Roberts; "Death of Nelson," Mr William Grif- fith (Tenorydd Peris); "Revenge." Mr William Griffith, Braichmelyn (encoriwyd a chapodd "On the rolling wave"); "Hen ffon fy nain," Mr David Rowlands, Tanyrhirdir; "Belea- gured" (Sullivan), St. Ann's Glee Party; "Ad- lais y dyddian gynt," Mrs Sophia Roberts; "Gwraig v morwr," Mr Robert Cefni JoNes (encoriwyd, a chanodd "Welwch chwi fi"); uBaner ein gv.-lad," Mr John W. Jones; "Mil- wyr y Groes," St. Ann's Glee Party; deuawd, Mri J. W. Jones a Cefni Jones (cymeradwy- aeth uchel); "Daddy," Mrs Sophia Roberts; 410 mor ber yn y man," St. Ann's Glee Party. Yr oedd yr arweinydd, sef Mr D. Bangor Jones, a'r cor, vn cael hwvl rhagorol. Diolcha'r cyf- eillion i Mr a MH Roberts am eu rhoddion i'r plant.
BEYNCIK.
BEYNCIK. Y mae Mr John Jones, Y Factory, wedi ei anrKydeddu yn fawr. Prynodd amryw o'r Teulu Brenhinol a'u perthynasau a'u ffryndiau frethynau a wnawd gan Mr Jones. Aed Cym- deithas y Diwydianau Cymreig ar gynydd, fel ag i wneyd pethau fel hyn yn hysbys. Dis- gwvliwn weled y ffactori o hyn allan yn cael ei hvsbysu fel hyn:—"Patronised by His Royal Highness the King and family." 1
CAEBNABFON.
CAEBNABFON. Ymddengys v cyhoeddir y cylchgrawn cen- fsllaethol. "Y Traethodydd," yn Swyddfa'r "Herald," y dref hon, o hyn allan. Parhan yn bur Ilesg y mae Mr William Wil- liams. 18, Pool-street, ond da genym ddeall nad yw ei iechvd wedi gwaethvgu ragor yr oedd. PASIO.—Y mae Mr W. R. Thomas, o'r North and South Wales Bank, wedi pasio ar- holiad yn nclyn a'r Institute of Bankers. AR YMIVELIAD.-Y mae Mr a Mrs Edward Bryau. Cairo, ar ytrrvetiad a'r dref hon ar hyn o bryd, er adgyfnerthiad iechyd i Mr Bryan. Gobeitliiwn y caiff lwvr wellhad vn fuan. PYTATWS NEWYDD CARTREF. Dy- wedir mai Cadben Davies, Pant Farm, ger y dref hon, ydoedd y cyntaf i werthu pytatws newydd cartref yn marchnad y dref hon ddydd Sadwrn cyn y diweddaf. WEDI GWELLA. — Y mae yr Henadur J. P. Gregory, ag sydd wedi bod yn wael ei iechyd yn ddiweddar, wedi gwella i raddau digonol i ail- ymaflyd yn ei ddvledswyddau gweithiol a thref- ol, ond* nid yw wedi llwyr gryfhau eto. "DROS EI HAMSER." Y mae y "Glen- esslin" (Hong a.dnabyddus i breswylwyr y dref hon, gan fod ci mheistr, Cadben Barlow Pritch- ard, yn frodor o'r dref, ac amryw o'i chriw yr un modd), 115 o ddyddiau ar ol ei hamser ar ei mordaith o Astoria i Natal. Gobeithir y gorou am ei diogelwch. Dydd Sabboth cymerodd y blaenoriaid new- yddion-tri yn Beulah a phedwar yn lUonan- eu lleoedd yn y sedd fawr ar ol iddynt gael eu derbyn yn aelodau o'r cyfarfod misol diweddaf < gynhaliwyd yn Glasgoed. CYMDEITHAS ADEILADU Y STARR- BOWKETT.—Nos Fawrth, yn ystafell y gym- deithas uchod yn Market-street, tynwyd lotyn, a'r rhif ffodus ydodd 202, gan yr hwn yr oedd pedair cyfran (400p) a chaiff fenthyg yr arian yn ddilog am 12 mlynedd. PERSONOL.—Y mae Mr George Brymer (Brymei- and Davies) yn wael ei iechyd, ac wedi ei gaethiwo i'w dy. Y mae Mr E. R. Owen (oriadurwr), Poole-street, wedi gadael y Cottage Hospital (lie y bu o dan driniaeth law- feddygol) yr wythnos ddiweddaf. DYRCHAFIAD. Y mae y Parch Gv ilym Lewis, B.A. (curad Eglwys St. Mair), wedi cael ei benodi yn ficer Llangurig, sir Drefaldwyn. Bydd colled fawr ar ol Mr Lewis o'r dref hon, gan ei fod yn wr gweithgar, yn lienor Cym- reig penigamp, yn bregethwr nerthol, ac yn gymeradwy gan bawb yn ddiwahaniacth. CYCHOD HWYLIAU. Cymerodd ym- rysonfa gychod hwyliau le prydnawn ddydd lau cydrhwng "cychod Southport" (dosbarth "Car- iad"). Fel hyn y terfynodd yr ymrysonfa:— 1, Mair (Cynghorydd J. Pritchard); 2, Menna (Mr R. W. Newtown); 3, Modryb (Mr M. E. Nee); 4, Gwen (Mr J. H. Jones); 5, Buddug (Mr J. R. Williams); 6, Dilys (Cynghorydd J. B. Fletcher). AWRLAIS.-Y mae gan y Mri Connah and Co.. Castle Square, awrlais hardd yn cael ei arddangos yn un o ystafelloedd eu masnachdy eang yn y Maes, sef awrlais (i roddi mewn twr yn nglyn ag elusendai Mr Pritchard Jones, yn Niwbwrch, sir Fon). Bydd yr awr- lais yn canu bob chwarter awr. Cyflenwyd ef gan Mr David Parry, 14 Castle Square. DYRCHAFIAD. Bydd yn llawenydd gan luaws o'n darllenwyr gael ar ddeall fod Mr Leonard Thomas, ail fab Mr Howel Thomas, ac wyr i'r diweddar Mr John Thomas, clerc y gwarcheidwaid, wedi ei alw i'r "Bar" yn y "Middle Temple" yr wythnos ddiweddaf. DR. OWEN DAVIES.—Y mae y Parch Owen Davies, D.D., gweinidog Caersalem (B.), yn y dref hon, yn cael dylanwad mawr yn yr America yn nghwrs ei deithiau. Y mae aelodau ei eglwys wedi ychwanegu tair wythnos yn rhagor at ei wyliau. Disgwylir y gwr parched- ig i bregethu yn ei gapel ei hun yn y dref hon y Sabboth diweddaf yn mis Gorphenaf. Y TEMLWYR DA.—Cynhaliwyd cyfarfod arferol Teml Eryri o'r urdd uchod nos Lun, yn y Cyssegr, Turf Square, o dan lywyddiaeth Mr Richard Jones, Eryri-terrace. Derbyniwyd un aelod. Darllenwyd papyrau, un gan Miss Owen, Gelert-street, ar "Cyfleusterau Teithiol yr oes o'r blaen o'u cymharu a rhai yr oes hon," a chan Mr J. Wynn Parry ar "Rhai o Ddiffygion y Cymeriad Cymreig." Caed sylwadau pellach gan Miss Evans,Victoria-road, a Mr William Jones, Pretoria-terrace. Treul- iwyd noswaith adeiladol. NEWYDDION TRIST 0 DDEHEUDIR AFFRICA.