Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

. I Diaconiaid Ddoe a Heddyw.…

News
Cite
Share

Diaconiaid Ddoe a Heddyw. GAN GRIFFITH JOHN. XI. Awiceiiir yn yr ysgrif hon roddi portread bvr o Raenoriaid A Dywedir blaenoriaid, yn hytrach na diaconiaid, am fod un o leiaf o'r aelodau cyffredin mor amlwg ac mor flaenllaw ynglyn a dygiad ymlaen waith yr eglwys a neb o'r diaconiaid, a bu erioed yn ddirgelwch i mi paham na etholwyd ef i'r swydd. Teimlaf y llawn deilynga gongl iddo ei hun yn fy oriel syml i o'r to blaenoriaid gynt a fu yn eglwys A Diau mai y mwyaf 6d, eccentric, trwsgl a drel- aidd ohonynt oil oedd G. yr oedd, o amryw safbwyntiau, yn gymeriad ar ei ben ei hun. Bendithiwyd ef a chorff o'r fath gadarnaf, a meddai ar wyneb llyfn-lydan, a hwnnw megis pe wedi ei adael gan law natur heb ei gwbl lunio. Pfaith amlwg ar ei wynepryd oedd ei drwyn cymerai gryn ofod iddo ei hun, ond nid oedd o hiliogaeth eiddo Gladstone. Talcen cymharol fychan oedd gan G., ond gwnai hwnnw fondo trwm uwch y llygaid oeddent megis yn llechwraidd guddio eu hunain odditano. Pan sylwid ar ei lygaid, parent i ddyn gredu eu bod yn wastadol yn erlynu ysglyfaeth, a phefrient weithiau fel pe tasent wedi ei ddal. Cuddid ymron yr oil o wynepryd G. gan farf, yr hon ymylai ar fod yn rhawn. Tybiaf, os arferai G. hurio barfwr i'w eillio ef, y gosodai hwnnw mewn profedigaetli i ddefnyddio geiriau segur, os nad yn wir rhywrai gwaeth. Yr oedd cnwd. mawr o wallt llaes, llwycl-goch, ar ei benglog, a hwnnw mor drwchus fel y diogelai ef rhag annwyd ar y noson oeraf yn y flwyddyn, a hynny ped ai efe o amgylch heb yr un ddiddos- ben. Yr oedd ei aelodau oil yn rhai preiffioll a chyhyrrog awgryment y bwriadwyd i'w perch- ennog wneud swm mawr o galedwaith yn ystod ei fywyd. Hynny a wnaeth, heb yr un os nac onibai. Safai ar ei draed mor syth a saeth chwech troedfedd mewn mesuriad. Felly y cerddai ddeuddydd neu dri cyn ei-fanvolaeth, ac yntau yn agos i oroesi prydles einioes dyn ar y ddaear. Galluoedd meddyliol cyffredin ddigon gafodd G. fel cynhysgaeth i ddechreu ei ymdaith ym myd cydymgais amser, ac ni chaf- odd ddim manteision boreol i ddiwyllio nac i ddatblygu'r rhai cyffredin hynny. Parai ei fyr- bwylldra a'i sarugrwydd i'r dieithr gredu mai dyn o dymer gas oedd efe ond ni fu ei gared- .cach na'i dirionach mewn byd erioed i'r tlawd, y rheidus a'r adfydus. Brysiai i gynorthwyo y neb a fyddai mewn angenoctyd. Yn ymyl gweh- y claf diflannai ei ffaeleddau oil, a throid ef i fod y mwyneiddiaf o blant dynion. Nid oedd ei ffyddlonach na neb yn fwy selog yng nghyn- ulliadau A- Er ei fod yn fasnachwr o gryn ofal, eithriad fyddai ei absenoldeb o gwrdd a gwnaeth waith rhagorol, a chyflawnodd wasan- aeth tra chanmoladwy i'r eglwys ac ynddi. Ymgyraerodd a rhai gorchwylion nas gwnai neb arall: ffitiai ynglyn a'r rhai hynny, a phan y galwyd ef uchod ni ymgymerodd neb a llanw ei le ef. Cadwai ei lygad yn wastadol ar y dieithr a ddeuai i'r cyrddau, ac ar y neb a ofnai fwrw ei goelbren yn yr eglwys. Byddai