Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
DYDD0 WEDDI. [
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
DYDD0 WEDDI. [ DA gan ein calon fod y Brenin a'r Llyw- odraeth o'r diwedd wedi penodi dydd o weddi a diolch ac ymostyngiad gerbron yr Arglwydd, a hyderwn y gwelir y genedl gyfan ymhob rhan o'r Ymerodraeth, ac o bob enwad a chyffes, yn derbyn y gwa- hoddiad, ac yn dychwelyd mewn gweddi ac ymbil at yr Arglwydd. Dyma'r tro cyntaf i Brydain gydnabod yr Arglwydd yn swyddogol yn ystod holl dymor y rhyfel erchyll, a chredwn yn sicr pe buasai wedi ymgynghori a'r Arglwydd yn gynt y buasai golwg wahanol ar bethau nag y sydd. Yn ein Nodion bythefnos yn ol galwem slyw ein darllenwyr at hyn, gan grybwyll gwaith Lincoln yn 1863 yn galw ar holl Ogledd America i weddyo am ar- weiniad a goruchafiaeth, ac awgrymu yr un pryd y priodoldeb i Wilson wneud yr un peth yn awr. Bychan a wyddem pan yn ysgrifennu ei fod eisoes wedi cymryd yr un cam a'i ragflaenydd enwog. ac fod holl America ar ei gliniau ar y Saboth olaf yn Hydref. Dywed y Times fod yr Arlywydd ei hun wedi gweddio yng ngwas- anaeth yr eglwys Bresbyteraidd a fynycha efe, ar fore'r Saboth hwnnw, ac fod y Cyfandir mawr i gyd wedi ateb gwys yr Arlywydd. 0 bob cathedral, eglwys, capel a synagog o fewn y wlad dyrchafai gweddi y genedl am help Duw, ac o dros gan mil o bulpudau anogid y bobl i wynebu eu prawf gyda hyder a ffydd dawel yn Nuw. Trueni ei bod wedi cymryd tair blynedd i Brydain i ddysgu'r wers a ddysgodd America mewn chwe mis-ond gwell hwyr na hwyrach. Wele ryddlgyfieithiad o eiriau'r Brenin :— Mae'r ornest byd-lydan am fuddug- oliaeth i iawnder a rhyddid yn cychwyn yn awr ar ei hagweddau olaf a mwyaf dyrys. Ymdrecha'r gelyn trwy ymosodiad eofn ac ystryw cyfrwys i barhau ei gamwri ac i atal llanw gwareiddiad rhydd. Mae'r dasg fawr y cysegrasom ein hunain iddi dair blynedd yn ol heb ei chwblhau. Ar y fath adeg a hon galwaf arnoch i gyfleu dydd arbennig o weddi, fel y caffom welediad clir a'r nerth angenrheidiol i ennill y dydd i'n hachos. Ni ellir sicrhau'r fuddugoliaeth oni chof- iwn beunydd y cyfrifoldeb a erys arnom, ac oni ofynnwn mewn ysbryd ufudd gostyngedig am fendith y Goruchaf Dduw ar ein hymdrechion. Gyda ehalonnau diolehgar am yr arweiniad Dwyfol hyd yma, ceisiwn am oleuni i'n deall a chryfder i'n gwroldeb wrth wynebu'r aberth ychwanegol sydd eto efallai yn ein haros cyn y bo'n gwaith wedi ei orffen. Yr wyf, gan hynny, yn erchi fod Ionawr y 6ed, y Sabotli cyntaf o'r flwyddyn, yn cael ei neilltuo fel dydd arbennig o weddi a diolch ymhob lie o addoliad o fewn fy nhiriogaethau, ac fod y proclamasiwn hwn yn cael ei ddar- Hen yn yr odfeuon a gynhelir y dydd hwnnw. GEORGE R. I.' Tach. 7, 1917. FET. hyn y safai pleidlais y glowyr y Sadwrn diweddaf :— Balot y Yn erbyn streic 92,152 Glowyr. Dros streic 26,014 Mwyafrif yn erbyn 66,138 Dychwelwn at y mater wedi cyhoeddiad y ffigyrau swyddogol.
Tabernacl, Trealaw.