—Y mae y newydd trist wedi cyr- aedd y dref hon am farwolaeth Mr Thomas Dutton, brodor o'r dref hon, yn Neheudir Affrica. Cafodd ei ladd wrth ddilyn ei alwed- igaeth ar y rheilffordd, ger Durban. Bu yr ymadawedig, rai blynyddau yn ol, yn gwas- anaethu gyda Mr Wm. Hamer yn Eastgate- street, ac yna ymunodd a'r Llynges. Gedy weddw a dau blentyn yn Ne Affrica, a brawd a chwaer yn y dref hon i alaru eu colled ar ei ol. Cydymdeimlir yn ddwys a hwy yn eu galar. LLADRATA ORIAWR.—Mewn ynadlys bwr- deisiol arbenig, a gynhaliwyd ddydd lau, ger- bron Mr J. R. Pritchard, cyhuddwyd morwr o'r enw S. Dew, brodor o Langefni, Sir Fon, o lad- rata oriawr mewn ffram arian, perthynol i Miss Jones, y ben-famaeth yn yr ysbytty bwrdeisiol. Darfu i'r cyhuddedig geisio rhoddi yr oriawr yn gyfnewid am letty noswaith mewn ty neillduol yn y dref, ond aeth gwr y ty yn amheus o hono, a hysbysodd yr heddgeidwaid o'r ffaith, gyda'r canlyniad i'r cyhuddedig gael ei gymeryd i'r ddalfa nos Fercher. Gohiriwyd ei achos hyd yr ynadlys bwrdeisiol arferol, ddydd Llun, y carcharor i fod mewn dalfa yn y cyfamser. DADORCHUDDIO COFGOLOFN. Gwneir parotoadau- manwl gogyfer a dadorchuddio y golofn sydd wedi ei chyfodi ar ben bryncyn yn Tw-thill Bach. Cymer y seremoni ddadorchudd- iadol le ddydd Sadwrn nesaf (Gorphenaf 2il). Dadorchuddir y gofgolofn gan Mr J. E. Greaves( (Arglwydd Raglaw y Sir). Yna ymffurfir yn orymdaith, ac eir i'r Neuadd Sirol (County Hall), yn yr hwn le y dadorchuddir tabl pres gan Mrs Assheton Smith. Fel ag y mae yn hysbys i'n darllenwyr, y mae y gofgolofn a'r tabl wedi eu rhoddi i fyny er coffadwriaeth am wyr o Sir Gaernarfon a fuont feirw yn y rhyfel ddiweddar yn Ne Affrica. REES v. LAKE AND CO., LTD.—Yr oedd yr achos uchod ai: y rhaglen i ddyfod yn mlaen yn y Frawdlys gynhaliwyd yn ddiweddar, yn y dref hon, ond setlwyd yr achos cyn iddo gael ei drafod yn gyhoeddus. Hawliai Mr John Rees iawn oddiar y diffynyddion Lake and Co., Ltd., am iddo gael ei atal fel goruchwyliwr llywodraethol (managing director) i'r ewmni uchod, heb rybudd o hyny. Talodd y diffyn- yddion y swm o 37p 10s, sef cyflog tri mis, i'r llys, ond heb gydnabod yr hawl iddynt. Der- byniodd yr erlynydd y swm uchod fel setliad ar yr achos, ac yr oedd y diffynyddion yn ymrwymo y costau yn nglyn a'r achos o'i ddechreuad hyd yn awr. Y FEDAL AUR. Fel y gwelir mewn lie arall llwyddodd Mr Robert Jeffrey, o SHoh) i gael y fedal aur am Arholiad Cyfundebol y Methodistiaid Calfinaidd y flwyddyn hon. Y ltynedd cafodd Mr Jeffreys y fedal bronze yn yr un arholiad. Cafodd 180 o farciau (allan o 200) y waith hon, sef 90 ar bob papyr—sef un papyr ar y rhan ddiweddaf o'r Epistol at y Rhufein- iaid a'r papyr arall ar y Sacramentau. Da genym weled amryw eraill o gyfeillion yr ardal- oedd hyn yn sefyll yn uchel iawn yn yr arholiad hwn. Haf ati am fe-lal y tro nesaf. Y mae un ymgeisydd arall o Siloh Mr John Roberts, Rhosbodrual-yn sefyll yn dda iawn yn yr ar- holiad hwn, sef yn gydradd 33, gyda 120 o farciau. Yr oedd 90 yn ymgeisio, 39 o ba rai oedd o Ogledd Cymru. Y CYNGHRAIR PAN-CELTAIDD. Fel ag v mae yr amser yn agoshau i gynal y Cynghrair uchod yn y dref hon, wythnos o flaen Eisteddfod Genedlaebhol y Rhyl, y mae y dyddordeb yn myned fwyfwy yn barhaus. Cynhaiiwyd cyfar- fod o'r Pwyllgor Cyffredinol nos Wener, o dan lywyddiaeth y Maer (Cynghorydd W. G. Tho- mas). Bu amryw o faterion pwysig dan sylw. Penderfynwyd gadael i bwyllgor y Cynghrair yn Nublin enwi deuddeg o wahoddigion o wahanol genedloedd i ddyfod yma i'r Cynghrair, dynion megis Arglwydd Faerod Dublin (['w-t-i,dd on), Douglas (Ynys M«tnaw), Rennes (Ffrainc), etc. Y mae y Maer ac un o'r ysgrifenyddion (Mr R. Gwyneddon Davies) yn myned i Dublin i weled a chael tra'odaeth gyda'r p-.vil'gor ync ar amryw o faterion pwysig yn nglyn a'r Cyng- hrair Mgoshaol. Y ma<» amry.v o gantorion ad- nabyddus eisoes wedi eu sicrhau i gymeryd rhan yn y ddau gyngherdd mawreddog a gynhelir yr y Pafilion nosweithiau y Cynghrair, :/iegis Mri Fmlyn Davies, N. McLeod, ac eraill. Hefyd W. 0 Jones, Ffestiniog; Roberts, Dinas Mawddwy; ac Ap Eos Mon, Caernarfon, i ganu penillion gyda'r delyn. Daw Mrs Herbert, o Lanover, yma a'i thelynorion gyda hi a'r pib- yddion (pipers) o'r Ysgotland a'r Iwerddon, fel rhwng pobpeth y mae rhagolygon am Gynghrair rhagorol y tro nesat yn y dref hon
CBICCIETH.
CBICCIETH. MYNWENT TREFLYS. Ar hyn o bryd mae y darn tir a roddwyd rai blynvddoedd yn ol fel ychwanegiad at Fynwent Treflys yn awr yn cael ei gau i fewn. Mae yn ddarn helaeth, a gresyn o beth, pan ystyrir mynwent mor sych ydyw, ei bod wed ei chvfyngu i ddosbarth mor fychan. Mae poblogaeth phvyf eglwys Treflys o dan gant. GWIBDAITH. Dydd LInn aeth aelodau Ysgol Sul yr Eglwys i Landudno i fwynhau eu I hunain. Aeth y Canon Lloyd Jones yno gyda'i braidd. Yr iin dydd daeth yma wibdaith o Edeym. Cafwyd diwrnod Ued ffafriol.
DYFFRYN NANTLLE AB AMQILCE-OEDD.
