Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
DENGYS Tystiolaeth Miliynwr Beth a wna INOLAK i bawb sydd yn dioddef oddiwrth Anhwylder y Croen. Pan y mae Popeth arall wedi methu, gorchfyga INOLAK. EgPrawf hyn nad oes dim yn y byd fel INOLAK at anhwylder y croen. Peth.au t gorffeiniol fydd poenau dychrynllyd yr Eczema a nosweithiau digwsg os cymerwch INOLAK. Mynnwch ef heddyw gan Boots (yn yr holl ganghennau), gan eich fieryllydd eich hunan, neu gan v Perchenogion, 66, Whiteladies-road, Bristol (tri maint: 1/3, 3/ a 5/- yn rhydd trwy'r post) INOLAK hefyd yw'r feddyginiaeth at losg eira (toredig neu anhoredig).
I1 [ -Llythyr Liundain. r
News
Cite
Share
Llythyr Liundain. r Hydref 24ain hunodd y wraig addfwyn, Mrs. Elizabeth Williams, nith Mrs. B. Rees, 3 Car- thusian-street, B-C., wedi cystudd trwru a bliu. Ganwyd hi yng Nghaergybi yn 1852. Treuliodd y rhan olaf o'i hoes yn Llundain. Aelod oedd yn King's Cross. Boneddes lednais, dawel, gar- edig a chrefyddol iawn ei hysbryd ydoedd. Ceid hi bob amser yr nil fath-Yii byw yng ngwas- tadrwydd bywyd. Meddai ar ras prin mewn cymdeithas ymhob oes, sef gallii i fyned drwy ystormydd chwerwon, dioddefiadau trjanion, a siornedigaethau blinion heb suro yn ei hysbryd. Beth "bj^nnag fuasai nodwedd ei chylchfyd-ai garw ai teg-ceid hi bob amser yr un fath-yn siriol, yn addfwyn, yn llariaidd, yn ffyddiog ac yn garedig ei hysbryd. Gwraig ddiolchgar iawn i ddynion, daear a Duw ydoedd. Claddwyd hi y Iylun dilynol yn Finchley, yn ochr bedd Miss Annie Roberts, merch ydhvecldar Barch. John Roberts, Aberhosan, Maldwyn, a cher bedd Mrs. Glyn Evans—un o'r mannau hyfrytaf yn y fyn- went ferth. Hi harwyl oedd luosog ac anrhyd- eddns. Daeth ei brawd, Mr. Williams, Caergybi, a nifer o neiaiut i'w chynhebrwng. Huned mewn hedd. Methodd Mrs. Rees, 3 Carthusian-street, fod yn yr angladd. Blonder mawr i'w chylch eang cyfeillion er hynny yw deall ei bod lawer yn well nag y bu. Cynhalied Duw hi a'i ras yn nawnddydd hyfryd ei hoes. Dal yn wannaidd y mae nerth Mr. Rees Evaus, Old Ford, ers blynyddoedd. Mae efe yn llenor, bardd a cherddor da. Brodor o'r Brithdir yw, a disgynnydd i Rees Jones y Blaen,u--Ileiior enwog yn ei oes. Carasem yn fawr weled Mr. Evans, Old Ford, eto yn. Barrett's Grove fel cynt. Bu Mr. D. Jones, 11 Russell-street, Brixton, dan driniaeth feddygol yn ddiweddar. Gwellha yn rhagorol. Mae ef a'i briod alluog yn ffyddlon- iaid yn eglwys y Boro'. Mr. Hanson, masnachwr, yw Arglwydd Faer ein dinas eleni. Bu ei arddangosiad yn heolydd ein tref gyda rhwysg a bloddest, Tachwedd gfed. 'Cynhaliwyd gwledd foethus wedi'r gorym- deithio. Yr oedd nifer o wyr blaenaf ein Dlyw- odraeth yno. Achwyn yn greulon oedd y cy- hoedd am gadwraeth y wledxl foethus, gostus. wastraffus ar amser y mae angeii yn hylldrenxti arnom. Ni all y cyhoedd mwyach wrando ar lais y rhai aethant i'r wledd pan yn argymell cynildeb niewn bwyd ac arian arnynt. Gwar- iwyd miloedd o bunnoedd ar yr arddaugosfa Mae gwastraff ein Blywodraeth yn annioddefol. Cyfyd trethdalwyr eu condemniad yn effeithiol cyu hir. Ni ellir cario'r baich. Nid yw erchylltod yr amseroedd drwy ryfel echryslon wedi dwyn oddiamgylch yr ymostyug- iad ysbrydol yn nhrigolion ein tref ddisgwyl- iaseni