Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
32 articles on this Page
BANGOR.
BANGOR. Deallwn fod Mr J. Batty, o Blackpool, wedi cymeryd yr Union Hotel, Garth. Yr oedd arholiadau "matriculation" LIundain yn cael cu cynal yn Ngholeg y Brifysgol yr wythnos ddiwoddaf. Darfu i geffyl Arglwydd Penrhyn, "Peroration," yr hwn a farchogid gan K. Cannon, cnill y Duchess of York Plato o fil o bunau yn rhedegfa Ilurst Park -ddydd Sadwrn. Y MUSICAL MIDDIES.—Er gwaethaf y tv- Tvydtl anffafriol gafwyd yn ddiweddar, v mac Mr a Mrs Summerson a'u cwmni yn dal i ddifyru y cyhoedd yn mhen y Pier. Mae y Prifathraw Reichel yn aros yn Matlock ar hyn o bryd er budd oi iochyd. Deallwn iddo yr ddiweddar fod yn dioddef oddiwrth grydcyrnalau, a'i fod yn derbyn Has mawr oddiwrth grvdcymalau, a'i Matlock yn nghyda nowidiad awyr. ANRKEGION. Bu i aelodau Cor Ponuel an- rhegu copi o "organ pieces" Handel i Mr Ivor Thomas, is-organydd Eglwys St. Mair, fel cyd- nabyddiacth am y gwasanacth gyflawnodd efe i". cor.—Darfu i swyddogion gorsaf y rhcilffordd yn nghyda bechgyn y papyrau newyddion. yr wythnos ddiweddaf, gyflwyno anrhog o "travelling bag" pryd ferth i Mr George Haigh, yr hwn sydd yn gynorth- wywr wrth y "booksiall" yn yr orsaf ers tair blyncdd a haner. YR AMGUEDDFA. Y mae cryn welliant- wedi ei wneyd yn ymddangosiad mewnol yr Amguedufa trwy ad-drefniad y pethau a ar- ddangosir yno. Un bai mawr ar yr adeilad lie cedwir v casgliad o gywreir.ion vw fod llwch yn treiddio mor ddwfn i bethau, yr hyn mewn amser sy'n rhwym o niweidio Haver o'r darlun- iau a'r eywreinion, a gobeithio y ceir adeilad mwy cyfaddas cyn bo hir iawn i roddi y casgliad nodedig a rhagorol hwn ynddo. YMWELIAD AG EGLWYS GADEIRIOI CAER. Dydd Mawrth aeth Cor yr Eglwys Gadeiriol, yn cael eu dilyn gan yr Isganon Williams, yr Isganon Morrice, Mr T. West-lake Morgan, Mr G. Brereton, ac eraill. am wib- daith 1 Gaer i'r dyben o wcled yr Eglwys Gad- eiriol ac i wrandaw y gwasanaeth yno. Cych- 11 y wynasant gyda'r tren 6.15 y boreu, a chyr- haeddasant^n ol i Fangor erbyn unarddeg yn yr hwyr. Deallwn iddynt fwynhau eu hunain yn ardderchog. MARWOLAETH MRS MARGARET OWEN —Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs Mar- garet Owen, gwraig Mr William Owen. Menai Foundry, Bangor, yr hyn ddigwyddodd yn bur sydyn foreu Mawrth. yn ei 64 mlwydd oed. Yr oedd yn wraig o dueddfryd hawddgar a cliared- ig iawn, ac vp enedigol o Fangor. Yr oedd yn wael ei hiechyd er mis Hydref diweddaf, a bu farw yn y diwedd o afiechyd y galon Gedy deulu mawr o blant alarn ar ei hoi—dau fab a saith o ferched. Y mae cydymdeimlad dwfn gyda Mr William Owen a'i deulu yn eu trallod blin. Angladd preifat yuooda, a. chyrwerodd ic, foreu Gwener. prj d y gweinyddwyd gan v Parch W. R. Hughes, etirad St. Mair. Y prif alarwyr oeddynt Mr William Owen fpwr), Mr Owen Hugh Owen (brawd). Mr R. W. Owen (mab), Mr Alfred Stoen (mab-yn- nghvfraith). Mr John Davies, Colvryn Bay (mab-vu-nghvfraith'l.Mr Evan Roberts (bravd- vn-nghyf r a i t h),Mr J. Davies, Eos Ogwen (cefn- der). Mr William Owen, meistr y lanfa, Bangor (cefnder), a Mr Thomas Wirinms. Clwtglas. Yr J oedd Dr. Grpv Edwards hefvd yn bresenol. Y mae un mab (John) yn awr ar y mor.
BETTWSYCOED.
BETTWSYCOED. Y P A VILIO.-Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod 1 yn yr ysgoldy, pwrpasol i drafod y pwnc o gael pavilion yn y pentref at wasanaeth y dyeithriaid a'r trigolion. cafwyd cynulliad da, o dan lvwyddiaeth Mr R. Parry. Y.H. Cafodd y testyn dderbyniad ffafriol a chaiff sylw pellach. Y DYEITHRIAID. Y mae lluaws mawr i'w gweled ar ymweliad a'r lie y dyddiau hyn-rhai o'r gwesttai yn orlawn. Am yr ail waith cyrhacddodd boneddiges yma dydd Llun, wedi teithio yr holl bellder 'o California. Yr oedd clywed ei chanmol- iaeth i'r lie yn rhyfoddod. a'r modd yr oedd yn gallu mwynhau natur yn ei pherffeithrwydd pan ar ymweliad y tro cyntaf. CWESTIWN Y DWFR. Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd Cynghor Dincsig arbenig, yr hwn er mwyn cael ymdrafodaeth briodol a drowyd yn bwyll- gor. Cymerwyd y gadair gan Mr R. Parry, Y.H., fferyllydd. Cwestiwn y dwfr fa dan ystyriaeth, a phasiwyd ymohebu ag Arglwydd Penrhyn o barth y "scheme" sydd wedi ei hawgrymu i'r Cynghor. Ymddengvs ei bod yn un gostus iawn, yn gyfryw, os cerir hi allan yn ei manylion, bar godiad aruthrol yn y dreth am y 30 mlynedd dyfodol. DAIWAIX ANGEUOL.—Oddeutu chwarter wedi un o'r gloch dydd Mawrth cyfarfu John Morgan, dyn songl, 25ain mlwydd oed. a'i farwolaeth mewn modd svdyn. Tra yr oedd of ac Alfred Hughes, Gethin-terrace yn gweithio ar ben y rwbel yn CViwarel Hafodlas vn tynu o dan graig rydd, daeth rhan fawr o r graig i lawr gan wthio y ddau ddvn druain o'i blaen, a lladd Morgan yn y fan. Yn gymaint ag fod Hughes mor agls i'r trancedig y mae y ddi- angfa yn un wyrthiol iddo ef, ei fod yn fyw. er ei fod wedi ei anafu yn ddifrifol. Y mae yn ymddangos eu bod yn tynu y graig gan ddisgwvl iddi fyned i gyfeiriad gwahanol, ac i redeg oddiwrthynt, ond fel aritll y digwydd- odd. Yn yr achos hwn eto y mae y geiriau adnabyddiis hyny yn cael en gwirio—"Y naill a gymerir. a'r HaH a adewir. Ar ol canfod yr hvn oedd wedi digvrydd anfonwyd am Dr. Pritcliard, medciyg y gwaith, ond yr oedd Morp;n,n wedi marw cyn i'r meddyg gyraedd. Aed a'r corph i'w gartref yn Gethin-terrace.
