Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

At Eglwysi Rhyddion Cymru…

News
Cite
Share

At Eglwysi Rhyddion Cymru a Mynwy. ANNWYL FRODYR A CHWIORYDD,—Mae y Cyngor hwn erbyn hyn wedi cyrraedd diwedd blwyddyn gyntaf ei fodolaeth. Parodd ei ffurf- iad lawenydd digymysg drwy Eglwysi Rhyddion Cymru, gan y gwelid ynddo ddiwedd pob ym- raniad, a chyfnvng effeithiolach nag a gafwyd erioed o'r blaen i ddatgan barn a delfryd Ym- neilltuaeth Cymru. Mae'r Uawenydd hwn erbyn heddyw yn gryfach, a'r gobeithion am ddylodol llawn llwyddiant a gwasanaeth yn uwch. Mae'r Rhyfel wedi dyrysu llawer iawn ar ein trefniadau. Ymysg pethau eraill, y mae, er siomedigaeth fawr i ni, wedi gwneud Cynhadledd Flynyddol eleni yn amhosibl. Y mae hyn i unrhyw gymdeithas newydd yn golled drom mae yn arbennig felly i'r Cyngor hwn, nas gall gyrraedd ei Iwyddiant na'i effeithiolrwydd uchaf ond mewn cyffyrddiad agos a chyson a'r rhai gynrychiolir ganddo. Er yr anfanteision hyn ac amryw eraill, mae ein Pwyllgor Gweithiol wedi gwasanaethu'r eglwysi a phob symudiad sy'n hawlio eu teyrn- garwch gyda sel a diwydrwydd yn y cysylltiad hwn gallwn nodi'r dull trwyadl ac effeithiol iawn yn yr hwn y trefnodd yr ymgyrch o blaid Gwa- harddiad dros dymor y Rhyfel. Cydnabyddir hawl y Cyngor i siarad a gweith- redu dros Eglwysi Rhyddion Cymru yn y modd mwyaf calonnog gan ein brodyr yn Lloegr a chan Swyddfeydd y Llywodraeth. Yn well na'r cyfan, yr ydym yn gweled arwyddion eglur fod eglwysi Cymru yn gyffredinol yn meddu ymddir- iedaeth yn y Cyngor, ac yn barod i wrando ar ei lais. Erbyn hyn yr ydym yn gweled, tra y mae'r Rhyfel yn gosod rhwystrau ar ffordd ein gwaith, ei fod yr un pryd yn ychwanegu ato, ac yn ei wneuthur yn fwy angenrheidiol. Mae'r Pwyll- gor Gweithiol wedi penodi dau Is-Bwyllgor i ystyried safle'u gwlad a'n heglwysi yn yr amgylchiadau newydd a dieithr y cawn ein hunain ynddynt ar derfyn y Rhyfel. Maent wedi dechreu ar eu gwaith o wneuthur ymchwiliadau i'r cwestiynau dyrys y rhaid i'n heglwysi eu hwynebu, a chyhoeddir adroddiad.au o dro i dro a fyddant, ni hyderwn, o wasanaeth mawr i'n heglwysi yn yr amser atiodd sydd o'u blaen. Ni raid i ni ddweyd fod hyn oil yn tybied traul, ac o'i wneuthur yn effeithiol, er pob cynil- deb, traul pur fawr. Nid oes gennym unman i droi i geisio cymorth ond at eglwysi Cymru. Eu gwasanaethu hwy yw ein hunig amcan, ac nid ocs gennym fel Cyngor uchelgais ond cael ein cymhwyso i'w gwasanaethu'n well a chael ein defnyddio fwy-fwy yn eu gwasanaeth. Gwyddom am y galwadau trymion ac ami sydd yn disgyn ar ein helgwysi o bob cyfeidad yn y dyddiau hyn yr un pryd apeliwn yn galonnog atoch i gynorthwyo gwaith sydd yn perthyn mor agos i hanfod ein neges fel eglwysi, ae achos ag y mae ei hawliau mor glir. Mae'r Pwyllgor Ariannol wedi penderfynu casglu Mil o Bunnau i'n galluogi i fyned ymlaen yn ddibryder gyda'n cynlluniau. Mae gennym ddigon o ftyeld yn ein gwaith ac yn eglwysi'r wlad i ddisgwyl yn hyderus am hyn. Anfoner pob tanysgrifiad i I I) Dumtnes- place, Caerdydd, i enw'r Cyngor. Yr eiddoch, F. B. MEYER, I Cyd-Ysgiifonyddion I JOHN ROBERTS, f Mygedol. Hvdref. 1917.

Advertising

MERTHYR TYDFIL. I

Undeb Eglwysi Annibynnol Lerpwl,I…

ICYFARFODYDD.-.-I

Family Notices

Advertising