Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Llyfr Newydd Amserol, yn awr yn barod, PRIS 1/ trwy'r Post, 1/1, Myfyrion a Chaneuon Maes y Tan. [Ysgrifennwyd ar Faes y Fnvydr yn Ffrainc.] Gan DY FN ALLT. 7 Copi, 6 14 Copi, 12 Cyhoeddedig gan W. M. EVANS A'I FAB, Swyddfa Seren Cyntru, Caerfyrddin. PWYLLGOR Y GRONFA. CYNHEUR y Pwyllgor nesaf yng nghapel yr Annibynwyr, Ll-andriiidod, am 2.30,1 dydd Mercher, Tachwedd I4eg. Anfoner pob gohebiaeth yn ddioed i'r Ysgrifenyddioll. H. M. HUGHES,J) Y_rsgu- W. G. OWEN, J '??' Seion, Pontypridd. DBRBYNNIR pob gohebiaeth ynglyn a i ? ?M???es, &c., gan yr Ysgrifennydd— GRIFFITH DA VIES, 4, Parade, Pontypridd.
• M fiN 60HEBWYR.j
News
Cite
Share
• M fiN 60HEBWYR. Mewn -latv.-Penygro-es, Arfon-0. W. Jones—Cap el Seioi:^ Drefach-Ebenezer, Caer- dydd—Rhanbartli Penybont-Mynydd Seion, Ponciau-TrImsafan:Brynberian- Yr Eglwys a'r Rhyfel—-William Williams, Pantyeelyn- Llythyr Llundain—Cyfarfod Chwarterol Cyfun- deb Gorllewinol Dinbych a Fflint—Cyfarfodydd -;Marwolaethau.
NODiON.
News
Cite
Share
NODiON. Y GOIyYGYDD, NID ydym yn credu o gwbl mewn cernadu a rhygnu ar y llinyn lleddf Beth am y Nos ? pan fo pethau'n ymddangos yn dywyll ac yn myned yn ein herbyn. Gall pob eidd- ilod wneud hynny, ac fel Thtol hwynt-hwy sy'n gwneud. Ac o'r ochr arall, pan daw sbel o lwyddiant, yr un bobl welir yn colli eu pennau, ac yn gweiddi'n grcch am ddi- fodi'r gelyn a gwrthod gwneud hecldweh hyd nes cyrraedd Berlin. Darllenwyr y wasg felen ac addolwyr Northcliffe a Bot- tomley ydynt fel rheol, ac ni haeddant ddim amgen na dirmyg. Ond mae mil- oedd eraill yn y wlad o bobl barchus a difrifol sydd, oblegid eu pryder a'u hir- aeth a'u galar, ac yn wyneb y wasgfa a'r drudaniaeth a'r tlodi, ac yn arbennig y difrod wneir ar fywydau gwerthfawr ein dynion ieuainc, yn barod i ddigalonni a rhoi ffordd i anobaith. Dyma'r bobl oreu at ei gilydd a fedd y genedl, ac o'u car- trefi hwy y:? aeth allan gorff mawr milwyr ein gwlad. Beth sydd i'w wneud a'r rhai hyn ? A ydyw'r Llywodraeth yn gwneud yr oil a ddylai i'w calcnogi a'u nerthu a'u harwain ? Ptirionyw anfon dynion galluog o gwmpas y wlad i egluro amcanion y rhyfel, ond ofer yw popeth o'r fath pan maent yn methu cael siwgr na the nac ymenyn gartref, a phan mae llawer o'u bechgyn ar y ffrynt yn anfon adref am arian i brynu bwyd, ac eraill yn cael eu camdrin yn ddychrynllyd mewn gwersyll- oedd a barrics. Gwelant broffidwyr yn gwneud eu miloedd, a glowyr yn ennill arian anferth ac yn gweiddi am fwy, a merched yng ngweithdai'r cadnwyddau yn ennill dwy a thair punt yr wythnos, tra mae eu gwyr a'u meibion hwy ar y ffrynt yn cael swllt a grot y dydd, a cholli eu haelodau a'u bywydau yn y fargen. Gof- ynnir hefyd i ni ddioddef ac aberthu a chynilo