yn llygaid i gyd ar Sul y Cyniun pan y ddarllenid y llythyrau trosglwyddol.' Gofynnai y gwein- idog i'r cyfryw rai godi ar eu traed er mwyn eu hadnabod ac mor sicr a hynny ni chollai G. olwg arnynt wedyn hyd nes y gwnai liwynt yn gartrefol yn eu hamgylchoedd crefyddol newydd. Er fod G. yn .ddiffygiol mewn llawer o bethau, cymeriad rhagorol oedd efe. Parodd i mi gradu lawer gwaith yr hanner addolai gweinitlog. A-, ac mai ei baradwys ar y ddaear oedd cael ei gwmni ar yr heol, yn arben- nig ar y fforcld i'r neu o'r capel. Os ewyllysiai rywun beri i G. fynd o'i go,' Ilwyddai mewn moment yn hynny o amcan ond ensynio rhyw air angharedig am y gwr parehedig hwnnw. Cyferbyniad hollol i G. oedd E.A. Yr oedd felly mewn corff, meddwl ac yn ei drafodaetli ag eraill. Corff egwan gafodd efe—un a alwai am fawr ofal er mwyn oedi mynediad ymaith yr enaid Uednais luestai oddifewn iddo. (Pan adnabyddais ef gyntaf, tybiwn fod ei enaid y pryd hwnnw ar gymryd ei chwa, ond ni ddarfu am amryw flynyddoedd.) A gwnaeth E.A. ymdrech lew i'w rwystro, a chadw ei gorff eiddil yn weddol iach hyd omi threuliwyd allan bearings y peiriaji waith. Ond er ei ymdrech felly, bu farw yn gymharol ieuanc. Dyn o daldra sawy na'r cyffredin, eiddil. gwelw ei wedd odd efe. Ni feiddiai un amser frygio pan yn cerdded auafwyd ei yegyfaint gan ryw anhwylder pan oedd yn llanc. Am yr un rheswm gwargrymai tyw gyiriaiut, yr hyn barai iddo ymddangos yn henach nag ydoedd mewn gwirionedd. Ei wen- did cymdeithasol mawr oedd ei ddiffyg ymddir- iedaeth yuddo ei hun. Nid oedd neb o'r to honno o swyddogion (yr oedd ef yn un ohonynt) a feddai gystal cymwysterau i wneud blaenor ( doeth a dylanwadol ag E.A., oblegid cafodd addysg foreol ragorol. Bu llyfrgell dda at ci wasanaeth ar hyd ei fywyd, a medrai siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg yn llithrig ac yn gymharol gywir. Gwyddai hefycl sut oedd hudrddenu duwiesau Parnassus i'w gymdeithas pan ewyllysiai eu cwmni. Gallai farddoni yn dra medrus, ond ni ymddangosodd llinell o'i eiddo mewn argraff. Ond er ei amrywiol fan- teision a'i gymwysterau naturiol, rhyw cldwy waith neu dair erioed y gwelais i ef yn cymryd rhan gyhoeddus mewn cwrdcl. Unwaith yn unig y clywais ef yn annerch -gorsedd gras,' ond hawdd gwybod wrth wrando arno y prycl hwnnw mai nid gwr dieithr oedd efe yn y cyntedd nesaf i mewn yn hanes pobl Deluw. Teimlai'r lliaws fod E.A. wedi claddu mwy na dwv dalent mor belled ag oedd a fynno ef a bucldiannan A- Ond er ei yswildod a'i ddiffyg ffydd, bu yn swyddog o'r eglwys am lawer o flynydd- oedd, ac yn un gwir gymeradwy. Ystyriwn i ef yn un o'r dynion goreu a phuraf ei foes a adwaenais erioed, a threuliais rai cannoedd o oriau yn ei gymdeithas ddiddan ac adeiladol. Yr oedd hefyd yn rhyfeddol o ofalus, manwl a chywir yn ei holl drafodaethau ni foddlonai wrneud unrhyw orchwyl o waith oni wnai ef mor berffaith a chyfan ag oedd hynny'n bosibl. Ac yr oedd graen trylwyredd, manylwch a gofal ar bopeth y gosodai ei law wrtho. Un o goll- edion mwyaf fy