ei weled ar doriad allan y rhyfel. Nid oes gymaint o ddirwyo yn llysoedd barn am feddwdod yn ein heolydd ag oedd cyn y rhyfel. Ceir yn yr eglwysi Cymraeg a Saesneg lawer iawn o ymgysegriad ysbrydol dymunol. Deil y I I yr eglwysi ar y cyfan yn gryfion, lluosog, a llawn asbri sanctaidd. Ond ni cheir yr ynios- tyngiad cynredinol gerbron Duw y nefoedd gar- aseni ei weled yn y bobloedd yn gyffredinol. Hoffeni weled holl breswylwyr N y wlad fel un gwr yn neshau at Dduw yn ostyngedig, edifeir- iol a gweddigar. Nid yw iaddoliad dwyfol yn nodwedd o fywyd uchaf y bobloedd. Rhaib am elwa, a phob un yn ceisio gwneud y llall sydd yn rhy amlwg. Deffroa hynny ysbryd dialgar, melltithgar, gelynol mewn dynion. Yr ysbryd hwnnw warafuna roi ei hunan yn gydnaws i gario dylanwadau grasol Ysbryd Duw ar daen o galon i galon drwy gymdeithas yn gyffredinol. Gorrues ein cyfoethogion llywodraethol ddeffroa anfoddogrwydd dialgar yn y werin. Hyn sydd anfantais i ddylanwadau ysbrydol i gerdded yn ffrydlifoedd drwy'r ddynoliaeth megis y goleuni drwy'r loyw nen. Gwneir gwaith ardderchog gan y Parch. F. B. Meyer, B.A., D.D., yu Christ Church—lie enwog gynt yn amser Newman Hall, D.D. Pobl- ogaeth yr ardal sydd wedi newid yn hollol. Casgla efe gynulleidfaoedd mawrion. i gyfar- fodydd gweddio ar nosweithiau'r wythnos. Y mae yn Iylundain addoldai en wocach na Christ Church. Gorsafoedd pregethu ydynt. Gwnant ychydig bach, baoh, bach o ddaioni, efallai. Aelodau eglwysi eraill yw grym eu cynulleid- faoedd yn anil—y personau hynny ydynt ry alluog i weini yn yr eglwysi y maent yn aelodau ynddynt—y personau yrnsyniant na ddichon Duw drosglwyddo bendith iddynt hwy ond drwy ryw gyfrwng gorenwog. Nid wyf yn argy- hoedded ig y buasai'n golled ysbrydol fawr. pe ceuid rliai addoldai y mae eu henwau yn y newyddiaduron yn wythnosol. Gweini i falch- ter y maent. Heavenly feasts' yw eu cyfar- fodydd, ac nid addoliad ysbrydol gryfha eneid- iau i weini dros Dcluw ar ddynion yn eu cylch- oedd cyffredin a bywyd gwastadol. Un o anghen- ion arbeniig yr oes yw deall beth yw crefydd yn ei pherthynas a Duw, dynion, anifeiliaid a daear. Peth syml, agos, cyffrediii a phellgyr- haeddol yw crefydd, megis awyr a goleuni yn y byd anianol. Gweled y gwaith ysbrydol ac ymarferol wneir gan Christ Church yn Lambeth sydd gysurlawn i weithwyr Duw. 'Bu farw'r Parch. Thomas Spurgeon yn ddiw- eddar, wedi byw ychydig dros drigain, mlynedd. Gwannaidd fu ei iecliyd ar hyd ei oes. Bu yn weinidog yn Aukland, New Zealand. Wedi marwolaeth. ei dad b11'11 weinidog yn y Metro- politan Tabernacle. Yn ei wynepryd a'i gorff yr oedd yn debyg i'w dad, Charles Haddon Spurgeon, yn fwy felly na'i frawd Charles ond ni feddai ar athrylith, arabedd, amlweddog- rwydd, ceinder ymadrodd, goslef dreiddiol llais, na phersonoliaeth lywodraethol ei dad. Nid yw talent yn dilyn ymhob aelod o deulu. Tyr reversion to mediocrity ar draws heredity. Br nad oedd Thomas Spurgeon brègethwr, mawr, eto yr oedd yn ddyn rhagorol, yn bregethwr dymunol, ac yn weinidog da i Iesu Grist. Rhodd- odd bwysau ei ddylanwad bob amser o blaid rhyddid, rhin a moes. Yr oedd yn Rhydd- frydwr rnwy aiddgar na'i dad. H off em gyfar- fod ag ef bob amser. Fi gwsg fyddo esiliwytli yn naear Norwood.