tra y gwastreffir ymborth gwerth- fawr ar ddiod feddwol sy'n andwyo hyd yn oed ddygiad ymlaen y rhyfel. Addaw- odd y Prifweinidog fesur i setlo'r Fasnach, end cyn pen y mis wedi'r addewid rhodd- wyd hawl i ferwedu miliynau yn ychwaneg o farilau i'r bragwyr dros fisoedd yr haf, ac yn awr gwna rhyw esgus arall y tro dros estyn yr hawl dros y gaeaf. I,lor- iwyd y Prifweinidog unwaith etc yn llwyr gan Bung. A'r gwir amlwg erbyn hyn yw na wneir dim i atal rhwysg y ddiod yn ystod nac wedi'r rhyfel, waeth faint o brotestio a wneir, nac o ymgyrchoedd a gynhelir. Ymataliwn rhag nodi amryw bethau eraill y gallai'r Iv'lywodraeth., pe d-ymunai, eu hatal neu eu gwella yn fuan. Mae mwy na hyn oil yn y glorian. Mae'r Pwydlgor a benodwyd gan y Senedd i wneud ymchwiliad i gostau y rhyfel yn condemnio'n ddiarbed y gwast- raff ofnadwy sydd ynglyn a hi. Mae'r treuliau eisoes dros bum mil o filiynau yn fwy na'r treuliau arferol cyn y rhyfel ac os eir ymlaen fel hyn bydd Prydain yn bankrupt cyn hir. Costia cadw un dyn yn sentry mewn un man £ 850 y flwyddyn. Ni bu mwy o ffars a methiant na'r Gwas- anaeth Cenedlaethol bondigrybwyll, ond costiodd i'r wlad £ 223,720, a thalwyd dros £ 100,000 am ei hysbysebu yn unig. Mae yn ddigon drwg ar y ffrynt ac ar y mor, yn Itali a Rwsia a mannau eraill, ond nid y rhai hyn yn unig sy'n peryglu ein gwr- oldeb a'n penderfyniad heddyw, a buddiol fvddai i'r awdurdodau gofio hynny. Mae Prydain mor ddewr ag erioed, a'i hyder ynddi ei hun mor gryf ag erioed ond yn wyneb y pethau uchod a'u cyffelyb mae yn dechreu holi ai nid oes modd i ddod a'r heldrin creulon i derfyniad heblaw yn yr unig ffordd o goncwest ar y maes ? Credwn gyda'r Llywodraeth fod yn rhaid Ilorio militariaeth Germani cyn y bydd Ewrop yn lie diogel i werin a rhvddid, ond ai trwy ymladd yn unig y gellir gwneud hynny ? Pe cytunai'r Cyd-allu- oedd i'w boycotio yn fasnachol ar ol y rhyfel, flwyddyn am bob mis y gwrthyd roi i fyny Belgium a Serbia a Rwmania, buan y delai ati ei hun. Ac wedi dod a hi i'w synhwyrau, byddai gobaith am heddwch wedyn. YR ydym yn gryf o'r fam na ddaw y rhyfel erchyll yma i ben A beth am danom ni, grefyddwyr ? heb i Brydain ddychwelyd at yr Arglwydd. Pan oedd pethau yu argoeli yn dywyll I ar America yn ei rhytel mawr, cyhoeddodd Lincoln ddyddiau o ymostyngiad a gweddi yn 1863 ac, esbon- I ier y peth fel y mynner, erys y ffaith mai o'r dyddiau hynny allan y trodd llanw buddugoliaeth o blaid y Gogledd a rhydcl- had y caethion. Ai nid yw yn bryd i ninnau fel cenedl i ymgasglu gerbron Duw i eiriol am heddweh ? Onid yw pob peth yn b o s i b 1 gyda Duw ? Ymddengys llwybrau heddwch fel pe wedi eu cau a drain ond gall Efe en clirio, neu ein har- wain i Iwybrau eraill byrrach a mwy uniawn. Un peth sydd sicr y