Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DYDD0 WEDDI. [

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DYDD0 WEDDI. [ DA gan ein calon fod y Brenin a'r Llyw- odraeth o'r diwedd wedi penodi dydd o weddi a diolch ac ymostyngiad gerbron yr Arglwydd, a hyderwn y gwelir y genedl gyfan ymhob rhan o'r Ymerodraeth, ac o bob enwad a chyffes, yn derbyn y gwa- hoddiad, ac yn dychwelyd mewn gweddi ac ymbil at yr Arglwydd. Dyma'r tro cyntaf i Brydain gydnabod yr Arglwydd yn swyddogol yn ystod holl dymor y rhyfel erchyll, a chredwn yn sicr pe buasai wedi ymgynghori a'r Arglwydd yn gynt y buasai golwg wahanol ar bethau nag y sydd. Yn ein Nodion bythefnos yn ol galwem slyw ein darllenwyr at hyn, gan grybwyll gwaith Lincoln yn 1863 yn galw ar holl Ogledd America i weddyo am ar- weiniad a goruchafiaeth, ac awgrymu yr un pryd y priodoldeb i Wilson wneud yr un peth yn awr. Bychan a wyddem pan yn ysgrifennu ei fod eisoes wedi cymryd yr un cam a'i ragflaenydd enwog. ac fod holl America ar ei gliniau ar y Saboth olaf yn Hydref. Dywed y Times fod yr Arlywydd ei hun wedi gweddio yng ngwas- anaeth yr eglwys Bresbyteraidd a fynycha efe, ar fore'r Saboth hwnnw, ac fod y Cyfandir mawr i gyd wedi ateb gwys yr Arlywydd. 0 bob cathedral, eglwys, capel a synagog o fewn y wlad dyrchafai gweddi y genedl am help Duw, ac o dros gan mil o bulpudau anogid y bobl i wynebu eu prawf gyda hyder a ffydd dawel yn Nuw. Trueni ei bod wedi cymryd tair blynedd i Brydain i ddysgu'r wers a ddysgodd America mewn chwe mis-ond gwell hwyr na hwyrach. Wele ryddlgyfieithiad o eiriau'r Brenin :— Mae'r ornest byd-lydan am fuddug- oliaeth i iawnder a rhyddid yn cychwyn yn awr ar ei hagweddau olaf a mwyaf dyrys. Ymdrecha'r gelyn trwy ymosodiad eofn ac ystryw cyfrwys i barhau ei gamwri ac i atal llanw gwareiddiad rhydd. Mae'r dasg fawr y cysegrasom ein hunain iddi dair blynedd yn ol heb ei chwblhau. Ar y fath adeg a hon galwaf arnoch i gyfleu dydd arbennig o weddi, fel y caffom welediad clir a'r nerth angenrheidiol i ennill y dydd i'n hachos. Ni ellir sicrhau'r fuddugoliaeth oni chof- iwn beunydd y cyfrifoldeb a erys arnom, ac oni ofynnwn mewn ysbryd ufudd gostyngedig am fendith y Goruchaf Dduw ar ein hymdrechion. Gyda ehalonnau diolehgar am yr arweiniad Dwyfol hyd yma, ceisiwn am oleuni i'n deall a chryfder i'n gwroldeb wrth wynebu'r aberth ychwanegol sydd eto efallai yn ein haros cyn y bo'n gwaith wedi ei orffen. Yr wyf, gan hynny, yn erchi fod Ionawr y 6ed, y Sabotli cyntaf o'r flwyddyn, yn cael ei neilltuo fel dydd arbennig o weddi a diolch ymhob lie o addoliad o fewn fy nhiriogaethau, ac fod y proclamasiwn hwn yn cael ei ddar- Hen yn yr odfeuon a gynhelir y dydd hwnnw. GEORGE R. I.' Tach. 7, 1917. FET. hyn y safai pleidlais y glowyr y Sadwrn diweddaf :— Balot y Yn erbyn streic 92,152 Glowyr. Dros streic 26,014 Mwyafrif yn erbyn 66,138 Dychwelwn at y mater wedi cyhoeddiad y ffigyrau swyddogol.

Tabernacl, Trealaw.

Family Notices

Y W E I N I D 0 G A E T H…