Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
PENUEL, PENPRYSG (B.)-Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd pregethu nos Fawrth a. dydd Mercher, Hydref 9fed a'r lOfed, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parchn. W. S. Jones, Llwynypia, a Charles Davies, Caerdydd.
. Tabernacl Newydd, Caergybi.
News
Cite
Share
Tabernacl Newydd, Caergybi. Bore 8ul, yr 21ain cyfisol, derbyniodd y Parch. William Griffith y newydd trist fod ei fab hynaf, William Tudor, wedi cwympo ar faes y gAd, rhywle yn Ffrainc. Danfonwyd y llythyr gan ei corporal, heb roddi unrhyw fanylion, ac nid oes hysbysrwydd swyddogol wedi ei dderbyn eto o'r Swyddfa Rhyfel. Mae cydymdeimlad cyffredinol â'n hannwyl frawd a'i briod, ac y maeut hwythau, fel y gellid disgwyl, mewn galar a hiraeth mawr. Nid oes ond ychydig wythnosau er pan fa ea hannwyl fab gartref, ae yr oedd yn dra phryderus pan yn dychwelyd yn ol, gan ei fod mewn lie neill- tuol o beryglus gyda'i gatrawd yn Ffrainc. Yr oedd Tudor yn fachgen neilltuol o hoffus--yn wylaidd a llednais ei ymddygiad, yn ufudd a gostyngedig yn ei holl gylchoedd, ac mewn gwasanaeth cyfrifol dan Gwmni y Reilffordd cyn ymuno a'r fyddin. Gresyn meddwi fod bachgen ieuanc mor rinweddol, ac a rhagolygon mor obeithiol, wedi ei dorri i lawr mor gynnar. Rhoddodd ei hunan yn aberth gwirfoddol ar allor gwasanaeth ei wlad, ac yn yr holl ymgyrch dangosodd wroldeb mawr. Rhodded yr Arglwydd i'r rhieni trallodus brofl yn ehelaeth o ddiddanwch yr Efengyl yn awr dywell eu profedigaeth lem. Mae nifer y llythyrau o gydymdeimlad a dderbyniwyd eisoes oddiwrth berthynasau a chyfeillion, a diau y derbyniant ychwaneg, glawer yn rhy luosog i allu eu cydnabod, ond yn unig trwy fynegiant cyhoeddus fel hyn. Derbynied y lliaws cyfeillion hyn eu diolchgarwch mwyaf diffuant. it. P.
DYFODOL ADDYSG CYMRU.I
News
Cite
Share
DYFODOL ADDYSG CYMRU. GWBRSI YMWELIAD MR. FISHER. Mae Mr. Fisher, y Gweinidog Addysg, newydd dalu ymweliad a gwahanol rannau o Gymru er egluro darpariadau ei Fesur Addysg newydd. Anffortunus i Gymru yw mai a threfi Colegau y Brifysgol, ynghydag Abertawe a Chaernarfon, yn unig yr ymwelodd efe. Onibai am yr hyn a welodd ac a glywodd yn Aberystwyth, gallasai fod wedi dychwelyd i Lundain heb weled fod nemor wahaniaeth rhwng Cymru ac unrhyw sir yn Lloegr. Hyd yn oed yng Nghaernarfon, tref sydd yn arfer ymffrostio yn ei Chymreigeidd- iwch, ni chlywodd yr un gair o Gymraeg, er mai un o elfennau pwysicaf y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yw fod Cymru yn ddwyieithog a Lloegr yn unieithog. Yn Aberystwyth cafodd weled Ysgol Stil Gymreig, a bu hynny"n agoriad llygaid iddo. Paham nas arweiniasid ef i rai o ysgolion dyddiol Cymru lie y dygir yr addysg ymlaen y 11 Gymraeg ? Hefyd prin y gellir dweyd fod trefi'r Colegau yn nodweddiadol o Gymru, ac