News
Cite
Share
Tabernacl, Trealaw. Gofid calon, yn ddiau, i ddarllenwyr y TYST fydd deall fod y capel uchod wedi ei losgi i'r llawr. Digwyddodd yr alanastr ryw bum wyth- nos yn 01. Nid oes yn aros o'r capel liardd ond y murian yn unig, a'r rhai hynny ar en gwaeth. Yr oedd dyled arno o dclwv fil o bunuau., ac nid oes gobaith cael trwy'r yswiriant ond mil ar y goreu. Teifl hyn ddiflastod ar bopeth. Ym- drechai'r gweinidog yn galed, a gweithiai'n ddi- fefl fel ymwelwr a phregethwr nid oes ei well yn y cwm. Cynhyddai'r eglwys, a cheid cynull- eidfa gref i wrando'r Efcugyl bob Saboth. Yn ddiddadl teimlid yn gyffredinol fod y Tabernacl yn codi'n brysur. Credai'r gweinidog y byddai sefyllfa'r Tabernacl gyda hyn mor ddymunol a'r un yn y cwm. Ond rhyw fore dacw'r capel ar dan, ac er pob cymorth, ofer fu'r ymgais i'w ddiffodd. Diameu y bydd cynllun ar droed yn fuan i roi cyfle i'r eghvysi estyn ymwared, a sicr wyf na cheir achos byth deilynga fwy o'n cydymdeimlad a'n cymorth sylweddol. CYFAILL.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENi, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. Cn ARLES.- Y chydig ddyddiaucyn claddedigaeth Misa Kate Prosser Davies, daearwyd aelod ffyddlon arall o Bethauia, sef yr hen frawd Mr. Thomas Charles, Victoria-street, yr hwa oedd yn gofalu am agor drysau ty yr Arglwydd a'i oleoo, yr hyn a wnaeth" yn ddidor, er braidd yn methu gan ei olygon; ond hyn sydd yn gysur i'r teuln, ei fod heddyw yn mwynhau gwobr y ffyddloniaid. DATIKS.—Dydd Mawrth, Hydref 23ain hebryngwyd gweddillion marwol un o chwiorydd lledneisiaf Dowlais ym mhersou Miss Kate Prosser Davies, Russell-street, merch hynaf Mr. J. Prosser Davies. Cynorthwywyd y Parch. B. J. Bosser Evans, ei gweinidog, yn yr angladd gan y Parchn. D. Adams, B.A., B.D., Gwernllwyn, a Luther Jones, Beulah. Hefyd gwelwyd yno y Parehn. D. R. Williams, Penywern, a W. M. Lloyd, Brynseion. Hiraeth mawr sydd ar ol Katie, nid yn unig yn y teulu a'r gymdogaeth, ond ymysg ei cbyfoedion. Nid oedd Katie yn un amlwg mewn cwmni, ond yr oedd ei sirioldeb a'i hawddgarwch yn eglur. Er nad yn gyhoeddus, yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn ein heglwys. Ar brynhawn olaf ei bywyd her cafWJd prawf ei bod fel Mair wedi dewis y rhan dda, a bod emynau y cysegr yn annwyl iawn iddi. Gwelwyd amlygiadau o'r parch a'r edmygedd o'i bywyd yn Y lln torchau blodau oedd ar ei harch. Arosed nawdd Jnef dros ytewo. Methodd ei brawd, y Capten J. Prosser Davies, ddyfod o Ffrainc i roddi Barw?? iddi.
Y W E I N I D 0 G A E T H…
News
Cite
Share
Gogledd, yn gynryefeiolwyr cyn belled ag y mae, dyweder, Undeb yr Annibynwyr Cymreig neu Gyfarfod Chwarterol Anni-! bynwyr Meirion yn cynrychioli'r sir--dau sefydliad y gwyddom fod Mr. Huws yn aelod ffyddlon ohonynt. A chyda phob dyledus barch gofynnwn, A yw Gynhadl- edd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, dy- weder, yn gynrychioliadol mewn unrliyw ystyr pellach na hyn ? Y mae sylw ensyn- iadol Mr. Huws fod y boneddigion a wnai i fyny'r Gynhadledd yn Uandrindod yno ar bwys rhyw drysorfa, ac felly yn frad- wyr i'w hegwyddorion er mwyn y pleser o gael treulio diwrnod yn Llandrindod, yn rhy ddirmygus o annheilwng i hawlio sylw; ac yn ensyniad na fuaswn byth yn ei ddisgwyl oddiwrth fonheddwr sydd mor gryf ei bwyslais arferol ar urddas ac anrhydedd