Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Faint o SANATOGEH sydd eisieii ar eich (Jyfundrefo Gieool ? GAN fod giau rhai pobl mor gyfatebol i Sanatogen, defnydd cymedrol iawn ohono sydd yni angenrheidiol i gyflenwi eu hanghenion. Fel hyn y dywed Esgob Southampton wrthym, er ei loci wedi defnyddio Sanatogen am y blynyddoedd diweddaf fel meddyginiaeth rhag lludded/ eto nad yw byth yn ei gymryd am fwy na mis ar y tro, ac yna dim ond unwaith y dydd. (Cynghorodd cyfaill i mi/ meddai, i'w gymryd mewn cwpanaid o de yn y bore. Cefais allan ei fod yn cymysgu yn dda yn y te, ac nad oedd y bias yn annymunol. Yn ddiamhetiol," ychwanega, y mae yn gryfor grymus ac adferiadol.' Pa fodd bynnag, ca y rhan fwyaf o bobl allan, os am gael yr effeithiau goreu oddiwrth Sanatogen, y rhaid iddynt gymryd cwpl o lwyeidiau te ddwy neu dair gwaith y dydd am o leiaf chwech wythnos yn olynol, tra y derbynia llawer fudd rhyfeddol trwy gymryd dognau mwy ac amlach am gyfnod meithach. Ar y llaw arall, y mae achosion ar gael pan y mae pobl a ddioddefasant oddiwrth doriad i lawr gan ymosodiad gieuol llymdost wedi adfeddiannu iechyd ac ynni ar ol defnyddio Sanatogen ond am ychydig wythnosau. Dau Achos Hynod. Er enghraifit, ysgrifenna Miss Florence Bright, y ffug-hanesydd poblogaidd: Yr oedd ei effaith yn fy achos i bron yn wyrthiol. Ymhen y pythefnos ar ol dechreu cwrs o Sanatogen, yr oeddwn wrth fy ngwaith drachefn, er yn flaenorol wedi fy analluogi am fisoedd i gyflawni unrhyw fath o waith oherwydd gwendid gieuol eithafol. Eto, Mr. Harry de Windt, y teithiwr enwog, a ysgrifenna Yr wyf wedi derbyn budd mawr oddiwrth gymryd cwrs byr o Sanatogen. Yr oeddwn yn wirioneddol wael fel canlyniad mynd dan weithred law- feddygol, effeitliiau pa un nis gallaswn eu hysgwyd ymaith ac ymddangoswn yn mynd yn waeth bob dydd hyd ties i'r meddyg gymeradwyo Sanatogen. 0 fewn ychydig wythnosau ar ol cymryd y dqgnaid cyntaf yr oeddwn wedi adfeddiannu fy iechyd a'm nerth yn llwyr—yn wir, gwnaeth Sanato. gen ddjn newydd olionwyf, yn gorfforoi a meddyliol.' Ceisiweh y Gwir Sanatogen. Bydd i chwi yn fuan gael allan pa fodd y gellwch yn oreu foddloni gofyiiiadau eich cyfundrefn gieuol pan yn cymryd Sanatogen. Y peth pwysig yw ei gymryd yn rheolaidd—nid yn grebychol-am gyf- nod penodol, a gellwch yn hawdd gael allan y gost ymlaen llaw trwy gofio fod y dognaid cyffredin (dwy lond llwy de) yn costio 2C. Cymysga Sanatogen yn dda ag unrhyw ddiod ddi-sur, poeth neu oer, ac nis gall mewn unrhyw achos posibl gynhvrchu can- lyniadau niweidiol. Rhaid i chwi, pa fodd bynnag, fod yn ofalus i gael y gwir nwydd gwreiddiol, yr hwn sydd wedi ei labedu Gwneuthuredig yn Penzance,' a gwerthir ef gan yr holl fferyllwyr am is. gc. i 9s. 6c. y tin. GENATOSAN, LTD. (Prynwyr Prydeinig y Sanatogen Co.), Cadelrydd: LADY MACKWORTH 12, CHENIES-STREET, LONDON, W.C. 1. NODIAD-Bydd i Sanatogen ymhen amsc-r gael ei ail-enwi Genatosan -gwir Sanatogen-i'ch eumddiffyn chwi rhag e-lelichitid.