yn sicr nid yw'r Colegau eu hunain yn arddangosiad o genedl- aetholdeb gwerin Cymru ar gyfer y rhai y dis- gwylir iddo ef ddeddfwriaethu. Am Gaerdydd, er honni ohoni fod yn brifddinas Cymru, dangos- odd ei Chyngor Dinesig yn ddiweddar nad yw mewn cydymdeimlad a syniadau a dyheadau Cymru yn gymaint ag i'r Cyngor, drwy bleidlais derfynol yr Arglwydd Faer, wrthwynebu cais ymron yr oil o Gymru am gael Ymreolaeth i Gymru mewn addysg. Am Faugor, sy'n honni bod yn Athen Gogledd Cymru, ni ddysgir izb y Cymro yn Ysgol Ganolraddol y Bechgyn. A hysbys yw nad yw awdurdodau'r Colegau Cenedl- aethol mewn cydymdeimlad byw a dyheadau gwerin Cymru ym tnyd Addysg. Naturiol, felly, oedd fod awyrgylch ac am- gylchfyd y Colegau wedi dylanwadu i raddau ar feddwl Mr. Fisher, a hynny wedi lliwio i raddan ei anerchiadau cyhoeddus. Yn wir, dywed rhai mai dyfod yma i felltithio dyhead Cymru am Ymreolaeth mewn Addysg a wiiaeth efe. Eithri os felly, trodd fel Balaam gynt i fendithio yr hyn y daeth efe i'w felltithio. Os dadansoddir ei areithiau gwelir fod ynddynt y dadleuon cryfaf posibl dros i Gynull hawlio. a myimu yn ddioed, sefydlu Cyngor Addysg Cenedlaethol i'r holl Dywysogaeth. Gwir ddar- fod i Mr. Fisher gymell Cymru i aros a dysgu oddiwrth brofiad Lloegr—ond dyna'r ddadl gryfaf posibl dros i Gymru fynnu cael gweithio allan ei hiachawdwriaeth addysgol ei hun, canys hysbys yw fod Cymru eisoes ar y blaen i Loegr yn addysg ei gwerin. Ynfydrwydd, felly, a fyddai arafu. olwynion cferbyd Cymru am mai araf yw cerbyd Lloegr. Gwir hefyd i Mr. Fisher geisio taflu dwfr oer ar y syniad o gael Cyngor Cenedlaethol i Gymru, am, meddai efe, na fwriedir dwyn y Colegau a'r Brifysgol o dan reolaeth y Cyngor Cenedlaethol Eithr awdurdodau'r Colegau a'r Brifysgol eu hunain a wrthwynebasant ganiatau dwyn y sefydliadau hynny o dan reolaeth y Cyngor Cenedlaethol, er fod cynrychiolwyr gwerinol Cymru dros eu gosod oil o dan reolaeth y Cyngor. Felly dadl Y11 erbyn awdurdodau'r Colegau, ac a 1)1 aid cais gwerinwyr Cymru, oedd dadl Mri Fisher. Gwers fawr ymweliad Mr. Fisher, felly, yw y rhaid i Gymru wasgu ar ei Haelodau Seneddol i fynnu caniatau cais gwerin Cymru am gael Ymreolaeth i Gymru ym myd Addysg, am gaei sefydlu Cyngor Cenedlaethol etholedig gan y werin, a hwnnw i reoli holl faterion Addysg Cymru yn yr ysgolion a'r colegau.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CARMEL, TREFORRIS -Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd pregethu Sul a Llun, Hydref 14eg a'r 15fed. Gwasanaethwyd gan y Parch. D. Marlais Davies, Seion, Cwm- afon Cymerwyd rhan hefyd gan y gweinidog, y Parch. M. G. Dawkins, a'r Parch. W. Salmon. Women Workers Series-No.3. IN Tap, Tap, 1àp. I rT,HAT'S Mother knocking at the door, and I don't M want to get up a bit. But when she brings in a H lovely hot cup of Rowntree's Cocoa I soon liven up. H Mother makes it strong and stirs it well with boiling water. That and a slice of toast sees one throug"ha g? ? the morning round splendidly. And it's such "a ? cheery drink too, makes you feel you enjoy life. Hj Just ocup of I JM ASTHM?M?CM I I maAm aifoaut info a mezx I
