Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Cymru a'r Fasnach Feddwol.…
News
Cite
Share
Cymru a'r Fasnach Feddwol. 1 Anfonwyd y llYthyr?eaulynol gan Mr. E. T.  ?ohn, A.S., at y Parch J. Glyn 'Davies, ?iysgr* cnnydd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, a gofyn- nir i. i i'w gyhoeddi (COVI.J I Elanidan Hall, Elanfair P.G., Sir Fon, Hydref 25ain, 1917. ANNWYL MR. DAVIES,—Mae gennyf i ddiolch i chwi am eich llythyr ddoe, yn amgan eileb o'r penderfyniadau a fabwysiadwyd yng nghyfarfod blynyddol Cynghrair Dirwestol Gwynedd. Llawen gennyf fod eich Cynghrair yn awr wedi ategu gyda phwyslais waith Cymru nior gyffredinol yn gwrthod y polisi o brynu'r Fas- nach Feddwol gan y Wladwriaeth. Hyderaf, pa gwrs bynnag a fabwysiedir gan ddiwygwyr dir- westol yn gyffredinol, yr erys fel agwedd syl- faenol i'w polisi y rhaid i Gymru, yr un modd a'r^Alban, gael bodyn gyfangwbl o'r tu allan i unrhyw gynygion o'r fath a eill fod yin mwr- iad y Elywodraeth. V¡ Mae'r mater yn un o'r fath"|.bwysigrwydd difrifol, a'r angen am wneuthur rhywbeth yn ddioed nior ddwys, fel yr wyf yn hyderu na foddlona eich Cynghrair ar ymgynghori yn imig a Chynghrair Dirwestol y Deheudir, ond y bydd i'r Pwyllgor agor ymdrafodaeth yn ddioed a Chyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhydd Cymru sydd eisoes yn rhoddi ystyriaeth manwl i'r cwestiwn, yn ogystal ag a'r Cyngor sydd newydd ei sefydlu gan yr Eglwys Esgobaethol yng Nghymru, ac yn sicr hefyd a Chyngor Cenedl- aethol Elafur yngg Nghymru a ffurfiwyd yn ddiweddar. Yr wyf yn ddigon hyderus i obeithio mai y canlyniad o hyn a fydd mabwvsiadu cynllun a fydd yn amlwg ymhellach ar y blaen na'r un a gynhwysir yn eich penderfyniadau chwi, ac y ceir hefyd weithrediad mwy egniol ac ar linell mwy gobeithiol yn y Senedd. Gofidiaf weled awgryiniad y dylai Cymru aros nes bo cynygion cyifredinol y Elywodraeth ger bron, yn gymaint ag nas geill cynygion y Llyw- odraeth, o safbwynt Diwygiad Dirwestol, fod yn amgen na chlaiar iawn eu hansawdd. Elawer doetha.ch 11a hyiiny, yn fy marn i, a fuasai cynnyg y cyfryw welliantau ac ych- wanegiadau Y111. Mes,r Dirwest (Cymru) Syr Herbert J. Roberts ag a'i gwnai yn addas i'r sefyllfa bresennol, ac i wasgn ar y Elywodraeth gyda phob pwyslais ac ynui posibl y ffaith fod Cymru yn hawlio i gyfletisterau gael eu rhoi i ddwyn y cyfryw Fesur gerbron y Tv, a'i gyf- Iwyno i ystyriaeth Grand Committee, neu arall. Boddhaol a tharawiadol iawn oedd cyfaddef- lad y Prifweinidog ddydd Mawrth diweddaf fod angen dirfawr am Ymreolaeth gyffredinol. Gwyr efe, pa fodd bynnag, yn dda fod angen Cynirii a'i hawl am Ymreolaeth gyflawn gymaint ag yd- w eiddo'r Alban, ac ni fedrai efe wadu'r hawl honno. Dyma lwybr amhvg diogelwchfa "chyflawniad buan ein lianicanion. Wyf, yr eiddoch yn gywir, (Arwyddwyd) EDW. T. JOHN.
FFORDD MWY RHAGOROL NA CHENEDL-ABTHOEI.