BLA.ENAU PrBSTINm
BLA.ENAU PrBSTINm Y FICERDY. Y mae y Ficerdy vii myned dan adsryweiriad trylwyr. a bydd vn barod i'r Parch T. H. Hughes o fewn ychydig ddvddiau i'w hreswvlio. GWAELEDD. Drwg genym am waeledd y cyfaill ieuanc Mr J. Parry Roberts (ieu.), Tyddvngwvn-road. Bydd raid iddo fyn'd dan law feddygiaeth i Lerpwl. Dorbynied ef a'r tenlu ein cvdvmdeimlad llwyraf. PLESERDEITHTO. Deallwn fod deiliaid vslaol Sul St. Dewi wedi penderfvnu myn'd gyda'u gilydd i Landudno. Hefyd St. Martha. Tyddyngwvn, wedi penderfynu myned i Lan- gollen. Nid yrlvnt wedi nodi y dinyrnod. LLWYDDIANT. Dyrchafiad eto i un o blant Ffestiniog. Llawenydd genym ddeall i Fs G. A. Owens, merch Mr Joseph a Laurah Owens, Angorfa, Ffestiniog, gael ei aowynt-io yn "had assistant" o dan Gynghor Addysg Barry, Pobcudir Cymru. DYMCHWETiTAD. Y mae gwyneb y myn- ydd sydd cvdrhwng Chwarelau Maenofferen a Votty a Bowydd yn graddol syrbhio i mewn. Cwymnodd rhan mawr o'r graig yr wythnos ddiweddaf. Mor ddifrifol y sefvllfa fel y bu raid i'r peirianvdd, Mr J. S. Hughes, Porth- madog, ddod i'w golwg rhag blaen. LLOSGI. Cafodd goneth bedair ool Mr F-.1. Davies, Cwmorthin-road, Tanygrisiau di'iar.'r» gyfyng nos Fercher. Troc y tocell oec:* -if v th)) a disgynodd y dwfr berwedig oedd vnddo ar ochr y fechan safai g-erl!a w. Llosgodd ei braich yn dost iawn a dioddefa oddiwrth y braw gafodd ar y pryd. Gweinyddwyd arni gan Mr W. S. Edwards (o firm Dr. Evans). Y mae dan ofal Dr. Evans yn awr ac yn dod vn mlaen gvstal ago y gellid disgwyl. GOLLWNG GWAGEN.—Bu i ddau fachgen direudus rvddhau gwagen llawn o lechau yr wythnos ddiweddaf a'i rhedeg ar hyd cledr- ffordd Rhiwbach nes dadvmchwel o honi i ddyfnder gerllaw Maenofferen. Yn ffodus ni anafwyd rut dyn nac anifail. Y mae yn arfer- iad i geffyl lusgo y cerbydau ar hvd y litell hon. a pe buasai ceffyl yn digwydd bod ar v ffordd nid oes amheuaeth na fuasai wedi ei ladd, ac efallai anafu neu golli bywyd dynol. AmcanervTfrifir v o;ost vn 18p. SYMUDIAD "GWEINIDOG YN AMERICA (sef y Parch R. H. Owen, Monafab).—Gwelir mewn copi ,e o'r "Youngstown Telegram" (America) gvfei.-ia.I vt symudiad un sydd yn adnabyddus i gylch (ani- TI Ffestiniog, sef y Parch R. H. Owen, mab Mr Hugh Owen. Mills-row. Wedi bod yn weinidig i'r ogTvys Annibynol Gvmreig yn Mineral Ridge, Ohio, am bodair blvnedd. yn yr hwn Ie y bu yn wir ymrodd- gar a llwyddianns, penderfynodd Mr Owen gyd- flynio a'r gwahoddiad a gafodd i apelio am Eglwys Beaver Creek, Oregon. Yr oedd ei gyfarfod yma- dawol yn Mineral Ridge yn un lluosog, cynes, parch us, a brwdfrvdig, pryd y dygwyd tystiolaethau uchel i weitht-arweh a chymeriad Mr Owen. A ooyflwynwyd iddo dysteb hardd gan yr eglwys a'r trefwvr. Eidilnnwn ei lwvddiant vn ei faes newvdd. ANRHYDEDDU CYN SWYDDOG. Dydd Mawrth diweddaf cyflwvnwyd gan drefwyr Malvern i Mr a Mrs Mavbury, anrhegion gwerthfawr ar eu hymadawiad oddtyno i Kent. Y mae Mr Maybury newydd gael ei bonodi yn "surveyor" yn Sir Kent am y cyflog o 800p. Cyn iddo dderbyn yr apwyntiad yr oedd Cynghor Dinesig Malvern yn unfryd yn tJwyso arno i ail-ystyried ei benderfvniad i symud oddiyno. Y mae yn amlwp fod Mr Maybury wedi wneud gwaith effeithiol yn Malvern, ac wedi myned yn ddwfn iawn i serchiadau y dref a'r wlad. Cyflwynwyd i Mr Maybury "silver salver." ac i'w briod "piano" costus. Yr oedd prif foneddigion y lie vn nghvfarfod y cyflwyniad; a chyn gadael y lie bit iddo yntau gyduno mown swper 3 roddid ganddo i holl weithwyr y Cynghor. Gallwn yn hawdd ddeall y modd y llwyddodd y swyddog rhagorol hwn j enyn parch ac edmygedd. Y GYMANFA GANU EGLWYSIG. Cyn- helir yr uchod wythnos i'r Sadwrn nesaf, yn Eglwys y Plwyf (St Michael). Oherwydd am- gylch'iadau neillduol bu raid ei gohirio o'r Sad- wrn olaf yn Mai hyd yr 2il Gorphenaf. Ar- weinydd y gan fydd y Parch J. Ll. Richards, B.A., Tyddyngwyn. Eleni bydd y gymanfa yn bum' mlwydd oed, ac y mae yn glod i Mr Richards fel yr arweinydu, gan mai efe sydd wedi arwain bob blwyddyn, ac cithrio unwaith. Y tro hwnw digwyddai fod yn wael ei iechyd.
BEDDGILEET.
BEDDGILEET. Yr oedd yn Meddgelert ddydd Mercher odd- eutu triugain o uwch-arolvgwyr cwmniau rheil- fEyrdd y wlad hon. Ymadawsant oddiyma trwv Boithmadog a Ffestiniog am Landudno, lie v cynhalianv eu cynulliad blynyddol.
COLWYN BAY,
COLWYN BAY, DAMWAIN. Dydd Mawrth diweddaf rhwng Colwyn Bay a Mochdra bu i "plate- layer" o'r enw John Savage, Colwyn Bay, gael ei ladd, yn ei waith yn ceisio osgoi cerbydres lwythog o nwyddau o.dd yn myned yn nghyf- eiriad Llandudno Junction. Yn lie cilio yn ol ar ol g.veled y gerbydres yn dod, ceisiodd groesi yn y blaen, ac yn ei ymgais tarawyd ef yn farwol gan y peiriant. Ataliwyd v tren a chludwyd ei goiph I ysbytty Llandudno.
cassnaefon.
cassnaefon. Y TYWYDD.-Gwnaeth dywydd tymhestlog yn y dref hon yr wythnos ddiweddaf. Dydd Iau yr oedd yr awel yn ocr, ac yn auafol. Nid oes ond gobettiiio y daw "haul ar ol y gwlaw." PRIODAS. Dydd Mercher, yn nghapel Salem, gan y Parch D. Stanley Jones (gweinidog). priodwyd Mr William James Hills (o Swyddfa'r "Herald"), a Miss M. Thomas, Penygroes. Hawddfyd a'u di- lyno. GWAITH TRYDAN.—Mewn cyfarfod arbenig o'r Cynghor Trefol, a gyrihaliwyd ddydd Mawrth, pasiwyd i hysbysebu am bcirianydd (am amser penodol) yn nglyn a'r gwaith trydanol fwriedir ei gael i'r dref, y cyflog heb fod yn fwy na 100 gini. YN GWELLA.-DA -genym ddeall fod Mr Robert Jeffreys Mai ket-street, a gyfarfydd- odd a damwain dost gyda'i ddeurodur yn ochr yr Aber, yn graddoi wella. Amlygir cydym- deimlad mawr ag ef yn ei brofedigaeth chwerw. WEDI G WELL A.—Da genym gael ar ddeall fod y Parch J. E. Hughes, M.A., gweinidog capel Siloh (M.C.) wedi gwella yn bur dda, ac y gallodd fyned i'w gyhoeddiad yn nghapel Seisnig Prince's-road, Bangor, y Sabboth diweddaf. YNADLYS BWRDEISIOL ARBENIG. Mewn ynadlys bwrdeisiol arbenig a gynhaliwyd ddydd Gwener, gerbron Mr J. R. Pritchard, cyhuddwyd crwydryn o'r enw Tom Harrison o gardotta gan yr Heddgeidwad W. Jones (48). Anfonwyd ef i fis o garchariad. Y CLWB HWYLIO.—Cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol y clwb uchod yn y Cafe, ddydd Mercher. Yn ol y fantolen a ddarllenwyd am 1903 yr oedd diffyg o 3p yn erbyn y clwb, ond gan fod y flwyddyn hon yn flwyddyn jiwbili y clwb credir y gwneir i ffwrdd a'r ddyled. DADORCHUDDIAD.—Cymer y sercmoni o ddad- orchuddio y gofgolofn sydd ar ben bryncyn yn Twthill Bach, er cof am wyr Sir Gaernarfon a syrthiasant dros eu gwlad yn y rhyfel ddiweddar yn Ne Affrica le ar ddydd Sadwrn, Gorphenaf 2il. GWAEL.—Diamher. y bydd yn ddrwg gan luaws glywed fod Mr W. William Williams, 18, Pool-street, yn ddifrifol wael. Yn un o'r rilifynau diweddaf o'r "Drysorfa." (M.C.) fe ymddangosodd erthygl ddyddorol gan Mr Wil- liams ar "Hanes Methodistiaeth yn Nghaer- narfon." Y CLWB HWYLIAU.—Cymerodd yr vmrvsonfa gyntaf mewn cysylltiad a'r clwb uchod le prydr>awn ddvdd Iau. Dyma'r canlyniad: 1, "Menna" (Mri Robert a Richard Newton); 2, "Gwen" (Mr J. H. Jones); 3, "Mair" (Mr J. Pritchard); 4, "Buddug" (Mri J. ac R. Williams). Cadwyd yr amser gan Cadben Tom Williams, Bangor-street. DALFA DDA. Darfu i'r Uchgadben Whiskin gael hwyl ar bysgota brithylliaid ger Cwmyglo pryd- nawn ddydd Iau. Yn ystod dwy awr o amser llwyddodd i ddal tri-ar-ddeg o bysgod mawrion pedwar o honynt yn hynod felly. Dywedir nad yw pysgotwyr, fel rheol, yn hoffi y llecyn hwn i bys- gota ynddo, ond dangosodd yr Uchgadben Whiskin fod yno Ie da am bysgod. MARWOLAETH.—Drwg iawn genym orfod cof- nodi marwolaeth Mr Hugh Roberts, goruchwyliwr y gwaith nwy, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau, ar ol hir a phoenus gystudd. Bu yn gofalu am y gwaith nwy fel swyddog i'r Gorphoraeth am bedair blynedd o amser. Yr oedd yn 44 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod o gapel Annibynol Pendref. Yr oedd yr ymadavvedig o dueddiadau siriol a charedig, ac yr oedd iddo lu mawr o gyfeillion. Cydvmdeimlir yn ddwys a'r weddw a'r pedwar plentyn amddifad yn eu galar dwfn. Cymer yr angladd (un cvhoeddus) le yforv (dydd Mawrth). GWOBRWYO A CHYDYMDEIMLO. Cynhal- iwyd cyfarfod misol Arfon ddydd Llun diweddaf yn Ysgoldy. Llywyddwyd gan y Parch W. Matthews, M.A., Llanfairfechan. Gwobrwywyd yr ymgeiswyr buddugol yn yr arholiad sirol diweddaf, ac yn eu plith amryw o Ysgolion Sabbothol y dref hon. Yr oedd Mr Robert Jeffreys (Siloh) yn gydradd gyntaf dros 21 oed, ond oherwydd y ddamwain ofidus a'i cyfarfyddodd yn ddiweddar nis gallai fod yn bres- enol i dderbyn ei wobr. Pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad ag ef yn ei waeledd. Rhoddwyd y evfarehiad arferol i'r ymgeiswyr gan y Parch J. E. Hughes, M.A. (Siloh). DEURODURION.—Fel ag yr oodd yr vsgrifenydd yn myned am dro ar hyd ffordd y Pare ar ol te, ddydd Sadwrn diweddaf, canfu amryw o blant y tu allan i St. Helen's-terrace yn taflu eu capiau o dan v deurodurion (bicycles) a elent heibio. Darfu i un gwr ieuanc, ag oedd yn dyfod braidd yn gyflym, geisio osgoi cap a daflwyd o flaen ei ddeurodur, ac wrth wneuthur hyny aeth yn erbyn bachgen bychan, ac aeth siaced y bachgen i un o'r "paddles," a llusgwyd ef am oddeutu llathen gan y deurodur. Yn ffodus ni chafodd ei anafu yn drwm, er iddo gael briw ar ei dalcen a'i law. Dylid rhoddi terfyn ar yr arferiad pcrvglus hwn yn mhlith y bcchgyn. Y TEMLWYR DA.-Cynhaliwyd cyfarfod arftr- ol Teml Eryri, o'r Urdd uchod, yn y Cysegr, nos Fawrth. Llywyddwyd gan y Mri William Jones, Pretoria-terrace, a J. Wynn Parry. Yr oedd Ap Glaslvn wedi addaw dyfod i'r cyfarfod, ond oherwyJd gerwinder y tywydd methodd a dyfod. Y'1 ngwyneb hyny cynhaliwyd cyfarfod amrvwiaethol, yn yr hwn y cvmerwyd rhan gan Misses Nancy Parry, Bangor-street; Winnie Williams, Arfryn, a C. Jones, Dinorwic-street; Mri Tim Evans, Taly- bont; W. R. Jones, a David Jones, Crown-street. Cymerodd dwy gystadleuaeth ddyddorol le, ac enill- wyd v naill gan Mr E. O. Evans, Mount Pleasant- square, a'r llall gan Mr Thomas Jones, Vaynol- street. Beirniadwyd y ddwy gan y llywydJion. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr W. R. Jones. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Robert Jeffreys, dirprwywr y Deml, yn ei waeledd. PLESERDAITH FLYNYDDOL. Dydd Iau cymerodd pleserdaith flynyddol y Mri Lake a'i Gyf. le. Cauwyd yr holl fasnachdai, melinau, etc., sydd yn gysylltiedig a'r cwmni eang hwn, ddydd Iau. Y lie a ddevviswyd y tro hwn ydoedd Dinas Dinlle. Dywedir fod yn agos i 200 o'r gwasanaethyddion wedi myned i Ddinas Dinlle y waith hon. Cafwyd tywydd dymunol, er fod yr elfenau braidd yn anffafriol yn y boreu cyntaf. Cafwyd to yn y "bungalow" eang sydd yn nglyn a'r Carnarvon Bay Hotel, ac yr oedd golwg hardd ar y fath nifer yn mwynhau eu hunain. Pasiwyd plaidlais gynes o ddiolchgarwc-h i'r cwmni, ar gynygiad Mr W. B. C. Jones, yn cael ei eilio gan Mr W. Ellis. Cydnabyddwyd y bleidlais ar ran y cwmni gan Mr John Evans (cadeirydd v cwmni). Tynwyd darluniau arbenig o'r parti gan ffirm Mr Williams, High-street. Hefyd, cynhaliwyd mabol- gampau ar lethrau y bryncyn sydd yn Dinas Dinlle. Dychwelwyd y parti mawr adref yn yr hwyr wedi mwynhau eu hunain yn arddorchog, ac heb i ddim anffawd ddigwydd o gwbl.