DYFFRYN NANTLLE AB AMQILCE- OEDD. Cynhaliodd M.C. capelau Hy fry die, Capel Mawr, Nantlle, a. Thanyrallt eu cyfarfodydd blynyddol arfeiol yn ein cylch nos Sadwrn a thrwy dydd Sul, y 18fed a'r 19eg cyfisol. Yr oedd cynulliadau yn y naill le a'r llall yn lluosog iawn, a'r pregethwyr yn eu hwyliau goreu, a phawb yn dweyd mai da iawn ydoedd. Dywenydd genym ddeall fod y mudiad ar droed i anrhydeddu y Parch R. Hughes, curad Eglwys Crist, Penygroes, cyn ei ymadawiad i Sir Fon. Y mae boneddigesau dylanwadol o blith Ymneillduwyr ac Eglwyswyr wedi ym- gymeryd a chasglu at y dysteb, a bydd yn bleser gan bawb daflu eu hatling i'r drysorfa i an- rhydeddu y Cristion cywir a llafurus, ac y mae pawb a gair da iddo; ac y mae yn ofidus gan bawb ei fod yn ymadael o'n plith. Y mae y casglyddion yn vsicr o wyneb llawen yn mhob man gyda eu gwaith anrhydeddus. Y mae Mr T. Robinson, Tho Hall, Talysarn, wedi gwneyd "fountain" o'r harddaf yn ffrynt ei dy. Y mae golygfa tuhwnt i ddesgrifiad ar y lie, yn neillduol gyda'r nos, pan mae'r lie wedi ei oleuo a goleuni trydanol.
EDEYBR '
EDEYBR MARWOLAETH.—Mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth Mr Jenkins, ysgolfeistr, un a fawr berchid gan yr ardal. Nid wyf yn meddwl y cyfeiliornwn pe y dy- wedwn ei fod yn "model schoolmaster." Dyn tawel, amyneddgar, a duwiol ydoedd Mr Jenkins. Yr ydym yn teimlo yn chwith na chawn byth mwy ei weled! na'i glywed yn y fuchedd non; ond, os ydyw ef wedi ymadael, mae ei gynghorion pur yn aros yn fyw yn nghof llawer un a in yn eistedd wrth ei draed. Bu mae ei gynghorion pur yn aros yn fyw yn nghof llawer un a in yn eistedd wrth ei draed. Bu farw nos Fercher, y lofed, mewn heddwcli perffaith. "Yr wyf wedi dioddef. Heddwch— perffaith heddwch, Iesu." Dyna'r geiriau di- weddaf ddisgynodd dros ei wefusau. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf dydd Sadwrn, y 18fed. Pregethwyd pregeth angladdol gan Mr Morgan, y ficer. Chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Williams, Brynafon. Nawdd y Nef fyddo tros y weddw a'r plant. Heddwch i'w lwch. Oherwydd y fath nifer o lythyrau mae Mrs Jenkins wedi eu derbyn yn dadgan cydymdeimlad a hi yn ei phrofedigaeth, mae yn ofid calon iddi orfod gofyn i'ii cyfeillion oil gymeryd y llinellau hyn yn ddatganiad calon ddiolchgar am y fath arwydd o barch sydd wedi ac yn cael ei ddangos i'w diweddar briod.-Gohobydd.
LERPWL.
LERPWL. MR CARNEGIE AC EGLWYS DEINIOL SANT.—Y mae y boneddwr hwn wedi arwyddo ei barodrwydd i ddwyn har.er y draul o adeiladu organ i Eglwys St. Deiniol, Upper Parliament- street, ar yr amod fod y gynulleidfa yn casglu yr haner arall. Amcangyfrifir y gost yn 300p, o'r hyn y mae 35p mewn llaw. Hyderwn y bydd parodrwydd yn cael ei ddangos gan Gymry Eglwysgarol i gynorthwyo yr addol- wyr yn Deiniol Sant i ddyfod i fyny gyda phrysurdeb a gofynion yr amod ffafriol a hael- frydig a gynygir gan Mr Carnegie. Y GYNGRES EGLWYSIG.—Mewn cysylltiad a'r Gyngres Eglwysig, yr hon a gynhelir yn y ddinas hon yn nechreu mis Hydref, bwriedir cael gwasanaeth a phregeth Gymraeg yn Eglwys Pedr Sant (pro cathedral). Unir corau a chynulleidfaoedd Dewi Sant, Asaph Sant, a Deiniol Sant, er mwyn rhoddi effeithiolrwydd i'r amgylchiad. Ffurfir yn fuan bellach bwyll- gor dylanwadol, yn cael ei wneuthur i fyny o glerigwyr, wai-deiniaid, ac eraill perthynol i'r tair Eglwys, i arolygu a chario allan y cynllun sydd mewn golwg. Pregethir ar yr achlysur gan Afglwydd Esgob Ty Ddewi.—Gohebydd. YMWELIAD Y BRENHIN.—Y mae paroto- adau mawrion yn cael eu gwneuthur y dyddiau hyn gogyfer a chroesawu dyfodiad Iorwerth y Seithfed i'n plith ar aclilysur gosodiad i lawr sylfaen yr Eglwys Gadeiriol. Arolygir y gweithrediadau gan bwyllgor cryf a chynrych- ioliadol o aelodau y Cynghotf Dinesig, ac yn eu plith amrai o Gymry anrhydeddus a dylan- wadol. Ar fryn Iago Sant cyfodir esgynlawr aruthrol ei faint, yn fath o oriel fwaog yn ffurfio haner cylch, ac felly yn fanteisiol i bawb a fyddo yno i gael cyflawn olwg ar ei uchelder Brenhinol yn gosod y sylfaen, a gwylio yr holl weithrediadau a'r gwasanaeth- au cysylltiedig. Bydd ar yr oriel eisteddle- oedd i tua saith mil o bobl, yn ychwanegol at yr hyn fyddo yn angenrheidiol i gynwys y cor a'r clerigwyr. Bydd y cyntaf yn fil o aelodau, a nifer y clerigwyr, y rhai a fyddant oil mewn urddwisgoodd, yn agos i bum' cant. Bwriedir treulio rhai miloedd o bunau i addurno prif heolydd y ddinas, ac hefyd y llongau ar yr afon ac yn y gwahanol longbyrth. Yn nghorph y diwrnod difyrir y plant ac eraill ag amryw chwareuon, a dygir y dydd a'i weith- rediadau, yr hwn a gedwir yn wyl gyffredinol, i derfyniad trwy wneuthur coelcerthi a gwasgar tan gwyllt yn y gwahanol barciau.
[ LLANNOR.
LLANNOR. Dydd Sadwrn aeth aelodau Ysgol Sul Eghvys Llannor Lanbedrog i fwynhau eu hun- ain am y dydd, a chawsant dywydd dymunol ac amser da. Cludwyd hwy yno mewn cerbydau perthynol i Mr T. J. Williams, Crown Yard. MARWOLAETH. Drwg gan lawer fydd clywed fod y clochydd, yr hen gyfaill Mr John Jones, wedi ei roddi yn mhriddellau'r dyffryn. Yr oedd oddeutu 64 mlwydd oed. Daliodd ef a'i berthynasau y swydd o glochydd am gyfnod yn ymestyn yn mhell dros gan' mlynedd. Gwas- anaethwyd yn yr angladd gan y Parch T. E. Sheppard-Jones, ficer, ac yr oedd cor yr Eglwys yn bresenol.
LLANLLYFNI.
LLANLLYFNI. Derbyniodd cynifer a 60 o bersonau o'r plwyf hwn dystysgrifau yn arholiad llafaredig Esgobaeth Bangor. Yr arholvvr oedd y Parch A. O. Evans, arholydd esgobaeth Bangor. Gwnaeth yr ieuenctyd yn dda yn y Catecism a'r Litani. GWLEDD. Dydd Sadwrn rhoddodd Mrs Robinson, Talysarn Hall, de a danteithion i hlant Band of Hope Eglwys St. loan, Talysarn. Yr oedd yn bresenol,heblaw Mrs Robinson, Miss Robinson, Miss Dyson, Mrs Robinson, Misses Robinson, a Master John Robinson, a'r Parch T. LIechid Jones. Pasiwyd diolchg&rwch i'r teulu caredig.
LLITBFAEN.