gall Efe ddylanwadu ar feddwl ac ysbryd ymer- awdwyr a seneddau a chynghorau, a pheri i filitariaeth a rhyfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear ac am byth. Ond y cwestiwn yw, Sut mae'n bosibl cael y genedl, ie, a'r Llys a'r Senedd, ar eu gliniau ? Un o'r pethau mwyaf siomedig a digalon i ni 3rnglyn a'r rhyfel ydyw nad yv/n effeithio o gwbl er daioni ar fywyd a gwaith eref- yddol ac addoliadol yr eglwysi. Mae'n wir fod haelioni a dyngarwch mawr wedi ei arddangos tuag at y milwyr, ac fod cnew- yllyn o saint rhagorol ymhob eglwys sy'n parhan i sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos, ac yn dyrchafu eu dwylo yn y cysegr.* Onel mae corff mawr yr aelodau yn hollol ddifater ac anffyddlon, ac yn gwrthod yn bendant unrhyw wahoddiad na chymhell- iad i fwy o ddefosiwn ac addoliad a gwaith ysbiydol, ac mae eu hymddygiad tuag at eu gweinidogion a threuliau cyffredin yr achos wedi bod yn gywilyddus o brin. Ychydig o eglwysi sydd wedi dangos y cydymdeimlad lleiaf a'u gweinidogion yn eu hangen, pan mae eu cyffog wedi mynd i olygu banner yr hyn a arferai fod. Tra mae llawer o'r aelodau yn cael way bonus, neu yn ennill llawer mwy nag arfer, mae'r pregethwr druan yn gorfod gwneud ar yr un faint neu lai o gyflog, a phawb yn disgwyl iddo roi a chyfrannu fel cynt. Gyda gofid y rhaid i ni ddweyd, gan hynny, fod yr eglwysi, a'u cymryd heto'i gilydd, yn hollol iyd dar i'r cais a'r alwad am arwain y genedl mewn ymostyngiad gerbron Duw. Yr oedd yn debyg hefyd yn America, a llawer ohonynt wedi troi yn nythleoedd o heddwthwyr a fuasent wedi gwneud holl waith lyincoln yn ofer pe llwyddasent yn eu hymgais. Ond yr oedd yno anveinwyr crefyddol dewr, a hwynt-hwy a gymellasant Lincoln i gy- hoeddi ympryd a gweddi. Tybed na ellid cael rhywrai a rhywbeth tebyg ym Mhryd- ain ac America heddyw ? Beth am yr archesgobion ac arweinwyr Cyngor Cenedl- aethol yr Bglwysi Rhyddion ? Os nad ellir gwneud hyn yn Lloegr, beth am Gymrii ? Ofer yw i un enwad ei wneud heb ymgynghori a'r lleill: rhaid cael Cymru gyfan—ie, Prydain ac America gyfan-ar lawr gerbron Duw. Pa ddrwg fyddai aofyii i'r Prifweinidog ei hun gym- ryd y mater mewn llaw a phenodi'r dydd ? MAE rhywbeth eithriadol o ffres ac amserol a galluog o gwmpas llyfrau The Fourth Gospel.' y Student Christian Move- ment. Ychydig amser yn ol gwnaethom sylwadau yn y colofnau hyn ar lyfr godidog Dr. Glover, The Jesus of History, ac yr ydym wedi derbyn llu o ddiolchiadau oddiwrth gyf- eillion am alw eu sylw ato. Wele un arall o'r un swyddfa, The Fourth Gospel: its significance and environment, gan R. H. Strachan, M.A., C.F. [S.C.M., 3/6 net]. Heblaw bod yn esboniad ar gynllun hollol newydd ar Efengyl loan, mae 64aih tu- dalen ohono yn delio a nodweddion ac J