CRIOCIETH.'
CRIOCIETH. CANU. Yr wythnos ddiweddaf vmadaw- odd nifer luosog oddiyma a Phentrefelin, etc., am Gaernarfon, i bresenoli en hunain vn nghymanfa garni yr Annibynwyr. Canmolir ansawdd y canu yn fawr. APWYNTIAD. Mae y Cadben Richard Roberts, mab y Car ben William Roberts, Faeriol, wedi ei ddyrchafu o fod yn "chief mate" ar un o ai»erloiip,au mwyaf y Mri Rad- cliffe a'u Cyf.. Caerdvdd, i fod yn gadben ar yr agerlong "Annie Thomas" (2200 o dunelli), a chychwynoda o Bairy Dock ar ei fordaith gyntaf ddvdd Mawrth diweddaf. Deallwn hefvd fod y Cadben William Roberts, ei dad, wedi prynu y Hong "Telephone," a'i fod yntau am droi ei wvneb tua'r mor nnwaith eto. I FREICHIAU EI FAM. Dydd Mercher. gyda cherbvdre3 y boreu, daeth Mr Richard Evans, Høn Ysgubor, adref at ei fam weddw. Nid oeddys wedi clywed oddiwrtho ers rhai blwyddi meithion, ae yr oedd ei fam ac eraill vn ofni ei fod wedi cael oerllyd fedd. Dvch- my ger felly ei svndod a'i mwynhad pan hys- bysodd ei hnn. 'Roedel yr hen wraig wrth ei bodd, ond gormorl gorchwyl i ni. nac i neb arall, ydyw ceisio darlunio ei theimladau wrth ei gael vn ol vn fyw. Hwyliodd y bachben rh w chwe' blynedd vn ol gvdag un o lorigau Mri Thomas a'i Gyf., o'r dref hon. ond ymadaw- odd a'r cwmni, ac felly methwvd a chael allan ei hanes. Mae llawenydd cyffredinol "Wrth ei weled yn fyw ac iach. PENODIAD. Mae y Parch John Owen, M.A., wedi ei ethol yn gynrychiolydd y rhieni ar Fwrdd Llywodraethol Ysgol Ganolraddol Porthmadog. Yr oedd tri yn ymgeisio am y swydd. DYCHWELIAD. Gwelsom Mr Jack Bracken, mab hynaf Major-General Bracken, Wernddu, ar ol ei ddychweliad adref. Gwas- anaethodd ei wlad yn Neheudir Affrica yn ystod yr ymgyrch fu yno, ac ar ol hyny bu yn vr India. Da gan lawer ei weled yn ol gwedi absenoldeb o bump neu chwe' mlynedd. YR YMWELWYR.—Mae nifer acghyffrooin o ddt o yrnwelwyr yma ag ystyried yr adeg o'r 'flwyddyn. Yn eu plith mae yr Arglwyddes Walker, gyda'i phriod—offeiriad Eglwys Loegr -y rhai fydd yn aros yn yr Eifion. Deallwn fod Mynydd Ednyfed, Parciau, Muriau,ac Emu wedi eu gosod ar gyfer y tymhov. Gwelir felly fod rhai o'r prif breswylfeydd wedi eu gosod yn ychwanegol at ugeiniau o dai ar y Marine a Ueoedd eraill. Yn ol y rhagolygon presenol bydd y tymhor eleni yn un tra llwyddianus. MARWOLAETHAU. Yn ddiweddar mae amryw o'r hen drigolion wedi eu tori i lawr. Dyna yr hen chwaer Mary Jones, yr hon a ddaeth yma o ardal Llanaelhaiarn, a'r hon a glaadwyd yn mynwent Eglwys y Plwyf, v Canon Lloyd Jones yn gwasanaethu. Yr oedd hi, fel y cofir, yn blaenori yr orymdaith yn amser Jiwbili y Frenhies, fel un oedd vn cofio ei hesgyniad i'r Orsedd. Drachefn dyn a'r chwaer Ellen Williams, gynt o Ty'nllan, yr hon oedd rai blwyddi dros bedwar ugain. Clywsom hefyd am ymadawiad hen wraig arall oedd vn trigianu yn y Prince of Wales, a'r hon oedd yn 91. Bu yn orweddog am oddeutu dwy flynedd. Mae yr hirhoedledd uchod yn siarad yn uchel am Griccieth fel lie iach a dymunol i fyw yn- ddo. Mae eisici gwnoyd ffeithiau fel hyn yn adnabyddus i bawb.—Drwg iawn genym, am farwolaeth y t'oneddiges ieuanc, Miss Maggie Roberts, Wave View. Merch ydoedd i'r di- weddar Mr Robert Roberts, North and South Wales Bank, Porthmadog. Yr oedd o dymher ddymunol, a dim ond un ar hug&in oed. Preifat oedd yr angladd. Cludwyd y corph i gladdfa y teulu yn mynwent Llanycil, Bala. Y LLYFRGELL. Ncs Fawrth cvnhaliwyd cyfarfod cyntaf o bwvllgor y Llyfrgell Gy- hoedaus. Mae'r pwyllgor yn cael ei wnevd i fyny o 18 o aelodau, naw o ba rai a etholir gan y Cynghor Trefol. Ar gynygiad y Canon Lloyd Jones, etholwyd Mr W. Watkin yn gad- eiqdà y cvfarfod Cynygiodd y Cadeirydd fod Mr J, E. Greaves, yr Arglwydd Raglaw, yn cacl ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Gwydd- id fel yr oedd Mr Greaves wedi cvnorthwyo yn galonog y mudiad er sicrhau y llyfrgell. Eil- iodd Mr R. P. Thomas, a chariwyd cynygiad yn unfiyaoi.—Etholwyd Mr W. Watkin yn is- gadeirydd y pwyllgor.—Tybid ar y cyntaf y buasai yn ddoeth ethol y gwaha iol bwyllgorau yn y cyfarfod hwn, cud cynygiodd Mr T. Bur- nell fod pwyllgor aaeiladu yn unig yn cael ei ethol y nofon hono, ac fod pwnc y pwyllgorau eraill yn cael ei ohirio. Cytunwyd a hyn, ac etholwyd ar y pwvllgor y Cadeirydd a r Is- Gadeirydd, Mri W. H. Williams, R. P. Tho- mas, W. G. Evans, a T. Biirnell.-Al: gynyg- iad y Canon Lloyd Jones, yn cael ei eilio gan Mr D. M. Williams, penderfynwyd gofyn i'r is-bwyllgor wr.eyd eu goren i orpheu vr jwleilad ac drernu cyfarfyddiad gyda'r cynllunydd.