LLITBFAEN. LLAWENYDD PRIODASOL. Yr oedd dydd Mercher diweddaf yn ddiwrnod neillduol yn hanes y gymydogaeth uchod, gan mai hwn ydoedd dydd priodas Miss Nancy Goddard gyda Mr W. A. Evans, Leicester. Trydedd ferch i Mr a Mrs Goddard, Leicester, ydyw Mrs Evans. Y" mae Mr Goddard a'r teulu yn trigianu yn Llithfaen am ran fawr o'r1 flwyddyn, ac yn dal cysylltiadau agos a'r lie, ac mae efe wedi profi ei hun yn foneddwr caredig a haelionus iawn. Ar yr achlysur o briodas eu merch rhoddwyd gwledd ragorol o de a bara brith i bawb yn Llithfaen gan Mr a Mrs Goddard, a daeth can- oedd o bobl yn nghyd i gyfranogi o'r danteith- ion, a chafodd pawb eu gwala a'u gweddill. Cy- merwyd dyddordeb neillduol gan y preswylwyr i ddathlu dydd y briodas. Gwelid banerau hardd ac amryliw yn chwifio trwy yr holl fro. Am wyth o'r gloch, wedi i'r te fyned drosodd, caf- wyd cyfarfod difyr a llawen yn yr ysgoldy. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch unfrydol i Mr a Mrs Goddard am y wledd ragorol a fwyn- hawyd. Am naw o'r gloch rhoddwyd allan dan- belenau (rockets), ac yr oedd yr olwg arnynt yn entrychion yr Eifl yn ardderchog. Dangoswyd y parch mwyaf tuagat y par ieuanc.
NEFTN.
NEFTN. GENHADOL. Deallir fod bachgon bychan Mrs Evans, Bryn Cynan, wedi gwneyd enw iddo ei hun fel casglwr arian at, y Gymdeithas Gen- hadol Eglwysig. Clywsom ei fod ef a;i fam yn Mbwllheli y dydd o'r blaen ac fod llun y bychan wedi ei dynu i'w osod mewn cylchgrawn Eg- lwysig fel esiampl deilwng o efelychiad. Y GWAITH DWFR. "Wala gwarchod ni!" (chwedl Modryb Sian) yr olwg sydd ar ein 'strydoedd' Mae yn "ofnatsan" o beth yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r dyddiau braf, iach hyn yn gorfodi un i fyned i'r awyr agored, ond os ydych yn ddoeth peidiwch myned gydag ol- wyn-farch na cherbyd-farch, onide cewch "siwrnai seithig." Mae'r ystrydoedd fel yn gloedig rhag yr uchod, a rhaid iddynt i gyr- haedd y dref gymeryd y ffordd arall sydd yn ychwanegu'r pellder o ddwy i dair milldir. A fydd i'r awdurdodau priodol gymeryd cynghor caredig oddiwrth hen wr o'r wlad i wastadhau y ffordd cyn belled ag sydd bosibl rhag ofn i'r ymwelwyr wel'd y cwbl a ffai adref mewn ofn a dirmyg. CYNGFfERDD. Yn y Madryn Hall, nos Lun, rhoddwyd' cyngherdd difyrus a chwaethus o dan nawdd Cymdeithas Gerddorfaol Pwllbeli. Mr G. Hughes-Roberts oedd i lywyddu, ond lluddiwyd ef i fod yn bresenol, a llanwyd ei le gan LIew Glas. Cynwysai y rhaglen ddethol- iadau gan y gerddorfa, caneuon gan Mr J. E. Pritchard, Pwllheli; Miss K. A Jones, Pwll- heli; Mr Bob Williams, eto; a Mr W. M. Tole- man; unawdau ar y cornet ga.i Mr J. Cooke, eto ar y mandoline, Master J. Morris; ar y crwth, gan Mr G. Houldsworth; ac ar y clar- ionet, gan Mr R. C. Morris. Yn ystod y cyng- herdd rhoddodd Mr O. Williams, yr ysgolfeistr, anerchiad doeth a thanllyd. Dymunai weled cerddorfa yn perthyn i' bob addoliad, a llawen- ychai weled Pwllheli wedi cychwyn yn y cyfeir- iad hwnw. Yn hyn yr oedd y Saeson yn mhell tudraw i ni, ond yr oedd ein canu cynulleidfaol ni yn tra rhagori ar eu caniadaeth hwy. Cafwyd adroddiad hefyd gan Mr J. R. Toleman. Cyf- eiliwyd gan Miss Winnie Jones, Pwllheli. Da genym ddeall i'r cyngherdd fod yn gymaint o lwyddiant.
PENTBEPELIN (Porthmadog).
PENTBEPELIN (Porthmadog). GWAHODDIAD. Ar ol cymeryd digonedd o amser i benderfynu mae eglwysi Tabor (Pen- trefelin) a Phenmorfa wedi pasio i anfon gwa- hoddiad i Mr Foulkes, o Goleg Annibynwyr, Bangor, i ddyfod yn weinidog ar yr eglwysi. ARDDANGOSFA. Deallwn fod pwyllgor yr arddangosfa flynyddol wedi cyfarfod ac wedi penderfynu cynal arddangosfa eto eleni. Cofir i'r anturiaeth droi allan yn fethiant arianol y flwyddyn ddiweddaf oherwydd i'r dywydd droi yn hynod o anffafriol trwy y dydd. Er hyny nid yw brwdfrydedd yr hyrwyddwyr wedi pylu, ond os rhywbeth mae'n gryfach nag erioed. Deallwn fod amryw o wobrwyon o'r newydd i gael eu cynyg. Ysgrifenvdd yr arddangosfa y flwyddyn hon yw Mr Evan Evans, Manafon.
POBTHMADOCt-
POBTHMADOCt- Y GWIRFODDOLWYR. Dydd Sul aeth y Gwirfoddolwyr i'r gwasanaeth prydnawnol yn Eglwys S. loan. Yr oedd cryn nifer o'r dynion yn bresenol, ac yr oedd yr Eglwys yn llawn. Pregethwyd gan y Parch J. E. Williams, MA, ficer. Darllenwyd y llithiau gan Cadben J. R. Pritchard. CRICET. Daeth clwb Dolgellau yma ddydd Mercher, ond gorfu iddynt fyned yn ol yn orchfygedig. Y canlyniad oedd :—Porthmadog, 95 runs; Dolgellau, 49. Fel y dydd Sadwrn blaenoroI chwareuodd Mr Arthur Hughes yn neillduol o ida. Bowliodd wyth allan gydag ond 18 o runs, a chyflawnodd yr hyn a adna- byddir fel yr "hat trick." YN GWELLA. Da iawn genym glywed fod y Parch R. W. Jones (M.C.), gweinidog Golan a Chwmstradllyn, yn gwella yn raddol o'i afiech- yd. Mae wedi bod oddicartref ar lan y mor yn Sir Feirionydd gyda'r amcan o gryfhau, a deallwn ei fod yn edrych yn llawer gwell o ran pryd a gwedd. Nid yw eto yn ddigon cryf i ymaflyd yn ei ddyledswyddau. LLWYDDIANT. Da gan ei luaws cyfeill- ion fydd deall fod Mr J. Holt Newell, o'r dref hon, yr hwn, yn bresenol sydd yn fyfyrivvr yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, wedi pasio ei arholiad cyntaf yn yr 2il ddosbarth. Bydd Mr Newell yn gaffaeliad i weinidogaeth yr Eglwys. —Mae Mr Samuel Williams, mab i Mr W. Wil- liams, Chapol-street, wedi enill tystysgrif y Medico-Psychological Association. Deil Mr Williams ar hyn o bryd y swydd o warder yn Ngwallgofdy Claybury. DYRCHAFIADAU. — Mae Mr Ernest Grif- fith, mab i'r Proffeswr M. W. Griffith. Dolgell- au, a'r hwn sydd wedi bod yn y N. P. Bank am dair blynedd, wedi ei ddyrchafu i gaigen arall o'r banc yn yr Amwythig. Yr oedd yn aelod defnyddiol o'r Gymdeithas Linynol, a phethau eraill. Ei olynydd fydd Mr Elias, o Lerpwl.- Mae Mr W. G. Owen, mab i'r diweddar Mr Ro- bert Owen, Belle Vue, wedi ei ddyrchafu yn arolygwr Banc y Metropolitan yn Llanrwst, lie yr oedd wedi gwasanaethu fel eyfrifydd. YR ANNIBYNWYR. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Annibynwyr Lleyn ac Eifionydd yn Morfa Bychan ddyddiau Llun a Mawrth, o dan lywyddiaeth Mr David Owen, Porthmadog. Ar gynygiad y Parch W. J. Nicholson, yn cael ei eilio gan Mr S. Roberts, Llanystumdwy, pen- derfynwyd nad oedd cynrychiolwyr y Wasg i fod yn bresenoL Ymddengys fod y cyfarfod o'r farn oherwydd rhesymau neillduol mai adroddiadau gyflenwid gan yr ysgrifenydd ddylai vmddangos yn y newyddiaduron. AWGRYM. Y dydd o'r blaen gwelais ddyn, o'r rhanau gwledig cylchynol, mae'n debyg, yn cludo pladup mewn ffordd beryglus trwy yr heol fawr. Pe digwyddasai i rywun ei gyfarfod ar yr ochr hono i'r stryd, gallasai damwain ddifrifol ddigwydd. Galwodd yr lieddwas sylw y dyn at y peth, a dywedodd wrtho fod y gyfraith yn gofyn ar fod i bladur gael ei gario mewn lle- oedd cyhoeddus gyda'r llafn yn pwyntio i fyny. Tybiais fod yr awgrym yn werth i'w wneyd yn gyhoeddus er mwyn: i sylw eraill sydd yr un mor esgeulus gael ei dynu at y peth.
