Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFODYDD CHWARTEROL

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB DWYRAIN MORGANNWG. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod ar y dyddiau Mercher ac lau, Hydref y 3iain a Thachwedd y iaf, 1917, yn Nhrealaw, dan lywyddiaeth y Parch. D. Hughes, Pont- ycymer, y cadeirydd am y flwyddyn. Ar ol canu emvn, ac i'r Patch. E. C. Davies, Ynys- hir, wedclio, pasiwyd a ganlyn- i. Fod cofncdion y cyfarfod o'r blaen Yl1 cael eu cadarnhau. I 2. Derbyniwycl y Parchn. James Griffiths, Saron, Ch clach Vale David Richards, M.A., Bedwas a Thredomos a thrwy lythyr o Gyf- undeb M611, y Parch. D. R. Pugh, B. gwein- idog y Seeson yn Ogmore Vale. 3. Yn unol ag adroddiad yr Arholwyr, der- byninvyd Mr. Rowland Evans, Y.H., Caerdydd, fel pregethwr rheolaidd. 4. Pleidleisiwyd ein cydymdeimlad a pherth- ynasau'r diweddar Mr. John Williams, Bryn- cethin tri o ddiaconiaid lieriiioil, Treorci, a'r Parch. B. Davies, Abercynffig, yn ei gy tudd. Mae'r eglwys yn Abercynffig ar gychwyn tysteb i Mr. Davies. Cymeradwywyd y mudiad, a phen- odwyd y Parch. H. E. Rogers, P.A., Penybont, a'r Mri. H. Williams, Bryncethin, a David Williams, Ogmore Vale, i gynrychioli'r Gyn- liadledd ar y Pwyllgor. 5. Etholwyd y Parch. E- C. Davies, Ynyshir, yn unf rydol 3-n gadeirydd am y flwyddyn nesaf. 6. Cafwyd adroddiad y Pwyllgor sydd yn cynorthwyo eglwy3 Soar, Pontygwaith, gan y Parch. G. Penrith ThomaJ. Mae dros £ 700 wedi eu casglu, dros £ 500 gan eglwysi y tuallan, a £ 200 gan yr eglwys yn Soar. Pe ceid £ 150 eto, sicrhai hynny i'r eglwys £ 175 o addewidion amodol sydd wedi eu rhoddi. Ceijiwyd gan y Pwyllgor wneud cynnyg am y swm uchod. Der- byniwyd adroddiad yr 37sgrifennydd am Ben Trebanog. 7. Derbyniwyd adroddiad yr Ysgrifennydd 37nglyn a'r Drysorfa Gynorthwyol. Mae'r Cyf- undeb eisoes wedi addaw £ 4,657 14s. 7c., ac y mae tua 25 o eglwysi hyd eto heb gasglu Byddai cael tua £ 1,000 eto yn gwneud ein cyfran yn anrhydeddus. Apeliodd am gymorth i sicr- hau hyn. 8. (Cafwyd adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul gan y Parch. D. R. Jones, M.A. Ceisiwyd gan Mr. Jones argraffu'r awgrymiadau sydd eisoes mewn llaw, er mwyn eu hystyried yn y cyfarfod nesaf. 9. Derbyniwyd ymddiswyddiad y Parch. J. Walters fel ystadegydd, ond gohiriwyd penodi un yn ei le. Diolchwyd iddo am ei wasanaeth gyda'r adran hon o waith y Cyfundeb. 10. Derbynhvyc1 ymddiswyddiad y Parch. T. T. Jones, Maendy, fel ysgrifennydd y supplies, a phenodwyd Mr. D. Williams, Ogmore Vale, i gymryd ei le. Diolchwyd i Mr. Jones am ei ffyddlondeb i'r gwaith hwn ar hyd y blynydd- oedd. I I, Pasiwyd y penderfyniad canlynol ar gwestiwn y Saboth Ein bod yn awdurdodi'r Ysgrifenin-dd i anfon at yr eglwysi i alw eu sylw at y Sul Dirwestol, Tachwedd yr iieg, gan awgrymi! i'r gweinidogion i drefnu i newid, os yn gyfleus, a phregethu ar Ddirwest, fel ag i'r mater gael sylw dyladwy, yn arbennig yn yr argyfwng 3-r ydym ynddo.' 