DYFFRYN NANTLIE AR AMGYL CE…
DYFFRYN NANTLIE AR AMGYL CE OEDD. CYFARFOD PREGETHU. Cyalialiodd Eglwyswyr Eglwys Crist, Penygroes, eu cyfar- fod pregethu Dlynyddol ddydd Ijlun, v 6ed cvf- isol. Gwasanaethwyd y boreu gan v Parch R. P. Hughes, Rhostryfan am ddau y prydnawn, Parch Glynne Jones, Llanarmon; yr hwyr, v Paich R. Owen, M.A., ficer Bagillt. Cafwyd cyfarfod rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Y pregethu yn odidog, a cynulliadau lluosog yn gwrandaw vn astud. CYMANFA Y BEDYDDWYR. — Cvnhal- iedd y Bedyddwyr eu cymanfa flynyddol yn Nhalysarn eleni, dydd Llun a dydd Mawrth. Yr oeddynt wedi parotoi lie cyfleus ar gae vn ochr y capel yn Nhalysarn. Ond oherwydd y tywydd gerwin cafwyd menthyg capel mawr v M.d. Gwasanaethwyd gan y J?archn. Iorwerth Jones, Maesteg; E. T. Jones, Llanelli; Pedr Hir, Lerpwl; a W. D. Hughes, Dowlais. Er v tywydd anffafriol cafwyd cynulliadau lluosog iawn a phregethau wrth fodd y gwrandawyr. Yr oedd pob enwad fel eu gilvdd yn mwynhau y traddodiad, ac yn eu plith Eglwyswyr, yr hyn sydd arddangosiad gobeithiol fod onwadaelh- neu parti sel yn ymgolli mewn Cristionogaeth —ac y bydd Ynmeillduwyr ac Eg]wyswyr yn cyd-ymdrechu yn ffordd Crist i ddiwygio y byd heb ragfarn enwaaaeth.
IEDEYE
EDEYE MARWOLAETH. Dydd Mercher, ar ol pymthegnos o waeledd, bu farw Mr John Jen- ins, prifathraw Ysgol Genedlaethol Edeyrn. Y mae cydymdeimlad dwfn a'r weddw a'r teulu yn eu profedigaeth. Brodor o Ddeheudir Cyniru ydoedd yr yraadawedig. Bu yn Ngholeg Hyfforddiadol Caerfyrddin yn 1871-72, ac ar ol bod am gyfnod byr yn feistr Ysgol Genedlaeth- ol Aberdare apwyntiwyd ef, tua 30 mlynedd yn ol, yn feistr Ysgol Genedlaethol Edeyrn. Cy- merodd yr angladd le ddydd Sadwrn. pryd v gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan rheithor, y Parch J. Morgan.
IGWBBCSAM.
I GWBBCSAM. CHWAREU CARDIAU AR Y SUL. — Gwysiwyd dau ar bymtheg o fechgyn leuamc o flaen ynadon Gwrecsam ddydd, Llun am hap- chwart 11 gyda cardiau ar ddydd Sul. Derbyn- iodd vr heddgeidwaid gwynion fod vr arfenad yn cael ei gario yn mlaen mewn rhanau o'r dref, a chadwasant wyliadwriaeth. Daethpwyd ar draws dau barti, un o'r rhai oedd yn cynwys deg ar hugain o bersonau, ond diang- oad y rhan fwyaf chonynt. Dywedodd y Maer, wrth osod dirwyon o 2s 6c i 7s 6c a'r cosfcau, fod yn rhaid ihoddi yr arferiad yma 1 lawr, a byddai i'r troseddwyr nesaf gael eu cosbi mor drwm a fyddai yn bosibl. ARWERTHIADAU'R Mri FRANK LLOYD A'I FEIBION. Dyddiau Mawrth, Mercher, Iau, a Gwener diweddaf cynhaliodd y Mri Frank Lloyd a'i Feibion eu harwerthiadau mawrion mis Mehefin yn eu harwerthfa, yn Ngwrecsam. Daeth agos i 1300 o geffylau o bob math o dan y morthwyl. Yr oedd y ceffyl- an o ansawdd dda drwyddynt, a'r prisiau yn hynod o foddhaol. Ychydig iawn o anifeiliaid a ddychwclodd heb gael eu gwerthu. Yr oedd prynwyr yn bresenol agos o'r oil o brif dref- ydd Prydain Fawr a'r Iwerddon, yn gystal a nifer liosog o'r Cyfanair. Cafodd y ddau ddiwrnod cyntaf eu cyfyngu at werthu ceffyl- an vsgeifn, tra yr oedd ceffylau trymion vn dyiJd o dan y morthwyl dydd Iau a dydd Gwener. Yr oedd yr arwerthiadau yn cael eu hystyried yn niysg y rhai goreu y mae genym hanes am danynt.
LLANABMON 'A LLANGYBI.
LLANABMON 'A LLANGYBI. MYN'D A DYFOD.-Mae y Parch T. Walters fu am lawer o flynyddoedd yn ngofal ysprydol y plwvfi hyn wedi ymadael gyda dymuniadau da pawb o'r ardalwyr am Lanfechell, Mon. Mae enw ei olyn- ydd o'r diwedd wedi ei wneud yn hysbys. Beth oedd amcan yr Arglwydd Esgob wrth fod mor ymarhous gyda'r penodiad ni wyddom, ond erbyn hyn gwyddis fod v Parch John Davies, ficer Dolyddelen, wedi der- byn y oynygiad roddwyd iddo gan yr Esgob. Or- deiniwyd Mr Davies yn 1884, a chyn ei benodiad i Ddolyddelen bu yn gurad Connah's Quay, Morton (Salop), a Llanrwst. Gwelir fod y rheithor newydd wedi gwasanaethu yn "Nghymru, Lloegr, a Llan- rwst!" Ni wyddem ond yn ddiweddar fod y Parch T. Walters yn fardd. Cyfansoddodd ddemyn teim- ladwy yn datgan ei ofid wrth adael ei hen gyfeillion yn Llanarmon, ond am y ficer newydd mae yn fardd a Ilenor pur adnabyddus mewn cylchoedd Eglwysig. Mae wedi gweithio yn rhagorol yn Nolyddelen, a diamheu genym y parha i weithio yn egniol, os yn ddirodres, yn ei blwyf newydd. Eglwyswyr Llan- armon a Llangybi rhoddweh dderbyniad caredig i Isfryn i'ch plith.
'LLEYN.
LLEYN. IECHYD.—Efallai y byddai yn dda gan rai gael gwy- bod sut iechyd gafwyd yn Lleyn yn ystod 1903. lihff y genedigaethau oedd 356, a'r rnarwolaethau 280, yn gwneud cyfartalodd y marwolaethau yn 17.0, o'i gyd- maru a 16.6 y Bwyddyn o'r blaen. Bu pymtheg-ar- hugain farw o'r darfodedigaoth. Nid rhyfedd i'r swyddog moddygol ddweyd fod eisieu pasio man- reolau (bye-laws) i reoleiddio carthffosydd, etc. 1
T/UHBWST.
T/UHBWST. MARWOLAETH MR DAVID HUGHES, PEN- LAN.—Dydd Llun diweddaf, yn 23 mlwydd oed, ar ot misoedd o nychdod, bu farw v dyn ieuanc rhag- orol uchod. Er ei fod amser yn 01 yn datgan gobaith a dymuniad am gael gwella, eto fel yr oedd v cystudd yn gweithio arno, ymdawelodd gan roddi ei holl obaifh yn yr Hwn a'i carodd. Yr oedd ei gariad at ei Waredwr yn fawr. Nid yn ami y cyfarfyddir a chymeriad mor ddymunol, nodweddid ef a sirioldeb bob amser. Yn ystod ei gystudd yr oedd ei ofal yn fawr am ei fam, yr hon fu bcunydd yn gweini arno. Y mae y cyfaill hwn wedi gadael arogl peraidd ar ei ol, y eymeriad dilychwin hwnw ag sydd yn werth ei efelychu gan ieucnctyd y wlad. Claddwyd ef dydd Iau yn mynwent capel Scion, gan dyrla. fawr. Y Parch W. Thomas yn gwasanaethu, RHEDEG Y SIOPAU.-Oddeutu chwe' mis yn ol aeth dyn o'r enw John Robert Griffith, i fasnach- dai y Mri J. Jenkins, a D. G. Wilson, i godi nwydd- au yn enw gwraig barchus yn ymyl y dref. Ym- ddengys fod y dyn yn perthyn i'r Fyddin ae wedi gwrthgilio, gan gerdded y wlad. Anfonodd yr ustus- iaid ef i sefyll -ei brawf yn Mrawdlys Rhuthyn yr wythnos ddiweddaf. Ar ol deall yr amgylchiadau, addawodd y Barnwr Wills ei ryddhau, ar yr amod ei fod yn myned yn ol at y fyddin, ac ymddwyn yn briodol. Addawodd yntau wneud. METHDALIAD TAFARNWR. Dydd Mawrth, gerbron y Cofrestrydd Thomas Jones, yn Mlaenau Ffestiniog, hysbysid fod dyledion Thomas Jones,Glan Conwy Hotel, yn 226p 17s 8c; dyledion heb eu sicr- hau, 202p Is 8c; gwerth yr eiddo tua 74p 6s. Honid mai achos y mothdaliad oedd "dyledion yr aeth ei ddiweddar wraig iddynt yn ddiarwybod iddo ef, a hawl am arian a roed yn fcnthyg gan ei fam-yn- nghyfraith nas gwyddai of ddim am danynt ac nad oedd yn eu cydnabod." Dywedodd y Methdalydd mai plastrwr ydoedd, ond yn 1895 dechreuodd fusnes fel tafarnwr yn y Plough Inn, Bangor, oedd yn dy rhwymedig f r Mri Ind, Coope, a'i Gwmni. Edrychai ei wraig ar ol y ty. Yn 1902 symudodd i Lanrwst, o dan yr un perchenogion. Rhaid ei fod mewn dyled ar y pryd, ond ni wyddai hyny, gan na ymyrai ef a busnos a roolid gan ei wraig. Rhoddid yr arian gan ei fam-vii-nghyfraith i'w wraig, ac ni wyddai ef am hyny hyd yn ddiweddar. LLYS YR YNADON. Dydd Llun, gerbron y Milwriad Johnstone ac ynadon eraill, dirwywyd John Williams, Wellington-place, Back Watling-street, Llanrwst, i 5s a'r costau am fod yn feddw yn y Coach and Horses Inn, Llanrwst, ar y 7fed o Fai. —Gofynodd Llewelyn Watson, Powell* s-terrac(-, Llan- rwst, am orchymyn yn rhwymo Evan Jones, labrwr, Heol Scotland, i gadw yr heddwch tuag ato, ond taflwyd yr achos allan heb alw ar yr amddiffyiiiad.- Am feddwdod dirwywyd y personau canlynol: Isaac Roberts, Bettws, Abergele; John Evans Chart, BIacnau Ffestiniog; John Casey, Heol Scotland, Llanrwst; William Hughes, labrwr, Llanrwst; Peter Davies, labrwr, Penucha'r Llan, Llanrwst; Jeremiah Jackson, labrwr,Heol Scotland; Edward Jones,River- terrace; a David Jones, Narrow-street, Llanrwst.— Am ymosod ar yr Heddwas Hugh S. Evans cyhudd- wyd John Casey, Hool Scotland. Caed ef yn euog, ac anfonwyd ef i dri mis o garchar gyda llafur caled. —Am yru deurodur heb oleu dirwywyd David E. Griffith, Glanypwll, Penmachno, i Is a'r costau.