. PWLLHELI.
PWLLHELI. PREGETHU .-Gwe-lsom enw y Parch Myr- ddin Rees, o'r dref hon, yn mhiith y pregeth- wyr yn nghymanfa fawr y Methodistiaid yn Nghaerdydd. Anrhydedd fawr yw cael pre- gethu 0 dan y cyfryw amgylchiadau. MARWOLAETH. Hysbysir am farwolaeth Mr W. R. Jones, mab y diweddar Gadben Jones, y Llythyrdy. Am rai blynyddoedd bu yr ymadawedig yn cadw siop ddillad yn y dref, ond yn ddiweddarach gwasanaethodd yn swyddfa ei frawd-yn-nghyfraith, Mr O. Robyns Owen, orwaer. Yr oedd vn haner cant oed. YR YSGOLFEISTRIAID. Cyfarfyddodd aelodau Gymdeithas Athrawon Debeubarth Sir Gaernarfon yn ysgol y Cynghor ddydd Sadwrn, Mr E. D. Rowlands yn y gadair. Galwyd sylw at farwolaeth aelod ffyddlon o'r gymdeithas er's amser maith yn mherson Mr Jenkins, Edeyrn, a phasiwyd pleidlais unfrydol o gyd- ymdeimlad a theulu yr ymadawedig yn eu trallod. Cyfeiriwyd at yr ymadawedig mewn geiriau cyfaddas gan Mr Burnell, Criccieth, a Mr O. Williams, Nefyn. Cafwyd adroddiad Pwyllgor Cymdeithasfa yr Undeb yn Llandudno gan Mr Burnell. Cafwyd ymdrafodaeth ar y B. and O. Fund, a derbyniwyd amryw gyfran- iadau o lp yr un gan aelodau o'r gymdeithas. CYMANFA GANU. Rhoddodd y Method- istiaid Calfinaidd wasanaeth eu capel (Salem) i'r Bedyddwyr ddydd LInn i gyttnl eu cymanfa ganu flynyddol. Arweinid gan Mr T. Pada.rn Roberts. Llanberis. Y llywvddion oeddynt Mr R. Ivy, Penygroes, a Mr J. 6. Jones,Galltraeth. Cyfeilid gan Miss Winnie Jones. Malltraeth House, a Miss M. E. Jones, Eifl Hotel. Yr
Y "DIFFYG" DIWEDDARAF.I
Y "DIFFYG" DIWEDDARAF. I
RHIW (Lleyn).
RHIW (Lleyn). YR EGLWYS. Mae ll^ddiant yr antur- iaeth fwnawl yn yr ardal hon, a dyfodiad amryw Saeson i'n plith, wedi bod yn foddion i'r Parch D. Sinnett Jones, y rheithor, sefydlu gwasan- aethau Saesneg ar eu cyfer, a da genym ddeall fod nifer dda yn mynychu y gwasanaethau. Mae clod mawr yn ddyledus i'r rheithor am yr hunan-yrnwadiad hwn ar ei ran er lies eraill, yn enwedig pan gofir nad yw yn cael dim cyd- nabyddiaeth am ei lafur. Dymunwn longyfarch Mr Jones ar ei waith yn cymeryd meddiant o'r cyfleusdra cyntaf hwn i estyn oortynau yr Eg- lwys. Da hefyd yw clywed am lwyddiant y gwasanaethau Cymraeg yno.
___-------__ Gorsafau y Gweinidogion…
Gorsafau y Gweinidogion Wesleyaidd. A ganlyn sydd restr o'safau y gweir.idog ion a'r pregethwyr am y flwyddyn 1904-5 a dynwyd allan yn y gymanfa ddiweddaf:— TALAETH GYNTAF GOGLEDD CYMRU. Dinbych—R. L. Jones, a E. Godfrey Turner, Llanelwy. Rhyl-E. Humphreys, J. Kelly, Prestatyn, a R. Curry, uwchrif. Rhutlyn-I..ewis Owen, Philip Williams, uwchrif. Corwen-J. Felix, E. Wynne Owen, Ceryg- ydruidion. Llangollen-E. Davies, J. Pierce, a Hugh Hughes, uwchrifiaid. Cefn-A. Lloyd Hughes a W. R. Williams. Coedpoeth—T. O. Jones, J. Price Roberts, Gwrecsam, Hugh Evans, Brymbo, a C. Jones, Bwlchgwyn. Liverpool (Shaw-street)—R. Lewis, W. O. Evans, Bootle, F. E. Jones, O. Lloyd Davies, uwchrif. T 1 /-KM _1 1 C1. m TT 1 .In jjerpwi k,,v-LynyucL ,ieion)-jL,. mignes ,D.), T. Isfryn Hughes, Birkenhead, D. Marriott. Ashton—W. Jones, uwchrif. Cenhadaeth Gymreig-T. Glyn Roberts, Leigh. Treffynon-J. Wesley Hughes a J. Evans, Caerwys. Llanasa, Treffyiioii-D. Meurig Jones ac R. Taliesin Richards. Bagillt-D. Morris, Owen Hughes, Caer, a W. J. Jones, Fflint. Wyddgrug—D. Angel Richards a M. E. Jones, Coedllai. l..lanfyllin- T. Nicholls Roberts a E. Jones, Llanfechain. Llanrhaiadr-yn-Mochnant—A. W. Davies, J. Cadfan Davies, W. Owens, Llanarmon, a W. Price, Llansilin. Llanfair, Trallwm-J. Smith (C.), a E. A. Morris,. Meifod. Hanley, Stoke-on-Trent-R. Hoopwood. Stockton on Tees-E. Whittington Jones. Manchester—T. J. Humphreys a J. W. Da- vies. AIL DDOSBARTH GOGLEDD CYMRU. Llanrwst-Philip Price, R. Jones Williams, Penmachno, W. G. Williams, Eglwysbach. Abergele-E. Jones, D. Tecwyn Evans, Llai- ddulas. Conwy-O. Madoc Roberts a T. Davies, Col- wyn Bay. Llandudno-D. Jones. Beaumaris-Ishmael Evans, W. R. Roberts, Llangefni, a R. Jones, Porthaethwy. Amlwch- Mostyn Jones. Caergybi-Peter Jones, D. Darley Davies, Aberffraw, a Rhys Jones, Pencarnisiog. Caernarfon—D. Thomas (B.), R. W. Johes Porth Dinorwic: J. Owens, Penygroes; 1J. Jones Davies, Penisa'rwaen; O. Williams (uwchrif). Bangor-R. Morgan (B.), R. Rowlands, T. C, Roberts, Llanfairfechan, a Hugh Jones, Ban- gor. Tregarth—W. Caenog Jones ac Owen Evans, Bethesda. Pwllheli-H. Meirion Davies a J. Lloyd Hughes. Porthmadog-J. Robert Ellis a Hugh Curry. Blaenau Ffestiniog—R. Mon Hughes ac R. Moreton Roberts. Dolgellau a'r Abermaw—R. Garrett Roberts. Moses Roberts, Dolgellau; a J. Maelor Hughes, Harlech. Towyn-P. Jones Roberts, W. Lloyd Davie- Aberdyfi; R. Jones, (avehrif). Dinas Mawddwy—T. Gwilym Roberts. Llundain (Cymreig)—Thomas Jones (C.).