11. Pasiwyd i gymell yr eglwysi yn y modd taeraf i ymostwng gerbron yr Arglwydd yn wyneb yr argyfwng difrifol yr ydym ynddo yn y dyddiau hyn. Ni ddaw terfyn boddhaol ar y rhyfel ofnadwy hyd nes y claw'r Eglwys i 3-sbryd priodol i'w dderbyn, a'i ddefnyddio er gogoniant Duw a lies y byd. 12. Ceisiwyd gan yr Ysgrifennydd Dirwestol i anfon cenadwri at yr eglwysi, yn galw sylw at y Sul Dirwestol. 13. Pasiwyd pleidlais gynnes o gydymdeimlad a'^ r eglwys yn Nhrealaw yn wyneb ei cholled fawr o losgiad y capel. Cymeradwywyc1 i gefnogi ei hapel run gymorth at yr eglwysi a phersonau unigol. Hefyd, i arwyddo apel at Bwyllgor y Gronfa. Dyma achos gwir deilwng o gydym- deimlad ymarferol. 14. Galwyd sylw at dysteb y Parch. Rhys J. Huws yn ie gystudd trwm. 15. Caniatawyd llythyrau i'r Parchn. W. R. Jones, D. Overton, J. Rhedynog Evans ac E. D. Evans ar eu hymadawiad o'r Cyfundeb. Dy- munir eu llwydd yn eu gwahanol feysydd. 16. Gelwir sylw yr eglwysi at y pwysigrwydd o yswirio'r capeli am eu llawn werth. Mae'r nwyddau'n codi yn eu pris yn barhaus, a gwerth yr eiddo'n codi'n gyfartal. Awgn-mir hefyd i bob eglwys a all, i yswirio gyda'r Congregational Fire Insurance Co. Mae'r cwmni hwn yn garedig iawn i achosion crefydclol yr Enwad. 17. Ceisiwyd gan yr Ysgrifennydd i ofyn gan ysgrifenyddion yr adrannau i alw swyddogion yr eglwysi ynglyd i ystyried y priodoldeb o roddi war bonus i'w gweinidogion. 18. Galwodd y Parch. T. T. Jones sylw at yr achos Cenhadol. Dywedodd fod y casgliad wedi gostwng y llynedd tua £ 700 yng Nglymru. Bwriada Mr. Jones dalu 3rmweliad a'r adrannau ynglyn a'r achos pwysig hwn. 19. Gahvodd y Parch. D. R. Jones, M.A., sylw at y War Savings Committee o fewn y Cyfundeb, a'i bwysigrwydd i'r wlad yn yr argyfwng presennol. 20. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Ebenezer, Caerdydd, os yn gyfleus-y Parchn. D. Tafwys Jones, Caerffili, ac E. James, B.A., Llanharran, i bregethu ar y pynciau-y blaenaf ar destyn rhoddedig gan yr eglwys, a'r olaf ar Le Gweddi yn y Bywyd Crefyddol.' Pregethwyd gan y Parch. E- Idris Davies, Siloli, Pelltre, ar Frawdoliaeth,' a chan y Parch. D. J. Ilywel, Heolycyw, ar Dywodraeth Duw dros y Byd.' Ar ol hyn cafwyd anerchiad y Cadeirydd ar l,ais y Rhyfel at yr Eglwvsi Cristionogol.' Anerchiad cryf a byw, Y11 CYll- nwys cenadwrri amserol a difrifol i'r eglwysi heddyw. Mae'r un peth yn wir am y pregethau. Diolchwyd yn gynlles i'r tri am eu pregethau a'r anerchiad, ac yn ychwanegol i'r Cadeirydd am ei wasanaeth yn y gadair ar hyd y flwyddyn. Pregethwyd y noson olaf gan y Parch. D. Richards, M.A., Bedwas a Thredomos. Rhoddodd yr eglwys yn Nhrealaw dderbyn- iad caredig a brwdfrydig i'r cyfarfod, er yn wyneb anawsterau mawrion. Hyderwil y dilyna bendith raslawn y Crist byw yr holl wasanaeth, ac y caiff yr eglwys a'i gweinidog gweithgar ddoethineb a gwroldeb i wynebu'r argyfwng yn enw ac yn nerth eu Duw. Dyma gyfie braf hefyd i ysbryd Brawdoliaeth ddangos ei hun mewn cydymdeimlad ymarferol. Diolchwyd i'r eglwys am ei charedigrwydd, ac atiogwyd hi i fyned 3Tmlaen yn wrol a phenderfynol. BEN EVANS, Ysg. I

,Gwneud Enw Daym Merthyr Tydfil

Advertising

PRYNU'R FASNACH.

PRYNU'R FASNACH.