N EFIN.
N EFIN. Mae gwaith dwfr yn cael ei wneyd ar gyfer Nefyn, poblogrwvdd yr hwn le fel ymdrochle iachus a dymunol sydd yn myned ar gynydd parliaus. pibelli dwfr av gyfer y gwaith yn cael en cludo o Bwllheli mewn ager beiriant sydd yn rhedeg ar y ffordd fawr, yr hon all gludo pum' tunell ar unwaith.
PEENTEG (ger Tremadog).
PEENTEG (ger Tremadog). PRIODAS.—Yn eglwys y plwyf, Dolbenmaen, dydd Mawrth, unwyd yn nghwlwm priodas Mr Richard Pritchard, lay reader, Prenteg, a brodor o j Amlwch, a Miss Ellen M. Owen, Bodfean Mills, Pwllheli. Gwasanaethwyd fel morwyn y brioda? ferch gan Miss Williams, Siop, Abersoch, merch r Cynghorydd Abel Williams, tra y gwasanaethai Parch D. F. Hughes, B.A., Penmorfa, fel gwaa 5 priodfab. Yn ystod yr amser y gwasanaethdd Mr Pritchard yn Prcnteg yr oedd yn dra derbyniol yn v cylch, ac mae iddo a'i wraig ddymuniadau goreu llu- aws o ewyllyswyr da yn eu "byd newydd."
PENEHYNDEUBEAETH.
PENEHYNDEUBEAETH. NODACHF A.-Da gonym glywed fod elw o 24p wedi cael ei wneud allan o'r nodachfa gynhaliwyd yma yr wythnos ddiweddaf er budd cronfa organ yr eglwys. Agorwyd y nodachfa gan Mrs W. Wil- liams, Boston Lodge.
'PENTBE'EFELIN-
PENTBE'EFELIN- MARWOLAETH.—Dydd Mawrth rhoddwyd i or- wedd yn mynwent eglwys Ynyscynhaiarn weddillion Miss McLean, un y crybwyllwyd yn fyr yn ein rhifyn diweddaf am dani. Claddedigaeth anghyoedd yd- oedd. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch John Owen (M.C.), Criccicth, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch R. R. Roberts, curad, Ynyscyn- haiarn. Teimlir cryn chwithdod am gryn amser yn y pentref hwn ar ol cymeriad mor loew a dichlyn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. Y DRETH.—Bydd treth y tlodion y tro nesaf yn 2s 8c yn y bunt. LLWYDDIANT.—Llongyferchir y Parch D. Treborth Jones, mab y Parch J. Jones, F.R.G., ar dderbyniad o hono y radd o B.A. yn Ngfiaer- grawnt, gydag anrhydedd. Y CLWB CEIDWADOL.—Dywedir wrthym fod rhif aelodau y Clwb Ceidwadol yn 230. Mae ymdrechfa galed yn myned yn mlaen ar hyn o bryd am gwpan arian werthfawr, rhoddedig pan Mr R. A. Naylor, yr ymgeisydd Ceidwadol dros y Bwrdeisdrefi. DAMWAIN.—Yr oedd dyn ieuanc o'r enw Richard Owen, Penrhyn-y-dyn, Rhydclafdy, yn ngofal cert, yn cael ei thynu gan ddau o geff- ylau, pan y dychrynwyd y ceffyl olaf gan ger- bvd motor. Taflwyd y gyriedydd i laivr ac aeth y cert dros ranau o'i gorph. Gwasanaethwyd I arno gan Dr. Jones-Evans, yr hwn a ganfydd- odd ei fod wedi ei niweidio yn ddifrifol, ond nad oedd yr un o'i esgyrn wedi eu tori. IECHYD Y DREF.—Gwelwn oddiwrth adroddiad y swyddog meddygol fod yna 85 o onedigaethau yn y fwrdeisdref yn ystod y flwyddyn 1903, tra yr oedd rhif y marwolaethau yn mhlith y trigianwyr yn 15.9, o'i gydmaru a 21.4 yn 1902. Mae hyn yn lleihad lied foddhaol. O'r rhif uchod yr oedd 29 dros bump a thriugain oed. Bu i unarddeg farw o'r darfodedig- aeth. Bu y cyflonwad dwfr yn ystod y flwyddyn yn foddhaol. MARWOLAETH.—Foreu Iau taenwyd y newydd pruddaidd fod corph yr hen chwaer Mary Williams, Penrhydlyniog, wedi ei dargan- fod yn farw yn y gwely. Yn y trengholiad a gynhaliwyd gan Mr Robyns Owen daeth allan mai y tro olaf y gwelwyd hi yn fyw oedd y nos Fercher blaenorol. Ymddengys ei bod yn agored i ymosodiadau o glefyd y galon. Dych- welwyd rheithfarn o "Farwolaeh oherwydd achosion naturiol." PENODIAD.—Dwy bunt yn yr wythnos yw y cyflog gynygid i "clerk of the works" mewn cysylltiad a chynllun mawr yr harbwr, ond er hyny ymgeisiodd 63 am y swydd. Tynwyd y rhif i lawr i'r saith eanlynol :-John Jones, Pwllheli; J. H. Roberts, eto; Hugh Hughes, Caernarfon; R. Arthur Thomas, Porthaethwy; Owen Parry, Elan Village; T. B. Farrington, Llandudno; a W. O. Daniel, Pontardawe. Pan fotiwyd gyntaf tynwyd y rhif i bump, yna i dri, sef Jones, 3; Hughes, 6; a Thomas, t. Felly Mr R. A. Thomas a etholwyd. PLENTYN AR GOLL.—Cafodd llawer o bobl yr wythnos ddiweddaf ou siomi yn aruthr: rhai o ddi- ffyg gwybodaeth well o'r iaith fain, a'r lleill oher- wydd diffyg craffineb. Ymddengys i rybudd gael ei roddi yn ffonestr siop neillduol yn nghyfeiriad y farchnad fod plentyn ar goll, ac fod yna swm anrhyd- oddus yn cael ei gynyg am ddod o hyd i'r plentyn colledig. Aeth yn ferw gwyllt ar unwaith. Chwil- iodd llawer o rieni am eu plant rhag ofn mai eu plen- tyn hwy ydoedd; aeth eraill allan i holi pa le y coll- wyd ef, tra yr oedd eraiU mwy awyddus na'u gilydd yn son am "dynu" yr afon. O'r diwedd daeth y "gath o'r cwd," pan wnaed yn hysbys mai tra yn bwyta rhyw fath neillduol o fara y collwyd y bach- gon, ac nad oedd y cwbl ond cynllun er hysbysebu rhyw fara neillduol. Dychrynwyd y siopwr gymaint fel yr aeth at swyddog yr heddweh i ofyn ei farn am y rhybudd, a da gan ei galon oedd deall nad oedd dim poryglus ynddo. CYNGHERDDAU AR Y SULIAU.—Fel mae'n wybyddus bu cryn siarad yn ddiweddar yn y Cynghor Trefol, yn y dref, ac o'r tuallan, ar y pwnc o briodoldeb neu yr anmhriodoldeb o gynal cyngherddau ar y Sul ar ol y moddion gras. Tybiai un blaid, gyda Mr Eifl Jones fel arweinydd, mai tueddu at niweidio moesoldeb y to ieuainc fuasai cyngherddau ar y Sul, tra y dadleuai eraill mai ymdrech onest ydoedd i wella moesau, trwy gael y bobl o ddilyn pethau hollol ddiles i ystafell lie y gellid gwneud rhyw gymaint o ddaioni iddynt. Yn y Cynghor Tref- 01 diweddaf rhoddodd y Maer ei bleidlais der- fynol o blaid y cyngherddau gan i'r pleidleisiau fod yn chwech o'r ddeutu. Ymddengys erbyn hyn mai fotio ddarfu Mr H. P. Jones o blaid y cyngherddau 0 dan gamargraph ei fod yn pleid- io yr ochr arall. Dywedodd y Clerc Trefol pan fydd aelod o Dy y Cyffredin yn gwneud cam- gymeriad o'r fath, mai cymeryd canlyniadau y cyfryw weithred y byddai. Nid yw Mr Eifl Jones yn barod i adael y cwestiwn yn y fan yna, ond mae wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i gynyg fod y penderfyniad o blaid y cyngherddau i gael ei dynn yn ol. Cawn weled beth ddaw o'r mater yn y diwedd. Y CYNGHOR TREFOL.—Cynhaliwyd hwn nos Fawrth, Mr R. Ivor Parry (Maer) yn y gadair. 0 berthynas i'r annealltwriaeth fodola cydrhwng y Cynghor ag hyrwyddwyr Rheil- ffordd Ysgafn Nefyn mewn perthynas i ffordd Ala, dywedodd yr Henadur Anthony ddarfod iddo ef a Mr A. Ivor Parry ymweled a LIun- dain i roddi tystiolaeth o flaen Dirprwywyr Ffyrdd Ysgeifn. Cwyn yr hyrwyddwyr oedd y buasai gofynion y Cynghor Trefol yn meddwl cost ychwanegol o 19,000p iddynt hwy trwy i fyned o'r tu ol i ladd-dy neillduol, tra y costiai "viaduct" ar draws y Maes 10,000p yn ych- wanegol. Ymddengys, fodd bynag, fod gan yr hyrwyddwyr arall erbyn hyn, yr hwn y gobeith- id fuasai yn dderbyniol gan y Cynghor; felly, ni phenderfynir dim hyd nes deallir beth yw y cynllun newydd. Pasiwyd- diolchgarwch i'r ddau foneddwr am fyned i Lundain a gweithio mor rhagorol. Bu cryn siarad yn y Cynghor ar y pwnc o gael archwiliad trwyadl ar lyfrau y Cynghor. Dadleuai yr Henadur Anthony fod hyny yn awgrymu, i ryw fesur, nad oedd sef- yllfa arianol y dref yn berffaith iach, pan mai y gwirionedd oedd na fuont erioed mewn gwell cyflwr. Siaradai eraill mai nid dyna oedd yr amcan mewn golwg o gwbl. Buasai yn gyn- orthwy i gyfrifydd y dref pe gwneid archwil- iad, a dywedid fod y person hwnw o blaid yr archwiliad. 