I Dydd Penblwydd y Brenin.
I Dydd Penblwydd y Brenin. CYFLWYNO TEITLAU. Mae y "list of honours" er dathlu penblwydd y Brenin yn cynwys tri aelod newydd ar y Cvf- rin Gynghor, saith Barwnig, a chwech-ar-hug- ain o Farchogion. Y mae Mr Alfred C. Harms- worth, perchenog y "Daily Mail," wedi ei wneud yn Farwnig, yn gystal a Syr E. P. Wills, penaeth y ffirm dybaco fawr. Y Jlilwrujci I Kenyon-Slaney, A.S., mae yntau wedi ei I wneud yn Privy Councillor. Yn mhlith y Marchogion newydd y mae Mr T. Marchant Williams, Deheudir Cymru, ysgrifenydd mygedol Cymdeithas yr Eisteddfod S Genedlaethol; Dr. Edward Elgar, y eyfaniiodd- wr enwog; a'r Proffeswr James Dewar, y gwyddonwr adnabyddus.
NODION OiR DEHEUDIR. -----
NODION OiR DEHEUDIR. Pasiodd mesur Porthladd Llanelli trwy Bwyllgor Ty y Cyffredin dydd Mercher. — Bernir nad oedd dim llai na 3000 yn bresenol yn Eisteddfod Gadeiriol Ferryside ddydd Mawrth. Dr. W. Jones, Ysbytty, Stockton, a benod- wyd yr wythnos ddiweddaf yn feddyg y ty yn Ysbytty Abertawe. Yn nghyfarfod blynyddol Dirprwywyr Porth- ladd Casnewydd, dydd Mercher, etholwyd Mr T. H. Mordey yn gadeirydd. Am fod yn feddw ac afreolus cafodd Stephen Phillips ei anfon gan ynadon Caerleon i garchar am 14 o ddiwrnodau. Ni chaniateid iddo dalu dirwy. Dydd Mercher cynhaliwyd cyfarfod cyntaf llywiawdwyr Ysgol Ystradgynlais, pan yr ethol- wyd y Parch William Griffiths, Bryngroes, yn gadeirydd. Bu farw William Jones, Mardy House, Gwaencaegurwen, haliwr, yn ysbytty Aber- tawe, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyn- iodd yn nglofa Gwaencaegurwen. Gwnaed yn hysbys yn nghyfarfod Cynghor Dosbarth Gwledig Abertawe, ddydd Mawrth, fod y clefyd coch wedi tori allan yn Llansam- let, a bod yr ysgolion wedi cael eu cau. Gwnaed yn hysbys yn nghyfarfod Cynghor Sirol Casnewydd, dydd Mawrth, fod enillion y flwyddyn ar dramffyrdd trydanol y Gorphor- aeth yn cyrhaedd y swm o 399p 17s 9c. Cydsyniodd Cynghor Dosbarth Merthyr, dydd Mercher, i dderbyn cytundeb Cynghor Sirol Morganwg, ar gyfer sicrhau heddgeid- waid i'r dref, os caniateid siarter o Gorphor- aeth i'r fwrdeisdref. Daethpwvd i'r penderfyniad yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Castellnedd i roddi cef- nogaeth i'r ddeiseb yn ffafr i rai fyddai wedi bod yn derbyn cynorthwy plwyfol gael yr ethol-fraint. Gosodwyd ceryg coffadwriaethol ystafelloedd i gadw yr Ysgol Sabbothol mewn cysylltiad a chapel y Bedyddwyr yn Pontrhydyrun,. dydd Llun, gan y Cynghorwr R. Richards, yr hwn sydd yn cymeryd rhan flaenllaw yn y gwaith. Cafodd hociwr pysgod ei ddirwyo yn Nghaer- dydd, dydd Mawrth, i'r swm o 5p a'r costau, am fod ganddo ddarn o blwm, yn pwyso chwe' wns, yn gysylltiedig a'r glorian oedd ganddo yn ei feddiant. Ar ol bod yn briod am chwe' mis cyhudd- wyd Samuel Beckett, singciwr, o'r Bargoed, gan ei wraig o ymosod arni. Dywedai yr erlynes i'r diffynydd ddyfod adref yn feddw, ac iddo ei tharaw yn ei plien, a'i chicio. Dir- wywyd ef i 20s a'r costau. Ymwelodd dirprwyaeth, yn cynrychioli Cym- deithas Ryddfrydig Gorllewin Mynwy, a Mr Warmington, yn Llundain, dydd lau, gyda golwg ar ei ymgeisiaeth dros y rhanbarth hwnw. Ni chafwyd unrhyw atebiad pendant ar yr adeg hono, fe ddywedir. Dygwyd Thomas Powell a Rees Evans, Tre- herbert, o flaen yr ynadon yn Defynog, dydd Mawrth, ar y cyhuddiad o ymosod ar William Riggs, ceidwad yr afon, ac o bysgota yn ang- hyfreithlawn. Anfonwyd hwy i garchar am bedwar mis, gyda Hafur caled. Allan o tua 450 o "Borderers" Deheudir Cymru, y rhai ai ymgynullodd yr wythnos ddi- weddaf yn Aberhonddu, i fyned o dan ddisgybl- aeth filwrol, methodd 45 a phasio yr arholiad' meddygol, ac aethant gartref o Aberhonddu ddydd Mawrth. Cymer priodas le yn Nghastellnedd, ar y 30ain o'r mis hwn, rhwng Miss Lucy Moore, merch Mr J. Newall Moore, a Mr Blake, o Whitland Abbey, sir Benfro. Trefna tenantiaid ystad Lonlas i gyflwyno anrheg yn fuan i'r briodferch. Codwyd cyflog Mr R. A. Lewis, 0 Fangc Lloyd, Pontypridd, fel trysorydd Cynghor Sirol Morganwg, yr wythnos ddiweddaf, o 150p yn flynyddol, i 250p yn flynyddol, yn ngwyneb y gwaith chwanegot o--dd ganddo i'w gyflawni o dan y gyfraith addysg. ly Hysbyswyd yn nghyfarfod Cynghor Trefol Aberteifi, ddydd Llun, fod y cynllun o helaethu y gweithiau dwfr wedi cael ei gwblhau, a'u bod wedi sicrhau chwanegiad o 27,000 o alwyni mewn 24 o oriau. Ystyrid y cyflenwad hwnw yn un bodchaol, ac yn ddigon i gyfarfod ag anghenion y trigolion am la,wei) o flynyddoedd. Dydd Mawrth cynhaliwyd trengholiad ar gorph John Edward Jones, Caerphili-road, Senghenydd, yr hwn a gafwyd gan gwmni archwiliadol ar fynydd Senghenydd. Tystiai y meddyg mai yr achos o'i farwolaeth ydoedd diffyg gweithrediad y galon. Dycli welwyd rheithfarn i'r perwyl hwnw. Mewn trengholiad yn Talybont-ar-Wye, dydd lau, dychwelwyd rheithfarn o "farwolaeth ddamweiniol" yn achos Mr David Thomas, Wenallt Uchaf, ger Talybont, corph yr hwn a gafwyd yn ngwaelod clogwyn yn Duffryn Crawnant. Yr oedd wedi cychwyn oddi car- tref y nos Wener flaenorol, er myned dros y mynydd o Trevil. Cyfeiriodd Esgob Llandaf, yn nghyfarfod blynyddol Coleg St. Michael, Aberdar, dydd Mawrth, at y ffaith fod y Cynghor wedi pen- derfynu symud y coleg i Llandaf, yr hyn a o-ostiai, o leiaf 20,000p. Hysbysodd fod y swm 0 9325p 3s wedi cael ei addaw cyn i'r adrodd- iad gael ei gyhoeddi; a bod Arglwydd Raglaw y sir wedi anfon 500p ar ol hyny. Er fod y tywydd yn anffafriol, ymgynullodd tyrfa fawr o drigolion Aberaman prydnawn dydd Mawrth, i gladdedigaeth Griffith Rees Morgan, y bachgen a gollwyd yr wythnos flaenoiol, ac a achosodd y fath gyffro trwy y lie. Bermr nad oedd dim llai na 1000 o lowyr yn yr angladd. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aethau gan y Parchn H. B. Jenkins, Saron; J. Solon Rees, Bethania, a J. Harris Jones, Libanus. Y mae Mr J. D. Rees, arolygydd trafnid- iaeth Ffyrdd Haiarn y Llywodraeth, Lagos, gynt o Gwmni Ffordd Haiarn y Barry, yn awr ar ymweliad a'r wlad hon. Penodwyd ef i'w swydd bresenol ryw 18 mis yn ol; a bydd yn dda gan ei gyfeillion yn rhanbarth y Barry nad ydyw hinsawdd y Lagos yn effeithio yn anffafriol a gwbl arno. Siarada Mr Rees, yr hwn sydd yn frodor o Ddyffryn Abertawe, yn obeithiol iawn am ragolygon y wlad hono, a dywed fod yno lwyddiant sefydlog i'w ganfod yn mhob cyfeiriad.