dyn a Air. Pari Huws. Ffei fy hen gyfaill. Ai teg a boneddigaidd eich nsyniad ? Ond yr hyn sydd yn amlwg yn peri'r gofid mwyaf i'm cyfaill ynglyn a'r holl fusnes ydyw'r rhan a gymer ei frodyr yn y weinidogaeth ynglyn a'r cwestiwn ac, i'm barn i, dyma'r darn mwyaf annheg a dianrhydeddus yn yr holl nodiadau. Par- odd darllen y paragraff hwn i mi syndod dibendraw, ac y mae i mi bron yn anhy- goel fod y brawd a'r bonheddwr Mr. Pari Huws, o bawb, wedi ei ysgrifennu. Ai ciwed di-egwyddor fel y'u disgrifir ganddo ydyw'r rhai y mae ein cyfaill wedi eu cyf- arfod yn y weinidogaeth yng Nghymru ? Sylwer ar ei eiriau 4 Teimlwn yn siom- edig weled cynifer o weinidogion mor amlwg yn y cyfarfod, ac yn barod i ymrestru i'r ymgyrch o blaid y Prynu, yn arbennig felly gan i ni ddeall fod- argyhoeddiad dyfnaf rhai ohonynt o blaid Gwaharddiad.' Beth mewn difrif ydyw ystyr geiriau fel hyn ? A ydym i- deall fod Mr. Huws yn cyhuddo ei frodyr o fyned i'r Gynhadledd i frad- ychu rhyw egwyddor oedd yn gysegredig ganddynt o'r blaen ? A ydyw'n golygu fod eu gwaith yn pleidio Prynu yn golygu eu bod yn erbyn Gwaharddiad, pe y gellid ei gael ? Ond nid yw hyn, er difrifoled ydyw, ond rhan o'r cyhuddiadau deifiol sydd gan Mr. Huws yn erbyn ei frodyr. Dyfynna sylw o anerchiad Mr. Bernard Snell I believe John Morley was right when he said, The pulpit is the belt that has slipped off the driving-wheel of the world." Ac ar y dybiaeth fod yr haeriad difrifol yn wir, a Mr. Pari Huws ymlaen i'ddweyd, Nid rhyfedd fod yr Eglwys a'r weinidogaeth yn colli eu gafael ar y wlad.' Ac a ymlaen ymhellach i roddi homili i'w frodyr ar y pwys i'r Eglwys beidio a chym- ryd safle wleidyddol o edrych ar bethau, ac i beidio cyfaddawdu ar faterion han- fodol foesol,' gan awgrymu fod gweinid- ogion Cymru wedi myned ben a chyfan i wasanaeth y Wladwriaeth, a sathru pob egwyddor dan draed. Awgryma ein pervgl o fyned i gellwair a/n hargyhoeddiadau dyfnaf, a myned yn 1 wehynwyr dwfr i'r Wladwriaeth ar bob pwynt.' Meddai ymhellach: Mor wir ag y bu i'r weinid- ogaeth yng Nghymru wanhau llawer ar fraich ei dylanwad trwy fynd i'r llwyfan- nau i annog ein bechgyn ymrestru yn y Fyddin, bydd iddi wanhau mwy eto arni os a i'r llwyfan o blaid prynu'r Fasnach Feddwol, yn neilltuol felly i'w chario ymlaen.' Y mae gennyf yn bersonol eto i gael fy argyhoeddi o wirionedd y gair cyntaf yn y gosodiad hwn, sef ei fod yn wir fody weinidogaeth yng Nghymru wedi gwan- hau ei dylanwad trwy fyned i'r llwyfan i annog ein bechgyn i ymrestru yn y Fyddin ac nid yw fod Mr. Pari Huws yn ei ddweyd mor bendant yn newid dim ar fy marn arno. A sylwer ar amwysedd bwriadol y frawddeg olaf Bydd iddi wanhau mwy eto arni ei hun os a i'r llwyfan o blaid prynu'r Fasnach Feddwol, yn neilltuol felly i'w chario ymlaen.' Pwy o'r ugeiniau gweinidogion yng Nghymru heddyw sydd yn bleidiol i bryniant y Fasnach, sydd yn golygu hynny i'r amcan o'i chario ymlaen ? A all Mr. Huws enwi un ? Ai gormod gofyn iddo ef roddi yr un credit am onestrwydd a chywirdeb amcanion i'w frodyr ag y mae yn hawlio iddo ei hun ? Nis gallaf roddi fy ysgrifbin o'm llaw heb brotestio unwaith eto yn erbyn ensyniadau disail nodiadau Mr. Huws a therfynaf fy llythyr, sydd wedi rhedeg yn feithach nag y bwriadwn, trwy ddyfvnnu brawddeg o eiddo Mr. Huws Dadleuer y cwestiwn ar ei deilyngdod ei hun.'