'Roedd yn bosibl gwella ar y dull presenol o gadw'r llyfrau, a ebydar amcan hwnw mewn golwg buasai yr arian delid wedi eu gwario yn dda. Y diwedd fu anfon y pwnc yn ol i'r Pwyllgor Arianol i ystyried y peth yn mhellach. Penderfynwyd myned i ohebiaeth a dau o bartion sydd wedi anfon am ganint.id i fwynhau pobl gyda chyngherddau, etc., yn ystod tymhor yr haf. LLYS YR YNADON. Eisteddai Mr R. Carreg ac ynadon eraill. Ar archiad Mr H. Pritchard gwnaed archeb i orfodi tenant ar ystad yr Anrhydeddus F. G. Wynn i ymadael o'i dy.-Mown achos o bysgota. anghyfreith- lawn a honid yn erbyn Frank Williams, Llan- engan, dadleuid gan Mr William George fod gan berson unigol hawl i achwyn ac il gymeryd me3urau vn erbyn un ddelid yn pysgota yn v cvfryw fodd, tra y daliai Mr A. Ivor Parry mai gan y Bwrdd Pysgota yn unig yr oedd yr hawl. Gwrandawcdc1 y Fainc yn amyneddgar ar y ddau dwrne yn pledio eu hachos, ond yn v diwedd cynghorodd Mr Cledwyn Owen, y derc fod gan berson unigol hawl i achwyn. Mewn Cfuilyniad dirwywyd Williams i lis (gymaint ddwy waith a gwerth trwydded) gvda chostau. yn cyrhaedd lp 4s 9c. Hysbysodd Mr Parrv nad oedd yn anmhosibl y byddai v diffynydd yn aneIto yn erbyn dyfarniad y Fainc.—Daeth swyddogion yr Inland Revenue a chynghaws yn erbyn Thomas Williams, Nefyn, o gadw ci heb drwydded. Hawliai y swyddog fod ganddo lythyr oedd yn gwneyd yn eglur lod y cyhudd edig yn euog, ond ymddangosai nad oedd gan- ddo hawl i'w ddarllen. Ar ran y diffynydd. dros yr hwn yr ymddangpsai Mr Arthen Owen, dywedid fod y ci wedi ei werthu am haner coron fisoedd cyi y cyfnod am ba un y cyhuddid ef. Trwy fwyaf rif penderfynodd y Fainc daflu yr aclioa allan. Achos doniol ydoedd hwnw yn mha un y gwysid Jane Hughes, Penrhydlyniog, gan ei chymydoges, Ann Hughes, am dori yr heddwch. 'Roedd y tystion benywaidd yn eu helfen yn siarad ar draws eu gilydd, rhai yn cyffwrdd a'r pwnc a'r Heill am ddod a phethau anmherthynasol i mewn i'r achos. Dangosodd un hen wraig dusw o wallt a dynwycr yn ystod yr ysgarmes, tra yr honai tyst arall nas gallai yr un Cristion perffaith ddylanwadu ar y ddi- ffynyddes i fod yn, llonydd ddydd yr ysgarmes. Soniai un arall o'r tystion fel yr oedd wedi achub bywyd y ddiffynyddes trwy ei rhoddi o dan ei skert. Penderfynodd y Fainc rwymo v ddiffynyddes yn y swm o 5p i fod o gymeriad da. Dywedodd hithau ei bod am fyned i fyw i ran arall o'r dref, i'r hyn yr atebwyd fran yr Uwch-arolygydd • Jones y byddai yn dda ganddo pe y clywai ei bod am fyned o'r .dref yn gyfangwbl.—Taflwyd allan yr achos ddygid gan Mary Evans, Madryn Arms, Nefyn, yn erbyn Thomas Wynne, Mae3 Square, o'r un lie am ymosodiad. Ymddangosai Mri E. R" Da- vies ac A. Ivo" Parry d/os y partion.—Yn yr un modd v setlwyd yn achos ddygid yn erbyn Griffith Pritchard, Gwestin House, Rhos, Llannor, gan Humphrey Parry, Llwyndyrus, Abererch. Mr E. R. Davies a Mr William George oedd y cvfreithwyr yn yr achos uchod. —Anfonwyd cardotyn o'r enw James Wain wright i garchar am b37thefnos am gardota yn Llanbedroa. 'Roedd ef wedi ei ollwng yn rhydd yn Mhwllheli y dydd cvnt trwv ddo add- aw gadael yr ardal. Dywedodd y Fainc fod ei ddwylaw mor feddal a "dwylaw merch," ac llad oedd arno eisien gwaith.—Am dori ffenestr ty yn Llanengan dirwywyd William Jones Pengamdda, ba-ier coren a'r costak.-Cydria. byddodd Thos. Griffith, Morfa Nefyn, fod v cv huddiad ddygid yn ei erbyn o feddwdod vn iawn, a dirwywyd ef haner coron a'r costau.
PENMORFA.
PENMORFA. Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyngherdd mawreddog a llwyddianus yn Nghapel Seion (A.), dan lywyddiaeth Mr J. R. Owen, Porth- madog, ac arweinyddiaeth Mr J. Jones-Morris, cyfreithiwr. Amcan y cyngherdd oedd chwyddo cronfa y capel. Bu y pwyllgor yn ddigon ffodus i sicrhau gwasanaeth Gutyn Eifion a Mrs Eifion Jones, Garn, a Mr Alex. Henderson, Penygroes. Fel atdyniad ychwan- egol cynygid gwobr o ddwy gini am y dadganiad goreu o her unawd i feibion neu ferched, y can- torion i ddewis eu dernyn eu hunain. Ymgeis- iodd saith yn y rhag-brawf, a chafodd pump y llwyfan. Canasant fel y canlyn:—Mr R. Tec- wyn Jones, Llanfrothen, "The trumpet shall sound" a'r "recit" perthynol; Mr D. R. Jones, Porthmadog, "The Lord worketh wonders;" Mr Wm. Thomas, Ffestiniog, "Craig yr Oes- oedd;" Mrs Henderson Jones, "Hear, ye Is. rael;" a Mr J. T. Owen, Blaenau Ffestiniog, "Lead, kindly Light." Dywedodd y beiruiad cerddorol y disgwyliai gael gwell dadganiada i o'r unawdau gan gantorion mor alluog; eto yr oedd y gystadleuaeth yn un ganmoladwy iawn. Safai y gystadleuaeth cydrhwng Mrs Henderson Jones a Mr J. T. Owen. Yr oedd ef wedi clywed Mrs Jones a Mr Owen yn canu lawer yn rhagorach o'r blaen. Nododd amryw frych- au yn y datganiad, ac wedi cyd-bwvso y naill ddatg^niad a'r lleill nis gallai wneyd yn well na rhanu y wobr cydrhyngddynt. Yn vstod v cyfarfod rhoddodd Mr W. 0. Jones, A.U.C.W.. y beirniad cerddorol, ddatganiad o amryw ben- illion priodol i'r delyr., ond yn absenoldeb telyn gwnaeth y berdoneg y tro. Pasiwyd diolchgarwch i Mr D. F. Hughes am chwareu ac eraill am gynorthwyo. Canodd y cantorion cvflogedig yn rhagorol iawn, ac encoriwyd hwy oll. Cyngherdd blasus.
PENTIR.
PENTIR. CLWB CEIDWTADOL. Y mae y gvmdeith- as hon yn myned rhagddi mewn cynydd, ac mewn dyddordeb. Mae agos i ddeugain o 3001- odau wedi taflu eu coelbren i'r gymdeithas hon. Eled yn ei blaen eto fwyfwy yw dymuniad un sydd yn cymeryd dyddordeb ynddi. CYFARFOD BLYNYDDOL. Bydd cyfar- fod fciynyddol yn cael ei gynal yn Eglwys St. Kedol, Pentir, nos Sadwrn a dydd Sul, 2oain a'r 26ain o Fehefin, y Sul nesaf. Bydd y gweinidogion cynlynol yn pregethu :—Parchr>. I Evan Davies, Llanllecnid; D. O. Davies, Llanddeiniolen; R. R. Hughes, St. Mair, Ban gor. Bydd yr offrvmau yn cael eu cyflwyno i'r Gymdeithas Genhadol Gartrefoi.
[No title]
Parch i'r sawl y mae parch yn ddyledus, set Mr Griffiths, Gorsaf-fei&tr, Llanfair C. Gwir* binagD geir heb anair-Griffiths yw, Graffus wr yn Llanfair: Un ddyg eon dda gywair, Dwys ei glod a disigl air. MEIRIADOG. John Vaughan oedd un o'r udganwyr a fyn- egasant fod Blucher yn dyfod i helpu Welling- ton yn mrwydr Waterloo. Y mae yn gant a thair blwydd oed. Treulia weddill ei oes yn awr yn nhlotty liipon.
PBNEEYHDEUDBAETH.
PBNEEYHDEUDBAETH. YR EGLWYS. Dydd Sul diweddaf bu y Parch D. T. Hughes (Morfa); rheithor Tal- sarnau, gyda ni yn holi y rhai mewn oed a'r plant yn yr Ysgol Sul. Datganodd y gwr parch- edig ei toddlonrwydd yn yr atebion. Awgrym dda o'i eiddo oedd ar fod i'r ysgol fabwysiadu Maes Llafur yr Esgo.baeth. Mae hwnw wedi ei drefnu yn ofalvis, ac anhawdd fuasai cael dim mwy pwrpasol. Traddododd Mr Hughes dair o bregethau hefyd yn ystod y dydd.
i PORTHMADOG.