Advertising
MAE RHAID MYNED AT Y GWAED! A o Y Gwaed ywr Bywydt j t Y Gwaed yw'r Nertht Y Gwaed yw Pobpeth YMAE pawb-a chwi yn eu mvsg-yn agored i nifer jL fawr o glefydau. Paham felly ? Oherwydd fod Anmhurdeb yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylchiadol, yn creu Anmhurdeb yn y Gwaed. A phan y bydd y Gwaed yn cael ei lygru a'i wenwyno, y mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, TARDDIANTAU Y CROEN, RASH, PENDDYNOD, CORNWYDON, ECZEMA, LLYGRIADA.U, GWYNEGON. COESAU CLWYFEDIG, CANCER CLWY'R BRENIN, A llu o glefydau ereill y corff a'r ymenydd i rnthro ar wahanol ranau or cyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw'r Gwaed yn Bur Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofl fod HUGHES'S BLOOD PI LLS Yn puro y Gwaed, ac yn ei gadw yn Bur. Os byddwch yn dyoddef oddiwrth DDOLUR PEN, DIFFYG TRAUL, POEN CEFN. BILIOUSNESS, GWYNT, AFU DDRWG, CORFF-RWYMEDD, NERVES GWAN, ANIJWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENAU, Cofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod ya rhaid myned at y Gwaed cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. MAE HUGHES'S Blood Pills YN CAEL EFFAITH UNIONGYRCHOL AR Y GWAED, AC AR YR HOLL GYFANSODDIAD. Rhoddwch Brawf Arnynt. ør Mynwch Heb weled qop H wn Llun y Galon Twyll ar bob Box. Ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am is i ic. 2s gc, a 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn P. 0. neu stamps, at JACOB HUGHES, M.P.S.L.D.S., MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF. RODDASOCH CHWI BRAWF AR Gomer's Balm? ELI YW HWN AT BOB CLWYF. Mae 'Gomer's Balm' yn iachau braidd yn -wyrthiol holl Glefydau allanol y corfl, megys, Clwyfau, Rash., Scurvy, Eczema, Llosgiad- au, Piles, Penau Crachlyd, Llvgriadau Plant a Benywod, Dwylaw Toriadol, Mal- aethau, Tarwden, Crafu, Cymalau Poenus. AT BS- GOESAU DRWG 'DoeE" dim o'i fath. Rhoddwch brawf arno. Gofynwch am Gomer's Balm,' a mynwch weled enw JACOB HUGHES ar bob box—heb hyn twyll ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am is iic, neu danfoner ei werth mewn stamps, neu p, 0., at JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST PENARTH, CARDIFF. yw y Fadcly-iniaoth Oreu at bob math o Afiecliydloii ar FOCH A DOFEONOD. dU 11111 g LINCOINSHIRE PIC PowbERS CT m PRi)FRILT,rlR J.W.OENNIS a o eg ENCtAmo > tz:t 'II' c:g 0 ^ys^°laethan Cymeradwyol- ^T, Fferyllwyr ac mewn L 1 storfey(ld, yn ol 10c y dwsin. Un Dwsin 1 yn Rbad drwy'r Post am 11-
Coleg y Brif Ysgol, Bangor.
Coleg y Brif Ysgol, Bangor. Dydd Gwener daeth tymor v Coleg (1903-4) i ben, a chynhaliwyd y cyfarfod arferol yn nglyn a'r achlysur, pryd y llywyddwyd gan Mr Henry Lewis, is-gadeirydd Cynghor y Coleg, yn absen- oldeb Arglwydd Kenyon. Cyflwynodd Proffeswr W. Lewis Jones ad- olygiad ar y tymor. Ar y dechreu darllenodd lythyr oddiwrth y Prifathraw Reichel yn dat- gan ei ofid ei fod am y tro cyntaf ers 24 mlyn- edd yn analluog i fod yn bresenol ar achlysur y seremoni o ddirwyn y tymhor i ben. Hynod- wyd dechreuad y tymhor gan ymweliad y Prif- athraw a'r America fel aelod o'r Moselev Com- mission. Yr oedd y Coleg wedi derbyn colled drwy ymadawiad Dr. Spencer, yr hyn alwai am sefydliad dwy adran barhaol. Apwyntiwyd Mr H. O. Fynes Clinton, Coleg St. John's, Rhyd- ychain, a Mr Thomas Rea, Junior Fellow o'r Royal University of Ireland, i lanw y swyddi yn nglyn a dysgu ieithoedd diweddar. Colled arall i'r Coleg fyddai ymddiswyddiad Dr. Rhys Ro- berth, athraw mewn Groeg, yr hwn oedd wedi ei benodi yn benaeth ar yr Ysgol Glasurol vn Ngholeg y Brifysgol yn Leeds. Gwnaeth y Proffeswr Lewis Jones svlwadau yn n £ ,a sefydliad Adran y Fforest dreuliau pa un, yn ychwanegol at giant gan y Llywodraeth, yr oedd y diwedd- ar Henadur John Hughes, o Lerpwl, wedi cymunroddi 5000p at sefydlu ysgoloriaethau. l hefyd swm o 5000p wedi dyfod yn ddy- ledus o dan ewyllys y diweddar Dr. Evan "nomas, Manceinion. Ond yr oedd hyn wedi ei gyflwyno i gronfa'r adeiladau parliaol. Yn nglyn a'r llyfrgell, dywedwyd fod Cyng- hor y Coleg wedi apwyntio pwyllgor i gymeryd i ystyriaeth y modd i helaethu v casgliad pres- enol o lyfrau Cymreig. Nid oeddvnt heb obaith y gallesid dwyn yn mlaen gynllun i osod y llyfr- gell Gymreig mewn safle o effeithiolrwydd a defnyddioldeb mwy. Gyda golwg ar y gronfa tuagat adeiladau newyddion y C.leg, dywed- odd fod y gronfa hyd yn awr yn cyrhaedd 27,121p, ac yr oedd pob rhagolygon fod y gwaith yn myned yn mlaen yn llwyddianus. Cyflwynwyd gan y Proffeswr Lloyd, y cofre*' trvdd, restr o'r ysgoloriaethau, etc., am dvifl°r 1903-4. Ar derfyn y cyfarfod mwvnhaodd y cwI1lnl "garden party" gerllaw y coleg, pryd v d, byniwyd y gwahoddedigion gan y Proffeswr Lewis Jones a Mrs Reichel. Argraphwyd a Chyhoeddwyd dros y North Chironicle Company, Ltd., gan John Stevenson Edwards, yn y "North Wales Chronicle. a. r Owalia" Printing Works. Gaxton House, High- street, Bangor, yn Mhlwyf Bangor, yn Sir Gaer- narfon.—Dydd Mawrth, Mehenn 28, 1904,
PENREYNDEUBBAETH.