News
Cite
Share
FFORDD MWY RHAGOROL NA CHENEDL- ABTHOEI. Wrth annerch cyfarfod blynyddol Cymdeithas Ddirwestol Dwyrain Dinbych yn Rhiwabon ddydd Mercher diweddaf, dywedodd Mr. H. T. John, A.S., tra yr oedd yn edmygu'r gwaith a wnaed gan y Liquor Control Board, ei fod yn gresynnu pa fuasai'r Wladwriaeth wedi gwneud llawer mwy o fewn corff y tair blynedd diw- eddaf i gwtogi masnach oedd mor andwyol a'r Fasnach Feddwol. Priodolai hyn i ddifaterwch yr eglwysi ac i ddylanwad politicaidd y Fasnach ei hun. Gresynnai yn fwy fyth am Gymru, lie yr oedd y teimlad dirwestol mor amlwg, na buasai hi wedi cymryd mesurau effeithiol yn y mater ei hun ar wahan i Eoegr. Yr oedd popeth wedi cael ei ddarostwng i'r syniad o unoliaeth pleid- iau politicaidd, a hynny er niwcd i'r achos cenedl- aethol. Ac, mewn anobaith am ddim gwell, yr oedd rhai diwygwyr dirwestol, hyd yn oed yng Nghymru, wedi cael eu perswadio i gefnogi cwrs mor niweidiol a Chenedlaetholi'r Fasnach. Gwel- wyd mewn rhai cyfeiriadau gynnydd amlwg, ac weithiau dymunol, yn y syniad Sosialaidd o genedlaetholi eiddo gwelwyd fod gadael y rheilffyrdd, a'r glofeydd, a'r tir yn eiddo preifat yn niweidiol i fuddiamiau'r werin. Ond yr oedd v rhai hyn oil yn ddiwydiannau daionus—yn gyfryw ag y dymunai pawb eu gweld yn cyn- hyrchu mwy-fwy o hyd. Yr oedd y Fasnach Feddwol, ar y llaw arall, yn niweidiol, a -dy- munol a fyddai ei chwtogi neu ei difodi. Fel mater o fusnes, autllriaeth golledus fuasai prynu masnach oedd eisoes wedi cael anair, a'r rhag- olygon Yl1 anvyddo lleihad buan a chyflym yn ei henillion. Yn sicr nid oedd Syr Alfred Mond na Mr. David Davies wedi arfer viiigymeryd ag anturiaethau masnachol felly. Yr oedd, yn sicr fforcld llawer mwy rliagorol i gyfarfod a'r an- hawster nag ydoedd Cenedlaetholi'r Fasnach. Da yw fod CjaTiruSfo'r diwedd ynidechreu gwasgu am ddeddfwriaeth i Gymru ar walian i Eoegr. Pe bai arweiniad mwy effro a mwy dewr wedi cael ei roddi, gallasai Cymru yn gYl1nar yn Y ftwwddyn 1915 fod wedi sicrliau y fraint o hunan-lywodraeth. Collwyd amser ac eiddo drwy wrthod cymryd y cwrs beiddgar hwnnw y pryd hY11ny; ac yr ydoedd yn dra thebygol y profai'r mcsurau claiar a fwriedid en cymryd yn awr yn llai effeithiol na phe y mab- wysiedicl cwrs mwy beiddgar. Ond yr oedd diwygwyr dirwestol Cymru wedi penderfynu o'r diwedd hawlio fod Deddfwriaeth Ddirwestol i Gymru yn cael ei llunio yn uiiol a. barn Cymru ei hun. Cymerauwyai ef iddynt hawlio fod Cymru i gael Yinreolaeth gyflawn ar ei holl faterion cartrefol yr un adeg ag y caniateid Ymreolaeth i'r Iwerddon dylai Cymru gael yr hawl i reoli cwestiynau fel eiddo'r trwyddedau, y tir, addysg, iechyd, tai, a phob dim ag oedd a wnelai a chysur ac a buddiannau'r werin, drosti ei hun. Yr oedd yr Alban yn effro. Dy