PORTHMADOG. ENWADOL.—Mae Mr, Jonathan Davies, o'r dref hon, wedi ei ethol yn aelod o Fwrdd Ymddiriedol- wyr y Cyfundeb Mothodistaidd dros Ogledd Cymru. CRICET.—Bu clwb y dref yn mhrif dref y sir dydd Sadwrn, a da genym glywed iddynt ddod adref yn fuddugoliaethus yn yr ymdrechfa gyntaf oddicartref. Deallwn iddynt guro eu gwrthwynebwyr gyda 10 yn ychwaneg o "runs." CERDDOROL.—Mae y rhai canlynol wedi pasio arholiad Trinity College, LIundain, ac wedi enill tystysgrifau am chwareu y berdon- eg :—Intermediate: Miss Myfi Owen, Belle Vue, a Miss Gwladus Arthur, Llanbedr. Junior: Miss Helena Jenkins, Medical Hall. Prepara- tory grade: Miss Edith May Jones, Madoc House. Mr C. McLean yw eu hathraw. DARLITHOEDD GILCHRIST.-Beth amser yn ol bu i rai o'n gwyr blaenllaw wneud ym- gais er sicrhau traddodiad cyfres o'r darlith- oedd uchod yn Mhorthmadog er lies y cylch. Yn'ddiweddar daeth atebiad i law yn gwrthod y cais, ond yn dweyd y cedwid seddau ar gyfer y Porthmadogiaid yn Mhwllheli. Mewn cyfar- fod gynhaliwyd nos Fawrth o'r Pwyllgor Cyff- redigol teimlid y byddai yn dra anghyfleus i nifer luosog ymbresenoli eu hunain yn Mhwll- heli, a phenderfynwyd anfon petisiwn at yr ym- ddiriedolwyr yn gofyn am gyfres o ddarlith- oedd, os nad y flwyddyn hon, yna y flwyddyn nesaf. Y GRONFA WADDOLIADOL.—Fel y mae'n wy- byddus, mae symudiad ar droed yn mhlith yr Eg- lwyswyr yma i gasglu yn nghyd gronfa ddigon mawr i sicrhau cyflog rheolaidd a lied foddhaol i'r ficer. Disgwylid y galluogid y pwyllgor i gau i fyny y gronfa yn mis Mehefin, ond gan fod rhai addewid- ion heb ddod i mewn nid yw hyny wedi ei wneud, ond mae swm digonol wedi ei dalu yn mlaen i sicr- hau- y fantais oddiwrth y cynllun. LIongyferchir Eglwyswyr y Port ar lwyddiant yr anturiaeth hon i sicrhau gweinidogaeth reolaidd yn eu plith, er gwaethaf beth all ddigwydd yn hanes yr Eglwys. Onid yw y cynllun yn un gworth i rif ychwanegol geisio ei gario allan? Tra mae heddweh yn teyrnasu mae gwneud hyn, bid sicr; nid yn nghanol berw y frwvdr. MARWOLAETH EGLWYSWR .SELOG.— Boreu dydd Sul diweddaf, ar ol dioddef cystudd caled am dros wythnos o amser, bu farw Mr Robert Roberts, ceidwad y Clwb Ceidwadol, yn ddwy a deugain oed. Dyn oedd yr ymadawedig a nodweddion amlwg i'w gymeriad. Yr oedd yn hynod am ei sel frwdfrydig yn mha beth bynag gvmerai mewn Haw. Flynydd- oodd lawer yn ol hynododd ei hun fol chwareuwr medrus, ac hyd y diwedd cymerai ddyddordcb mewn chwareuaethau a chystadleuaethau. Ni wyddom am fawr neb dderbyniodd fwy o les oddiwrth chwareu- aethau nag ef, oblegid cawn fod deuparth o'r un ys- bryd yn ei nodweddu yn ei berthynas a'r Eglwys. Anaml y gwelid ef yn absenol o'r gwasanaethau, a phan y byddai unrhyw gyfarfodydd eraill yn nglyn a'r Eglwys, yr oedd y cyfaill ymadawedig yn sicr o fod yn brosenol. Yn nosbarth Dr. Griffith yn yr Ys- gol Sul efe a gadwai y rhestr yn ofalus, ac yn ddios teimla yr athraw a'r ysgolheigion chwithdod ar ei ol am hir amser. Ond yn nglyn a'r clychau son- iarus sydd yn nhwr yr cglwys y sylwasom fwyaf ar neillduolrwydd ei sel. Am flynyddoedd lawer rhodd- odd ei wasanaeth rhad gydag aolodau oraill y Guild of Bellringers i alw ar drigolion y dref i bresenoli ou hunain mewn moddion gras, ond erbyn hyn mae ei le yn wag, ac adgofir ni o'r teimladau difrifddwys gynwysir yn y gan Seisnig brydferth hono: "The Lost Chord." Ein cyfaill oedd yr aelod cyntaf o'r Guild i gael ei dori i lawr, ac ar y cyfrif hwnw, yn ogystal ag oherwydd ei natur dda wastadol, bydd i'r golled gael ei theimlo yn fwy. Dydd Mercher cym- erodd y glacldedigaeth le yn y cemetery. Cludwyd yr arch gan yr Odyddion hyd lan y bedd, pan yr ym- ddiriedwyd y gorchwyl o ostwng ei gorph i'w hir gartref i'r- clychwyr, o dan arolygiaeth Mr John Owen, New-street, yr arweinydd. Fel yr oedd y cynhobrwng yn myned heibio eglwys St. loan can- wyd cloch (tenor) yr ymadawedig, yr hon oedd wodi ei mwfflo, gan Mr Eric Thomas, yr hyn oedd yn darawiadol dros ben. Ar ol y gladdedigaeth canodd yr aelodau "muffled peal." Gwasanaethwyd yn yr angladd, yr hwn oodd yn neillduol o luosog, gan y Parch J. E. Williams, M.A., ficer, a'r Parch T. A. Williams, B.A., curad hynaf. Yr oedd y ddau off- oiriad cynorthwyol hefyd yn breeenol. Anfonwyd plethdorchau gan Mr a Mrs Percival, rhoddwyr y twr a'r clychau sydd yn nglyn ag oglwy. St. loan; pan Mr Logan, Penrhyndeudraeth, ac un arall, ar ffurf cloch, gan aelodau y Guild of Bellringers. Dydd Sul gwnawd. oyfeiriadau at yr ymadawedig gan y Ftcor o bwlpud St, loan. GWIBDAITH.—Edrychir yn mlaen gan y to ieu- ano at wibdaith flyhyddol Ysgolion Sul yr Eglwys y mis nesaf. Eleni eu cyrchfan fydd Aberystwyth, a diamheu y cymer llawer fantais o'r cyfleusdra i dalu ymweliad a'r ymdrochle prydferth hwnw. CYNHAUAF.—Mae'r cynhauaf eisoes wedi dechreu. Mr R. M. Greaves, Y Wern, yw y cyntaf i ddechreu, fel rheol, yn y gymydogaeth hon, ac y mae wedi dal i fyny ei hynodrwydd y flwyddyn hon eto. Mae cnwd yn gryf a thrwm, ac yn ychwanegol mae'r borfa yn well nag y mae neb yn gofio. LLYS YNADOL.—Dydd Gwener, o flaen y Mri R. M. Greaves, J. A. A. Williams, a Dr. S. Griffith. Ar apeliad Mr Tobias, ar ran Syr Hugh Ellis Nanney, Bar., caniatawyd aroheb i orfodi tenant ar Ystad Gwynfryn i ymadael o dy neillduol am resymau arbenig. Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr Walter Jones, ieu., Mr E. E. Owen, a'r Heddgeidwad Lloyd. Rhoddodd y ddiffynyddes fel rheswm dros beidio ymadael nad oedd ganddi dy i fyned iddo. Am feddw- dod dirwywyd Chas. Humphreys, Garn, i 10s a'r costau. Nid hwn oedd y tro cyntaf o lawer i'r diffynydd ymddaiigos o "flaen ei well," ond dy- wedodd ei fod y tro hwn wedi cymeryd yr ar- dystiad dirwestol. Am fod yn feddw yn Lom- bard-treet, dirwywyd William Jones, East Avenue, 5s a'r costau. Protestiai y diffynydd nad oedd yn feddw fel yr honid gan yr hedd- weision. Haner coron oedd y ddirwy roddwyd ar George Bishop, yr hwn sydd yn gweithio L..r reilffordd newydd Beddgelert. Mr Caer Jones a erlynai amryw rieni am esgeuluso anfon eu plant i'r ysgolion elfenol. Dirwywyd Catherine Love, Criccieth, Robert Griffith, a D. Morrip. Roberts, Porthmadog, 5s a'r costau. Ym- ddangosodd Mr Tobias dros yr olaf. Gohiriwyd achos H. Foukes hyd y tro nesaf, er mwyn rhoddi iddo gyfleusdra i ddwyn i'r llys dystys- grif feddygol. Mynegodd y Fainc ei bod yn benderfynol o gynorthwyo yr awdurdodau sirol i sicrhau presenoldeb cynrychioliadol yn yr ys- golion.
lUlIW (Lleyn).
lUlIW (Lleyn). Deallwn fod yna debygolrwydd y bydd ty i'r ysgol- feistr yn y lie hwn yn cael ei adeiladu cyn bo hir. Mae ymdrechion wedi cael eu gwneud yn flaenorol i gael yr awdurdodau i symud yn y cyfeiriad hwn, ond yn aflwyddianus. Os cymer yr awdurdod sirol y. pwnc i fyny o ddifrif, gwnant gymwynas nid yn unig a'r ysgolfeistr ond a'r ardal. PRYSURDEB MASNACHOL.-Mae pethau wedi nowid er gwell yn ddirfawr yn v lie hwn yn ddiwedd- ar. Mac y gwaith mwn yn cyflenwi gwaith a chyf- log i nifer fawr o ddynion; mae y cynllun ddyfeis- iwyd i gludo yr hyn a gloddir o'r gwaith i'r lanfa wedi troi yn llwyddiant ac yn gweithio yn rhagorol; mae tai yn brin, ac ar v cyfan, mae gwcdd fasnachol yr ardal yn fwy llewyrchus nag y gwelsom hi ers llawer iawn o amser.
TBEGaRTH. •
TBEGaRTH. • GWELLA.—Yr ydym yn deall fod Mr Thos. Price, New Cottage, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain yn Chwarel y Penrhyn tua phythef- nos yn ol, yn parhau i wella. FFORDD NEWYDD.—Mae y ffordd newydd o'r station i'r Dinas yn debyg o gael ei chwbl- han yn ystod yr haf. Bydd y ffordd hon yn gaffaeliad rhagorol i'r gymydogaeth. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Mercher di- weddaf daeth y newydd galarus i'r gymydog- aeth yn hysbysu fod Robert John, 17eg mhvydJ oed, mab Mr Thomas William Jones, Pen'rala gynt, ond yn awr yn Deheudir Cymru. wedi cyfarfod a damwain yn y gwaith gio, yr hyn a brofodd yn angeuol iddo. Claddwyd ef yn Tre degar, dydd Sadwrn. Mae yma gydymdeimlad dwfn a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.