Gorseinon.
News
Cite
Share
Gorseinon. Civrdd y Frawdoliaethe--Prynb awn Gwener, Tachwedd yr 2il, cyfarfu Brawdoliaoth Gweiuidogion Annibynnol Gorseinon a'r Cylch yn llety'r Parch. J. Brenni Daries, Gowerton. Dyma ail gyfarfod y tymor, ac yn bresennol yr oedd y Parchn. W. Morgan, Brynteg (yn y gadair); D. H. Thomas, Gorseinon D. Ffrwdwen Lewis, Felindre; D M. Davies. Waunarlwydd; G. P. Nicholas a Brenni Davies, Gowerton. Dechreuwyd trwy weddi ga,n y Parch. D. H. Thomas. Rhoddwyd derbyniad croesawgar i'r Parch. G, P Nicholas i'n plith fel brawdoliaeth. Yna cafwyd braslun pregeth oddiar Matt. v. 9 gan y Parch. D. H Thomas. Wedi hyn bn dan sylw Bennod I. y Maes Llafur am y tymor, sef Conscience and Christ,' gan Hastings Rashdall, D.Litt Cafwyd ymdriniaeth ddi- ddorol ar gynhwysiad y bennod-I Athroniaeth Foesol ac Awdurdod Foesol.' J. B. D., Ysg.
[No title]
News
Cite
Share
GLANDWR, FFYNNON TAF.Nos Sadwrn Tachwedd lOfed, traddodwyd darlith yn festri y capel uchod gau Mr. T. G. Williams, Caer- dydd, ar Nodweddion Palpud Cymra Fu.' Daeth cynhulHad lluosog ynghyd, a chafwyd gwledd. Mae llawer o'r digrif yn y ddarlith, ond y mae ynddi hefyd ambell nodyn tyner iawn. Os am glywed eto rai ø euwogion y dyddiau gynt, anfoner am Mr. T G. Williams. Rhydd ei wasanaeth yn rhad.-Gohebydd.
[No title]
News
Cite
Share
BBBNBZBR. C W ML AI.—Caf odd yr eglwys ieuanc hon y fraint o wrando ar y Parch. H. Elvet Lewis, M A yn traddodi tair pregeth yn ei chyfarfodydd blynyddol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ANWYDWST A DYFERWST. RHWYSTRA VENO'S COUGH CURB YR ANWYDWST AR Y CYOllWYN, AC bOllA YN FUAN DDYFBRWST FFROBNOL. At yr Anwydwst mae Veno's Lightning Cough Ciue yn anghymharol. Rhwystra'r ymosodiad ar ei gychwyaiad cyntaf, os cymerir ef yn brydlon, ac atalia bob perygl oddiwrth gymhlethion. Gweithreda Veno's hefyd fel swyn mewn Dyferwst Ffroenol, gan esmwytho arwynebau enynnol y trwyn a'r gwddf, ac adferu yn gyflym anadliad rhydd. Teilyngdod sydd wedi gwneud Veno's y feddyginiaoth fwyaf poblog- aidd yn y byd at bob math o auhwylderau brefantaidd. Ymddiriedwch bob amser ya Veno's Ligbtning Cough Cure at yr Anwydwst a Dyferwst Ffroenol, at Beswoh ac Awnwyd, Anhwylderau yr Ysgyfaint, Diffyg Auadl, Bronchitis, Anhawster i AOadlu, Crygni, y Pas. ac Anhwylderau Brefantaidd y mae Plant yn agored iddynt. Prisoedd llic., Is. 3e., a 3s., oddi- wrth y Fferyllwyr a'r ystordai yin mhobman. Nis gellid gwneud Vena's Lightning Cough Cure yn well, pa fodd bynnag, am unrhyw bris; efe yw'r ) QOREU A'R RHATAF, _<L, -J
Jiwbili Dr. Davies, Castellnewydd…
News
Cite
Share