Cymanfa Bregethu Eglwysi Annibynnol…
News
Cite
Share
droion eraill. Y mae ambell un, wrth feddwl am Dduw, ac wrth weddio'n dawel wrtho'i hnn, wedi teimlo fod llifeiriant o'r ffrwd ddwyfol yn mynd i'w ysbryd, nes ei wneud yn foesol ysbrydol gryf i wynebu popeth. Y mae hwn yn nerth sy'n cymryd gafael ac yn defnyddio pob nerth arall i'w bwrpas ei hun. Nerth meddyliol, nerth gwyb- odaeth, a nerth dysgeidiaeth. Nerth cyfoeth, nerth corff--pob nerth a berthyn i ddyn. Os caiff o afael yn hyn, y maent i gyd yn ei nerthu i ymgyfoethogi yn yr ymarferol.' Gogoniant. pennaf y dysgawdwr pennaf ydyw bod hall gyfoeth ei ddealltwriaeth, ei wybodaeth a'i addysg yn dod i afael a'r bywyd ysbrydol. Y peth mwyaf ardderchog yn y dyn mawr ydyw ei gynieriad ysbrydol—nerth Duw o fewn iddo. Pwrpas bychau, mewn ystyr, fedr gyrraedd o gwbl gyda phob adnoddau sy'n eiddo iddo oni bydd nerthoedd y Tragwyddol Ysbryd yn ar- weiniad i'r cwbl, ac yn allu i'w defnyddio. Y mae hwn yn nerth ynddo'i hun pe baech heb y nerthoedd eraill. Nid ydyw pawb ohonoch yn fawr eich gwybodaeth a'ch nerth nieddwl. Y mae yma weiniaid meddyliol, ond y mae modd i'r rhai hynny fod yn gryfion ac yn nerthol yn yr ystyr uchaf. Y peth fydd yn gysur i mi ydyw fod yr elfennau mwyaf sydd yn y Duwdod yn bosibl i ddyn gwan mewn llawer cyfeiriad. Ffrwyth adnabyddiaeth a ffrwyth rhodio'n addas a ffrwyth gwybod Ei ewyllys Ef ydyw, tynnu E rymuster Ef i mewn i'r ysbryd. Medr Duw fynd yn force tragwyddol i'r gwannaf sydd yma, a'i wneud yn gryfach no. ,r dyn cryfaf sydd yma heb Dduw. Adwaenwn i hen wraig oedd mor fawr ei duwioldeb nes gyrru pawb i grynu yn ei phresenoldeb. Dyma'r nerth sydd arnom eisiau ei gael—rhyw nerth sy'n dod oddiwrth Dduw, i ddefnyddio a meddiannu pob nerth arall. Ac os byddwch heb y nerthoedd eraill, y mae'n troi yn nerth ynddo'i hun i weithio eich bywyd ymlaen ar hyd y daith. Y mae arnaf ofn bod llawer ohonom yn weiniaid gwir- foddol. Yr wyf yn pwysleisio hyn am ei bod yn adeg inni fod yn gryfion. Y mae adeg yn dod na thai inni fod yn wan. Y mae rhai ohonoch mor wan ysbrydol ag ydych o wan gorfforol. JFedrwch chwi ddim cerdded. Buasai'n dda gennyf pe buasai pawb yn plungio i lawr iddo'i hun i weld a oes defnyddiau nerth ynddo' Dod yina'r ydym, nid i'ch difyrru, ond i roi charge yn wyneb angenrheidrwydd bywyd ysbrydol a nerthoedd bywyd ysbrydol. Caed Cyfeillach rymus ac eneiniedig, ac erys ei dylanwad, a dylanwad y gyfres gyfarfodydd drwyddi, ar feddwl a chalon y saint yn yr eglwysi, a'r gwrandawyr oil yn hir a dwfn a dedwydd.