Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y WERS SABOTHOL. 5ftI A 6

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y WERS SABOTHOL. 5ft I A 6 I A f Y WERS RYNGWLAD WRIAETHOL. f I 4 .1 | Z Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, | I 2 M.A., B.D., Abertawe. z Tachwedd iSfed.—Gweddi Nehemiah yn' cael ei Hateb.—Nehemiah ii. 1-11. Y Testyn Eukaidd.-—' Gofynnwch, a rhoddir i chwi ceisiwch, a ehwi agewch curwch, ac fe agorir i chwi.Matt. vii. 7. YN y Wers ddiweddaf ond un cawsom Nehemiah, ar ol clywed am hanes adfydus Jerusalem a Judah, yn wylo, yn ymprydio ac yn gweddio. Gweddiai am faddeuant i'r genedl y perthynai .iddi, ac am fiafr yr Arglwydd arni drachefn a gweddïai am i galon y brenin gael ei chym- hwyso i ganiatau y cais fwriadai efe ei osod ger ei fron pan ddeuai amser cyfaddas. Cawn i dri neu bedwar mis fyned heibio cyn i Nehemiah gael cyfle i osod ei gais flaen Artaxerxes, canys ym mis Chislef (diwedd ein blwyddyn ni), y nawfed mis o'r flwyddyn Iddewig, y daeth Hanani a gwyr Judah i freninllys Susan, tra mai ym mis Nisan (rhan o'n misoedd Mawrth ac Ebrill ni), mis cyntaf y flwyddyn Iddewig, y gosodir ein Gwers heddyw. Yn ystod, misoedd ei ymbil, yr oedd cynllun Nehemiah wedi dyfod yn lied glir ond yr oedd yn rhaid cael caniatad y brenin cyn y gellid gwneuthur dim. Ac wrth osod cais fel hwn o flaen y brenin, peryglai Nehemiah ei safle yn y Hys, ac efallai ei fywyd hefyd. Canys cynllun Nehemiah ydoedd myned ei hun i Jerusalem ag awdurdod oddiwrth Artaxerxes i gyfanu'r ddinas a diwygio bywyd ei phreswvlwyr. Un diwrnod ym mis Nisan yr oedd Nehemiah i weini ar y brenin; ac fel trulliad (cup-beared), gosodwr y gwin gerbron, yr oedd ei swydd yn ei ddwyn wyneb yn wyneb a r brenin. Er yn arferol o fod yn siriol, fel y disgwylid i was, ni chel grudd gystuxld calon,' a deallodd y brenin oddiwrth wedd Nehemiah fod rhyw ofid yn ei flino, ac meddai: Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf ? Nid yw hyn ond tristwch calon.Gwnelsai Nehemiah bob ymdrech i gadw ei deimladau dan lywodraeth, ondyr oedd hir feddwl par- haus am Jerusalem wedi gadael ei 61 arno. Ofnai Nehemiah ar y cyntaf rhag fod ffafr y brenin wedi cilio ond penderfynodd agor ei galon ac wynebu'r canlyniadau. Adroddodd gyflwr J erusalem, mangre beddrod ei dadau,' y modd yr oedd ei phyrth wedi en hysu a than.' Y rdae parch Dwyreiniwr at fedd ei hynafiaid yn ddiarhebol, a chyffyrddodd yr hanes a chalon y brenin. Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno ? ydoedd gofyniad nesaf Artaxerxes. Unwaith eto trodd Nehemiah at Dduw inewn gweddi, eithr gweddi ddistaw ofirymai yn awr. Ac yna, gosododd ei gynllun addfed gerbron y brenin.: 0 rhynga bodd i'r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger cty fron di, ar i ti fy anfon i Judah, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.' Pwysleisiai Nehemiah y ffaith mai dinas beddrod ei dadau ydoedd Jeru- salem, rhag ofn i'r brenin gredu mai cadarnhau caerau'r ddinas, fel y gallai wrthryfela, ydoedd ei amcan. Gan gymaint ei ffafr at Nehemiah, gogwyddodd y brenin ei galon at ei gais. Ond eto ni fynnai ei golli o'r llys- Pa hydi .y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli ? meddai. Wedi i Nehemiah ateb y gofyniad hwnnw, can- iataodd y brenin ei gais. Trefnwyd llythyrau at yr awdurdodau yn Judah a, Jerusalem