Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HELIONS HULIWR.

News
Cite
Share

HELIONS HULIWR. Pwy a ddadleu dros y mud ? Dywed y BrÙish Weekly fod yn bryd dadleu dros y gwein- idogion a delir yn dlawd yn y cyfnod eithriadol wasgedig presennol, a. hynny yn fwy yngymaint a'u bod hwy a'u teuluoedd yn dioddef yn ddistaw. Nid oes wlad dan haul lie y mae hyn yn fwy angenrheidiol ac yn fwy o ddyledswydd nag yng Nghymru heddyw. Pa ragoriaethau bynnag a berthyn i'n cenedl, y maent i'w priodoli, yng ngeidau Cecil Rhodes am Brydain Fawr, i waith ein heglwysi Cristionogol,' ac yn enwedig i ffyddloudeb ac aberth ein gweinidogion. Eto gadewir iddynt ddioddef yn fud, heb ymborth na chlydwch digonol. Llawer yw y rhai a ddadlenant i'w herbyn pwy a ddadleu drostynt ? Yn ei ymgais ardderchog i wella amgylch- iadau gweinidogion tlotaf Eglwys Rydd Unol yr Alban, treuliodd Dr. Denney ei fywyd allan, a bu farw yn gynnar. Amcanasai godi lleiafdal y gweinidogion i £ 200 a thy, a llwyddodd i'w godi i £ 194. Da was! Ond pa bryd y llwyddir i godi lljiafdal gweinidogion Eglwysi Rhyddion Cymru i £ 94 Mewn ysgrif amserol a meddylgar yn y Welsh Outlook, dywed yr Aelod Seneddol A. F. Whyte, Ein bod wedi gosod ein bryd gymaint ar ennill y rhyfel fel yr ydym mewn perygl o golli yr heddweh.' Yr ydym wedi ymgolli cymaint yn yr offerynnau fel yr ydym yn anghofio'r nod. Y mae'n bryd i ni wybod ymha le y safwn mewn perthynas ag amodau yr heddweh a rydd foddlosirwydd, ac a ddiogela wobr deilwng o'r aberth aruthrol a wnawn. Dywed Esgob Burry, yr unig Sais gaiff ym- weled a'r carcharorion yn Ruhleben, fod cyflwr Germani y fath, oherwydd prinder glo a'r clef- ydau sydd yn ei holl drefi mawrion, fel y mae yn amhosibl peidio dyfod i'r casgliad ei bod yn ymyl y breaking point. Cyffelyb ydyw'r casgliad y daw John Bull iddo. Prin v disgwyliem i siaradwr yng Nghym- deithasia'r Methodistiaid yn Aberaeron i alw'r dref yn 'Aberaeron Fethodistaidd/ a swn dadl gref y Llywydd am undeb agosach rhwng yr enwTadau eto yn ei glustiau. Eglur yw fod gan yr Athro dysgedig rywbeth i'w wneud cyn y llwydda i osod ysbryd eangfrydig ar ei yrfa trwy bob aelod o'r 'CorfL' Ond na ddigalonned, canys y mae nerthoedd yr amseroedd o'i blaid. Mewn Uythyr at ei frawd Joseph, sydd newydd ei gyhoeddi, cwyna Howell Harris ar yr anfan- teision oedd yn gysylltiedig a thIodi yn ei ddydd ef. Dywed Yn awr y mae'r tlawd mor ddir- mygus fel y rhaid peidio gwrando ar ei resymau yn hytrach, yr wyf yn credu ein bod agos dod i hyn-na chydnabyddir fod gan y dyn tlawd enaid mor rhesyniol a'r cyfoethog. Er hynny nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno bod yn gyfoethog. Fy ngolud i yw y rhai hyn Cyfaill, llyfr, gwrthlawdd digonol yn erbyn tlodi a dirmyg y byd, a gallu i letya cyfaill.' Dywedodd y Prifweinidog yn ei araith yn yr Albert Hall ein bod wedi colli llawer Uai o longau yn y mis hwnnw nag ym mis Ebrill diweddaf, a'n bod eisoes y flwyddyn hon wedi dinistrio cynifer ddwywaith o suddlongau ag yn ystod y flwyddyn ddiweddaf trwyddi oil. Anogai bawb i gynilo arian, ymborth, dillad a llafur ac uwchlaw'r cwbl, i arfer amynedd, cydymddyg- iad a dvfalbarhad. Hawdd yw creu digalondid. Nid oes bach- gennyn llawen na merch ddiniwed,' meddai Emerson, nas gellir eu digalonni a gair caled. Ië, hawdd yw hyn ond cynorthwyo'r enaid ieuane, ychwanegu ynni, ysbrydoli gobeithion, chwythu'r cols i fflam ddefnyddiol, troi gorch- fygiad yn fuddugoliaeth—hyn sydd waith dyn- ion dwyfol. Cofier hyn tra pery y rhyfel yn arbennig. Beiddgar yn W.R.W. ydoedd dywedyd nad. yw y Genedl Gymreig nag estrys na digrif-was.' ( Tyed. medd rhyw Sais. Trueni gyrru y cyfaill i benbleth hefyd. Os byth yr ymedy ei ragfarn a'i fynwes caifl loes ddolurus fore ei ffarwel, yr un modd a phawb o'i fath. Cyfeiria Chesterton at chwedl a ddywed, fod tadcu y Sais yn chimpanzee, a'i dad yn ddyn gwyllt y goedwig, a ddaliwyd ac a ddofwyd i rywbeth tebyg i ddealltwriaeth.

4 t I0 Y WERS SABOTHOL. :…

[No title]