PENREYNDEUBBAETH. CYNORTHWY PAROD. Llwyddodd yr oil o aelodau Dosbarth Ambulance y Dr. J. R. Jones i basio yr arholiad, a nos lau cawsant giniaw yn y Griffin Hotel, Mr Joseph Hum- phreys yn y gadair. Dyma enwau y buddug- wyr:—Y Flwyddyn laf: Mri Harry W. Jones, J. Jenkin Davies, Rowland Richards, a Harry Jones, Minffordd; a'ii Cwnstabl D. Lloyd, Pen- rhyn. Ail Flwyddyn: John R. Jones, John H. Jones, a William Jones, Penrhyn. Y drydedd flwyddyn: William Parry, Minffordd; D. Salis- bury Jones, Penrhyn; ac R. Baxter, Minffordd. Enillwyd y wobr yn yr adran ieuengaf gan Mr R. Griffith, ac yn yr adran hynaf gan Mr R. Baxter. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd dilynol gan Mri R. Baxter, W. Roberts (Ysgol Genedlaethol), G. P. Jones, Dr. Jones, y Cad- eirydd, G. Parry Jones, T. H. Jones, O. J. Ed- wards, William Jones, a Timothy Phillips. Gwnaed anrhegion i'r athraw, yn nghyda'r vsgrifenvdd a'r trvsorydd. Y GWARCHEIDWAID. Llywyddodd Mr W. Jones, yr is-gadeirydd, ar y cyfarfod ddydd Mercher. Mewn atebiad i Mr R. Richards dy- wedodd y Clerc nad oedd gan aelod o'r Bwrdd hawl i awdurdodi cynorthwy i dlawd oddiallan i'r Bwrdd. Y cwbl allai wneyd oedd hysbysu tlodi y person i'r overseer. Ymddengys fod llawer o'r aelodau yn bleidiol i orfodi rhai crwydrwyr i bigo oakum yn lie tori ceryg, gan fod cyflawnder o'r olaf ar hyn o bryd.—Anfon- odd y Pwyllgor Ymweliadol adroddiad dyddorol i mewn. Argymhellent fod clustogau yn cael eu pwrcasu i'w rhoddi ar y meinciau er cysur yr hen a'r methiantus; yr oedd yr ardd, medd- ent, mewn cyflwr, rhagorol, a buasai yn werth i ffermwyr a thyddynwyr ddod yno i'w gweled. Yr oedd y cynllun newydd o fwyta yn yr un ys- tafell ac ar yr un pryd wedi troi allan yn Hwydd- ianus, ac yn enill o ddau gant o bwysi o fara yn y mis.—Anfonodd y Parch J. Hughes,gwein- idog Capel Carmel (A.), Tanygrisiau, at y Bwrdd yn datgan gofid aelodau ei gapel nad oedd y Bwrdd wedi pasio penderfyniad yn erbyn y Bil Trwyddedol. Pasiwyd i adael y llythyr ar y bwrdd.—Etholwyd Mr Owen Jones, Erwfair, Mr Robert Richards, a'r Clerc i gynrychioli y Bwrdd mewn cynhadledd sydd i'w chynal yn y Bermo i ystyried beth oraf i'w wneyd yn ngwyn- eb cynyctd crwydriaid yn y cylchoedd.—O ber- thynas i benodiad nurse penderfynwyd i'od Nurse Kato E. Beresford, Minffordd, a Nurse Jane Price, Home of Rest, Criccieth, i ym- ddangos o flaen y Bwrdd yn eu eyfarfyddiad nesaf—Canmolwyd gwaith y pwyllgor yn sicr- hau cartrefi i ddau blentyn yn Nhrawsfynydd ac i un plentyn yn y Blaenau.
. PWLLHELI.
anthem ydoedd "A bydd arwyddion," d gyfan- soddiad Owain Alaw. Yn ngwasanaeth yr hwyr caed unawd "Gyda'r lesn" gan Mr W. G. Jones, Llanllyfni. Heblaw gair gan y llywydd- ion, caed anerchiadau gan y Prchll. H. Rees, Pwllheli; D. Wyre Lewis, Nefyn Robert Jones, Llithfaen; Mri D. Williams, Garn; ac R. E. Williams, Penygroes. Caed cymanfa Iwydd- ianus. CYNGHOR DOSBARTH LLEYN.—Llywydd- ai Mr H. Davies. Cwynai Mr T. E. Griffith yn erbyn y cyflymdra aruthrol gyda pha un y rhedai y cerbydau modur. Haeddai y mater sylw yr awdurdodau.—Hysbyswyd fod Mr Peter Edwaids, contractor gwaith dwfr Nefyn, wedi cael meichiafon.—Darllenwyd gohebiaeth oddi- wrth Fwrdd Llywodraeth Leol yn cydsynio i ddosranu dosbarth iechydol y diweddar Ddr. Hunter Hughes yn dair rhan. Rhoddodd yr Aiolygydd i fewn blaniau o gynllun carthffos- ydd Abersoch. Siaradai y cynghorwyr lleol yn erbyn mabwysiadu y cyfryw. Penderfynwyd anfon y planiau i'r Cynghor Plwyfol er iddynt eu hystyried.—Dywedodd Mr E. R. Davies fod yna amheuaeth o berthynas i'r lie y codid gro yn nghymydogaeth Mynytho. Gwneid ym- chwiliadau pellach er mwyn cael allan ai y lie presenol yw yr un priodol.—Ar adroddiad Mr Davies a Mr J. T. Davies yn nglyn a thir yr honid nad oedd yn eiddo y Cynghor yn agos i Aberdaron, penderfynwyd gwneyd ymchwiliad- au pellach.—Ei holwyd Mr S. 0. Williams, Fost- Office, Mynytho, yn llywodraethwr Vsgol Bot- twnog, a Mr O. G. Jones, Tyddyn Llewelyn, ar Ysgol Pwllheli.—Hysbysodd v Clerc ei fod wedi rnethu dod i ddealltwriaeth gyfeillgar gyda swyddogion Gwaith Manganese y Rhiw o ber- thynas i'r niwed wnaed ganddynt i'r ffyrdd.