Jiwbili Dr. Davies, Castellnewydd…
News
Cite
Share
Jiwbili Dr. Davies, Castellnewydd Emlyn. Anrliydeddu'r Parch. B. Davies, D.D., Capel Iwan a Chastellnewydd Emh-n, ydoedd un o'r digwyddiadau mwyaf diddorol a gymerth le ers tro ar lannau'r Teifi. Byr a disglair ydyw gyrfa ambell bregethwr maith ac annisglair ydyw gyrfa ambell un arall ond maith a disglair fu gyrfa Dr. Davies, A chyfrwng i ddatgan edmyg- edd ei eglwysi a'i gyfeillion ohono ydoedd y dysteb gyflwynwyd iddo ar ei Jiwbili yn y wein- idogaeth. Nid cardod i wr anghenus, ond gwar- ogaeth i wr o dalent ddisglair ydoedd y dysteb. Ni fedd yr Enwad bregethwr y gall ddibynnu cymaiut ar gysondeb ei aruchel gyflawniadau a Dr. Davies. Daetli i amlygrwydd yn ieuanc iawn, a daliodd ei dir yn rheng flaenaf gweinid- ogion y Gair hyd y dydd hwn. Mae wedi athron- yddu bywyd cyffredin a threfn iachawdwriaeth ar hyd ei oes, a dygodd ffrwyth ei fyfyrdodau yn ddisgleidiau dewisol gerbron cynulleidfaoedd, gartref ac oddicartref. Medd y Doctor ar allu eithriadol i lunio brawcldegau bachog. Mae llawer o'i ymadroddion mor goeth a gwir a diarhebion. Perthyn Dr. Davies i do o weinid- ogion roddai bwys mawr ar urddas y weinidog- aeth, ac ni fu crefydd erioed ar ei hanfantais oherwydd ei ymadroddion na'i arferion ef. Glen- did ydyw un o'i nodweddioIl amlycaf, a gwelir ei 61 ar ei ddiwyg, ei berson, ei vmddiddanion, ei arddull, ei feddyliau a'i gymeriad. Nid oes neb yn fyw wedi gwneuthur mwy, os cymaint, i gadw anrhydedd y pulpud i fyny a Dr. Davies. Bu'n ffrind pregethwyr ifanc, ac y mae llawer pregethwr o fri heddyw yn fawr yn ei ddyled. Yr oedd ei gynghorion buddiol mor werthfawr a gronynnau o aur coeth. A mawr ydyw braint yr eglwysi fu.'n eistedd wrth draed y dysgawdwr galluog a chydwybodol hwn. Ond ni allasai efe gyflawni ei waith heb ofal gwastadol ei briod hawddgar a da, fel y tystiolaethwyd droion yn ystod y cyfarfodydd anrhegu. Nid rhyfedd i'r dysteb droi allan yn gymaint llwyddiant pan gofir teilyngdod y gwrthrych a anrhegwyd, ac ynni yr ysgrifenyddion, sef y Parchn. H. T. Jacob, Abergwaun, D. Peregrine, B.A., Trelech, a Mr. James Jones, cyfreithiwr, Castellnewydd Emlyn, a'r trysorydd, Mr. W. Lloyd, N. & P. Bank. Pel hyn y cycliwyunodd y mudiad :—Pan wybu't eglwysi fod Dr. Davies yn gorffen 50 mlynedd ei weinidogaeth yn niwedd Ebrill diw- eddaf, penderfynasant 11a chawsai'r amgylchiad diddorol ac eithriadol fyned heibio heb iddynt wneud rhywbeth i'w ddathlu'n deilwug. Ym- gymerasant a gwneud iddo dysteb, ac estyiiilwyd y cyfle i gydweithio yn hyn i eglwysi a chyfeill- ion o'r tuallan. Pa enw yng Nghymru'n fwy adnabyddus ? Pa lais glywyd yn amlacli ? A pha gyfrolau ddarllenid yn fwy aiddgar na'r eiddo ef ? O'r diwedd daeth adeg cyniial cyfarfodydd y Jiwbili. Cynhaliwyd hwvnt yng Nghapel I wan, lie mae Dr. Davies wedi gweinidogaethu am 32 mlynedd, ac yng Nghastellnevvydd, lie y mae wedi llafurio am y 15 mlynedd diweddaf ynglyn a Chapel Iwan. Dechreuwyd y gyfres nos Lun, Hydref 22ain, pryd y pregethwyd yng nghang- hennau Capel Iwan—yn Dlwyndrain gan y Parch. H. T. Jacob, Abergwaun, ac yn y Tanglwys gan y Parch. J. Lewis, Blaenycoed. Yna, dydd Mawrth, y 23ain, am 2 o'r gloch, yng Nghapel Iwan, cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus i ddathlu'r Jiwbili, o dan lywyddiaeth ddeSreig y Parch. H T. Jacob, yr liwn a dde- chreuodd bregethu dan weinidogaeth Dr. Davies ym Methania, Treorci. Agorwyd yr oedfa drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Peregrine, B.A., Trelech. Yna cafwyd anerchiad byw a phwrpasol gan y Cadeirydd, a siaradwyd gan y brod-vr canlynol :—Parchn. J. Davies (B.), Re- hoboth T. H. Jenkins, Rheithor Cilrhedyn D. G. Williams, St. Clears (ar fater rhoddedig— Manteision ac Anfanteision Hen Eglwysi,' ac anerchiad ardderchog ydoedd) D. Peregrine, B.A., Trelech G. Penar Griffiths, Pentre Estyll, a Mr. J. S. Williams (C.M.), Trelech. Yna galwyd ar ddau o ddiaconiaid Capel-Twail, Mr. Samuel Jones, Penrheol (yr hwn a ddar- llenodd anerchiad yr eglwys i'w gweinidog, yn gymwys iawn), ac ar ei ol gan Mr. John Davies Glanmamog, yr hwn a siaradodd yn ucliel am waith y Doctor, ac a gyflwynodd iddo dysteb I haelionus dros yr eglwys a'r cylch mewn geiriau tyner. j Ar ol hyn cafwyd atebiad gan Dr. Davies, yn 1 llawn tynerwch ac atgof, yn null adnabyddus y Doetor.