mywyd oedd cael fy amddifadu o gyfeillgarwch E.A. pan ddisgynnodd i'w fedd. Ac un o brofiadau rhyfeddaf fy hanes oedd sefyll wrth erchwyn ei wely ychydig oriau cyn ei farwolaeth. Gwirecldwyd y piyd hwnnw ger- bron fy llygaid y dywediad—' Trenga pawb dynion mai eu byw.' Felly y darfu yn hanes E-A. trefnodd ei hun a'i amgylchiadau mor lan, mor gryno, ac rnor ofalus pan ar gymryd y lla111 di-adlam ag y gwnaethai ei orchwvl- ion beunyddiol ar hyd ei fywyd. j Pwyni o syhv t'r dieithr yn set fawr yr adeg hon oedd y dyn dall a'r gwydrau gleis- ion. Nid dall erioed, serch. hynny eithr pan oedd yn ddyn ieuanc, rhyw grotyn di-ras a daflodd garreg ato, ac a darawodd un o'i lygaid ef, gan ei ddinistrio ynghyda'r llall. Felly dall- ineb a'i anfanteision ynghycla'i fanteision fu yn gyfran iddo ef weddill ei ddyddiau. Pan ddaeth y crotyn hwnnw yn ddyn, collodd yntau lygad, a bu yn unltygeidiog mwy. Adwanid y gwr unllygeidiog flynyddoedd lawer yn ol fel un o fasnachwyr mwyaf parchus y gymdogaeth hon ei eilfed lygad y pryd hwnnw oedd un wydr. Yr oedd M. yn un o ffyddloniaid A' Cyson fynychai y cyrddau cyffredin, a chymerai ran ymarferol ynddynt yn ei dro. Meddai ar ddawn gweddi medrus rhyfeddol, ac ymadroddai yn y cyfeilachau i bwrpas ac er budd ysbrydol i'r cyuulliadau. Ac am flynyddoedd efe oedd codwr y gan yn y cyrddau hynny, a gwnai y gorchwyl hwnnw yn rhagorol hefyd, am fod ganddo glust gerddorol a llaisbaritone melod- aidd. Hwyrach mai llais yn y cywair hwnnw yw'r goreu i godi'r gan mewn cwrdd gweddi neu gyfeillach. Gwneuthurwr basgedi oedd' ei orchwyl gwaith, ac yn y ff-ordd hoi-iiio yr enillai fara beunyddiol i'w briod ac yntau. Llogid ef hefyd gan sefydliad deillion y cylch i dclyigu deillion eraill y modd i wneud basgedi. Ond cyfran fechan gafodd ef o dda y byd hwn, oblegid tra bychain y dyddiau hynny oedd enillion pawb o gyfryw amgylchiadau. Eis- taddai, fel yr awgrymwycl, yn y set fawr, er nad oedd yn swyddog, ac nid oedd neb yn fwy urddasol yn y sedd ddyrchafedig honno iiam., y dyn dall a'r gwydrau gleigion. Fel pawb deillion, syllai M. tuag i fyny bob amser. Paham y gwna'r deillion felly, gan nai waeth y aiodd y syllant, ni welant ddim gwel- adwy anianyddol uchod nac isod ? Tybed yn awr a oes iddynt liwy, er eu hanffawd, rhyw fath o welediad anianyddol a wna i fyny am eu colleelf? Mecl(l.yliaf weithiau wrth sylwi arnynt eu bod yn reddfol ymchwilio am oleuni, ac y pir eu syuhwyrau eraill iddynt mewn ffordd gyfrin argeisio'r dawn hwnnw goruwch popeth arall. Brydiau eraill tybiaf eu bod hwy, er wedi eu hamddifadu o hyfrydwch goleuni anianyddol, eto heb gael eu torri ymaith o gytsylltiad a ffynhoEiiell pob goleuni, a'u bod ar gyfrif hynny yn wastadol mewn rhyw gy- sylltiad ag hanfod y goleuni a gollwyd ganddynt kwy. Goleuni yw Duw.' A yw'n debygol y gall anffawd ddinistrio unrhyw ddawn roddwyd i ddynion i'w cysylltu hwy a'u Crewr ? Ni chredaf fed yr un gallu yn ddigonol i wneud hynny, oddigerth pechod. Nid pechod ywj dalline b.

I Nodion o Leyn.

Advertising