Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Llythyr Llundain.

News
Cite
Share

Llythyr Llundain. Dydd Mercher, Hydref ¡7eg, yn y fnvydr yn Ffrainc, syrthiodd y meddyg galluog, Capten Dr. Frederick Charles Davies, mab ieuengaf Mr. a Mrs. W. Davies, Y.H., Rosebery Villa, Batter- sea Park, S.W., a Bryngwyn House, Borth, sir Aberteifi. Ganwyd ef Awst gfed, 1884. Addysg- wyd ef yn ysgol St. Paul, Hammersmith, ac yn Downing College, Caergrawnt. Graddiodd yn M.A., M.B., B.C., D.P.H. (Cambridge), M.R.C.S. I (Eng.), M.R.C.P. (Lond.), ac yr oedd ar fin cael ei M.D. Daliodd bob anrhydedd allasai Charing Cross Hospital roi idclo. Bu yn House Surgeon a House Physician yno yn igog-io; yn Medical Officer of Bcitierseci Tuberculosis Dispensary yn 1911 a 1912 yn Medical Registrar Charing Cross Hospital yn 1912 yn Tuberculosis Officer for the County of Cambridge, ac yn Medical Officer for the Insurance Committee for the County of Cam- bridge ac yn specialist mewn tuberculosis yn Wimpole-street, W. Ysgrifennodd nifer o draeth- odau a llyfrynau ar faterion meddygol, un o'r cyfryw sydd newydd ymddangos o'r wasg ar Trench Fever. Pan dorrodd y rhyfel allan yn 1914 ymunodd ar unwaith fel meddyg yn Ex- peditionary Force y Maeslywydd French. Bu gofal Clafdy Boulogne arno am ysbaid. Oddi- yno daeth i ofalu am Glafdy Milwrol Bethnal Green, Llundain. Oddiyno aeth i Rouen. Yn diweddaf yr oedd ynglyn i'r Northumberland Fusiliers, Syrthiodd pan wrth ei waith yn gweini ar glwyfedigion. Aeth yn aberth i ysbryd milwrol Prwsia. Meddai ar bersolloliaeth gref a swynol. Yr oedd yn rheolwr pa Ie bvnnag y buasai, ac heb geisio hynny. Enillai e"i feddwl byw a'i allu mawr iddo barch ac ufudd-dod yn ei holl gylchoedd. Edrychid i fyny arno fel bonheddwr ac fel meddyg galluog gan feddygon blaenaf y dydd. Diau pe cawsai fyw ddeng mlynedd yn hwy y buasai yn un o brif feddygon y byd—yn arbennig mewn tuberculosis. Yr oedd yn aiddgar iawn am orchfygu Germani yn y rhyfel presennol. Nid oedd un aberth yn ormod ganddo er mwyn ei wlad. Un o'r pethan a'n perswadiant i gredu nad yw bywyd a llwydd- iant yu ymadael o'r Prydeiniaid hyd yn hyn yw gweled dynion o allu, cymeriad ac ymgy- segriad Dr. Davies yn cael eu rhoi i rii. Nid a'r cenhedloedd Prydeinig fyth i lawr cyhyd ag y rhydd Duw iddynt gewri mewn celfau, rhin a moes megis Dr. Davies. Ergyd trwm i'r fyddin yw ei farw ef. Mae colled yn y deyrnas ar ei ol. Gwag yw ei le yng ngwaith iechydol y Wlad- wriaeth He y niae cymaint o'i eisiau. Ond ei rieni parchus a'i chwiorydd a'i frodyr deimlant hefyd yn ddwys ar ol mab a brawd llednais, caredig, syml a chywir. Ei gymeriad oedd ddi- lychwin. Meddai ryw ragdeimlad mai syrthio yn y frwydr fuasai ei dynged. Dywedai wrth ei chwaer ym mynwent Penygarn wrth edrych ar feddfaen ei chwaer a'i frodyr Nid dan y garreg lion y cleddir fi.' Rhoddodd ei bethau yn barod cyn cychwyn i fyny i'r line, i'w hanfon adref os digwyddai rhywbeth iddo. Bydd yn galed i'r teulu i weled ei bethau yn dod i'r ty hebddo ef. Cysur i'w rieni, er hynny, yw gwybod iddo syrthio mewn rhyfel cyfiawn- brwydr rhyddid, moesoldeb, dynoliaeth a gweriniaeth yn erbyn gormes, ffiwdaliaeth, ac uchelgais amanol. Mwy anrhydedd yw marw yn y frwyffr na byw yn ysbryd y Prwsiaid. Torf o aelodau eglwysi Cymraeg Llundain gyd- hunant ag ef yn naear Ffrainc. Cydymdeimlir I yn ddwys a thyner a'r teulu yn eu colled drom. Mae Mr. Davies aibriod wedi rhoi gwasanaeth rhagorol i wleidiadaeth a byrddau cyhoeddus dros lawer o flynyddoedd. Mr. Davies oedd rnaer cyntaf Bwrdeisdref Battersea.u hefyd yn aelod o Gyngor Sirol Llundain o'i gychwyn- iad. Etholid ef i'r gwahanol fyrddau ar ben v rhestr, yr hyn a amlygai ymddiriedaeth Iwyraf yr etholaeth yn ei allu. a'i gywirdeb. Mae y teulu wedi bod yn ffyddlon y Saboth a'r wyth- nos i'r eglwys Gymraeg yn Radnor-street, Chel- sea. Mr. Davies yw trysorydd yr eglwys, a Mrs. Arthian Davies, ei fercli hynaf, yw yr orgau- yddes. Saif y teulu yn uchel yn syniad a pharch Cymry Llundain. Boed iddynt oil nawdd y Nef yn y trallocl o golli mab enwog, galluog, doeth a da. Deallwyf fod y brawd Mr. John Owen, aelod arall o eglwys Radnor-street, wedi syrthio yn y frwydr yn Ffrainc. Bydd colled ar eu hoi yn yr eglwys, ond parha eu gwaith o blaid rhin- wedd i fyned rhagddo o hyd. Diddaned Duw y galarwyr. Nid yw'r Germaniaid, yn herwydd y gwlaw a'r gwynt uchel, efallai, wedi g wneud ymosod- ladau ar ein tref y lleuad hon i'r graddau y dis- gwylid. Buddugoliaeth fawr gafwvd ar y Zep- pelins Hydref zofed. Gofid i mi oedd clywed Awstin Chamberlain a Bonar Law yn siarad mor ysgafn yn y Ty am ddifrodau'r gelyn yn y dref. Un o wyrthiau mwyaf y rhyfel presennol yw ymddygiad trigolion Llundain dan ymosodiadau y Germaniaid. Dangosant wroldeb, dewrder, dioddefgarwch a phenderfynolrwydd i orchfygu y Germaniaid barbaraidd. Ffydd yn llywodr- aeth foesol Duw yw egwyddor lywodraethol eu goddefgarwch tawel. ?—

——I Bedwas a Thredomos. j

Yr Eglwys a'r Rhyfel. - -…

PALESTINA. I