wedai un Albanwr enwog yn ddiweddar Mae'r Llyw- odraeth bresennol ar fin trancedigaeth, ac yr yclY111 ni yn yr Alban wedi gwneud ein meddwl i fyny y rhaid i bob deddfwriaeth bellach fo'n ymwneud a'r Alban gael ei basio yn Edinburgh a chan Albanwyr. Rhaid i ni gael Ymreolaeth dr Alban.' Dywedai Mr. Herbert Samuel—-un o'r gwlad- weinwyr mwyaf pwyllog—-3m ddiweddar 'Daeth yr amser y rhaid i ni 3-mron ddeisyf a.r y Gwydd- elod. yr Albanw3rr, a'r Cymry i ysgafuhau baich Senedd Prydain dnvy ymgymeryd ohonynt a rheoli eu materion cartrefol eu hunain, yn gy- maint a'i bod 3-11 hollol amhosibl i'r Senedd ymgymeryd a'r gwaith o dan yr amgylchiadau presennol. Ond hyd yn oed pe na wasgai Cymru ar hyn o bryd am Ymreolaeth gjTffredinol, dylai ar bob cyfrif wasgu Y11 anhyblyg a di-ildio am ddeddf- wriaeth ddirwestol arbeunig i Gymru. Ac yn y peth hwn rhaid fydd i Gymru ddibynnu arni hi ei hun yn unig. Rhaid fydd i bob etholaeth amlygu ei henvvllys yn y mater i'w chynrych- iolydd yn y Sciiecld-caiii-s rheol ymarweddiad Sant Stephan yw gwneud dim. Mewn Senedd Gymreig ychydig ac aneffeithiol a fyddai'r gwrthwyuebiad i gwtogi ac anghefnogi defnyddio diodydd meddwol drwy drethi trym- ion a chynhyddol, megis ag a gynygid gan Mr. Lloyd George yn 1915, ac yn enwedig drwy wneud cost trwydded yn fwy cymesur a'r elw a ddug y drwyclded i'w pherchennog. Mewn cyffelyb fodd parod a fyddai Senedd Gymreig i gwtogi yn barhaol oriau gwerthiant diodydd meddwol, ac yn ddiddadl rhoddai i siroedd neu rhanbarthau a bwrdeisdrefi ddewis- iad lleol fel eiddo'r Alban i barhau, lleihau, neu ddifodi trwyddedau. Mae'n bosibl yr ai ymhell- ach fyth, gan wahardd gwerthu diod feddwol tra parhao y rhyfel, ac am flwyddyu ar ol hynny—yr hyn yr ymddengys ni ellid ei gario yn Eloegr. TwyllodrllS hollol yw'r sYlliacl y buasai Cenedl- aetholi'r Fasnach yn hyrwyddo ei diddymiad. Buasai'r Fasnach yn eiddo'r Wladwriaeth, ac heb gystadleuydd, ac yn hurio gwasanaeth uifer mawr o bersonau hollol alluog i gario dylanwad politicaidd mawr. Pe y cauidy tafarnau dros gyfnod y rhyfel, syrthiai'r hawl am iawn i'r llawr pe y'i chwilid yn fanwl—ac wedi hynny ni ddylai swm yr iawn fod ond am gyfnod ter- fynedig o bump neu saith mlynedd. Gwreiddyn yr holl fater yw, y rhaid i Gymru gael setlo'r cwestiwn yn ei ffordd ei hun, drwy ddeddfwriaeth—os na cha Ymreolaeth ddioed. Gellid dwyn i mewn Fesur Trwyddedu i Gymru, gan gynnwys y darpariadau angenrheidiol, ac ar y ddealltwriaeth fod y Mesur i gael ei gyflwyno i Grand Committee o holl Aelodau Cymru, gydag ychwanegu atynt yn ol arfer Grand Committees yr Alban. Ond hyd yn oed felh-, rhaid fuasai cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y Pwyllgor er sicrhau fod y Mesur yn unol a gwir ddymuniad Cymru,
HELION HULIWR.