) Diweddwyd. yr oedfa gan y Parch. J. Lewis, Blaenycoed. I Yr oedd y cyfarfod liwn yn un da iawi-i-y.,a llawn o dystiolaethau uchel i wasanaeth nodedig Dr. Davies fel gweinidog yr Efengyl. Am 6 o'r gloch daeth eto lond capel o wran- dawyr astud ynghyd i wrando'r Parchn. Gwilym Rees, M.A., Merthyr, a D. G. V/illiams, St. Clears, yn pregethu. Dechreuwyd y gwasauaeth gan y Parch. G. Penar Griffiths, Yr oedd hon yn oedfa gwerth bod ynddi. Aeth gwaith y dvdd heibio gyda hwyl a bias .a bendith. Trannoeth, dydd Ivlercher, aethom i Bbenezer, Castellnewydd Emlyn, am gyfres arall. Am To o'r gloch dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. Gwilym Rees, M.A., a phregethwyd yn afaelgar gan v Parch. H. T: Jacob. Am 2 o'r gloch cafwyd oedfa gyffelyb i'r pryn- hawn blaenorol, o dan lywyddiaeth y Parch. W. Davies, Llandeilo—gwr y gwyr Cymru am dano, ac un sydd wedi gweld ei Jiwbili ers dwy flynedd. Nid yn fynych y ceir dau wr yn yr un oedfa wedi gweld y fath clymor hirfaith o was- anaeth disglair. Dechreuwyd yr oedfa hon gan y Parch. H .H. Williams, Llechryd. Cafwyd. araith gref gan y Llywydd, a llywyddodd fel arfer gydag urddas mawr. Yna galwodd ar y brodyr canlynol i siarad :—Mr. James Jones, Danygraig, i ddarllen llythyr oddiwrth Gyfun- deb Ceredigion, yn llongyfarch Dr. Davies, yr hwn lythyr a ddarllenwyd hefyd yng Nghapel Iwan. Yna daeth y Parch. T. W. Morgan. Philadelphia, Caerfyrddin, a neges gyffelyb dros Gyfundeb Gorllewinol Caerfyrddin. Yna cafwyd anerchiad llithrig a da gan y Parch. G. Penar Griffiths ar fater rhoddedig, sef Yr Hen Wein- idog.' Wedi liyn galwyd ar y personau canlynol Parchn. Dan Evans, D.D., Hawen D. Evans, Drewen D. Dalis Davies, Beulah y meddyg ieuanc, Dr. Lloyd, Castellnewydd; Mr. John Phillips, Castellnewydd (mab y diweddar Hy- barch Evan Phillips), a Mr. James Jones, saddler. Dygodd yr oil dystiolaeth uchel i gymeriad, gwasanaeth a galluoedd Dr. Davies. Yna daethpwyd at waith diddorol y cyflwyn- iad. Darllenwyd. gan Mr. James Jones, Dan- ygraig, anerchiad yr eglwys i Dr. Davies, a siar- adwyd dros chwiorydd yr eglwys gan Mrs. Lloyd, y Bane, yr hon hefyd gyflwynodd album tlws i'r Doctor. Yna cyflwymvyd iddo cheque yn cynnwys rhoddion yr eglwys yn Ebenezer, ynghyda thanysgrifiadau lluosog a gafwyd o'r tuallan, gan Mr. William Davies, cliacon. Yn dilyn cafwyd anerchiad barddonol gan y Parch. J. Symlog Morgan, ac atebwyd mewn araith fvw iawn a theimladwy gan Dr. Davies. Gorffennwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. T. Davies, Horeb. Yn y cyfarfod olaf am 6 o'r gloch, pregeth- wyd y" n effeithiol gan y Parchn. Gwilym Rees, M.A., a G. Penar Griffiths, i gynulleidfa gref. Rhoddwyd yr emynau allan yn ystod y cyfar- fodydd gan y Parch. H. T. Jacob. Cafwyd cyfres nodedig o gyfarfodydd rhai y gellir edrych yn ol atynt gyda boddhad a diolchgarwch mawr. Dangoswyd parch mawr gan gynulleidfaoedd lluosog i Dr. Davies, aC yi oedd yr eglwysiwedi darparun'n helaeth ar gyfer dieithriaid. Yn ddiameu eu teimlad hwythau yw iddynt gael llawn dal am eu llafur yn yr odfeuon gwlithog y dyddiau hyn. Cefnodd yr hen gyfeillion, ond fe. erys Duw