i rwyddhau ffordd Nehemiah, a gosodwyd llyw- odraeth Judah ar Nehemiah. (v. 14: 'Ac o r dydd y gosodwyd fi yn llywydd iddynt hwy yng ngwlad Judah, o'r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes y brenin,' &c.) Gyda gosgordd o filwyr ( ii. 9) cychwynnodd Nehemiah cyn hir am Jerusalem. Oherwydd y llythyrau brenhinol, cafodd Ne- hemiah lwybr esmwyth i Jerusalem gan swydd- ogion yr ymel'odÎ\aeth; ond yr oedd gelynKta yn ei aros, sef Sanbalat yr Horoniad, a Thobiah yr Ammoniad, a Besem yr Arabiad) ii. 10, 19); Adn. i-6.-Gosod vice is %<rbron%y £ brenin. ?' d deNvi g a diaii Ym mis Nisan. Mis y Pasg Iddewig, a diau fod Nehemiah yn fwy dwys ei ddymuniadau am Jerusalem oblegid hynny. Yn 1-if tigetnfcd flwyddyn. Sef ymhen tua phedwar tnis wedi dyfodiad Haiiani i'r llys. Yr oedd hyn ar droad y flwyddyn,rhwng yr ugeinfed a'r unfed flwyddyn ar hugain (444 C.C.) o deyrnapiad Artaxerxes. Yr oedd gwin o'i flaen ct. Neu, Pan yr oedd gwin o'i flaen ef '—yn amser gwledd. Dyled- swydd y trulliad ydoedd tywallt y gwin allan ytumhresenoldeb y brenin. a'i brofi ger ei fron rhag fod! gwenwyii ynddo. Hyd fis Nisan yr oed.d Nehemiah wedi llwyddo i gadw llywodr- aeth ar ei deimladau, ond bradychodd ei wyneb gyflwr ei galon yn awr. Y mae gweddi ddistaw Nehemiah (adnod 4) yn awgrymn llawer o bethau. Nid offeiriad ydoedd Nehemiah, ond gwyddai fod, ei Deluw yn gwfando gweddi ymhob man yn ddigyfrwng- Addolai niewn ysbryd ac mewn gwirionedd. Er cymaint dylanwad cyfoeth a chrefydd dclieithr, ca.dwodd Nehemiah ei grefydd bersonol yn synil a dilwgr. Duw y nefoedd oedd ei Dduw, eto Duw a wrandawai weddi ddistaw yn llys Artax- erxes. Gweddiai Nehemiah wrth wasanaethu brenin daearol; nid oedd rhaid iddo esgeuluso ei ddyledswyddau wrth ddal cymundeb a Duw. Ond yr oedd wedi arfer gweddio hir gymundeb a Duw a'i gwnai yn hawdd a greddfol iddo gymuno'n ddistaw a Duw yn y llys. Ac o gysylltu ei hun -a Duw trwy weddi y cafodd ddigon o hunan-feddiant a doethineb i osod ei gais yn glir a phwyllog gerbron y brenin. Adn. 7-1 x.—Taith Nehemiah. Yr oedd gan Artaxerxes ymerodraeth fawr, ac ni chaniateid tramwy o wlad i wlad, yn neill- tuol y tuhwnt i'r afon (Euphrates) heb lyth- yrau trwydded (passports). Rhannai'r Euphrates yr hen fyd megis i ddwyrain a gorllewin. Yr oedd i bob talaith ei llywydd a'i swyddogion. Ond yr oedd llythyrau'r brenin yn rhwyddhau'r ffordd o dalaith i dalaith. Fel y trosglwyddont fi* (adnod 11eu fel y'm goddefont i fyned. trwodd nes fy nyfod i Judah.' Heblaw'r llythyrau trwydded o wlad i wlad, cafodd Nehemiah lythyr at geidwad pare y brenin, fel y caniateid iddo goed at adgyweirio pyrth y castell gerllaw'r deml, a'r mur, a thy swyddogol Nehemiah yn Jerusalem. LYr oedd y pare neu'r goedwig gerllaw Jerusalem, niae'n bur debyg, ac y mae'r enw Asaph yn awgrymu mai Iddew ydoedd y ceidwad.] Enwir tri o wfr bu ddrwg ganddynt am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel. I Dichon mai Samariad ydoedd Sanbalat, a thebyg ei fod yn swyddog (gweler iv. 2). Dichon y daliai Tobiah yr Ammoniad ryw swydd fwy neu lai pwysig hefyd. Gesem yr Arabiad (neu Gashmit) — un o blant yr anialwch.' Y rhai hyn, efallai, oedd wedi rhwystro'r gwaith o adeiladu Jeru- salem hyd yma, a gellir meddwl am danynt fel arweinwyr byddinoedd a ruthrent ar Jerusalem o bryd. i'w gilydd.

Ebenezer, Caerdydd.

Advertising