News
Cite
Share
HELION HULIWR. Yr oedd araith y Prifweinidog, wrth ddatgau diolchgarwch ein Hymerodraeth i'r rhai aberth- ant mor ewyllysgar ac ardderchog er mwyn ei hamddiifyn. yn nodedig o dyner a chyffrous mewn rhannau ohoni. Felly yn arbcDnig yr oedd ei gyfeiriad at yr hen fyddin fel yr hon gasglodd bicellau lluoedd y Prwsiaid i'W myn- wes, ac wrth drengu a achubasant Ewrop.' Cyffelyb hefyd oedd ei ddarluniad byw o'n hawyrwyr fel marchogion y cymylau, a'r wybrennau yn faes eu brwydr, yn ymladd allan ganlyniadau tragwyddol iiiiiondeb a cham.wedd.' Godidocach ymadroddion na'r rhai hyn ni lef- arodd hyd yn oed John Bright erioed, medd ein gohebydd. Erbyn hyn y mae Beerseba wedi ei medcl- iannu gan ein milwyr, a bernir fod hyn yn golygu cwymp Gaza yn fuan, ac y bydd rhaid i'r Tyrc- iaid. Soi am noddfa i Jerusalem. Rhyfedd y diddordeb sydd yn glynu wrth y lleoedd hyn Beerseba yw porth yr anialwch yng nghwr eithaf De Palestina, ac yno y trigodd Abraham ar ei ymdaith. Ystyr Beerseba ydyw Fiynnon y Llw, I ac y mae'r ddwy ffynnon barodd gynnen rhwng bugeiliaid Abimelech a bugeiMaid Abra- ham yn lan ac 3-11 loyw i ddisychedu ein milwyr a'n meirch ni heddyw. Wrth ail-agor Uyfrgell Gladstone, adioddodd Mr. Birrell hnesYH digrif am lyfrgellwr, yr hwn, oherwydd ei fod yn fychan o gorffolaeth, a eisteddodd ar femrwn am 30 mlynedd tra yn gorffen ei catalogue, ac yn y diwedd a anghof- iodd gYllnwys ynddo y memrwn yr eisteddasai arno. YChydig fri rydd dyn ar yr hyn neu ar y neb a'i CN-nhalia. Tra y mae dylcd ein teyrnas yn parhau i chwyddo gyda chyflymder brawychus, y mae'11 gysur gwybod fod y llog yn cael ei dalu yn gyson o drethoedd y deyrnas, ac y mae cryn swm yn weddill i amcanion eraill. Yn Germani nid yw y trethoedd yn ddigon i dalu'r llog ar y ddyled o fewn 55 miliwu y flwyddvn. Golyga hyn fod dyled Germani yn llawer mwy na'r swm a gyf- rifir, sef 4,700 o ftliyuau. Talodd y Cadfridog Smuts yn ddiweddar y warogaetli uchel i'r Prifweinidog mai efe ydyw enaid y rltyfel o du yr Unolwyr.' Gall fod mwy yn y dywediad nag sydd eto wedi ei hysbysn o leiaf, dywcelir yn awr fod Mr. Eloyd George dros anfon 150,000 o filwyr i waredu Serbia ymhell CyJl i'r gelyn ymosod arni; a phe gWllaethid hynny. digon posibl y byddai Bwl- garia 3-11 awr yn ymladd o'n tn, alè nid yn ein lierby-n. Y mae'r Eb'W'ydd Wilson yn arwain America i'r gad heibio i'r allor, canys hysbysir ei fod ef a'i bobl wedi bod 3-11 ddiweddar yn cydymostwiig gerbron yr Arglwydd mewn gweddi. Moffem weled ein liarweinwyr gwleidyddol a milwrol yn ei efelychu yn hyn. Gwir fod rhai ohollynt eisoes yn amlygu eu dibyniad ar Ddmv am lwyddiant ar eu liynidrechiou, megis y IJyng- esydd Beatty. Ond rhaid cydnabod mai siom- edig yw'r Yl11gaÏ3 a wnaed hyd yn hyn i gael ein gwlad i ddisgvvyl am gymorth oddiwrth yr Arglwydd. Y11 yr argyfwng mwyaf yn ei hanes. Dywed Dr. jowett: No soul can be healthy without its hill-country.' Ac y mae yr un mor wir nas gall gwlad fod yn iach a chryf ond mewn cymdeithas a Duw a dibyniaeth arno. Bedwar can mlynedd i'r wythnos ddiweddaf hoeliodd Euther hysbysiad ar ddrws y Castle Church, yn Wittenberg, yn gwahodd ei gyd- wladwyr i ddadl ar brif erthyglau yr Eglwys Babyddol. Dyna'r pryd y dechreuodd ryddliau cydwyhod Ewrop a hualau hen y Babaeth. Yr oedd ei egwyddorion yn gywir, ond yr oedd ei syniadall ynghylch eu gweithiad allan yn wleidyddol a chviiideitliasol yn gyfeiliornus. Y mae ei fethiant ef yn amlwg ym mywyd ac ymddygiad Germani heddyw. Tra y proftesa Brotestaniaeth, y mae ei chalon ar ddarostwng y byd i gaethiwed y Canol Oesau a gormes ei nerth anianyddol. Dywedodd y Cadfridog Smuts ar ei ymweliad a. Chymru yn ddiweddar Edrychaf aT y rhyfel hwn fel crusade moesol. Yr v/yf yn credn y bydd i'r genedl oedd gryfaf mewn ystyr mil- wrol droi allan y wannaf, oherwydd fod ganddi yr ystor moesol lleiaf. Sefwch yn gadarn, ac meddaf i chwi y mae'r fuddugoliaeth yn ddiogel.'