TOWYN (Memcnydd).
TOWYN (Memcnydd). CYNHAUAF. -Mr Howard Daniel, Bryn- hyfryd a Mr Richards, vet., yw y rhai cyntaf yn y cylch yma i dori eu gwair. Mae y enwd vn doreifhiog ac o ansawdd dt,. LLWYDDIANT. — Mae Miss A. May Jonn a Mr Willie Donne Hughes wedi pasio yr ar- holiad cyntaf ar chwareu y berdoneg. Disgybl- ion Miss May Roberts, L.R.A.M., o r \sgol Sirol, ydynt.
TEAWSFYNYDD.
TEAWSFYNYDD. Y MILWYR.—Parhau i gyrchu yma y mae ein hamddiffvnwyr. Cyrhaeddodd dau "battery" yr wythnos ddiweddaf. Mae y tywydd yn dra anffafriol iddynt gyda'u hymarferiadau, ac nid yw eu gwely yn y gwersyll mewn lie hyfryd dan y. fath wlawogydd. Nid oes dim cyrchu yma i'w gwfeled, eleni. Mae y newydd-deb wedi gwisgo ymaith hwyrach, ac mae y Ile yn hollol glir o ymwelwyr am iechyd. Mae roagnelwvr y milwyr wedi eu dyohrynu. Y GYMANFA.—Cynhaliodd y Wesleyaid gymanfa ganu flynyddol y gylchdaith yma cleni. Ni bu y pentref hwn yn ol i unrhyw le yn croesawu y gymanfa flodeuog hon. Yr oedd capel Moriah yn orlawn yn ystod y tri cyfarfod. Arweiniwyd y canu gan Mr Wilfred Jones, R.A.M., a mawr ganmolai y cantorion. Ymollyngodd pawb i'r gwaith o ddar- paru er sicrhau llwyddiant yr wyl, a choronwyd eu hymdrechion. Os am eel a gweithgarwch efelychwn y brodyr y Wesleyaid. Cafwyd unawdau yn nghy- farfod yr hwyr gan y Mri J. T. Owen a D. Morris, a rhanwyd nifer o dystysgrifau cerddorol i'r plant llwyddianus yn yr arholiad. YR EISTEDDFOD.-Mae dyddiad hon bellach yn ymyl, ac mae argoelion disglaer iawn am eisteddfod benigamp. Mae nifer yr ymgeiswyr yn y gwahanol adranau yn neillduol o luosog. Ymdrecha unarddeg o feirdd am y goron yn unig. Mae cymaint a 26 yn ymgeisio ar y prif adroddiad, a'r unnifer ar yr ail adroddiad. Cawn fod 25 ar y maes ar yr her unawd, a 17 ar y ddeuawd, a thros 50 ar yr unawd- au. Clywsom hefyd fod y cynyrchion ar y cel- fyddydwaith dan gamp. Cawn hefyd y pleser o wrando ar Gor Plant y Bryniau yn ymladd a'r ddau gor lleol. Rhaid i'r cantorion corawl lleol, yn fach a mawr, edrych ati. Ymwrolwch i'r gad. Bydd Mr Glyndwr Richards yn clorianu y cantorion, a Llifon yn arwain yr wyl.
Advertising
MAE RHAID MYNED GWAED! AT Y jt 0 Y Gwaed yw'r Bywydt J' Y Gw"d yw'r N erth f 1t Y QWMD JTT Pobpoth TUiS pawb—a chwt yn «u mnr-ya agored i nifor f»wr o glefydau. Paham felly t Oherwydd fed Anmhurdeb yr Awyr. Ammhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwjdydd, ac Anmhurdeb pethau amgylohiadol, yn erem ▲amhtfrdeb yn y Gwwd. A. phan y bydd y Qwaed yn eael «i lygru a'i wenwyno, y mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, TARDDIANTAU Y CROEN. RASH, PENDDYNOD, CORNWYDON, ECZEMA, LLYGRIADAU, GWYNEGON, COSSAU CLWYFEDIG, CANCER CLWY'R BRENIN, X llu 0 slefjdan oreill y eorff a'r ymeaydd i ruthro ar wahanol ranau o'r cyfansoddiad. 1'.81111' ..tal a. rhq1la8nu rkan twyAt o'r clef.,dau tIC sydd yn blino yr hil ddynol, drwy Cad w'r Gwaad ya Bar T mae miloedd yn bilrod i dyatio a phrofl fod HUGHES'S BLOODPILLS Yn puro y Gwaed, ae yn ei gadw yn Bur. 0» byddweh yn dyoddef oddiwrth DDOLUR PEN, DIFFYG TRAUL. POEN CEFN, BILIOUSNESS, GWYNT, AFU DDRWG, CORFF-RWYMEDD, NERVES GWAN, ANHWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENAU, Cofiwch fod gwreiddyn y drwg ya y GWABD, a bod ya rhaid myned at y Gwaed cyn y gelllr oael iaehad gwirioneddol MAs HUGHES'S Blood Pills YX CARL nrfJiITH UKIOHGTMCHOL Alt Y OWARD, AC AS YA MOLL OTFAMOODIAD. Rhoddwch Brawf Arnynt. Mynwch Heb weled Go Hwn Llun y Galon Twyll ar bob Box. IT" Ydyw. Ar werth can bob Chemist a Stores am is i ic, ta 9c, a 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn P. O. neu stamps, at JACOB HUGHES, M.P.S.L.D.S., MANUFACTURING CHEMIST. PENARTH, CARDIFF. RODDASOCH CHWI BRAWF AR Gomer's Balm? ELI YW HWN AT BOB CLWYF. Mae Gomer's Balm' yn iachau braidd yn wyrthiol holl Glefydau allanol y corti, megys, Olwyfau, Rash, Scurvy, Eczema, Lloegiad- au, Piles, Penau Crachlyd. Llygriadau Plant a Benywod, Dwylaw Toriadol, Mal- aethau, Tarwden, Crafu, Cymalau Poenus. tar GOESAU DRWG 'Doee dim o'i fath. Rhoddweh brawf arno. Gofynwch am Gomer's Balm,' a mynweh weled eaw JACOB HUGHES ar bob box-heb hya twyll ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am is I ie, neu danfoner ei werth mewn stamps, nw P. 0., at JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST PENARTH, CARDIFF. MIDLAND GUN CO. Department 7, Demon Gum Works, Veaey St.. Birmingham. GUNS FROM 25s. TO zP,25. 4 FAR-KILLING GUNS, AT WHOLESALE PRICES- Double Breechloaders, from 25s. to £10. Hammerleaa, from £15 to ie20. Hammerless Ejectors, from £ 8 to £25 0,000 Guus and Rifles usually in sock ready for imme- diate delivery. Send three stampstfor a Price List. We make every part of a gun in our own works, and sel direct to the user at one small profit. We send any gun on approval, pay carriage both ways if not satisfactory and return cash in full. W0 take any second-hand gun, central or pin-fire, breech or muzzle-loading, in part pay- acsh a neW one*or any second-hand gxm foe M' FOR ROOKS. PIGEONS, RABBITS 15s. single barrel 12 bore breech-loading Miotguna converted from rifles and bored by an improved proceaa for long range and great penetration unequalled for rook, pigeon, rabbit, wildfowl, and all long-distance shotting4 price 15s.; or better quality and improved safety action, l,IQUN°SREPAIRD —Guns by any maker Pr°mply re- quired, very best material and workmanship, at aoout half dealers' charges. New atockes or new barrels tLttea Darrels browned or bored. Gun converted from pin to central fire, and done up as new, at small cost. Exact price given for all repairs if desired before the work esmraeuiced. Guns may be sent from any part of the United Kingdom by parcel post for la. CARTRIDGES.—" Best of all:" The bestSmokelee* Powder Cartridge ever made, price 7s. per 100, or 50t> tor 33s., 1,000 for 63s. "Sudden Death:" The best Black Powder Cartridges, 5s, per 100, or 47s. 6d per 1,000. Lots of 100 and upwards delivered carriage paid to any station in England er Wales. Everything in Guns. Rifles, Revolvers, Gun Impl& ments, and Casea. at WHOLESALE PRICES. 5415-6035
Y RHYFEL. -
Y RHYFEL. Ansicr ac anfoddhaol, oedd y newyddion dderbyniw\d o faes yn ystod yr wyth- nos ddiweildaf, cr fod sibrydion lawer fod brwydro caled yn myned yn mlaen. Mae y newyddion o diriogaethau y Japaniaid yn llawer mwy ymddiriedol nag eiddo y Rwsiaid. Saif un peth allan yn amlwg, sef fod diogelwch Porth Arthur yn gwanhau bob lydd. Enfyn rhai o ohebwyr Llundain i ddv.eyd fod y fynedfa, i'r llo hwnw yn agored a rhydd, a'r Rwsiaia wedi gorfod agor y caerfoydd er mwyn dianc eu hunain.
MEIRIADOG AT MONWYSON.
MEIRIADOG AT MONWYSON. Mehefin 8, 1904. Rhy ddinerth i farddoni—wyf yn awr, Fy nych wna'm pendroni Eiddil iawn yw'm meddwl i— Diysbryd yw ei asbri. MEIRIADOG.
[No title]
J_ L ——' Ail ymaflodd Mr John Dillon, A.S yn 01 ddyledswyddau Seneddol ddechreu yr wythnos ddiweddaf, ar ol bod yn absenol am chwe' mis yn Sicily a'r Eidal.
[No title]
Argraffaryd A Ohyboeddrwycl dro* y Vorth Walee Chronicle Company, Ltd., IUl J«faa flbaraaowk EdwTRrd-s, yn y "Jferth W.s CSuroauie" a'r "QwftKfl-" Printing Wotrka, Chxtea HSMS, Ilip- stroet, Bansror. yn AfiUwyf B-r-, yn Or Gaer- narfon.—Dydd Mawrth, Mehefin 21, 1904.